Main content

Cerddi Rownd 1

Trydargerdd: Aralleiriad

Y Glêr

Torri grant? Tori a’i gred.
Ideoleg? Na, dyled.

Eurig Salisbury - 9

Y Fforddolion

Hen sain atsain cytseiniaid – ac odli
ac edliw llafariaid
sydd yng nghôl rheol y rhaid,
o’i chanu daw och enaid.

8.5  

Cwpled caeth yn cynnwys yr ymadrodd ‘go iawn’

Y Glêr

‘Mi a’i, wir, at dîm arall!’
Go iawn? Go iawn?! Ti’m yn gall.

Eurig Salisbury – 8

Y Fforddolion

Dadleuon wna glwyfo’n glau,
ond go iawn ydi gynnau.

8.5

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Ni wn a oes angen cael trwydded’

Y Glêr

Ni wn a oes angen cael trwydded,
Ond ar ôl cael hamdden i ’styried,
Wedi gorffen y gwaith
Dwi’n sicr o’r ffaith
Fod angen rhaff gref a het galed.

Hywel Griffiths - 8

Y Fforddolion

Mae byw, ar ôl sbidio, yn galed,
roedd herio y ban yn anaeddfed,
ond sglefrfyrddio a wnaf
rhwng r诺an a’r haf –
ni wn a oes angen cael trwydded.

CYWYDD: Cyrion

Y Glêr

A daw'r

and now for the news
where you are

yna'r

your news

closed locals
used lawcourts
crime increase
police reports

a rhyw bwt fan draw o'r bae
eto heno.

Bydd tanau
mewn biniau'n mynnu beunydd
ein sylw, a'r ulw rhydd
a grynhown, a gogrwn o
o'i gwr ac yna'i gario
gyda ni mewn bag di-nod
llawn o weddill hen waddod.

Eurig Salisbury – 9.5

Y Fforddolion

Yn araf daw’r actores
heno’n wên drwy’r dorf yn nes,
i gerdded y carped cul
â’i drama hyd yr ymyl.

Ond tu ôl mae’r sgriptio hyll
a’r taeog oriau tywyll,
yn ufudd i gynefin
hen sgweier hael sêr y sgrîn.

Sarhad yw’r goleuadau,
mur i hon yw’r camerâu,
a’i cholur celu’r celwydd
yn byw ei dwyll wna bob dydd.

Pennill ymson wrth dil hunan-wasanaeth mewn archfarchnad

Y Glêr

Dwi’m angen mwy o chewing gum
Na mints na fferins chwaith,
Ond nôl a nôl y do’i am sgwrs
Fach fer yn fy newis iaith.

Eurig Salisbury – 8.5

Y Fforddolion

Tybed oes rhywun yn gwylio
a minnau’n cario’r can
a’i roi’n ddiogel yn fy mag
heb glywed blîp y sgan?

8.5

Cân ysgafn: Llenwi’r Bylchau

Y Glêr

Fel y Beatles heb George Harrison, tri thonic heb y jin,
mae Pencampwyr Mawr y Talwrn heno un yn brin.

Bu beirdd ar hyd yr oesau yn teithio’r gylchdaith fawr,
yn clera tai yng Ngwynedd, ac yna’n dod nôl lawr …

ond pan fo clera’n ormod, a th欧 ym mhen y daith
fel pâr o slipars cynnes ar ôl yr oerni maith,

mae’n iawn rhoi’r map i gadw, a chanu’n iach i’r lôn
sy’n troelli drwy’r tai nodded o Fynwy lan i Fôn.

Roedd Iwan wedi blino ar deithio o le i le,
rhoddodd heibio’r cloglyn clera, a setlo lawr yn Dre,

a fat o gwrw cartref a rhes o single malts
sydd bellach iddo’n gwmni ger tân y Twthil Vaults.

Pwy ddaw i weithio cerddi, rhai doniol, gwych, bisâr,
yn lle’r bardd hunangyflogedig o Sir Gâr?

Pwy raffith, fesul cwpled sy ddwywaith, deirgwaith, bedeirgwaith yn
rhy hir,
hanesion am gyfieithu dogfennau’r Cyngor Sir?

Neu bennill byr, neu limrig, neu englyn bachog, coeth?
Pwy rydd, pwy rydd i’n llinell ar y pryd fyfyrdod doeth?

Mae bwlch rhy fawr i’w lenwi, sedd wag wrth fwrdd y llys,
a diffyg hiwmor enfawr, oes, ar ôl colli Iwan Rhys.

Hywel Griffiths -9

Y Fforddolion

i Dei Elfryn, y drymiwr, yn 40 oed

Mae'n hen wlad yn guriadau,
yn enaid o hyd, yn un-dau,
a phob cân yn gân sy'n gaeth
i ddynion o ddewiniaeth
y croen tynn, eu ffyn a'u ffydd
yn high-hat, rat-a-tatydd.

Dei Elfryn yw un o'r rhain:
drwm haliwr budur, milain,
Dei'r Muppet a'i set o s诺n,
Dei y feis a'r defosiwn,
Dei a'i wad sy'n ramadeg,
a Dei'r ‘dwff’ sy'n bedwar deg.

Dei a'i rym ydi drymio
am mai rhaid ei enaid o
ydi bît; mae Dei y bas
yn lein-yp pob galanas.
Eto mae'i ran, mwy na'i hanner,
yn anwes y nos yn y snêr.

Dei y taw rhwng dau dat诺,
Dei ei hun ydi hwnnw
a garia ei gêr i gar gwag,
Dei'r gân, a chân ychwanag;
Dei yw'r drwm sy'n droed-drymach,
Dei y boen, pob waldio bach.

Waeth drwm yw drwm, Dei 诺yr hyn,
a rhaid ei gario wedyn
yn dawel o gornel gig
i gefn llwyfan fan unig;
ni thala'r hedar o hyd
ei daro fo drwy'i fywyd.

Linell ar y pryd: Arafu wnaf ar fy nhaith / Ar fy nhaith arafu wnaf

Y Glêr

Ar fy nhaith arafu wnaf
Lawr i’r Nile yr anelaf

Y Fforddolion

Iwan ddywedodd ganwaith
Arafu wnaf ar fy nhaith

0.5

Telyneg: Criw

Y Glêr

I Iwan Huws

A'i gwynt yn nwrn y llethr,
A'r tywydd yn twyllo troi
Ei niwl i'r ceunant cul,
A haul y Sul yn ffoi;

Fel hynny'n si诺r y collodd
Yr Wyddfa un o'i chriw,
Heb fedru gweld Llyn Glaslyn
Yn sydyn colli'i liw.

Osian Rhys Jones – 9.5

Y Fforddolion

Dod o hyd i fedd y bardd Angharad James, 1677-1749, dan garped coch, carpiog, yn Eglwys Sant Gwyddelan, Dolwyddelan, ar ôl chwilio hir…

Mae ôl gwadnau gweddïau'n y gwynt
rhwng Cwm Penamnen a'r garreg wen, war
lle gorwedd Angharad,
lle gorwedd holl gariad
a geiriau ei gwaith;

Mae pyllau pob deigryn yn gwlychu'n gwlad
rhwng allor Gwyddelan a thyllau ein hanes
lle gorwedd Angharad,
lle gorwedd holl gariad
mudan a maith;

Oherwydd fod arwres
y gân a'r cof yn gynnes,
ynghudd, ynghlo, ynghau,
dan garreg dlawd ein geiriau.

Enaid ein mam dan y mat,
lle gorwedd Angharad,
lle gorwedd holl gariad
diwedd y daith.

9.5

Englyn: Plastig

Y Glêr

Gwelwn, os cloddiwn i’r clai – dan foryd
Ein hyfory difai,
Y boddwyd, man lle byddai,
Heulwen traeth dan ôl ein trai.

Hywel Griffiths – 9.5

Y Fforddolion

Aberporth a phentrefi eraill
Byddin gref yw’r pentrefi – yn hel wast
hen blastig sy’n cronni,
arwyr yw’r lleng ochrau’r lli,
bataliwn y boteli.

Y Glêr - 71
Y Fforddolion – 70.5