Main content

Cerddi Rownd 1

Trydargerdd: Cyfarchiad Cerdyn Ffwl Ebrill

Aberhafren

A wyddost y newyddion? Diwygiwyd,
i hogi englynion
heb raen, y rheol o’r bron
am odlau a chynghanedd.

Aron Pritchard - 8

Y Gwenoliaid

Ebrill hapus i ti ffrind
Gest di dy wlad yn ôl?
Mae’i ar fws coch sydd newydd fynd
On’d yw hi’n Ebrill ffôl.

Huw Chiswell – 8.5

Cwpled Caeth yn cynnwys ‘Blêr’

Aberhafren

Dadmer yn flêr fel eira
liw nos wna fy nghalon iâ.

Owain Rhys – 8.5

Y Gwenoliaid

Yr osgo’n flêr ar wasgar,
ond gwn am ei enaid gwâr.

Huw Roberts – 8.5

Limrig yn cynnwys y llinell mae sôn bod na greisis yn Radur

Aberhafren

Mae sôn bod ’na greisis yn Radur
am fod Waitrose yn wag wedi’r eira,
dim mango na sushi,
dim drop o Chianti
na chimwch i Suzy’r Chihuahua.

Mari George - 8.5

Y Gwenoliaid

Cyn i’r Talwrn fynd mas ar yr awyr
Fe landws hen eryr ‘n y ffreutur
A WOW – rili sceri
Yn ei big yr o’dd Ceri
Ma sôn fod na greisis yn Radur.

Hannah Roberts - 8

Cywydd ‘Sbwriel’

Aberhafren

(i fy merch)

Wrthi’n datrys bocsys byd,
nefoedd cael siswrn hefyd!
Ar ei bwrdd, mae’n chwarae, bod,
dyfalu ei bwystfilod
carbwl, ailgylchu cerbyd
â phader, gliter a glud.
Nid wast yw potel blastig
i hon, ond estron llawn dig,
a gall hi, o fagiau llwyd
greu enfys lle bu grawnfwyd.
Peirianneg cornel cegin,
labordy’r papur a’r pin.

Owain Rhys – 9.5

Y Gwenoliaid

Pont y Werin, Bae Caerdydd
Cer, cer at Bont y Werin
i wylio hynt afon flin.
Afon llawn olion eiliad
o fyw yn hawdd, o fwynhad.
Gwêl gwpanau, clonciau clên,
bagiau neb, gwe anniben
o raffau lliwiau llawen
a sisial ffôl seloffen.
Caniau cwrw, cân cariad
hwyr y nos, a chadarnhad
yw pob potel o elw’r
dre ddi-lan sy dan y d诺r.

Judith Musker Turner – 9

Pennill Ymson mewn Sba

Aberhafren

’Rôl awr dan chwip o frigau mân
mae ’nghorff i fel tomato,
a Mrs Jones ’di blino’n lân –
anghofiodd brynu tato!

Llion Pryderi Roberts – 8.5

Y Gwenoliaid

Ro’n wrth fy modd yn derbyn y rhodd
Cael mynd am ddydd o bamprad,
Os nad at ddiben llawer mwy
Nag osgoi arferion afrad.

Ond yma, yn fy niwlog gell,
A’m sbectol wedi’i dowlu,
Mae’r bar yn addo pethe gwell
Wyf newydd sylweddoli.

Ond ble aeth drws y carchar hwn?
Mi glywaf gloch yn canu...
Yn ddall fel twrch a’r bar yn cau -
Twnelu sydd amdani.

Huw Chiswell – 8.5

Can Ysgafn (20 llinell) ‘Cyfnod Prawf’

Aberhafren

Lleda’r waedd mai lleidir wyf, a di-hid o hy ydwyf.
Llên-leidir o ddihiryn! Weithiai ef ’mo’i waith ei hun!
Dynwared soned! Am sen! Rhyw hacio, dwyn yr acen,
dwyn fel cnaf pob sillaf sy’ o eiriau Williams Parry
a ffugio awen Gwenallt wnawn o’r bron. ’Se Waldo’n hallt,
yn chwerwi, â’m camchwarae’n mynd â’i gân o ‘Mewn Dau Gae’,
a, really – Parry-Williams? A oes gair am y fath scams?
Nid glew. Heb gerddi newydd, trown yn adyn, derfyn dydd,
quasi-bardd, un rhacs a bas heb arddel gwerthoedd Barddas.
Ond o weled pob dalen, hawlia llais yr heddlu llên
yn bendant o bedantic yr awn i i lawr i’r nick!
Ffals-brydydd yw’r cyhuddiad. ‘EUOG’ o lef ar lawr gwlad!
Barnwr mae’n si诺r, a wêl sens. Y sant! Suspended sentence!
Cyfnod prawf; arbrawf o her a gefais. Ar ei gyfer
yn ddidalent, yn brentis yn y man, fe af bob mis
am orig at y meuryn. Un gwâr yw, yn Geri Wyn.
Af a dysgu. Gwnaf dasgau. Ni wna’i ddwyn, hynny’n ddi-au!
Yma heno, y mynnaf farddoni, Ceri, os caf.
Wele hwn, fy nweud di-lol. O’i wraidd, mae’n gwpled gwreiddiol:
Wylit, wylit Lywelyn. Wylit waed pe gwelit hyn.

Aron Pritchard - 9

Y Gwenoliaid

Tanio’r peiriant, sbardun lawr,
Tan bod hi’n rhuo’i rhyferthwy mawr
Gwylied bawb sydd ar y stryd -
Dwi ar fy nghyfnod prawf o hyd.

Cyrraedd swyddfa ar ben y daith,
Barod eto am ddiwrnod gwaith.
Os gwna’i gamsyniad, sdim ots i mi -
Dwi ar fy nghyfnod prawf o hyd.

Shwd y’ chi heddi? Cymerwch set.
Y chi’n gyfforddus? Iawn, ma hynny’n gret.
Wy bach yn nerfus, fel welwch chi -
Wy ar fy nghyfnod prawf o hyd.

Mi wna i lanast, mi wna i gawl,
Gwna’i gamgymeriad - gwaed y diawl!
Ma gen i hawl, ar ddiwedd dydd,
Ar fy nghyfnod prawf ‘dw i.

Ond peidiwch becso, na dychryn chwaith,
Ma pawb yn dysgu wrth wneud eu gwaith.
Ma' pob llawfeddyg sydd yn y byd
Ar ei gyfnod prawf o hyd.

Huw Chiswell – 9

Ateb llinell ar y pryd: Daw haid o wenoliaid nôl

Aberhafren

Er bod ein ha’n wahanol
Daw haid o wenoliaid nôl

Y Gwenoliaid

Chwala’r haf gof gaeafol
Daw haid o wenoliaid nôl

0.5

Telyneg ‘Adeiladu’

Wedi’r angladd,
awn allan i’r oerni,
at ddoethineb ystrydebau
lle mae’r aer yn troi geiriau yn furiau.
A beth nawr?
Â’r llwybr yn wyn gan alar,
anodd yw mynd i dy gartref a mynd trwy dy bethau fel piod,
glanhau ôl dy fysedd
ac ail-ddechrau byw.
Syllwn ar deulu dieithr yn loetran fel y gaeaf,
ac yn sydyn
mae dy wyneb di ynddyn nhw i gyd...
Ac wrth i haul Ionawr ysgwyd ein llaw,
daw aderyn â brigyn yn ei big,
a gwyddom ymhen dim y daw’r s诺n nôl i’r coed,
a lliw i’r cloddiau
a dadmer i’n llwybrau.

Mari George – 9.5

Y Gwenoliaid

Yma
ar y llawr lliwgar
mae bysedd bach y bore
yn tolach tegan o d诺r.
Yn uwch ac yn uwch y dringa’r ciwbiau
un o sgeiscrepers plastig Efrog Newydd.
Yna,
yn ddisymwth,
i ganol y pensaerniaeth pert
daw awyren o b葒l
yn ergyd heb argoel
yn dolc yn ei dalcen
a chwalu’r dydd.
Sgrech!
Siom !
Dagrau!
Yn y cornel Carillion hwn
mae plantos yn pensaernio eu byd
wrth dolach tegan o d诺r.

Hannah Roberts – 9

Englyn: Dryll

Aberhafren

Teimlo’r awel. Anelaf. –Eco hir
tolc y can. Cynhaeaf
hen hawl; yna’r gloch yn gnaf
i’n hysio i’r wers nesaf.

Llion Pryderi Roberts - 9

Y Gwenoliaid

Anelu, oedi, chwilio - llwybrau’r cwm,
Llwybrau cefn ei ddwylo.
Anelu, dal i wylio,
Wrth ei ddôr mae cadno’r co’.

Catrin Haf Jones – 9

Aberhafren – 70.5
Y Gwenoliaid - 70