主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Aled Edwards Aled Edwards yn yr America
Mae Aled Edwards yn yr Unol Daleithiau ar gyfer etholiad arlywyddol 2008. Dyma ei gyfraniad cyntaf oddi yno i'n gwefan

'Newid yn y Gwynt'
Aeth yr wythnosau heibio'n gyflym ers sgwrs hamddenol gydag Esgob Anglicanaidd California ddechrau'r haf wrth i mi dywys nifer o arweinyddion Anglicanaidd o gwmpas adeilad y Senedd yng Nghaerdydd.

Yng nghanol sgwrs yn trafod y berthynas rhwng gwleidyddiaeth Cymru â gweddill y byd cafwyd awgrym caredig y dylwn ddod drosodd i California i brofi bwrlwm yr etholiad arlywyddol Americanaidd yn bennaf drwy lygaid yr ymgyrch Obama for America.

Roedd y cyfle yn un rhy dda i'w golli a dwi yng Nghalifornia bellach i weld ac i ddysgu rhywbeth ynghylch gwleidyddiaeth gwlad arall.

Dwi'n gobeithio y bydd y profiad yn cyfoethogi fy ngwaith a'm cyfraniad ar hyn o bryd i wleidyddiaeth gymhleth Cymru.

O aelwyd cymuned eglwysig arbennig yn Berkeley dwi hefyd am glywed yr hyn sydd gan rai o Gristnogion yr Unol Daleithiau i'w ddweud am agweddau crefyddol o'r ymgyrchu.

Yn fwy na dim, o dderbyn gwahoddiad mor garedig, dwi am fod yn yr Unol Daleithiau ar gyfer profi munud arbennig mewn hanes - beth bynnag fydd y canlyniad.

Cyfarfyddiad yn La Val's Pizza
Nos Sadwrn ychydig oriau prin wedi i mi gyrraedd Berkeley in California cefais fy hun yn mwynhau sgyrsiau braf â rhai o fynychwyr cyson La Val's Pizza ar Eulid Avenue.

Yn y cefndir, er mawr siom i bawb o'm cwmpas, roedd Arizona yn rhoi cweir sylweddol 42:27 i'r ffefrynnau lleol, Cal, mewn gem bêl-droed Americanaidd.

Roedd y lle'n llawn o gefnogwyr brwd swnllyd - ac o bobl sy'n feddylgar ac yn dreiddgar. Pobl sydd ar hyn o bryd, mewn mwyafrif sylweddol yn Berkeley, yn dyheu am newid gwleidyddol.

Gofynnodd Joel, a oedd yn digwydd eistedd wrth fy ochr, o ble yr oeddwn yn dod. Yn union syth wedi i mi agor fy nheg, gofynnodd i mi os oeddwn i'n gwylio Bobl y Cwm mewn acen a oedd yn swnio fel pe byddai'n dod o Ganada.

Fe'i magwyd yn Montreal ond ar ôl cyfnod byr o wyliau yng Nghonwy roedd Joel wedi sugno fel sbwng y cyfan yr oedd angen ei ddysgu am Gymru a'i hiaith.

Daeth hen ddoethineb diwinyddol i'r cof: cyd-ddigwyddiadau yw ffordd Duw o gadw angylion yn anhysbys!

Ar ôl teithio'r holl ffordd o Gilfynydd i Galifornia dros gyfnod o hanner diwrnod, cefais fy hun yn trafod yr iaith Gymraeg a diwylliant gwleidyddol Cymru â dieithryn llwyr mewn tŷ bwyta yn Berkeley, California.

Cefais yr argraff lle bynnag y byddai Joel yn crwydro yn y byd y byddai yn sugno pethau'r llefydd hynny fel sbwng.

Y gorau sydd gan America i'w gynnig
Lle yw Berkeley ar gyfer y gorau sydd gan America i'w gynnig. Daw pobl yno, i ddysgu ac i drafod syniadau. Eithriad, wrth gwrs, yw Joel, nid creaduriaid sy'n teithio i wledydd eraill mewn niferoedd mawr yw'r Americanwyr.

Trwy drugaredd, roeddwn wedi treulio hanner diwrnod cyfan yn darllen llyfr diweddaraf Simon Schama ar hanes America, The American Future. Roedd hyn, fy niddordeb yn Rhyfel Cartref America a'm diddordeb mwy diweddar yn Barack Obama yn fy ngalluogi i gynnal sgwrs am gwpl o oriau.

Ac fe allai'r ddwy awr fod wedi troi yn hanner diwrnod arall o deithio - teithio drwy syniadau am benderfyniadau mawr y byd.

Yn union fel yr oeddwn yn rhyfeddu ar allu Joel i wybod cymaint am Gymru mewn cyfnod mor fyr, awgrymodd yntau yn garedig nad pob Prydeiniwr oedd wedi casglu gwybodaeth ynghylch y pensaer milwrol a adeiladodd Washington, Montgomery C Meigs, symudiadau Democratiaid cyfoes yng ngogledd Virgina a sut y byddai angen i Obama ennill cefnogaeth grwpiau ethnig arbennig mewn taleithiau arbennig: pobloedd a oedd wedi cofrestru i bleidleisio am y tro cyntaf ers blynyddoedd.
Diolch am Simon Schama ddywedwn i.

Ar y ffordd i La Val's Pizza cefais sawl sgwrs, dros filoedd o filltiroedd, ynghylch y frwydr fawr rhwng John McCain a Barack Obama.

Ond un oedd yn bleidiol i McCain ar yr awyren drosodd - gwraig o Iran a oedd yn credu y byddai John McCain yn fwy abl nag Obama i ddelio ag arweinwyr ei gwlad.
Anghytunai ei gŵr â hi.

Dweud pethau caredig
Dywedodd sawl un bethau caredig am John McCain a fedrwn innau ddim penderfynu ai peth da ynteu peth drwg i wleidydd oedd cael eraill i ddweud pethau caredig amdano.

Ffin denau, mewn ymgyrch wleidyddol fel hon, sydd rhwng caredigrwydd a chydymdeimlad.

Mae mynychwyr tai bwyta Berkeley a myfyrwyr niferus ac amrywiol y lle yn dyheu am newid sy'n treiddio'n ddyfnach na'r gwleidyddol.

Maen nhw'n teimlo hefyd eu bod ar fin cyffwrdd â munud bwysig mewn hanes.

Y mae'r rhod yn troi ac mae newid ar fyd mawr bron ar ddyfod. Nid yw'r teimlad hwn yn unigryw i California a Berkeley.

Dros gan mil o bobl
Fore Sul, ar ddalen flaen y San Francisco Chronicle, cyhoeddwyd llun o dros gan mil o bobl yn llifo i weld Barack Obama yn areithio wrth y Gateway yn St. Louis. Gellir dirnad rhyw fath o nerfusrwydd gobeithiol yn y gwynt.

Ond, y mae'r nerfusrwydd yno yn y gwynt. Hyd yn oed wrth i'r sibrwd deithio'n gyflym drwy faes awyr San Francisco brynhawn Sul bod neb llai na Colin Powell wedi datgan ei gefnogaeth i Obama fe erys yr ansicrwydd hyd y funud olaf.

Gwneud ei gwaith
Yn y cyfamser y mae'r ymgyrch Obama for America yn gwneud ei gwaith fel pe byddai pob doler wedi ei phwyso mewn aur a phob pleidlais yn gwbl allweddol. Hyd yn oed yn California mae'r hysbysebion teledu yn niferus ac yn aml.

Nid felly ymgyrch McCain. Oferedd iddyn nhw erbyn hyn fyddai gwario arian prin ar California.

Fe gollodd 'Cal' yn drwm i Arizona nos Sadwrn. Ond, cafwyd hyder yn La Val's Pizza y byddai rhyw fath o gydbwysedd yn cael ei daro ar ddiwrnod yr etholiad ddechrau Tachwedd.

Gwleidydd o eiddo Arizona yw John McCain. Amser a ddengys. Nid yw'r peth drosodd eto . . . o bell ffordd.

  • Mae Aled Edwards yn offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru ac yn gyn Gomisiynydd y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol yng Nghymru. Mae'n aelod o Bwyllgor Cymru y Comisiwn hwnnw ac yn aelod o Weithgor Syr Emyr Jones Parry Confensiwn Cymru Gyfan.






  • cysylltiadau
  • Rhagor gan Aled Edwards o'r America



  • ewrop

    Unol Daleithiau America
    Barddoniaeth mewn maen a phren

    Dathlu yng Nghwm Jones!.

    Aloah Hawaii

    Hawaii: Rhywbeth i bawb yn Kauai

    Cwyn Cymry Arizona am y Wall Street Journal

    Cofio Goronwy ymhell o gartref

    Etholiad America

    Lobsgows etholiadau'r Unol Daleithau

    Dysgu Cymraeg yng nghefn gwlad Efrog Newydd

    Cymraes yn Chicago

    Dosbarth Cymraeg Pittsburgh

    Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America

    Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

    Ci'r Cymry fu'n nofio gydag Arlywydd America

    Cymdeithas Gymraeg yn yr Unol Daleithiau

    Côr sy'n uno cyfandir

    Neges Gŵyl Dewi Bush!

    'Pawb a'i Farn' yn Efrog Newydd

    Cynghrair Gymraeg Arizona

    Ymlacio a dysgu termau newydd

    Ar yr hewl yn America

    Ymgartrefu mewn ardal gyfeillgar

    Etholiad Arlywyddol 2004




    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy