Main content

Cerddi Rownd 1

Trydargerdd : Cyfarchiad Dydd G诺yl San Padrig

Criw’r Ship

Mae’i fedd o yn y gogledd
Gwnaeth wyrthiau yn y de
Mae’n ddydd i ddathlu undod gwlad
heb ffin, er gwaethaf May.

Sian Northey - 8

Y Manion o’r Mynydd

Pan fydd Efrog Newydd mewn dathliad
A’r dyrfa yn martsio’n un lli’,
Fydd rhywun yn cofio, tybed,
Mai Cymro bach oeddet ti?

Nia Powell - 8

Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw ffrwyth

Criw’r Ship

Yng nghalon glaf yr Afal
mae dagrau y tyrau tal.

Annes Glynn – 9.5

Y Manion o’r Mynydd

Un afal ers oes Efa’n
Rhwygo dyn rhwng drwg a da

Tudur Puw - 9

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Does unman yn debyg i gartre’

Criw'r Ship

Mynyddog oedd awdur y geirie
"Does unman yn debyg i gartre",
Sy'n profi na fu,
Er cystal ei d欧,
Yn llofft gefn y Plu efo Daphne.

Arwel Roberts – 8.5

Y Manion o'r Mynydd

O, fel mae’n gas gen i’r Cartre’,
Hen le melltigedig yw Cartre’
I’n sobri ni i gyd
Cyn gadael y byd.
’Does unman yn debyg i Gartre’.

Edgar Parry Williams – 8.5

Cywydd (heb fod dros 12 o linellau): Prawf

Criw’r Ship

'Lluniwch stori.' Caiff hi hwyl,
a'r dasg yn haws na'r disgwyl:
lôn 'Un tro'. Dilyn trywydd
antur iach â'i thalent rydd;
heria'r pla dalennau plyg
â naid chwim ei dychymyg.

Cyn bo hir daw'r cywiro,
unioni 'drafft' yn ei dro,
ticio bocs, tocio ei byd,
arafu'i geiriau hefyd;
rhoi taw ar furmur awen.
Ond yn ei llais mae dawn llên.

Annes Glynn – 9.5

Y Manion o’r Mynydd

Ystâd ddiarswyd ydoedd,
Un gaer warchodedig oedd
Rhag y fall oddi-allan,
Gwyn ein byd mor glyd a glân
Y tu cefn i’r giatia’ cau,
Ni â’n gwên, ni â’n gynnau,
Nes dod llanc a’i loddest lladd
A’r edliw’n llond yr adladd,
Un â’i ddial yn ddiwedd
Wrth ymffrostio bwydo bedd,
Terfysgwr mewn camwri?
Na, mae’n un ohonom ni.

Nia Powell – 9.5

Pennill ymson ar drampolîn

Criw'r Ship

“Gwiriondeb”, medda’r musus,
Wrth wylio ‘mownsio i.
“Buddsoddiad”, medda finna,
“Achos tra dwi’n bownsio’n ffri,
Mae gwerth y t欧 yn codi.
Os sbïa i’n reit chwim,
Mae gen i fiw o Landdwyn.”
Ond wedyn, sgen i ddim…

Arwel Roberts - 9

Y Manion o’r Mynydd

Bora’ ddoe mewn tymer flin,
Donald Trump ar drampolîn,
Aeth i fyny’n uwch ac uwch
Dros y lleuad efo’r fuwch,
Os na ddon’ nhw fyth i lawr
Am y fuwch bydd colled fawr.

Edgar Parry Williams – 9

Cân ysgafn : Hurio Car

Criw’r Ship

Roedd ’na le hurio ceir yn Rhosgadfan
Oedd yn eiddo i fab Iseldirwr;
Ei dad o Eindhoven a’i fam o Gaeathro;
Lle rhatach na phob cystadleuwr.

Dyn busnes oedd Arfon Van Hire,
Efo brên oedd yn organ anwadal,
A dyna paham y bedyddiodd
Ei gwmni yn Arfon Van Rental.

Roedd y llefydd mawr crand ym Mae Colwyn
Yn hwrjo Mondeos ac Insignias,
Tra’r oedd Arfon yn glynu yn ffyddlon
At Maxis a Morris Marinas.

Byddai ystod ei brisiau yn rhedeg
O’r rhesymol i’r gwirion i’r gwallgo’,
Ac roedd sôn mai dau diwb o Fruit Pastilles
Oedd o’n godi am hurio Allegro.

Os oedd hynny yn dal yn rhy gostus,
Cynhaliai sêl fawr bob un gwanwyn –
Llogai Robin Reliant am bris motobeic
A moped am bris beic un olwyn.

Roedd cyfrinach ei lwyddiant yn syml,
Sef cadw ei gostau yn isel;
Ceir rhad – rhad i’w rhedeg a’u trwsio
Nad oeddent o reidrwydd yn ddiogel.

Ond arweiniodd ei arfer o gynnig
Tanc llawn am ddim â phob cerbyd,
Mewn cyfnod o strach economaidd,
At fethdaliad trychinebus disyfyd.

Pan oedd pwmpio deugain litr o betrol
I grombil tanc Triumph Toledo
Yn costio dair gwaith gwerth y modur,
Pa obaith i r’un busnes lwyddo?

A dyna chi pam fu’n rhaid cerdded
Yr holl ffordd i’r Groeslon o acw.
O, Arglwydd, rhy ddrud llogi Corsa
Pan mae siec gan y Talwrn mor bitw.

Arwel Roberts - 8

Y Manion o'r Mynydd

Mae’r car ‘cw ‘di torri a’r arian yn brin
Ac felly hurio un arall gan Gari Wyn.
Wedi gyrru y cerbyd am rhyw hanner awr
Mi ffeindis drysorau a’r rheini’n rhai mawr.
Mae’n amlwg i’r car gael ei logi gan ser
A’r rheini ‘r sglyfaethod wedi’i adael yn fler.
Ar y dash, slip cyflog o eiddo Dai Jôs
A’i ddarllen, mae’n rhaid, a’m gyrrodd i’r ffos.
Ês i’r b诺t i chwilio am raffen neu jac,
Gwelais lythrennau CWJ ar hen hafersac;
Methais beidio busnesu , fe agorais y sach -
’Sa chi’n gweld ffasiwn lanast , yn wir, bobol bach,
Cytundeb trwchus i wneud Talwrn y Beirdd
A chyfrolau treuliedig wedi eu rhwymo yn – heirdd.
Y gyntaf yn Saesneg, ‘How to judge poetry’
A “Chanu Cynan” wedi’i seinio gen i.
Odliadur llawn sgribls gan ddyn yn y nos
A ‘Cynghanedd for idiots’ Gan John Morris Jones.
Rhedais o’na Gari – mae’n ddrwg iawn gen i
Mae’r ffos yn Nanmor - “El El ffiffti ffaif, ffor el ji”

Cynan Jones - 8

Ateb llinell ar y pryd: Rhyw oedi oedi bob dydd

Criw’r Ship

Rhyw oedi oedi bob dydd
Newn ni cyn neidio i’r newydd

0.5

Y Manion o’r Mynydd

Rhyw oedi oedi bob dydd
Wna acenion ein cynydd

Telyneg : Botwm

Criw’r Ship

Tybed a oedd o fel fi
yn ei ddychmygu
yn fawreddog goch ar ganol ehangder drew sgleiniog desg,
a phawb yn betrus rhag ofn i ffeil neu fwg ei gyffwrdd
a dechrau’r rhyfel olaf un?
A oedd hi’n siom
na fyddai o, yn llythrennol,
yn cael ei wthio,
fel seren bop yn cynnau golau Dolig?
Efallai y bydd ei ffyddloniaid
yn creu rhyw fotwm ffug,
o garton iogwrt a selotêp a phaent,
i fodloni ei chwant am ddrama,
tra bod rhyw filwr bach di-enw
yn pwyso’r botwm iawn,
a ninna i gyd yn dal y gwreichion
wrth yfed te, smwddio, dadlau, caru.

Sian Northey - 10

Y Manion o’r Mynydd

Tawelodd gweddiau’r teulu
wrth i dipiadau y peiriant
arafu,
pob eiliad yn awr fechan,

yna darfod.

Gyda bys wedi ei sgrwbio’n lân
ar ddiwedd shift,
pwysodd y botwm
a diffodd
bydysawd
teirmlwydd oed.

Awr hir yng nghynhesrwydd y car,
troi trwy adwy cartref,

a diffodd y peiriant
gan geisio sgrwbio’n lân o’i meddwl
waddol
shift arall
cyn cofleidio’i theulu bach.

Cynan Jones – 9.5

Englyn: Elusen

Criw’r Ship

Taflaf geiniog i'r hogyn a'i gitâr
a'r gôt wael ei brethyn
heb oedi; gwibio wedyn
at garthen f'angen fy hun.

Annes Glyn - 9

Y Manion o’r Mynydd

Cynigiwn ein ceiniogau – yn gyfiawn
Ein gofid am loesau
Hyn o fyd, heb weld gwasgfâu
Trueuniaid dan ein trwynau.

Tudur Puw – 9.5

Criw’r Ship – 72
Manion o’r Mynydd - 71