Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Bowls Clwb Bowls Tyddewi
Clwb Bowlio Mat Byr Tyddewi a'r Cylch

Daeth y clwb yma i fod o ganlyniad i gyfarfod a gynhaliwyd ym mis Mawrth 1989 i drafod y posibilrwydd i ffurfio Clwb Bowlio yn Nhyddewi gan ystyried cael rink yn yr awyr agored, a chael tÅ· i'r clwb ar Waun Fawr, ger yr ochr ogleddol o'r ddinas. Gwelwyd yn fuan fyddai'r gost o gael cynllun fel yna a chaniatad i'w ddechrau yn llawer rhy anodd. Felly penderfynwyd newid cyfeiriad gan daro ar y syniad o gael Clwb Bowls mewn adeilad gan fod amryw o fannau addas ar gyfer hyn yn y ddinas.

Etholwyd Mr. M. Phillips yn Gadeirydd a Mr. L. Narbett yn Ysgrifennydd wedi iddynt gael ymateb boddhaol gan y Cyngor Cymuned i ddefnyddio Neuadd y Ddinas.

Trafodwyd y gwahanol bosibiliadau i godi arian, ac ym mis Mai etholwyd Mr. R. Evans yn Gapten a Mrs. R. Thomton yn Drysorydd. Talwyd £720 am y mat cyntaf, a chafwyd addewid am yr ail gan y Cyngor Chwaraeon Cymreig, a daeth hwn erbyn mis Gorffennaf.

Mewn cyfarfod ym mis Awst penderfynwyd i ofyn i Mr. Brian Harries, gŵr lleol, sydd i'w glywed yn fynych ar Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru, i fod yn Llywydd y Clwb, a grymuswyd y pwyllgor trwy ethol Mr. B. Hall yn Is-gadeirydd ac Is-gapten, a Mrs. W. Price yn Ysgrifennydd. Yn Rhagfyr 1989 penderfynwyd bod cyflwr llawr Neuadd y Ddinas yn wael ac yn andwyo pleser a medrusrwydd y chwaraewyr. Fe ddefnyddiodd y chwaraewyr campfa Ysgol Dewi Sant. Erbyn hyn roedd nifer o oedolion yn y Clwb ynghyd â nifer o blant yn eu harddegau.

Daeth y Clwb yn aelodau o "Pembrokeshire Short Mat League," gan gynnwys cystadleuaeth Cwpan y Llywydd. Ar ôl nifer o flynyddoedd cymharol lwyddiannus collodd y Clwb Bowlio Tyddewi amryw o aelodau ffyddlon gan i rai symud o'r cylch ac eraill ddim yn iach, ac hefyd bod y clybiau eraill yng Nghymdeithas Sir Benfro ymhell o Dyddewi, penderfynwyd yn gyndyn i dynnu'n ôl yn 1999.

Yn 2003 fe ddodwyd llawr newydd yn Neuadd y Ddinas fel rhan o'r gwelliant mawr i'r adeilad, ac fe wnaeth y clwb ddychwelyd yno i chwarae. Mae tua 20 aelod yn perthyn i'r clwb ar hyn o bryd ac maent yn cyfarfod rhwng mis Medi a Mehefin, ac mae'r nifer yn dyblu weithiau. Trefnir gêm gyda'r clybiau cyfagos yn y Sir yn achlysurol, ac mae hyn yn rhoi cyfle i'r aelodau i gystadlu mewn mannau eraill. Trefnir hefyd gystadlaethau o fewn y clwb er mwyn ennyn diddordeb a rhoi pleser i'r chwaraewyr a'r gwylwyr.

Darparwyd yr erthygl hon gan aelodau Clwb Bowls Tyddewi pan fu Bws Ö÷²¥´óÐã Cymru ar ymweliad â'r ddinas ym mis Mawrth, 2007


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý