Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Logo Eisteddfod yr Urdd sir Gaerfyrddin 2007 Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod
Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2007. Digwyddiadau yn y sir rhwng 1-9 Ebrill 2006.
1 EBRILL - Dathliadau yn cychwyn yn Llanymddyfri
Miri'r Pasg
Sioe Gerdd Llyn y Fan Fach a Llawer Mwy
  • Cliciwch yma i weld lluniau o'r sioe gerdd.

    Gig yng Nghlwb Rygbi Llanymddyfri

    3 EBRILL - Cwis yng Nghlwb Golff y Garnant

    4 EBRILL - Noson o Chwaraeon ym Mro Teifi

    5 EBRILL - Perfformiad Theatr Ieuenctid Menter Cwm Gwendraeth

  • Cliciwch yma i weld lluniau o'r sioe gerdd.


    6 EBRILL - Twmpath ac arddangosfa dawnsio gwerin yn neuadd Ysgol Griffith Jones, San Clêr.

    7 EBRILL - Cyngerdd yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin gyda Tudur Dylan yn cyflwyno Band Prês a Chôr Ieuenctid y Sir, y Teulu Singh, Dawnswyr Hafodwennog a Dawnswyr Penrhyd. Yn ystod y gyngerdd, cyflwynir y Rhestr Testunau gan Tom Dafis, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.

    8 EBRILL - Jambori a Gorymdaith trwy ganol tref Caerfyrddin. Gig gyda Frizbee, Mattoidz, Coda, Tangwystl a Celsain yn Neuadd San Pedr.

  • Cliciwch yma i weld lluniau o'r orymdaith a'r jambori.

    9 EBRILL - Cymanfa Ganu yng Nghapel Als, Llanelli dan arweiniad Meinir Richards gyda Christpher Davies yn cyfeilio. Bydd eitemau gan Gôr Meibion Llanelli, Côr Ysgol y Strade a Chôr Ysgol Dewi Sant Llanelli.

    Sulwyn ar grwydr
    Yn ystod wythnos Gŵyl Cyhoeddi Eisteddfod yr Urdd, ar ddechrau mis Ebrill, bydd Sulwyn Thomas ar grwydr drwy'r Sir gyda fan llawn nwyddau Eisteddfod 2007 - felly cadwch lygad barcud amdano.

    "Dyma gyfle gwych i hyrwyddo'r Eisteddfod gan godi arian i'r Pwyllgorau Apêl lleol ar yr un pryd," medd Sulwyn. "Y bwriad yw dilyn llwybr dathliadau'r Ŵyl Gyhoeddi o gwmpas y Sir yn ystod y dydd gan alw mewn ambell ysgol ag ati ar y ffordd.

    "Felly byddaf i a'r fan yn ymweld â threfi a phentrefi Dyffryn Aman ar ddydd Llun Ebrill 3ydd, yn symud i Ddyffryn Teifi drannoeth ac i Gwm Gwendraeth ar ddydd Mercher Ebrill 5ed. Erbyn dydd Iau, bydd y daith wedi cyrraedd ardal Dyffryn Tâf ac fe fyddwn yn ymweld â Llanelli ar ddydd Gwener y 7fed cyn gorffen y daith yng Nghaerfyrddin ar ddydd Sadwrn Ebrill 8fed."

    Os oes gennych syniadau am leoliadau arbennig i Sulwyn ymweld â nhw, mynnwch air â Chadeirydd eich Pwyllgor Apêl lleol neu cyslltwch â Sulwyn ar 01267 235385 neu 07778 435765.

  • Cliciwch yma i ddarllen am Gari Sir Gâr - y cymeriad lliwgar ar logo Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2007


  • Cyfrannwch

    Sulwyn Thomas
    Diolch am y sylw. Mae na fwy o fanylion i ddod cyn yr wythnos fawr!


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý