主播大秀

Dydd Llun, Mehefin 4

Baner Cartref Eisteddfod yr Urdd Eryri

Fore Llun, mae meysydd gwyrdd Glynllifon yn estyn croeso twymgalon, er ychydig yn wlypach na fuasai'r trefnwyr wedi ei ddymuno, i ieuenctid Cymru, a'r cystadlu yn dechrau o ddifri.

Ond eisoes, mae'r bwrlwm wedi dechrau gyda'r sioe ieuenctid, , yn y Galeri wedi rhoi modd i fyw i lawer nos Wener a nos Sadwrn a'r cyngerdd agoriadol nos Sul yn y Pafiliwn wedi mwynhau arlwy gan Rhys Meirion, Tudur Owen, C么r Glanaethwy, Cwmni Dawns Bangor a llu o dalentau lleol eraill.

Cyn i'r cystadlu ddechrau yn y Pafiliwn fore Llun bydd pobl ifanc ardal Eryri yn estyn croeso i'w cyfoedion o bob cwr o Gymru i Lynllifon.

A bydd rhai ohonyn nhw yn ifanc iawn! Yn 么l y traddodiad, cyflwyniad gan ysgolion meithrin dalgylch Eisteddfod Eryri 2012 yw'r peth cyntaf ar y rhaglen - cyfle i weld plantos bach y fro - rhwng dwy a phedair oed - yn rhoi cyflwyniad lliwgar a bywiog ar y thema 'Y Tywydd a'r Tymhorau'.

Bydd sawl rhaint, nain neu daid balch yn cymryd eu seddau yn nerfus yn y Pafiliwn y bore hwnnw! Nid am y tro olaf yr wythnos hon!

Dilynir y cyflwyniad, sydd i bara 15 munud, gan seremoni agoriadol gan ieuenctid yr ardal.

Wedi bore o gystadlu i oedran hyd at Bl.6 cynhelir y Seremoni Celf, Dylunio a Thechnoleg am 2.15pm gydag Eirian Stephen Jones yn Feistr y Ddefod.

Bydd yr enillydd yn derbyn Y Fedal Gelf ac ysgoloriaeth gwerth 拢2,000 drwy garedigrwydd Dr Dewi Davies a'i deulu am y gwaith mwyaf addawol rhwng 18 - 25 oed.

Prif seremoni'r prynhawn yw Medal y Prif Gyfansoddwr.

Fe'i rhoddir am gyfansoddi naill ai:-
a) Cylch o ganeuon ar eiriau Cymraeg o ddewis y cystadleuydd b) Rhangan neu gytgan i unrhyw gyfuniad o leisiau ar eiriau Cymraeg o ddewis y cystadleudydd
c) Cyfansoddiad i un neu ddau offeryn
ch) Cyfansoddiad i enemble offerynnol.

Y beirniad eleni yw Gareth Glyn a Meistr y Ddefod yw Huw Alun Foulkes. Enillydd y llynedd oedd o Langernyw.

Fin nos mae drysau'r pafiliwn yn agor am 18.00 ar gyfer Cystadleuaeth y G芒n Actol, Bl. 6 a iau pryd bydd buddugwyr pob un o ranbarthau'r Urdd yn ymgiprys am y brif wobr. Y thema yw Y Mabinogi.

Yna am 8pm ceir y cyfle olaf i weld y Sioe Ieuenctid yn y Galeri yng Nghaernarfon. Mae'r sioe sydd hefyd yn cael ei pherfformio ar nos Wener a nos Sadwrn, yn cynnwys amrywiaeth o ganeuon poblogaidd Cymraeg wedi eu haddasu.


Plant

Dewch i fyd hudol Tree Fu Tom am gemau, anturiaethau a swynau!

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion a'r chwaraeon diweddaraf a gwylio'r rhaglen.

Mabinogi

Gemau Mabinogi

Rhowch gynnig ar chwarae gemau newydd sbon y pedair cainc y Mabinogi.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.