Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Lynda Ganatsiou Fy niwrnod yn Athen
Treuliodd Lynda Gantsiou o dde orllewin Cymru, ond sydd wedi byw yng ngwlad Groeg ers yn agos i ddeg mlynedd ar hugain, ddiwrnod yn y Gemau Olympaidd yn Athens eleni. A chafodd ddiwrnod i'w gofio.
  • Cliciwch yma i weld casglaid Lynda Gantsiou o'r diwrnod arbennig
    Sawl Cymraes sy'n gallu ymffrostio yn y ffaith ei bod wedi ymweld â'r Gêmau Olympaidd?

    Efallai ei fod yn haws i mi, gan taw yn Thessaloniki, yng ngogledd Groeg rwy'n byw bellach; wedi gadael glannau Cymru deg mlynedd ar hugain yn ôl.

    Teimlais fod yn rhaid mynd i'r gêmau ysblennydd yma hyd yn oed am ddiwrnod, gan taw ond unwaith bob pedair mlynedd eu cynhelir, ac yn ychwanegol roeddynt ar drothwy fy nrws!

    I ffwrdd â mi a'r gŵr felly, a chael diwrnod bythgofiadwy wrth weld rhai o fabolgampwyr gorau'r byd yn cystadlu am fedalau aur, arian ac efydd o fewn llathennu i ni.

    Roedd yr awyrgylch yn hudol, ac yn codi iâs arnaf wrth glywed y dorf yn curo dwylo, siantio a gwaeddi Hellas, Hellas, Hellas yn diddiwedd ac yn enwedig pan fyddai mabolgampwr o wlad Groeg yn mynnu ei dro.

    Fani HalkiaUchafbwynt y noson oedd gweld Fani Halkia yn ennill y fedal aur yn y ras 400 clwydi. Syrthiodd y nefoedd i'r ddaear, do wir! Trawsffurfiwyd y ferch ieuanc hon o dynes i dduwies mewn eiliad o flaen fy llygaid - Dyma oedd arwres y trac.

    Gwelais gasgliad diddorol o gystadlaethau a seremoniau cyflwyno medaliau ond dim byd i gymharu â'r gorfoleddu a fu pan enillodd y ferch yma y medal aur i'w gwlad.

    Er na fûm yn cystadlu fy hun, cefais innau fedal aur wyddoch - wrth weld y wledd mawreddog hon o flaen fy llygaid.

  • Cliciwch yma i weld casglaid Lynda Gantsiou o'r diwrnod arbennig.
    Mae Lynda hefyd wedi cyfansoddi cwpledi i gyd-fynd â'r lluniau yn sôn am y profiad.

  • Cliciwch yma i ddarllen mwy am ei phrofiad yn y gemau.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý