Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Parc y Scarlets Rygbi proffesiynol ar Barc y Scarlets
Golwg ar noson y gêm broffesiynol gyntaf ar Barc y Scarlets rhwng y Scarlets a Munster

Hir yw pob aros, medden nhw. Ond nid felly yn achos tîm rygbi'r Scarlets, fodd bynnag, wrth iddyn nhw groesi o un ochr i dref Llanelli i'r llall, o'r hen i'r newydd, o Barc y Strade i Barc y Scarlets. Ac roedd hi'n ymddangos nos Wener, Tachwedd 28, y byddai'r cartref newydd yn gymaint o ysbrydoliaeth ag yr oedd yr hen gartref ysbrydol.

Doedd yr un ymdeimlad o achlysur ddim yn perthyn i'r un graddau i Barc y Scarlets ar y noson agoriadol. Y tro hwn, Munster oedd y gwrthwynebwyr yng Nghynghrair Magners. Doedd yna fawr o awyrgylch wrth gerdded o ganol y maes parcio hyd at y gatiau, ac ychydig o fân siarad oedd ymhlith y dorf. Yr unig fflach o awyrgylch oedd ar gyfyl y stadiwm oedd seiniau 'West is Best' gan Caryl Parry Jones yn atseinio yn y pellter.

Ar yr olwg gyntaf, roedd Parc y Scarlets yn ymdebygu i unrhyw stadiwm arall ym Mhrydain, ac ychydig iawn o elfennau unigryw oedd i'w gweld o'r tu allan. Roedd y strwythurau ym mhob cornel sydd yn dal y goleuadau yn eu lle, yn debycach i strwythur mewn parc antur. A dweud y gwir, roedd hi'n ymddangos nad oedd fawr i fod yn gyffrous yn ei gylch, a'r disgwyl mawr yn dechrau pylu.

Serch hynny, wrth edrych o amgylch o'r eisteddle, roedd atgofion o Barc y Strade'n dechrau llifo nôl. Roedd sosban ar bob postyn y naill ochr i'r cae, yn union fel Parc y Strade (er eu bod yn rhai newydd sbon). Ac wrth gwrs roedd y sgorfwrdd electronig, er ei ffaeleddau, yn adlewyrchu'r hen sgorfwrdd hanesyddol,yn sgarlad llachar i gyd. Yn union fel yr ornest ei hun, fe gymerodd ychydig funudau i'r bwrdd gynhesu. Ac felly hefyd y dorf, ond buan y daeth seiniau 'Fields of Athenry' a 'Sosban Fach' o bedair cornel y stadiwm.

Roedd disgwyl i 9,000 o gefnogwyr fynychu'r noson agoriadol hon i'r Scarlets, gyda 8,436 yno yn y pen draw. Erbyn y gêm nesaf yn erbyn Ulster, fe fydd 11,000 yn gallu cael mynediad i'r stadiwm. Fe fydd y stadiwm yn agor yn swyddogol ar noson gêm arbennig yn erbyn y Barbariaid ar Ionawr 31 y flwyddyn nesaf, gyda'r 15,000 llawn yn cael bod yno.

Fel unrhyw ornest hanesyddol, fe fydd cwestiynau cwis yn codi o'r noson hon am flynyddoedd i ddod. Pwy oedd y sgoriwr proffesiynol cyntaf yn y stadiwm newydd? Pwy sgoriodd y cais proffesiynol cyntaf? Pwy oedd y dyfarnwr cyntaf i ddyfarnu gornest broffesiynol? Mae 'na atebion diddorol a chofiadwy i bob un o'r cwestiynau hyn. Gwyddelod aeth â'r breintiau cyntaf, gyda Ronan O'Gara yn llwyddo â chic gosb eiliadau o fewn y chwarter cyntaf. Bu'n rhaid i'r Scarlets aros rhyw ddeng munud cyn cael ychwanegu triphwynt i'w sgôr nhw. Rhys Priestland, yn absenoldeb Stephen Jones, gafodd y fraint honno am 7.29yh, a hynny wedi iddo fethu'r gic gyntaf, a'r uchelseinydd yn torri'n grac ar draws 'Yma O Hyd'.

Ond fe darodd Munster yn ôl ag ergyd drom, gyda chais ddeng munud yn ddiweddarach gan yr asgellwr, Ian Dowling. Dechreuodd ymddangos fel pe bai Munster yn gryfach na'r Scarlets, yn y pac ac ymhlith yr olwyr, gan iddyn nhw lwyddo sgorio pymtheg pwynt eithaf di-drafferth cyn i chwiban yr hanner gael ei chwythu.

A son am chwiban, fe ofynnais i'r cwestiwn 'pwy oedd y dyfarnwr cyntaf i ddyfarnu gornest broffesiynol ar Barc y Scarlets?'. Os oes angen i chi gyfeirio at eich rhaglen am yr ateb, chewch chi mohoni yn y fan honno. Oherwydd ar y noson, nid Peter Allan o'r Alban oedd yn dyfarnu. Roedd hwnnw wedi cael ei ddal mewn tagfa ar y draffordd yn rhywle y tu allan i'r cae. Yn ei le, James Jones gafodd y chwiban. Tybed a oedd dyrchafu'r Cymro'n ddyfarnwr yn fantais i'r Cymry? (Jôc, cyn i chi feddwl fy mod i'n lleisio barn annheg o'r ochr draw i Bont Llwchwr!).

Ond mae'n siŵr bod yr 8,436 oedd yno'n gwylio yn gorfoleddu pan gafodd cais cosb ei roi i'r tîm cartref yn agos at y diwedd, gan roi'r Scarlets bwynt ar y blaen. Wrth i Dominic Day gael ei gyhoeddi'n seren y gêm, roedd y ffyddloniaid ar eu ffordd allan o'r cae, yn dathlu'r fuddugoliaeth gydag ychydig funudau'n weddill.

Gyda'r Scarlets yn dal eu gafael ar fantais o un pwynt, fe brofodd y straen yn ormod, ac fe ildiwyd cic gosb o fewn cyrraedd i'r pyst. Doedd ond un dewis gan Mr. Dibynadwy ei hun, Ronan O'Gara. Fe hwyliodd y bêl yn hamddenol rhwng y pyst, i roi'r ymwelwyr ar y blaen o 18-16, ac felly y bu hi ar ddiwedd yr wythdeg munud.

Er gwaethaf perfformiad siomedig yn yr hanner cyntaf, fe ddaeth y Scarlets yn ôl yn y pen draw a cholli o drwch blewyn. Doedd hi ddim yn ddechrau da i'r Scarlets yn eu cartref newydd ac fe fydd camgymeriadau'n taflu cysgod dros yr achlysur hanesyddol. Meddai prif hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies:

"Mae'n siomedig ofnadwy. O'n ni wedi gadael iddyn nhw gael gormod o'r bêl, ac o'dd y cicio ddim yn rhy dda."

Serch y siom, roedd yr hyfforddwr yn awyddus i ganmol y stadiwm newydd:

"O'dd e'n arbennig. Mae'n mynd i fynd ymlaen o fan hyn. Mae'n le grêt i chwarae ynddo."

Unwaith eto, fe deimlodd y Scarlets yr ing o glywed 'Fields of Athenry' ar y tir sanctaidd, yn arwydd o golled.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý