主播大秀

Iolo Williams yn agor y babell wyddoniaeth

Iolo Williams

03 Mehefin 2012

Bydd y naturiaethwr Iolo Williams ar faes prifwyl yr Urdd fore dydd Llun i agor y babell wyddoniaeth, GwyddonLe, sy'n cael ei llwyfannu gan Brifysgol Abertawe.

Wedi agor y babell yn swyddogol am 11:00am bydd Iolo Williams yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ag ateb gyda'r cyflwynydd teledu Nia Parry, sy'n un o gyn-fyfyrwyr y Brifysgol, am 11.15am.

Bydd y cyn b锚l droediwr proffesiynol, Malcolm Allen yno ddydd Iau, 7 Mehefin am 12.30pm i wobrwyo'r gystadleuaeth fathemateg genedlaethol.

Drwy'r wythnos bydd cyfle i ymwelwyr gael cip ar rywfaint o'r gwaith ymchwil sy'n digwydd ym Mhrifysgol Abertawe gan gynnwys arddangosfa o'r cerbyd enwog Bloodhound, sef y car sy'n gobeithio torri'r record byd ar gyfer cyflymder tir a chyrraedd 1,000 milltir yr awr yn 2013.

Ymchwilwyr o Ysgol Beirianneg Prifysgol Abertawe sydd wedi cyfrannu at ddyluniad aerodynameg Bloodhound a bydd fideo yn olrhain hanes datblygu'r cerbyd i'w weld gydol yr wythnos.

Bydd y babell hefyd yn cynnal y dangosiad cyntaf o'r ffilm Gymraeg 'GLIMPSE: Yr i芒 sy'n diflannu o'r Ynys Las' brynhawn Gwener, 8 Mehefin am 3pm. Mae'r ffilm yn dilyn rhewlifegwyr o Brifysgol Abertawe ar eu taith wyddonol i ddarganfod pam fod i芒 yr Ynys Las yn newid.

Mae GwyddonLe ar agor bob dydd rhwng 10am tan 4pm ac yn 么l y Brifysgol yn "addo cynnig profiad gwyddonol cyffrous trwy gyfrwng y Gymraeg i ymwelwyr trwy gydol wythnos Eisteddfod yr Urdd."


Plant

Dewch i fyd hudol Tree Fu Tom am gemau, anturiaethau a swynau!

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion a'r chwaraeon diweddaraf a gwylio'r rhaglen.

Mabinogi

Gemau Mabinogi

Rhowch gynnig ar chwarae gemau newydd sbon y pedair cainc y Mabinogi.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.