主播大秀

Sioe Sbri!: 'gwledd o chwerthin a chanu'

Pobl ifanc Eryri yn perfformio yn Sbri!

Adolygiad Meinir Williams o'r sioe ieuenctid a gynhaliwyd yn Galeri, Caernarfon, nos Wener a nos Sadwrn. Mae'r perfformiad olaf yn Galeri nos Lun, Mehefin 4:

Fel un sy'n mwynhau sioeau cerdd, ac yn arbennig felly 'Glee', y gyfres deledu sy'n canolbwyntio ar griw o berfformwyr ifanc mewn ysgol uwchradd yn yr Unol Daleithiau, roedd fy nisgwyliadau ar gyfer sioe 'Sbri' yn uchel iawn gan iddi gael ei seilio'n fras ar y ffenomenon Americanaidd boblogaidd hon.

Ac yn wir, ni chefais fy siomi nos Sadwrn yn y Galeri.

Hanes gwersyll corawl yng Nglanllyn a geir yma, gwersyll sy'n cael ei redeg gan Mr a Mrs Cojar, dau gymeriad hen ffasiwn sy'n diddori mewn canu gwlad ac alawon gwerin. Daw myfyrwraig i gynnig syniadau newydd ac mae'r gwersyllwyr ifanc yn dewis troi cefn ar yr hen ganu traddodiadol a symud i fyd modern caneuon poblogaidd Cymraeg.

Roedd safon ochr gerddorol y.cynhyrchiad yn wych. Cafwyd dewisiadau bendigedig o ganeuon adnabyddus, a pherfformiadau caboledig o ran y canu gan bob un o'r cantorion unigol. Roedd mwynhad yr holl gast, tua 120 ohonynt i gyd, yn amlwg iawn, gyda phob un yn rhoi o'u gorau ar y noson.

Er mai ychydig yn arwynebol oedd y stori ar brydiau, roedd brwdfrydedd ac asbri'r cast yn gwneud i fyny am unrhyw fan gwan yn y sgript.

Cafwyd perfformiadau gwych gan y cast, yn arbennig yn y rhannau 芒 hiwmor yn perthyn iddynt.

Roedd hi'n amlwg fod y gynulleidfa'n mwynhau'r perfformiad - cafwyd chwerthin iach, ac roedd rhai yn eu dagrau ambell dro oherwydd gallu rhai unigolion i gyfleu hiwmor. O'm blaen roedd dwy eneth wyth oed yn eistedd ar flaenau eu seddi yn chwerthin o waelod calon ar y rhan lle roedd Mr Cojar yn chwarae'r piano, a'r ddwy yn ei ddynwared yn taflu ei ben i'r awyr a siglo'i ben 么l am weddill y perfformiad.

Llongyfarchiadau mawr i'r holl d卯m cynhyrchu ar lwyddiant ysgubol, ond yn bennaf oll, diolch mawr i'r bobl ifanc am ddwyawr o bleser pur.

Hon oedd sioe gyntaf yr Eisteddfod yn Eryri, ac os cawn yr un safon gydol yr wythnos, bois bach, mae ganddo ni wledd a hanner o'n blaenau.


Plant

Dewch i fyd hudol Tree Fu Tom am gemau, anturiaethau a swynau!

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion a'r chwaraeon diweddaraf a gwylio'r rhaglen.

Mabinogi

Gemau Mabinogi

Rhowch gynnig ar chwarae gemau newydd sbon y pedair cainc y Mabinogi.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.