Main content

Cerddi Rownd 1

Trydargerdd: Diweddariad

Y C诺ps

Er dwyieithrwydd arwyddion, - a sianel,
A senedd breuddwydion,
O hyd saif y Gymru hon
Yn oerfel glannau Irfon.

Iwan Bryn James – 8.5

Talybont

Ychwanegais gof i’m iPad
gan lawrlwytho’r oll mewn chwinciad;
Methais ffeindio ap i’w lwytho
a all rwystro i fi anghofio.

Anwen Pierce - 8

Cwpled caeth yn cynnwys yr ymadrodd ‘mis bach’

Y C诺ps

Yng nghwmni'r misoedd hirach,
Mis o bwys yw pob mis bach.

Iwan Bryn James – 8.5

Talybont

’Rôl pwdin plwm rwy’n drwmach
a mas o bwff ’n y mis bach.

Anwen Pierce – 8.5

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Fe gaeais fy llygaid yn dynn’

Y C诺ps

Pan welais ddau noeth ar fin llyn
Fe gaeais fy llygaid yn dynn,
A’u hagor nhw eto
Yn araf, i checkio,
Ar honno yng nghôl Ceri Wyn.

Dafydd Morgan Lewis – 8

Talybont

Fe gaeais fy llygaid yn dynn,
Anghofiais fy mod i fan hyn,
Dychmygais am eiliad,
Fy mod yn y dowlad,
Ond fel larwm daeth llais Ceri Wyn.

Phil Davies – 8

Cywydd (heb fod dros 12 o linellau): Dieithryn

Y C诺ps

Yn wibiog o ddirybudd
Yn rhuthr y daith, wrth i’r dydd
Lwyr ddiffodd, fe ddaliodd hi
Ei olwg, bron heb sylwi.

Cysgodd. Trywanodd y trên
Ias hir drwy’r nos ddiseren
Yn ei phen, rhwng rhith a ffaith,
Daliodd ei lygad eilwaith.

Dadebrodd hi’n ddiddianc,
Lygad yn llygad â’r llanc
O’r newydd, y trydydd tro.
Sgytiodd. Ni chysgai eto.

Huw Meirion Edwards – 10

Talybont
ar ôl cerdded yng Nghwm Elan

Yng nghilfannau bryniau brwyn,
ar guddfan y graig addfwyn,
gynt fu’r gwynt yn mwytho gwar;
coflaid i’r enaid anwar.
Estyn llaw wnai’r glaw i’r glog
yn yr egin caregog.
Ac un iaith yn gwenieithu
emynau doe’n y mawn du.
Ond mor llaith yw’r diffeithdir
heno, a chawn wylo’n hir.
Ni chlyw’r eithin gylfinod
ni a’n bath, nid ym yn bod.

Gwenallt Llwyd Ifan – 9

Pennill ymson mewn caffi

Y C诺ps

Dwi’n gwybod y sgript cyn agor y drws
Ar stêm a s诺n y caffi:
“Mae’n fore grêt!
Fydd o yma’n sdrêt!
Felly mêt, be ti ffansi!?:”
“Americano, Piccolo, Cortado, Espresso?
Late, Breve, Red-eye?
Mocha, Motcha?
Cappuchino, Mochachinio, Mochiato, Macchiato, Misto?
Skinny, Baby, Ffrothi, Fflat?
Un mawr, un bach,
Un shot? Llond pot? Lot?
Un du neu Caffe au Lait?”
Ella, am unwaith, na’i ofyn am de,
Ac os oes modd troi rhemp yn gamp
Fe gymrai lond soser go gry o de tramp.

Arwel Jones – 8.5

Talybont

Coffi llaeth yng ngwres y Dolphin
mwynhau clonc yn seddau’r Penguin
Gwylio’r byd drwy ffenest caffi
bro fy mebyd heb gadwyni.

Phil Thomas – 8.5

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Cais am Grant

Y C诺ps

Diffaethwch diwylliannol yw Tal-y-bont yn awr
Ers pan aeth Hywel Griffiths i fyw’n Llanbadarn Fawr.

A Phil a wnaeth ymrwymiad i adfer yr hen le
Gan wahodd Gwenallt Ifan i’w d欧 am sgwrs, dros de.

“Cyhoeddwn ein barddoniaeth, mae yna,” meddent, “lwyth,
A gafodd ar y Talwrn farc teilwng iawn o wyth.

“Ar ôl cyhoeddi’r gyfrol, yn ddiau,” meddent hwy,
“Bydd pentre bychan Tal-y-bont ar briffordd llên byth mwy.”

Ond cyn argraffu’r campwaith, roedd angen grant reit hael,
A gwyddai Phil yn union ble’r oedd y pres i’w gael.

Aeth draw i Gastell Brychan, “Offrymaf ger dy fron,”
Yn daer, medd ef wrth Rocet, “y gyfrol ddisglair hon.

“Craffach fel bardd a beirniad wyt ti na Ceri Wyn,
Ac nid oes ddowt na weli werth y cerddi cywrain hyn.”

‘Mhen dim llefarodd Rocet, “Mae’r cerddi’n dangos straen,
Mynegiant llac, ac odli, trybeilig o ddi-raen.

Os wyf am gynnal safon a gwarchod moes fy mhlant
Ni allaf rwyf yn ofni ond GWRTHOD iti’r grant …”

Er teimlo’n ddiymadferth ar ôl yr ergyd front,
Aeth Phil yn drist a distaw adre i Dal-y-bont.

Dafydd Morgan Lewis – 9.5

Talybont

Cyhoeddwyd fy hunangofiant rhyw fis neu ddau yn ôl,
Gan lewion Gwasg Y Lolfa, nid oedd yn syniad ffôl.
Yn groes i bob darogan mae’r gwaith yn gwerthu’n gwic,
A chynhyrchwyr ffilm sy’n awchu i wneuthur bio-pic.

Dod o hyd i actor all gyfleu fy noniau i gyd,
Yw’r gamp sydd yn wynebu’r stiwdio ar hyn o bryd.
Ac er yr holl geisiadau i Rhys Ifans a Michael Sheen,
Roedd yr her tu hwnt i’w gallu, gan adael pawb yn flin.

Er awydd Tony Hopkins i gymryd at y gwaith,
Nid oedd yn ddigon hyblyg ar waetha’i brofiad maith.
Fe ofnai’r tîm cynhyrchu na allai un mor wan,
Lwyddo yn gyffyrddus gael ei ddannedd mewn i’r rhan.

Aeth cais at Ioan Gruffudd, ond nid oedd ef ar gael,
A rhaid oedd chwilio actor amgenach, yn ddi-ffael.
Mae angen actor rhywiol, gosgeiddig, dyna’r cais,
 Gwyn Elfyn ddim am fentro, rhaid oedd troi at Sais.

Anfonwyd cais i’w gyrchu a chytunodd ddod yn syth,
Ei fraint, medd ef, oedd chwarae y mwyaf yn ein plith.
Pob IMAX fydd yn byrstio, pob pictiwrs hyd y bil,
A Huw Grant yn cael Oscar am bortreadu PHIL.

Phil Davies – 9

Ateb llinell ar y pryd: Daw o’r nant y dwr yn nes

Y C诺ps

Ar ôl pob storm a’i gormes
Daw o’r nant y dwr yn nes

0.5

Talybont

Daw o’r nant y dwr yn nes
Yng ngho heno’n anghynes

0.5

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Mynd am Dro

Y C诺ps

Pan fydd y tonnau weithiau’n bwrw’u llid
ar hyd y prom yn glatsh ddiferol, mi
geisiaf gadw’r ystum hwn – dyn di-hid
a welodd hyn i gyd o’r blaen; y fi
ddoeth-dawel, bach ei st诺r, sy’n mynnu, wir,
nad oes rhyw lanw uchel yn fy ngwaed,
dim byd, dim byd fel hwn sy’n llyncu’r tir,
y llif gwyn-ferw sydd o gylch fy nhraed.
A ganol haf wrth wylio crychau’r môr
yn wyn ac aur, a murmur twym y dre
ar stryd tu hwnt i’r gweld, fel hymian côr,
mae’n rhaid fod rhywbeth yma’n swyno’r lle,
fod rhywbeth yma sydd tu hwnt i iaith
sy’n peri fod fy llygaid i mor llaith

Dafydd John Pritchard – 10

Talybont

Gyda’r hwyr a wedi’r gwaith,
dau gymydog yn gadael eu tai.
Eu llwybrau’n croesi
a chyfarchiad cwta,
noswaith dda,
frysiog.
Ac ambell waith, saif un o dan y goeden a golau’r stryd.
yn syllu am hydoedd drwy’r brigau noeth
a’r sêr yn dawnsio’n gylchoedd o gwmpas y goleuni.
Canghennau’r bydysawd yn berlau o gylch y golau.
Yn gwau pelydrau’n we rhwng y nef a’r llawr.
Gerllaw mae’r llall yn syllu’n syn o fan gwahanol
yn gweld
coeden,
lamp,
a g诺r a cholled arno.

Phil Thomas – 9.5

Englyn: Sgarff

Y C诺ps

Gosododd ei gwe sidan — yn dyner,
Gosod un droed simsan
O flaen y llall, ac allan
 hi i’r dydd, a’i chlwyf ar dân.

Huw Meirion Edwards – 9.5

Talybont
anrheg gan gariad

Dy afael ’mhob edefyn – ac iasau
dy gusan mewn pwythyn;
Ôl ein doe mewn gwlanen dynn,
dy frath mewn rhwyd o frethyn.

Anwen Pierce – 9.5

Y C诺ps – 73
Talybont – 70.5