Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth

Archifau Mehefin 2010

Cnoi Cil

Vaughan Roderick | 19:24, Dydd Mercher, 30 Mehefin 2010

Sylwadau (9)

Senedd.JPGRwy'n gallu bod yn berson trachwantus braidd. Da yw pôl ond gwell yw dau!

Mae'r ffaith bod ITV wedi comisiynu arolwg misol gan YouGov o hyn tan etholiad y cynulliad yn newyddion rhagorol. Rydym wedi mynd o fod yn ddall i fod yn llygeidiog! Y broblem yw wrth gwrs bod dibynnu'n llwyr ar un cwmni yn golygu nad oes modd synhwyro na chanfod unrhyw wall neu ragfarn anfwriadol yn y fethodoleg. Ar ôl hynny o rybudd bant a ni a thipyn bach o ddadansoddi!

Yr hyn sy'n ddiddorol yn yr arolwg yw'r awgrym bod yr hyn y byddai dyn yn disgwyl ei weld rhwng nawr a Mai 2011 sef adferiad yn y gefnogaeth i Lafur wedi digwydd llawer yn gynt na'r disgwyl.

Mae'r canran sy'n bwriadu pleidleisio i Lafur yn etholiad y cynulliad wedi cynyddu o 32% i 42% ers yr etholiad cyffredinol. Fe fyddai hynny'n ddigon i Lafur sicrhau mwyafrif flwyddyn nesaf. Mae'r gefnogaeth i Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr ond wedi gostwng o ychydig bwyntiau. Mae'r rhan fwyaf o'r cynnydd ar draul y Democratiaid Rhyddfrydol sydd, mae'n ymddangos yn ceisio gweithio talcen caled iawn ar hyn o bryd.

Mae'r rheswm am y newid yn weddol amlwg. Mae 43% yn credu bod toriadau San Steffan yn mynd yn rhy bell o gymharu â 36% sy'n cefnogi'r toriadau ac 8% fyddai'n dymuno gweld mesurau llymach.

O dan y fath amgylchiad dyw hi ddim yn syndod i weld cefnogwyr traddodiadol Llafur yn dychwelyd at y blaid y maen nhw'n credu bydd yn gwneud ei gorau i'w hamddiffyn.

Ond mae'n ymddangos bod y bobol hynny yn disgwyl cael eu hamddiffyn gan rywbeth fwy na'u plaid sef y Cynulliad. Mae'r arolwg yn awgrymu y bydd Cymru'n pleidleisio o blaid cynyddu pwerau'r cynulliad o fwyafrif sylweddol yn y refferendwm. Mae mwyafrif yr ochr "Ie" dros yr ochr "Na" bellach yn 27% o gymharu ag 16% adeg yr etholiad cyffredinol.

Os ydy hynny'n gywir mae'n ddatblygiad hynod ddiddorol yn ein gwleidyddiaeth gan awgrymu bod trwch y bleidlais Lafur bellach yn uniaethu a datganoli. Dyw hynny erioed wedi digwydd o'r blaen hyd yn oed yn nyddiau Keir Hardie!

28-30/06 2010 Sampl 1001

Ffeit!

Vaughan Roderick | 14:47, Dydd Mercher, 30 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

33470.jpgReit, fi nol! Rwy'n ymddiheuro am esgeuluso pethau braidd dros y dyddiau diwethaf.

Dyma damed flasus o newyddion i chi.

Mae David Melding wedi penderfynu sefyll fel ymgeisydd etholaeth ym Mro Morgannwg yn 2011. I fod yn fanwl gywir mae David am geisio am enwebiad y Ceidwadwyr yn y Fro ond gyda Andrew RT Davies yn bwriadu aros ar y rhestr ac arweinydd y Cyngor, Gordon Kemp am ganolbwyntio ar y gwaith hwnnw mae'n anodd credu na fydd David yn cael ei ddewis. Heb os fe fydd Melding v. Hutt yn un i wylio flwyddyn nesaf.

Gallai penderfyniad David fod yn newyddion da iawn i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Os oedd David yn llwyddo i ennill yn y Fro fe fyddai'r fathemateg etholiadol ar restr Canol De Cymru yn fwy ffafriol i'r blaid honno.

Os ydy David yn debyg o gael rhwydd hynt wrth geisio am enwebiad cynulliad meddyliwch am eiliad am y sefyllfa sy'n wynebu rhai o'n haelodau seneddol. Gyda'r Glymblaid yn San Steffan yn benderfynol o fwrw ymlaen a'i chynlluniau i leihau'r nifer o aelodau seneddol fe fydd ambell i aelod yn gorfod mynd benben a'i gymydog os am aros yn y senedd.

Mae'n debyg y bydd sefyllfaoedd felly yn codi ym mhob plaid ond gan mae post ynghylch y Ceidwadwyr yw hwn dyma i chi enghraifft o'r blaid honno.

Mae sawl un wedi ceisio dyfalu sut olwg fydd ar fap etholiadol Cymru ar ôl y newid ond rwy'n amau bod "Penddu" ar flog "" a yn weddol agos ati. Beth bynnag sy'n digwydd mae'n anorfod bron mai dim ond un sedd Dorïaidd fydd 'na yn y de orllewin lle mae 'na ddwy ar hyn o bryd. Mae'n debyg felly y bydd Stephen Crabb a Simon Hart yn gorfod cwffio a'i gilydd i gael yr enwebiad.

Dyddiau Prysur

Vaughan Roderick | 16:53, Dydd Mawrth, 29 Mehefin 2010

Sylwadau (1)

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ennill ei brwydr ynghylch yr LCO Tai.

Cafwyd cyhoeddiad hynod o bwysig ynghylch dyfodol ein prifysgolion a'r Coleg Ffederal ac un arall ynghylch y Celfyddydau.

A lle ydw i? Ar gwrs iechyd a diogelwch. Efallai gwna i sgwennu rhywbeth rhyw ben. Fe fydd y gwasanaeth arferol yn dychwelyd yfory!

Da yw saith

Vaughan Roderick | 12:32, Dydd Iau, 24 Mehefin 2010

Sylwadau (3)

magnificent-seven_1220477938.jpg
"Saith i wella fy mhen" medd yr y gân ond mae saith yn achosi cur pen i mi ac i eraill!

I fod yn fanwl saith gair sy'n achosi'r boen. Dyna yw'r gwahaniaeth, mae'n debyg rhwng y fersiwn o'r cwestiwn refferendwm y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gofyn i'r Comisiwn Etholiadol ei ystyried a'r fersiwn y mae Swyddfa Cymru wedi ei baratoi.

Mae Betsan wedi blogio'n fwy manwl ynghylch y stori a theg yw dweud bod sawl un yn y Bae yn amau bod pobol pumed llawr TÅ· Hywel yn datblygu obsesiwn ynghylch y broses ar draul brwydro ennill y bleidlais. Wedi'r cyfan fe ddylai'r Llywodraeth wybod yn iawn nad yw'r Comisiwn Etholiadol yn cael ystyried unrhyw fersiwn o'r cwestiwn ar wahan i un Swyddfa Cymru. Os ydy'r Llywodraeth yn gwybod hynny stynt yw ei fersiwn hi. Os nad yw'r Llywodraeth yn gwybod mae'n rhaid gofyn pam.

Mae 'na rhyw fath o batrwm yn datblygu yn fan hyn yn nhyb rhai. Yn gyntaf cafwyd yr holl ffwdan ynghylch dyddiad y bleidlais- ffwdan oedd fel gwylio dau ddyn moel yn dadlau dros grib. Yna cafwyd datganiad yn ymateb i gyllideb George Osborne oedd yn debycach, yn ôl y beirniaid, i ddatganiad byrfyfyr gan blaid nac un ystyrlon gan lywodraeth.

Y peryg i'r Llywodraeth yw ei bod yn ymddangos fel pe bai ganddi fwy o ddiddordeb mewn sgorio pwyntiau gwleidyddol nac mewn llywodraethu.

Gavin, Stacey a Julia

Vaughan Roderick | 10:12, Dydd Iau, 24 Mehefin 2010

Sylwadau (2)

Gallwch ddisgwyl dros y dyddiau nesaf i ambell i bapur wneud mor a mynydd o'r ffaith bod Prif Weinidog newydd Awstralia, Julia Gillard, wedi ei geni yn y Barri. Byddai neb yn gwybod hynny o wrando ar ei hacen. Wedi'r cyfan mudodd teulu Ms Gillard i Awstralia pan oedd hi'n bedair oed.

Nid hi yw'r Prif Weinidog cyntaf o Gymru yn hanes Awstralia. , Cymro Cymraeg a'i wreiddiau ym Maldwyn a Sir Fôn oedd hwnnw.

Roedd e'n ddwy ar hugain oed wrth fudo a theg yw credu mai dianc rhag moeseg capeli Cymru oedd un o'i gymhellion. O fewn byr o dro ar ôl cyrraedd Sydney roedd yn "byw mewn pechod" gan greu sgandal ymhlith ei deulu Cymreig. Does dim rhyfedd bod fe a Lloyd George wedi dod ymlaen mor dda yn Uwchgynhadledd Versailles!

Mae 'na fwy am Julia Gillard ar flog Cymraeg gorau Awstralia (yr unig un, o bosib) yn Dyma flas o farn Andy Bell ynghylch yr arweinydd newydd.

julia_gillard_.jpg Mae Julia Gillard yn berson go iawn. Mae ei hacen trwynaidd Awstraliaidd a la "Kath & Kim" yn dweud cyfrolau amdani. Fe ddaw o gefndir dosbarth gweithiol (y "battlers") ac mae hi wedi defnyddio pob cyfle addysgiadol a gwleidyddol i symud ymlaen. Mae hynny'n apelio'n fawr at drwch yr etholwyr.

Felly mae gan y genedl (a'r Blaid Lafur) arweinydd newydd y mae'r mwyafrif llethol ohnom yn hoff iawn ohoni.

Cofiwch, nid pawb yn Awstralia sy mor wybodus am Gymru ag Andy.

Dyma i chi ddyfyniad o erthygl yn y "Sydney Morning Herald" o dan y pennawd "Barry goes batty over local girl made good";

But there are more monumental possibilities at Barry library. A bronze of Gwynfor Jones, the Welsh separatist and Barry local who, in 1966, won the first seat for the Welsh nationalist party Plaid Cymru, was unveiled there last year. Now Ms Jones is considering Gillard as a statue. "I would have no objections,'' she said.

O diar.

Y cwestiwn

Vaughan Roderick | 17:23, Dydd Mercher, 23 Mehefin 2010

Sylwadau (2)

p994_cowl1.jpgMae'r Ysgrifennydd Gwladol newydd gyhoeddi ei hawgrym hi ar gyfer y rhagymadrodd a'r cwestiwn ar gyfer refferendwm ar gynyddu pwerau'r cynulliad. Dyma nhw;

Rhagymadrodd

Ar hyn o bryd, mae gan y Cynulliad Cenedlaethol (y Cynulliad) y pwerau i ddeddfu ar gyfer Cymru ar rai pynciau mewn meysydd sydd wedi'u datganoli. Mae'r meysydd sydd wedi'u datganoli yn cynnwys iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, llywodraeth leol a'r amgylchedd. Caiff y Cynulliad ennill mwy o bwerau i ddeddfu mewn meysydd sydd wedi'u datganoli trwy gael cytundeb gan Senedd y Deyrnas Unedig, a hynny fesul pwnc.

Os bydd y rhan fwyaf o bobl yn pleidleisio 'Ydw' yn y refferendwm hwn, bydd y Cynulliad yn ennill pwerau i ddeddfu ar bob pwnc yn y meysydd sydd wedi'u datganoli. Os bydd y rhan fwyaf yn pleidleisio 'Nac Ydw', bydd y trefniadau presennol - sef trosglwyddo'r hawl i ddeddfu bob yn damaid, gyda chytundeb Senedd y Deyrnas Unedig bob tro - yn parhau.

Y Cwestiwn

Ydych chi'n cytuno y dylai'r Cynulliad gael pwerau yn awr i ddeddfu ar yr holl bynciau yn y meysydd sydd wedi'u datganoli heb fod angen cytundeb Senedd y Deyrnas Unedig yn gyntaf?

RHOWCH X MEWN UN BLWCH YN UNIG

Ydw, rydw i'n cytuno

Nac ydw, dydw i ddim yn cytuno

Cwestiwn Arall

Ydych chi'n dioddef o ben tost ar ôl darllen hwnna?

Peter Walker

Vaughan Roderick | 12:56, Dydd Mercher, 23 Mehefin 2010

Sylwadau (1)

_48150510_peterwalker.jpgMae'n un o gonglfeini ffydd y chwith yng Nghymru bod Margaret Thatcher yn gwbwl anwybodus a di-hid ynghylch Cymru a'i hanghenion. Mae 'na ambell i aelod Cynulliad sy'n methu gwrthsefyll y demtasiwn i godi bwganod Thatcheriaeth ar bob cyfle posib gan gyplysu ei henw yn amlach na pheidio ag un John Redwood.

Mae'n hawdd anghofio felly mai penodiad John Major nid Margaret Thatcher oedd John Redwood. Roedd y ddau aelod o Loegr a benodwyd gan Mrs Thatcher i fod yn benaethiaid ar y Swyddfa Gymreig yn wahanol i aelod Wokingham.

Roedd Peter Walker a David Hunt ill dau yn Geidwadwyr cymhedrol yn perthyn i draddodiad "un genedl" Macmillan a Heath. Cafodd y ddau rwydd hynt gan y Prif Weinidog i ddilyn polisïau gwahanol iawn i'r rhai yr oedd hi ei hun yn pregethu.

Cyhoeddwyd y bore yma bod Peter Walker (Arglwydd Walker o Gaerwrangon bellach) wedi marw yn 78 oed. Dwi'n meddwl mai fi yw'r unig un o staff gwleidyddol y Ö÷²¥´óÐã oedd o gwmpas yn ei gyfnod e. Rwy'n teimlo'r angen i sgwennu pwt amdano felly.

Roedd penodiad Peter Walker yn Ysgrifennydd Cymru yn 1987 yn gythraul o sioc i bawb. Doedd y syniad y gallai aelod o Loegr gael ei benodi'n Ysgrifennydd Cymru erioed wedi croesi meddyliau ni'r newyddiadurwyr. Gyda Nicholas Edwards yn rhoi'r ffidl yn y to roedd pawb yn cymryd yn ganiataol mae Wyn Roberts fyddai'n ei olynu.

Roedd y ffaith bod Peter Walker wedi derbyn y swydd hefyd yn syndod. Wedi'r cyfan, roedd Peter wedi bod yn Ysgrifennydd yr Amgylchedd, yn Ysgrifennydd Diwydiant a Masnach ac yn Ysgrifennydd Ynni. Oni fyddai'n gweld cynnig o "gilfach gefn" fel Cymru yn sarhaus braidd?

Ond doedd Peter ddim yn ddyn oedd yn bryderus am statws ac o fewn byr o dro roedd hi'n amlwg pam ei fod derbyn y cynnig. Ef oedd yr Ysgrifennydd Ynni yn ystod streic y glowyr. Roedd yn gadarn o'r farn bod honno'n frwydr yr oedd yn rhaid i'r Llywodraeth a'r Bwrdd Glo ei hennill ond roedd e hefyd yn ymwybodol iawn o'r llanast economaidd a chymdeithasol fyddai'n dilyn yn y meysydd glo.

Dod i Gymru i geisio lleddfu'r effeithiau hynny wnaeth Peter. Conglfaen ei gyfnod yn y Swyddfa Gymreig oedd "Cynllun y Cymoedd". Crafwyd am geiniogau ym mhobman i dalu am grwsâd i ddod a gwaith i faes glo'r de. Codwyd ffatrïoedd parod a chynigiwyd grantiau hael i ddenu cyflogwyr i'r ardal. Defnyddiodd Peter ei gysylltiadau personol ym myd bancio hefyd i ddarbwyllo busnesau i fuddsoddi yn y meysydd glo.

Mae'n anodd felly anghytuno a'r hyn y dywedodd ei deulu mewn datganiad y bore 'ma;

"As a politician, he always believed in the importance of helping those most in need, combining efficiency with compassion. He was a true one-nation Conservative and a patriot. His great personal compassion was always reflected in his private life."

Y tristwch yw na phrofodd Cynllun y Cymoedd yn llwyddiant yn y tymor hir. Fe'i lansiwyd mewn stad o swyddfeydd parod ar safle hen lofa'r Cambrian yn y Rhondda, pwll lle'r oedd nifer o fy nheulu yn gweithio fel mae'n digwydd.

Yn ei araith fe broffwydodd Peter y byddai cwmnïau newydd beiddgar yn ymgartrefu yng Nghlydach Vale o fewn byr o dro. Ni ddigwyddodd hynny.

Mae'r swyddfeydd dal yno ond gweithwyr sector cyhoeddus sef rhai Cyngor Rhondda Taf sy'n eu defnyddio nid cwmnïau preifat.

O fewn yr wythnosau nesaf mae'n debyg y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn troi ei chefn yn derfynol ar y "diwylliant grantiau" oedd yn ganolog i athroniaeth Peter Walker
ond o leiaf fe wnaeth ei orau a gwneud hynny'n ddidwyll a bonheddig. O'r holl Ysgrifenyddion Gwladol roedd Peter Walker yn un o'r goreuon.

Lawr y lein

Vaughan Roderick | 15:09, Dydd Mawrth, 22 Mehefin 2010

Sylwadau (3)

_46447295_carwynjones203x300.jpgRoedd llygaid bron pawb ar San Steffan heddiw. Hawdd anghofio felly bod y cynulliad yn eistedd heddiw gyda'r sesiwn gwestiynau wythnosol i'r Prif Weinidog.

Fel mae'n digwydd roedd y sesiwn yn un o'r rhai mwyaf bywiog ers i Carwyn gymryd yr awenau. Os ydych chi eisiau rhagflas o'r ymgyrch Llafur yn etholiad 2011 does ond angen gwrando ar sylwadau Carwyn ynghylch y gyllideb wrth ateb y cwestiwn cyntaf. Fe gewch wneud hynny draw ar "".

Mae ateb Carwyn yn cynnwys un honiad diddorol sef bod ein bod yn gwybod yn sgil y gyllideb bod y Llywodraeth wedi cefni ar y cynlluniau i drydaneiddio'r rheilffordd o Lundain i Abertawe. Fel mae'n digwydd doedd datganiad George Osborne ddim yn cynnwys datganiad i'r perwyl hwnnw. Pan ges i sgwrs a Carwyn roedd e'n mynnu bod y ffaith nad oedd y cynllun wedi ei gynnwys ar restr o gynlluniau isadeiledd yn gyfystyr a'i ddiflaniad.

Mae'n bosib bod Carwyn yn rhoi'r ceffyl o flaen y cart yn fan hyn. Yn ôl y Ceidwadwyr mae'r cynllun o hyd o dan ystyriaeth. Yn wir, llai nac wythnos yn ôl fe ddywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Theresa Villiers hyn mewn ateb i gwestiwn gan Kevin Brennan.

I understand the importance of this issue, including in Wales, but the previous Government, of which he was a member, had 13 years to do this and failed... We support electrification-it was in our manifesto and the coalition agreement-and we will take forward those projects that are affordable in the light of the deficit left to us by the Government of which the hon. Gentleman was a member.

Efallai bod Carwyn yn iawn, ond oes 'na beryg bod y Prif Weinidog yn dewis ildio brwydr yn hytrach na'i hymladd?

Diweddariad; Mae na lein newydd gan Lywodraeth y Cynulliad. Dywi ddim yn sicr ei bod hi'n lein drydabnol ond dyma hi!

"Mae'r Llywodraeth yn siomedig nad yw'r cynllun yn y Gyllideb. Fe fydd y Dirprwy Brif Weinidog yn cwrdd â Gweinidog Trafnidiaeth y Deyrnas Unedig yn y dyfodol agos i gael eglurder ar y mater."

Cyfri Ceiniogau

Vaughan Roderick | 14:11, Dydd Mawrth, 22 Mehefin 2010

Sylwadau (1)

_40607983_5c203.jpg
Dyna i chi'r gyllideb, felly. Y gyllideb "anochel" yw hi yn ôl clymblaid newydd San Steffan. Cyllideb "ideolegol" yw hi i Lafur ar y llaw arall. Mae 'na elfen o wirionedd yn y ddau ddisgrifiad, dybiwn i.

Gall neb wadu maint y ddyled na'r angen i ddileu'r diffyg ariannol. Mae'r diffyg yn un sylweddol ac yn rhannol strwythurol gan ddyddio yn ôl i 2001. Heb fesurau i ddelio a'r diffyg mae'r ddyled yn sicr o gynyddu ond dyw honno ddim eto wedi cyrraedd lefelau argyfyngus. Mae hi'n is na chyfartaledd y ddyled yn ystod yr ugeinfed ganrif ond mae'r peryglon yn amlwg.

Ar y llaw arall mae honiad George Osborne bod y gyfran o gyfoeth y wlad sydd yn nwylo'r llywodraeth yn un ideolegol. Gall pawb gytuno ar yn angen i gydbwyso incwm a gwariant y wladwriaeth ond penderfyniad gwleidyddol yw'r un ynghylch ar ba lefel y dylid gwneud hynny.

Amcangyfrifir mai 45.1% o'n cyfoeth sydd yn nwylo'r wladwriaeth eleni. Yn hanesyddol mae hynny'n uwch na'r cyfartaledd ond dyna sy'n digwydd mewn dirwasgiad. Roedd y canran yn uwch yn 1980 a 1981, er enghraifft. Dydw i ddim yn cofio pwy oedd y Prif Weinidog ar y pryd- Margaret rhywbeth, dwi'n meddwl!

Ta beth am hynny roedd y gyllideb yn wleidyddol yn un gelfydd. Os am gynyddu treth ar werth, er enghraifft, nawr yw'r amser i wneud hynny gyda'r Llywodraeth o hyd yn gallu llwytho'r bai ar ei rhagflaenwyr.

Roedd rhannau o'r system fudd-daliadau yn dargedau hawdd. Faint o'r arian yna y mae merched beichiog yn derbyn sy'n cael ei wario ar ffrwythau, mewn gwirionedd? Mae gosod uchafswm ar fudd-dal dai hefyd yn debyg o apelio at y papurau hynny sy'n llenwi eu tudalennau a straeon ynghylch pobol sy'n cymryd mantais o'r system.

O wneud swm bach sydyn fe fydd y mesurau a gyhoeddwyd heddiw yn golygu toriadau o ryw hanner biliwn o bunnau yng nghyllideb Llywodraeth y Cynulliad. Mae toriadau eraill hefyd yn cael effaith ar Gymru wrth gwrs. £27 biliwn yw cyfanswm gwariant cyhoeddus yng Nghymru a dim ond £16 biliwn o'r arian sy'n cael eu sianelu trwy'r bae.

Doedd y newyddion ddim yn ddrwg i gyd o safbwynt Llywodraeth Cymru. Roedd 'na gynsail allai fod yn bwysig iawn i Gymru yn y gyllideb hon. Fel mae'n digwydd roeddwn i'r gwylio'r gyllideb yng nghwmni Rhodri Morgan. Cafodd y cyn prif weinidog ei gyffroi gan y cyhoeddiad bod Llundain a De-ddwyrain Lloegr yn cael eu heithrio o'r newidiadau yn y system yswiriant cenedlaethol sydd wedi eu cynllunio i helpu busnesau bach newydd.

Yn ôl Rhodri, ac efe ddylai wybod, hwn yw'r tro cyntaf erioed i dreth Brydeinig gael ei amrywio rhwng gwahanol ranbarthau economaidd. Gallai hynny fod yn hynod bwysig yn y dyfodol wrth drafod pynciau megis amrywio'r dreth gorfforaethol.

Problemau Pobl Plaid

Vaughan Roderick | 14:00, Dydd Iau, 17 Mehefin 2010

Sylwadau (8)

question_mark_203_203x152.gifFe wnes i sgwennu yn gynharach yn yr wythnos ynghylch penderfyniad Peter Black i beidio ymgeisio am sedd etholaeth yn y cynulliad.

Fel mae'n digwydd yr wythnos hon mae nifer o aelodau Plaid Cymru yn wynebu penderfyniadau tebyg wrth i'r enwebiadau gau ar gyfer ymgeiswyr etholaethol. Fe fydd y dewisiadau rhanbarthol yn digwydd yn ddiweddarach.

Yr aelod sy'n wynebu'r dilema fwyaf, dybiwn i, yw Nerys Evans. Fe fyddai sefyll eto ar y rhestr ranbarthol yn golygu bod ei ffawd yn dibynnu ar hap a damwain y fathemateg etholiadol. Ar y llaw arall fe fyddai ceisio am y sedd etholaeth amlwg sef Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro mwy na thebyg yn golygu cystadlu yn erbyn John Dixon. Fe ddaeth e o fewn trwch blewyn i ennill y sedd yn 2007 cyn dioddef canlyniad sâl yn etholiad eleni. Yng ngeiriau un pleidiwr amlwg mae'r ffaith na fyddai John Dixon yn dal dig pe bai'n colli'r enwebiad ond yn gwneud y penderfyniad yn anoddach.

Mae sefyllfa Bethan Jenkins ychydig yn haws, dybiwn i. Castell Nedd yw'r unig etholaeth addawol yn y rhanbarth ac mae'n anodd dychmygu Bethan yn curo Alun Llywelyn am yr enwebiad. Os ydy Alun am sefyll felly rwy'n tybio mai aros ar y rhestr gwnaeth Bethan er na fydd y safle gyntaf wedi clustnodi ar gyfer menyw y tro hwn.

Gellir cymryd y ffaith fod Janet Ryder wedi sefyll yn Ne Clwyd yn yr etholiad cyffredinol fel arwydd ei bod o leiaf yn ystyried newid. Fe fydd llawer yn dibynnu ar fwriadau Dafydd Wigley yn yr achos yma, am wn i. Os ydy Dafydd yn bwriadu sefyll fel ymgeisydd rhestr mae'n debyg mai fe, nid Janet, fyddai ar y brig. Mewn sefyllfa felly gallai De Clwyd fod yn well bet I Janet er yn gythraul o gambl.

Y tu hwnt i hynny, mae'n annhebyg y gwelwn ni lawer o newid. Mae'n debyg mai anelu am restr Dwyrain De Cymru y bydd Adam Price os nad oes 'na ryw agoriad annisgwyl yn yr etholaethau.

Mae 'na ddau enw arall i wylio allan amdanyn nhw yn y brwydrau etholaethol sef rhai Gareth Jones a Ron Davies. Absenoldeb fyddai'n ddiddorol yn yr achos cyntaf- presenoldeb yn yr ail!

Cerflun newydd arall...

Vaughan Roderick | 14:46, Dydd Mercher, 16 Mehefin 2010

Sylwadau (1)

_42553407_snow1.jpgUn o'r penodiadau gwleidyddol gorau yn y Bae yn ystod y blynyddoedd diwethaf oedd penderfyniad aelodau cynulliad Plaid Cymru yng Nghanol De Cymru i fanteisio ar brofiad Phillip Nifield ynghylch sut i sicrhau sylw mewn papurau lleol.

Am bron i ddeugain mlynedd Phil oedd gohebydd gwleidyddiaeth a llywodraeth leol y South Wales Echo. "Sniffer" oedd ei lysenw ymysg newyddiadurwyr oherwydd ei allu i ffindio straeon difyr fyddai'n denu darllenwyr. Os ydych chi eisiau'ch enw a'ch gwep mewn print fe yw'r dyn i wneud i hynny ddigwydd.

Sicrhau cyhoeddusrwydd yw'r unig esboniad y gallaf feddwl amdano i esbonio obsesiwn Chris Franks ynghylch cerfluniau. Dim ond ychydig wythnosau sy 'na ers i Chris sefyll ar ei draed yn y cynulliad i alw ar Carwyn Jones i gefnogi codi cerflun o Fred Keenor arwr Dinas Caerdydd yn 1927 yn y brifddinas. Heddiw galwodd ar ei gyd-bleidiwr Alun Ffred Jones i gefnogi codi cerflun o'r bocsiwr Freddie Welsh ym Mhontypridd.

Roedd y Gweinidog yn ddigon dilornus. "Another day...another statue..." meddai Alun Ffred wrth ymateb.

Fe gafodd galwad Chris ynghylch Fred Keenor gryn dipyn o sylw ac mae'n siŵr ei fod e'n gobeithio am rywbeth tebyg yn achos Freddie Welsh. Dyma ambell i awgrym arall am gymeriadau o Ganol De Cymru sydd heb eto eu coffau mewn marmor neu bres.

Onid yw hi'n warth nad oes 'na gofeb i William Lott yn Aberdâr? Ef oedd rheolwyr Aberdare Athletic yn 1921-22. Hwnnw oedd tymor mwyaf llwyddiannus y clwb gyda'r tîm yn nawfed yn nhrydedd adran (ddeheuol) Cynghrair Lloegr.

Yn sicr mae Wilf Cude yn haeddu cerflun yn y Barri, tref ei enedigaeth. Pwy all anghofio ei dymor nodedig fel gôl geidwad y Philadelphia Quakers yn yr NHL yn 1930-31? Mae'n wir bod y tîm wedi mynd allan o fusnes ar ddiwedd y tymor ond manylyn yw hwnna.

Rwy'n sicr bod 'na eraill yr un mor haeddiannol mewn campau megis rasio colomennod a phêl fas. Os ydy Chris yn llwyddo i'w hanrhydeddu nhw i gyd fe fydd e'n haeddu gwobr- neu gerflun hyd yn oed.

Problem Peter

Vaughan Roderick | 09:29, Dydd Mercher, 16 Mehefin 2010

Sylwadau (3)

_44571084_peterblack_226.jpgRoeddwn i wedi bwriadu blogio cyn hyn ynghylch problem sy'n wynebu ambell i aelod cynulliad. Problem i aelodau rhanbarthol yw hi ac mae'n deillio o'r cymal hwnnw yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 sy'n gwahardd enwau ymgeiswyr etholaethol rhag cael eu cynnwys ar restr ranbarthol.

Roedd rhai yn y pleidiau eraill yn gweld y cymal hwnnw fel darn bach o sbeit gwleidyddol gan Lafur neu fel tipyn o gig amrwd i ffyddloniaid y blaid honno o leiaf. Mewn gwirionedd mae'n rhaid i'r pleidiau eraill, yn fwyaf arbennig y Ceidwadwyr, ysgwyddo peth o'r cyfrifoldeb.

Y gwir amdani yw bod ambell i aelod rhanbarthol yn y ddau gynulliad cyntaf wedi cysgodi aelodau etholaethol gan leoli eu swyddfeydd a chanolbwyntio'u hymdrechion mewn etholaethau targed. Fe fyddai hi wedi bod yn bosib delio a'r sefyllfa trwy god ymddygiad. Dewisodd Llafur ddeddfwriaeth yn lle hynny.

Mae'r Ceidwadwyr yn bwriadu dileu'r cymal dadleuol ond dyw hynny ddim yn mynd i ddigwydd cyn etholiad 2011. Mae aelodau rhestr yn wynebu'r un broblem ac yn 2007 felly. Rhaid dewis rhwng ceisio am sedd etholaeth fel gwnaeth Helen Mary Jones a Jonathan Morgan y tro diwethaf neu sefyll eto ar y rhestr gyda'r peryg o wynebu'r un ffawd a Glyn Davies a Lisa Francis.

Un sydd wedi gwneud ei benderfyniad yn barod yw Peter Black. Mae Peter yn bwriadu sefyll ar y rhestr eto er bod gan y blaid gyfle eithaf da o gipio Gorllewin Abertawe. Gallai'r fuddugoliaeth honno olygu colli'r sedd restr.

Mae Peter yn esbonio'i resymeg ar ei . Ar yr olwg gyntaf mae ei benderfyniad yn ymddangos yn un egwyddorol sy'n rhoi buddiannau ei blaid yn gyntaf. Mae hynny ond yn wir wrth gwrs os ydych chi o'r farn y byddai Democratiaid Rhyddfrydol Gorllewin Abertawe yn dewis Peter fel ymgeisydd etholaeth. Nid pawb o fewn y blaid sy'n credu hynny.

Cau drws y stabl

Vaughan Roderick | 15:19, Dydd Mawrth, 15 Mehefin 2010

Sylwadau (2)

arholiadau.jpgOs ydych chi wedi hen alaru a thrafferthion ynghylch cynlluniau ad-drefnu ysgolion yng Nghaerdydd, Meirionnydd, Powys neu le bynnag mae gen i ychydig o newyddion da i chi. Mae'n debyg y bydd na lawer llai ohonyn nhw yn cael eu trafod ar lefel genedlaethol yn y dyfodol.

I fod yn deg roedd Leighton Andrews wedi mynegi ei anfodlonrwydd ynghylch y system bresennol cyn yr helyntion diweddaraf. Serch hynny, efallai ei bod hi'n deg i gredu bod y ffrwgwd yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi canolbwyntio meddyliau ar bumed llawr TÅ· Hywel.

Yn y Cynulliad y prynhawn yma cyhoeddodd Leighton gasgliadau ei adolygiad o'r gyfundrefn. Yn y tymor hir mae Leighton am weld cyfundrefn lle mae'r mwyafrif llethol o benderfyniadau yn cael eu cymryd ar lefel leol.

Mae'r system bresennol lle mae un gwrthwynebiad gan rywun nad yw'n gysylltiedig ag ysgol yn gorfodi adolygiad llawn o'r penderfyniad gan y llywodraeth yn hurt ac anghynaladwy yn ôl y gweinidog. Go brin y byddai unrhyw un yn anghytuno ac eithrio ambell i gwynwr proffesiynol.

Yn y tymor hir mae Leighton am weld system debyg i'r gyfundrefn gynllunio lle mae'r mwyafrif llethol o benderfyniadau yn cael eu cymryd yn lleol gyda'r llywodraeth a'r hawl i "alw i mewn" gynlluniau arbennig o ddadleuol. Pan ofynnais i ryw un uchel yn y Llywodraeth faint o gynlluniau fyddai'n debyg o gael eu hystyried gan y llywodraeth "dau neu dri'r flwyddyn" oedd yr ateb. Yn ddigon ddiddorol fe ddefnyddiodd y person hwnnw achos Ysgolion Gorllewin Caerdydd fel enghraifft o'r fath o achos lle byddai 'na ymyrraeth ganolog.

Fe fyddai angen deddfwriaeth i sefydlu cyfundrefn o'r fath ond mae gan y Cynulliad yr hawl i ddeddfu yn y maes. Does dim angen LCO na phŵer fframwaith nac unrhyw beth felly.

Yn y tymor byr fe fydd newidiadau eraill yn cael eu cyflwyno er mwyn ceisio cyflymu'r broses. Mae hynny'n gwneud synnwyr, wrth reswm. Go brin y byddai Leighton yn torri ei galon o weld llai o'r dadleuon gwenwynig yma'n glanio ar ei ddesg neu'n cael eu taflu mewn pas ysbyty i gyfeiriad y Prif Weinidog!

Treigl amser

Vaughan Roderick | 12:59, Dydd Mawrth, 15 Mehefin 2010

Sylwadau (1)

_45290203_cherylgillan226_bbc.jpgFedra i ddim dweud pa mor ddiflas rwy'n ffeindio straeon ynghylch dyddiad y refferendwm. Os fuon 'na ddadl fwy amherthnasol i'r etholwyr a lle bu gwleidyddion yn fwy plentynnaidd wrth daflu cyhuddiadau at ei gilydd dydw i ddim yn ei chofio.

O safbwynt newyddiadurwr gwleidyddol mae'r helynt wedi datgelu pethau difyr ynghylch cymeriadau rhai o'n gwleidyddion a'u perthynas a'i gilydd. Ar wahân i hynny beth ar y ddaear yw'r ots os ydy'r bleidlais yn cael ei chynnal yn yr Hydref neu'r Gwanwyn?

Yn ei datganiad heddiw mae Cheryl Gillan yn awgrymu'n gryf mai ar Fawrth 3ydd y bydd y bleidlais yn cael ei chynnal. Dyw e ddim yn ymddangos bod Llywodraeth y Cynulliad wedi cytuno a'r dyddiad hwnnw ond yn sicr dyna yw'r un mwyaf tebygol.

Fe fyddai hynny'n golygu pleidlais yn wythnos Gŵyl Ddewi a chyfle i ymgyrchu yn ystod gemau'r chwe gwlad- dwy ffactor yr oed ymgyrchwyr "Ie" 1979 yn gweld fel rhai allweddol o'u plaid!

Beth bynnag am hynny fe fydd yr oedi yn caniatáu rhagor o amser i gefnogwyr pwerau pellach drefnu eu hymgyrch. Mae'r methiant i wneud hynny hyd yma yn rhyfeddu dyn braidd. Mae'n ymddangos mai Llafur sydd wedi bod yn llusgo traed, sefyllfa ryfedd o gofio mai'r blaid honno oedd mor awyddus i'r bleidlais gael ei chynnal yn yr Hydref.

Fe fydd arweinwyr y pedair plaid yn y Cynulliad yn cwrdd â'i gilydd nos yfory. Efallai y daw rhywbeth allan o hynny. Dydw i ddim yn dal fy anadl!

Môn- Mam Fach

Vaughan Roderick | 10:51, Dydd Mawrth, 15 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

menai300245.jpgDwn i ddim p'un yw'r dasg anodda'- darllen a deall llyfrau Stephen Hawking neu weithio mas beth ar ddaear sy'n digwydd yn Neuadd y Sir, Llangefni!

Ta beth, wythnos yn ôl fe symudodd caleidosgop rhyfedd grwpiau a phleidiau Cyngor Môn unwaith yn rhagor ac fe ffurfiwyd clymblaid newydd i reoli'r ynys.

Clive McGregor sy'n arwain y Cyngor o hyd er ei fod yn gwneud hynny fel aelod o grŵp newydd "Llais i Fôn" yn hytrach na fel "Annibynnwr Gwreiddiol". Os am wybod pa mor wenwynig yw gwleidyddiaeth yr ynys does ond eisiau darllen y cymal hwn o'r;

"Bwriad y bartneriaeth newydd yw sicrhau bod ymddygiad annerbyniol yn cael ei wthio i'r cyrion trwy gydweithio gyda'r rheiny sydd eisiau gwella'r Cyngor a delio â'r her sy'n wynebu'r Awdurdod a chau allan y rhai sy'n parhau i gael eu gyrru gan gasineb personol a gelyniaethu'r gorffennol"

Mae Cyngor Môn wedi bod yn yfed yn y "last chance saloon" ers peth amser ond mae'n ymddangos ei bod yn agos iawn at gael eu taflu allan. Y bore 'ma cyhoeddodd Carl Sargeant y Gweinidog llywodraeth leol ei fod wedi rhybuddio'r Cyng. McGreggor mai hwn yw'r "cyfle olaf un" a bod yn "rhaid i hwn weithio".

Ychwanegodd y gweinidog bod trefniadau eisoes ar y gweill i sicrhau gwasanaethau ar yr ynys os ydy'r cyngor, i ddefnyddio gair y gweinidog, yn "colapsio". Beth yw'r trefniadau hynny? Dyw'r Gweinidog ddim yn dweud ond ydy cynghorwyr Môn, mewn gwirionedd, am ffeindio allan?

Un o ni...

Vaughan Roderick | 14:12, Dydd Iau, 10 Mehefin 2010

Sylwadau (2)


Fe fyddai dyn yn credu ar ôl profiadau Tamsin Dunwoody yn is-etholiad Crewe a Nantwich y byddai Llafur yn garcus wrth chwarae'r cerdyn dosbarth mewn etholiadau.

Chwi gofiwch efallai bod ymdrech Tamsin i bortreadu ei hun fel "just a single unemployed mother of five fighting hard for a job" wedi profi'n fethiant trychinebus.

Mae'n debyg bod etholwyr Crewe yn ymwybodol o'r ffaith bod Tamsin yn ferch i Gwyneth Dunwoody, eu cyn aelod seneddol, bod ei thad-cu yn arglwydd a bod hi ei hun ond yn ddi-waith ar ôl colli ei sedd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru!

Serch hynny mae'n ymddangos bod gwleidyddion Llafur yn ei chael hi'n anodd peidio pwysleisio eu cefndiroedd cyffredin a cheisio profi eu bod yn rhan o'r werin datws.

Dyna i chi Carwyn Jones mewn cyfweliad a'rheddiw. Mae'n dweud hyn;

"I'm the only Welsh party leader, and the only Prime or First Minister who's gone to a comprehensive school. My view is I'm somebody new, I'm from a different background, I'm a comprehensive boy and that's something I'm keen to pitch on."

Dewch ymlaen! Fel bargyfreithiwr o deulu o athrawon go brin y byddai unrhyw un yn amau mai aelod o'r dosbarth canol yw Carwyn.

Mae'n wir ei fod wedi cael ei addysg mewn ysgol gyfun, sef Brynteg ym Mhen-y-bont. Ond pa mor unigryw yw hynny?

Wedi'r cyfan cyn dyddiau Carwyn Ysgol Ramadeg y Bechgyn oedd Brynteg, ysgol digon tebyg i Ysgol Ramadeg Pontardawe, yr un lle'r oedd Ieuan Wyn Jones yn ddisgybl cyn symud ymlaen i Ysgol (gyfun) y Berwyn.

Mae'n wir bod y "" lle gafodd Nick Bourne ei addysg yn swnio'n gythreulig o grand ond beth yw hyn ar dudalen cartref gwefan yr ysgol?

"KEGS is one of England's leading state schools with a proud history dating back to its foundation in 1551"

O diar! Mae'n ymddangos bod Nick wedi derbyn ei addysg mewn ysgol wladwriaethol hefyd!

Yn wir o'r pedwar arweinydd plaid yn y cynulliad yr unig un wnaeth dderbyn addysg breifat yw Kirsty Williams. Fe aeth hi i Ysgol St. Michael's yn Llanelli. Mae'n ysgol dda ond dim cweit yn cymharu â Rodean ac Eton!

Ond beth sydd a wnelo cefndir addysgiadol a gwleidyddiaeth, ta beth?

Ydy Carwyn yn meddwl llai o Jane Davidson oherwydd ei bod wedi mynychu Ysgol Merched Malvern? Go brin. Ydy e'n teimlo cysylltiad gwleidyddol agos ac aelod seneddol ceidwadol Basingstoke, Maria Miller?

Wedi'r cyfan fe gafodd hi ei haddysg mewn ysgol gyfun hefyd. Ysgol Gyfun Brynteg fel mae'n digwydd.


O'r Gadair

Vaughan Roderick | 12:38, Dydd Iau, 10 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

images.jpgMae canlyniadau'r etholiadau i ddewis cadeiryddion Pwyllgorau Dethol San Steffan newydd eu cyhoeddi.

Yn ôl y disgwyl etholwyd David Davies yn gadeirydd Pwyllgor Cymru'n ddiwrthwynebiad. Doedd dim Tori arall yn chwennych y swydd a doedd aelodau pleidiau eraill ddim yn cael sefyll. Hwn yw'r tro cyntaf i Geidwadwr gadeirio'r pwyllgor ond dyw aelodau'r gwrthbleidiau ddim yn poeni'n ormodol am hynny. Barn un yw y bydd "David naill ai'n tyfu lan ne'n cael ei daflu mas".

Ar ôl cael ei gau allan o gadeiryddiaeth ei hen bwyllgor fe benderfynodd Hywel Francis ymgeisio am gadeiryddiaeth bwyllgor arall sef y Pwyllgor ar Welliannau Cyfansoddiadol. Fe wnaeth Hywel yn weddol barchus gan ennill 102 pleidlais a dod yn drydydd. Fe wnaeth Alun Michael yn well. Derbyniodd 242 pleidlais yn yr etholiad i ddewis Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cartref. Doedd hynny ddim yn ddigon i drechu Keith Vaz.

Roedd Geraint Davies ymhell ar ei hol hi yn y frwydr i arwain y Pwyllgor Busnes a Sgiliau gan ennill 90 pledilais.

Mae'r canlyniadau llawn yn .

Byw ar y radio

Vaughan Roderick | 00:01, Dydd Iau, 10 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

transmitter_bbc226.jpgMae 'na lawer yn gyffredin rhwng Meri Huws a Rhodri Williams. Roedd y ddau yn fawrion gyda Chymdeithas yr Iaith cyn symud ymlaen i gadeirio'r Bwrdd Iaith. Mae Meri yno o hyd wrth gwrs tra bod Rhodri bellach yn bennaeth ar Ofcom yng Nhymru.

Mae 'na ryw eironi rhyfedd felly yn y ffaith bod y Bwrdd newydd gyhoeddi ei fod am gymryd cam anarferol iawn sef "cyfeirio Ofcom at Lywodraeth y Cynulliad am fethu a llunio cynllun iaith yn foddhaol". Dydw i ddim yn cofio'r bwrdd yn cymryd cam felly o'r blaen.

Mae'r ddadl yn gymhleth ond yn y bôn mae'r Bwrdd o'r farn y dylai Ofcom osod amodau ieithyddol wrth ganiatáu trwyddedau gorsafoedd radio. Mae'r bwrdd yn credu bod gan Ofcom yr hawl i wneud hynny o dan Ddeddf Darlledu 1990 a Deddf Cyfathrebu 2003 a bod Deddf yr Iaith Gymraeg, 1993, yn gosod dyletswydd arni i wneud hynny.

Mae Ofcom ar y llaw arall yn mynnu mai mater i'r darparwr yw iaith y gwasanaeth ac unig rôl y Swyddfa yw sicrhau bod yr orsaf yn cadw at y fformat yn ei thrwydded. Does gen i ddim clem pwy sy'n gywir.

Mae'r ddadl wedi bod yn rhygnu ymlaen ers blynyddoedd. Rwy'n amau mai'r ffrwgwd ynghylch Radio Caerfyrddin a Scarlet FM wnaeth esgor arni. Efallai mai sefyllfa Radio Ceredigion sy'n gyfrifol am y datblygiadau diweddaraf. Ta beth mae'r Bwrdd wedi cael llond bol o ddadlau gydag Ofcom.

Mewn llythyr swyddogol at y Gweinidog Treftadaeth yn gofyn iddo ymyrryd dywed Meri Huws "nad oes diben i'r Bwrdd drafod ymhellach gydag Ofcom". Yn lle hynny mae'r Bwrdd yn gofyn i Alun Ffred Jones ddefnyddio'i bwerau statudol i osod cyfrifoldeb penodol ar Ofcom i sicrhau bod iaith yn ffactor wrth drwyddedu gorsafoedd ac i orfodi gorsafoedd i gynhrychu rhaglenni Cymraeg.

Oes hawl ganddo fe i wneud hynny?

"Oes" medd y Bwrdd.

Tybed beth yw barn Rhodri ?

CAMgymeriad?

Vaughan Roderick | 14:09, Dydd Mercher, 9 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

_36625023_bigben_bbc150.jpgRhai dyddiau yn ôl fe gafodd post ar dipyn o sylw wrth iddo gyhuddo Nick Clegg o fod a man dall ynghylch Cymru.

Mae'n amlwg bod y sefyllfa'n poeni Peter a barnu o'r sylw yma;

It is a blind spot that needs to be corrected soon before it is misinterpreted and used to undermine the Welsh Liberal Democrats' longstanding committment to a full law-making Welsh Parliament and reform of the Barnett formula.

Ar y pryd roeddwn i'n teimlo bod Peter yn poeni gormod. Ydy hi'n deg, wedi'r cyfan i ddisgwyl i aelodau llywodraeth newydd wybod pob wipstits am bopeth yr eiliad mae eu traed o dan y ddesg? Yn yr un modd pe na bai Francis Maude yn gwybod dim am adroddiad Holtham ymhen chwe mis fe fyddai hynny'n stori. Roedd y ffaith ei fod wedi dangos rhyw faint o anwybodaeth ynghylch y pwnc bythefnos yn ôl yn ddealladwy.

Ar y llaw arall mae'n deg gofyn cwestiynau os oes rhyw un yn rhoi ei droed ynddi ddwywaith.

Achosodd David Cameron gryn embaras i'r Ceidwadwyr yn y Cynulliad a Swyddfa Cymru yn y ddadl ar ôl araith y Frenhines trwy ddweud hyn;

"What we're going to do is allow the referendum to go ahead that was actually rather held up by the last government, so yes, a date will be named for that referendum and I believe it should be held next year and I believe there should be a free and open debate in Wales for that to happen."

Roedd hynny'n broblem. Wedi'r cyfan dyw Swyddfa Cymru ddim wedi ymateb yn swyddogol i'r cais am refferendwm. Mae 'na broses gyfreithiol i'w dilyn ac roedd hi'n ymddangos bod y Prif Weinidog yn achub y blaen ar y broses honno.

Siawns bod rhyw un wedi cael gair bach yng nghlust David Cameron ers hynny. Os felly pam ar y ddaear wnaeth e ddweud hyn yn ystod ei sesiwn gwestiynau yn San Steffan heddiw?

"The referendum, we think should be held next year... if he wanted to have a referendum earlier, the last secretary of state could have pushed it through earlier."

Munudau'n ddiweddarach fe ryddhaodd Swyddfa Cymru ddatganiad yn cadarnhau mai dyletswydd Ysgrifennydd Cymru yn pennu amserlen a dyddiad y refferendwm gan ychwanegu bod sylwadau'r Prif Weinidog yn rhai personol. "Speaking in a personal capacity" yw'r union eiriau mae datganiad Swyddfa Cymru'n defnyddio.

Mae hynny'n codi dau gwestiwn. Ers pryd y mae atebion Prif Weinidogion Prydain yn Nhŷ'r Cyffredin yn "sylwadau personol" ac os oedd David Cameron yn siarad "in a personal capacity" pwy roddodd y caniatâd iddo ddefnyddio'r lluosog brenhinol?


Evans y news

Vaughan Roderick | 16:52, Dydd Mawrth, 8 Mehefin 2010

Sylwadau (1)

6a00d83451b31c69e20120a5f4d3ee970b-150wi.jpgDydw i ddim yn cofio pryd na lle y gwnes i gwrdd â Nigel Evans am y tro cyntaf. Yn sicr mae'n amser maith yn ôl.

Efallai mai isetholiad Pontypridd yn 1989 oedd yr achlysur. Nigel oedd ymgeisydd y Ceidwadwyr yn yr etholiad hwnnw ond fe wnaeth e fawr o farc.

Roedd yn dipyn o syndod felly pan gafodd ei ddewis i sefyll mewn isetholiad arall yn ystod yr un senedd, y tro hwn yn Ribble Valley yn Swydd Gaerhirfryn yn 1991.

Fe wnes i gyfro'r isetholiad hwnnw a dim ond tri pheth sy'n aros yn y cof yn ei gylch. Fedra i ddweud wrthych chi fod 'na siop selsig gythreulig o dda yn Clitheroe, bod yr ymgyrchu wrth-Gymreig gan rai o wrthwynebwyr Nigel yn hynod annymunol a'i fod e wedi colli'n wael mewn cadarnle Ceidwadol.

Efallai nad oedd y gwrthwynebwyr wrth-Gymreig hynny yn sylweddoli bod 'na dri chynnig i Gymro. Yn anarferol iawn ar ôl cael clatsied yn yr isetholiad cafodd Nigel ei ail-ddewis gan ennill y sedd yn etholiad cyffredinol 1992. Mae fe wedi ei dal hi byth ers hynny.

Beth bynnag yw cryfderau a gwendidau Nigel mae ganddo fe un fantais fawr fel gwleidydd. Mae hi bron yn amhosib ei ddrwg-licio. Mae'n gwmni da ac yn dod ymlaen a phawb, neu bron pawb!

Y prynhawn yma etholwyd Nigel yn un o ddirprwy lefarwyr TÅ·'r Cyffredin ac mae'n anodd credu nad ei boblogrwydd personol oedd sylfaen ei fuddugoliaeth.

Mae hynny'n dod a ni at David Davies.

Yfory fe fydd David yn cael gwybod a fydd ganddo wrthwynebydd yn yr etholiad i ddewis cadeirydd y Pwyllgor Dethol Cymreig. Mae'r swydd eisoes wedi ei chlustnodi ar gyfer y Ceidwadwyr ac ar hyn o bryd David yw'r unig geffyl yn y ras. Dyw Jonathan Evans ddim yn chwennych y swydd ac mae Glyn Davies yn gwrthsefyll pwysau i neidio i mewn gan ofni y byddai'n or-ddibynol ar aelodau Llafur am gefnogaeth.

Y prynhawn yma fe wnes i daro mewn i un o gyn-gadeiryddion y Pwyllgor. Mae'r rheiny i gyd wedi bod yn aelodau Llafur, gyda llaw. Ei farn ef oedd y byddai David yn gwneud yn iawn fel cadeirydd ond iddo gofio peidio defnyddio'r swydd fel pulpud personol. Draw ar flog David Cornock ceir dystiolaeth bod aelod Mynwy yn deall hynny gan addo peidio cymryd rhan yn yr ymgyrch refferendwm os ydy'n ennill y swydd.

Wrth gwrs mae gan David Davies fantais, un ddigon tebyg i un Nigel. Mae hyd yn oed pobol sy'n casáu ei wleidyddiaeth yn tueddu hoffi'r dyn.

Oherwydd hynny fe fentra i swllt mai David fydd cadeirydd nesaf y pwyllgor dethol er ei bod hi'n bosib bod dyddiau'r pwyllgor wedi eu rhifo. Wedi'r cyfan yn hwyr neu'n hwyrach mae'n debyg y bydd Swyddfeydd Cymru, yr Alban ac efallai Gogledd Iwerddon yn cael eu huno. Go brin y gellir cynnal pwyllgor craffu pan mae'r hyn oedd i'w graffu wedi diflannu!

Germania

Vaughan Roderick | 12:30, Dydd Mawrth, 8 Mehefin 2010

Sylwadau (1)

_1318502_mikegerman300.jpgDydw i ddim yn credu mai dyna oedd y bwriad ond fe drodd cynhadledd newyddion y Democratiaid Rhyddfrydol yn dipyn o sesiwn ffarwel i Mike German heddiw. Trafod bagiau plastig oedd y bwriad ond gyda Mike yn gadael y Bae ymhen ychydig wythnosau efallai ei bod hi'n anorfod bod y cwestiynu wedi mynd ymhell y tu hwnt i hynny.

Fe ofynnwyd i gyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol am ei argraffiadau wrth edrych yn ôl dros bron i ddeuddeg mlynedd yn y Cynulliad.

Creu cenedl fwy hyderus oedd prif gyflawniad y Cynulliad yn ei farn ef. O safbwynt ei gyflawniadau a'i fethiannau personol roedd e'n ymfalchïo yn y glymblaid a Llafur yn y cynulliad cyntaf ac yn gweld y methiant i gyrraedd cytundeb enfys yn y cynulliad hwn fel ei siom fwyaf. Diddorol nodi, gyda llaw, ei fod yn rhoi'r bai am y methiant hwnnw ar ei blaid ei hun yn hytrach na cheisio beio'r pleidiau eraill fel mae ambell i Ddemocrat Rhyddfrydol yn tueddu gwneud.

Dyw ymadawiad Mike ddim yn golygu y bydd y cynulliad yn ddi-German wrth gwrs. Ei wraig, Veronica, fydd yn cymryd ei le ac yn groes i awgrymiadau mewn ffug ddatganiad gan un o swyddogion y blaid ni fydd disgwyl i bobol foesymgrymu i'r "ledi" newydd!

Fe fydd y newid yn golygu mai merched fydd y mwyafrif o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad. Mae hynny'n dipyn o gamp o gofio nad oes gan y blaid strwythurau arbennig, fel rhai Llafur a Phlaid Cymru, i sicrhau cynrychiolaeth gyfartal.

Yn sicr fe fydd hynny'n tynnu sylw unwaith yn rhagor at yr anghyfartaledd ar y meinciau Ceidwadol lle mae pob aelod, ac eithrio un, yn ddynion.

Fe ddylai hynny newid rhywfaint yn 2011. Heddiw cyhoeddodd y Ceidwadwyr fanylion eu trefniadau dewis ar gyfer etholiad flwyddyn nesaf. Cafwyd cyfaddefiad i ddechrau na fydd 'na newid yn y gyfraith i ganiatáu i bobol sefyll fel ymgeiswyr etholaeth a rhanbarth mewn pryd i'r etholiad.

Yn wyneb hynny sut fydd y drefn ddewis yn gweithio? Wel, mae'n debyg y bydd y Ceidwadwyr yn dewis ymgeiswyr yn eu hetholaethau targed i ddechrau, yna eu hymgeiswyr rhanbarth ac yna gweddill yr etholaethau.

Yn yr etholaethau targed fe fydd 'na nifer gyfartal o ddynion a menywod ar y rhestr fer. Yn y rhanbarthau fe fydd aelodau cynulliad presennol sy'n dymuno sefyll eto yn cael y seddi brig gyda'r lle gwag uchaf wedi ei glustnodi ar gyfer menyw.

Mae'n anodd gweld hynny'n gwneud fawr o wahaniaeth yn yr aelodaeth ranbarthol gydag un eithriad.

Yng Ngorllewin De Cymru menyw fydd yn cymryd lle Alun Cairns ar frig y rhestr. Fe gewch chi farnu ydy hynny'n gam pwysig tuag at gyfartaledd neu'n ffordd arall o geisio rhwystro uchelgais gwleidyddol Chris Smart!

Ar ôl y toriad

Vaughan Roderick | 10:02, Dydd Mawrth, 8 Mehefin 2010

Sylwadau (0)

Senedd.JPGMae'n bryd clirio'r llwch allan o'r lle 'ma! Rwyf wedi bod bant am wythnos ac am unwaith roeddwn yn benderfynol o gadw draw o wleidyddiaeth- i'r graddau mae hynny'n bosib o leiaf.

Dydw i ddim yn credu fy mod wedi colli rhyw lawer. Yn sicr dyw heddiw ddim yn ddiwrnod o fagnelau mawrion! John Griffiths sy'n briffio ar ran y Llywodraeth. Mae Mike German am drafod bagiau plastig yng nghynhadledd newyddion y Democratiaid Rhyddfrydol ac fe fydd Jane Hutt yn llenwi dros Carwyn yn sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog.

Am sbort!

Peidiwch boeni fe wna i ffeindio rhywbeth!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.