Main content

Cerddi Rownd 1

TRYDARGERDD: Memo i Aelodau'r Cynulliad

Tir Iarll

@ShelterCymru
Os mynd a dod wna’r eira ’leni,
Cofiwch y dynion nad ydynt yn toddi.

Gwynfor Dafydd – 8.5

Beca

Cymru yw’r maes:
Brwydra drosti.
Cymraeg yw ei hiaith:
Parcha hi.
Rhag dy elyn:
Ymgroesa.
Rhag dy lwfrdra:
Cywilyddia.

Rhiannon Iwerydd – 8.5

CWPLED CAETH yn cynnwys y gair 'craig'

Tir Iarll

Bwrw hollt wna'r ewyn braf
A dyrnu'r graig gadarnaf.

Emyr Davies - 9

Beca

O'r groth, bu Emyr y Graig
Yn adrodd cerdd i'r fydwraig.

Eifion Daniels – 8.5

LIMRIG yn cynnwys y llinell ‘Drwy’r niwlen ar lan afon Cletwr’

Tir Iarll

Drwy’r niwlen ar lan Afon Cletwr
daeth Genie a’i lamp draw o’r merddwr;
fe'm gwnaeth yn filiwnydd,
rhoes imi Borsche newydd...
ond methodd â’m gwneud yn limrigwr.

Tudur Dylan Jones – 8.5

Beca

Drwy’r niwlen ar lan afon Cletwr
Ymrithiodd rhyw glamp o bysgotwr.
Ai Dewi oedd hwn?
Ai Cynan? – nis gwn;
Ond jiawch roedd e’n dipyn o fachwr.

Rachel James – 8.5

CYWYDD: 'Cyhuddiad'

Tir Iarll
(I Amnest)

Mae mewn carchar yn aros
â’r hen ofn sy’n fwy na’r nos,
a hwn, yn ein henw ni
a gyhuddir â gweiddi,
ni yw’r brain a’i rhydd ar braw’
ni ddaliodd ei ddeheulaw.
Heddiw, fe’i dienyddir,
marw ar gam, er rhoi’r gwir;
torrwyd drosof eto fedd,
eto gymaint o gamwedd,
hwn, y bedd i ni bob un,
pennod arall Penderyn.

Tudur Dylan Jones – 9.5

Beca

O pam, yn wir, mae Mami
Yn rhuthro i feio fi?
Yn ‘laru ar fy mlerwch:
Yr hôl traed, y llaid a’r llwch,
Y nwyon a’r cynrhonyn
Ar y llawr; a dyna’r llyn
A’r t’welion – ger y toiled;
A’r siars am 'danfon i’r sied'.
Ai rhyw act yw ei thacteg?
Sanai’n dwt, ond syno’n deg.
Pob cyhuddiad : rwy’n gwadu.
Mae imi gwtsh ‘da mam-gu.

Rachel James – 9

PENNILL YMSON swyddog diogelwch mewn maes awyr

Tir Iarll

Pwy sy'n d诺ad draw fan hyn
A'r 'Dolig hyd y lle?
Tramorwr barfog llond ei sach...
Caiff hwn fynd nôl 'sha thre.

Emyr Davies – 8.5

Beca

Mae edrych drwy pob cês bob dydd
I mi yn haws o lawer
Na mynd â chi i'r stafell fach
A gwisgo'r faneg rwber.

Eifion Daniels – 8

CÂN YSGAFN (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Cytundeb

Tir Iarll

Daeth cais gan yr Orsedd i gael refferendwm
i’r ’Steddfotwyr fynegi eu llais
ar gwestiwn nad oedd yn rhy hir na’n rhy gymhleth:
“A ddylid rhoi ffens rownd y maes?”
Fe holltwyd y wlad yn ddwy garfan ffyrnig
ac aeth y ‘Ffenswyr’ o amgylch y lle
ar fws a ddywedai y câi’r Babell Lên
£350 yn ychwanegol y flwyddyn pe pleidleisir ‘Ie.’
“Os gadwn pob Tom Dic ac Achmed i fewn
ni fydd unrhyw Gymry ar ôl.
Cadwn y mur rhag y bwystfil o dramor
a chymryd yr awenau yn ôl!”
Cyn hir, dyma sôn nad o’r môr deuai’r broblem
ac nad oedd ffens am wneud y tro:
“I gadw’r cerddantwyr a’r clocswyr hyd braich –
codwn wal o amgylch y fro!”
Ac wedi mis o ymgyrchu, tair dadl deledu
a’r wlad wedi colli ei phen,
cytunwyd o’r diwedd mewn festri reit waraidd
i ganslo’r Eisteddfod. Amén.

Gwynfor Dafydd – 9

Beca

Fe ganaf fawl i wleidyddion UKIP
Ac ar eu gorchestion fe daflaf gip.
Gwaredwch ein tir o'r mewnfudwyr diain
Dim ond godro'r wlad yw bwriad rhain.
A'r byrddau iechyd, rhaid ystyried hyn -
Ai meddyg yw meddyg os nad yw'n wyn?
Ond dwedwch y gwir pa esgus o foi
Wnaeth ddod â'r holl lanast ac wedyn ffoi?
Chwaraeodd ar ofnau cyn gado'r llun
Ni fedrodd gytuno â'i blaid ei hun.
Beth ddaeth o ruddin 'annibyniaeth barn'
Fe gwynpodd y ddelfryd honno'n sarn.
Ond cawn annibynniaeth, hip hip hwrê!
Gyda'r Sais drachefn yn hawlio ei le.
A dyma fe draw yn Ewrob bell
A'i wlad fel dihiryn o flaen ei well
Yn ceisio cytuno ar beth i'w wneud,
Heb syniad o gwbwl beth i'w ddweud.
'No man is an island' medd bardd o Sais
Trueni na wrandawsant ar ei lais.

Wyn Owens – 8.5

LLINELL AR Y PRYD - Deuwch i Gapel Dewi

Tir Iarll

Deuwch i Gapel Dewi
Draw yn haid i’n ffestri ni!

0.5

Beca

Haul a nawdd yw’n melin ni
Deuwch i Gapel Dewi

TELYNEG (heb fod dros 18 llinell): Esbonio

Tir Iarll

A phwy yw’r ff诺l hwn sy’n ei ddwbl a phlet
yn cario’i wybod fel cragen crwban,
a rhoi yn sioe dystygrifau ar seld -
heb wybod nad gwybod ydyw gweld?
Diosg faich dy raddau papur!
Tafla dy bensil, a dyro dy law am y baladr dlos
a ddaw o ddwrn y wawr i ddarnio’r nos,
y llafn o haul all fynnu o hyd
daenu’i olau rhwng bylchau’r byd;
hawlia di chwedl ei heiliad chwim
a ddwed nad yw gwybod yn ddim.
Nid beth yw’r lliw hwn? Neu beth yw’r llall?
Ond pam hwn? Dyna yw’r cwestiwn call.
Profa eiliad yr esboniad byw,
gwêl hi yn galw, galw yn dy glyw;
yna dal hi, yr eiliad, am eiliad yn dy law lân,
a bwr’ hi’n bell ar ei hesgyll drwy’r gwyll yn gân.
糯r doeth, deallaist y byd am un funud fân.

Mererid Hopwood – 9.5

Beca

Fe’i rhegais,
a’i galw’n bob enw dan haul
am iddi groesi llawr y gegin
a’i faeddu, cyn ffoi
i’w llofft a’r dagrau’n llif.
Trwy gil y drws fe’i gwelwn
yn gwasgu dol yn dynn i’w mynwes;
ac mewn drych,
y llif yn troi’n don
ar ôl ton
o wynebau truenus, -
ar ffo
am nad oedd dewis ganddynt.
Eu clytiau carpiog yn difwyno traeth.
A chywilyddiais.

Rachel James – 9.5

ENGLYN: Bwli

Tir Iarll
(sgwrs rhwng Donald Trump a Robert S Mueller III)

“Â’r doleri doluriaf, hyn i mi
Yw fy mh诺er eithaf!”
“Eto’n y cwrt, yno, caf,
drwy’r dyrnau, d’ofnau dyfnaf.”

Aneurin Karadog – 9.5

Beca

Un cyfrwys, hoff o'i bwysau - ar yr iard
Cwyd fraw mewn calonnau.
Onid tal ymysg plant iau
Yw hen deyrn llwfr y dyrnau?

Wyn Owens – 9.5

Tir Iarll – 72.5

Beca - 70