Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Rebecca Jones Dihuno gyda Rebecca
Rebecca Jones o Gwmtawe yw cyflwynydd boreol newydd Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru.
Sain

Pobl sy'n diddori Rebecca Jones o Gefn Bryn Brain yng Nghwmtawe - eu straeon, eu hanes, eu syniadau a'u sefyllfaoedd amrywiol. Does dim rhyfedd felly ei bod wrth ei bodd yn newyddiadura a'i bod yn edrych ymlaen yn arbennig at ei her ddiweddaraf o gyflwyno rhaglen gynta'r diwrnod ar donfeddi Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru o fore Llun i fore Gwener.

"Wy ffaelu aros i gael dechrau ar y gwaith," esbonia Rebecca sy'n 33 oed. "Mae e'n gam i gyfeiriad tamed bach yn wahanol ond fi'n edrych mlân at y sialens."

A hithau wedi bod yn newyddiadurwraig gyda Ö÷²¥´óÐã Cymru ers dros wyth mlynedd bellach, bydd ei llais a'i wyneb yn gyfarwydd i lawer. Mae wedi cyflwyno straeon a thrafod pynciau'r dydd ar y Post Cyntaf, Post Prynhawn a Taro'r Post a chyn ymuno â thîm newyddion y Ö÷²¥´óÐã bu'n cyflwyno ar raglen Heno.

Mae Siân Gwynedd, Golygydd Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru yn edrych ymlaen at groesawi Rebecca i'r tîm cyflwyno boreol.

"Bydd Rebecca'n gaffaeliad i'r gwasanaeth. Mae'n ddarlledwraig brofiadol ar radio a theledu ac yn amlwg wrth ei bodd yn sgwrsio gyda phobl. Mae hi'n bersonoliaeth arbennig a dwi'n siwr y bydd hi'n gwmni difyr i'n gwrandawyr ben bore."

Cyn hir bydd Rebecca yn trafod cynnwys y papurau dyddiol gyda'r cyfranwyr cyson, yn sgwrsio gyda'i gwesteion yn y stiwdio ac yn rhoi gwrandawyr Radio Cymru ar ben ffordd ar ddechrau'r diwrnod. Bydd yr oriau gwaith newid yn golygu ffordd o fyw newydd i Rebecca.

"Dwi fel arfer yn gwneud tai-chi ar ôl codi gan fod hwnnw'n help i gadw'r corff yn iach a thawelu'r meddwl. Ond dwi'n amau a fydd amser i wneud hynna cyn cychwyn ar fy shifftiau," dywed gan chwerthin.

"Mae cloc larwm newydd 'da fi yn barod ar gyfer y boreau cynnar," ychwanega.

Gyda'i diwrnod gwaith yn dechrau am 4 y bore efallai bydd angen mwy nag un cloc larwm arni i sicrhau ei bod hi'n cyrraedd y stiwdio yng Nghaerdydd mewn da bryd!

Dydd Llun - Dydd Gwener, Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru, 5am

  • Rebecca Jones a'i bro.

    Sain


  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý