主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dysgwyr Efrog Newydd Dysgu Cymraeg yng nghefn gwlad Efrog Newydd
Hanes dosbarth Cymraeg a llythyrau gan y dysgwyr

Dydd Gwener, Mai 5, 2000

Robert J. Jones, Hyfforddwr Iaith Dramor, yn sôn am sefydlu cwrs Cymraeg yn y Fulton-Montgomery Community College, Johnstown, Talaith Efrog Newydd, Unol Daleithiau'r America.

Yn ôl ym mis Tachwedd, gofynnodd dwy fyfyrwraig, Diane Mansmith a Lisa Catanzaro, a fydden nhw'n gallu dysgu Cymraeg.

Roeddwn i wedi dweud unwaith fy mod yn medru'r Gymraeg ac yr oedd diddordeb ganddyn nhw.

Ar dân dros y syniad
Mae Diane yn tarddu o deulu sy'n dod yn weiddiol o Gymru, ac mae gan Lisa ddiddordeb mawr mewn ieithoedd a dywedeodd y buasai hi'n falch medru dweud ei bod hi wedi astudio'r Gymraeg oherwydd ei bod yn iaith mor anarferol.

Roeddwn yn fodlon gwneud independent study efo nhw ond wedyn mi ges i'r syniad o agor y dosbarth i bobol yn yr ardal er mwyn gweld allen ni gael digon i redeg dosbarth am gredyd fel unrhyw ddosbarth arall.

Fel aelod, ac yn arlywydd y gymdeithas Gymreig yn yr ardal - roeddwn i wedi bod yn rhoi cyrsiau cymunedol ers tair blynedd a chyn hynny roeddwn yn diwtor cyrsiau ym Mhrifysgol Binghamton lle'r oeddwn i'n byw cyn symud i Albany.

Ond hwn oedd y tro cyntaf imi agor cwrs llawn mewn prifysgol.

Roedd Diane ar dân dros y syniad a gwnaeth hi dwrw mawr o arwyddion a'u gosod ymhobman yn y ddwy sir, Fulton a Montgomery.

Cawsom saith myfyriwr, sef digon i redeg dosbarth.

Yr unig beth anffodus ar ôl yr holl waith caled oedd na allai Diane ei hun ddilyn y cwrs oherwydd ei gwaith ond gobeithio y daw cyfle arall yn y dyfydol.

Myfyrwyr rhwng 18 a 70 oed
Y peth anhygoel am hyn yw nad oes cymuned fawr o Gymry yn y siroedd hyn. Mae un i'r gorllewin ger Utica, bron awr i ffwrdd, ac un arall i'r dwyrain yn Poultney-Granville, bron ddwyawr i ffwrdd, ond nid oes cymaint o Gymry yn siroedd Fulton a Montgomery.

Ta waeth, roedd digon o ddiddordeb yn yr iaith i gael dosbarth.

Mae'r myfyrwyr o bob math o brofiad ac oed o 18 i 70.

Ardal dlawd efo llawer o ddiweithdra
Mae'r ardal hon yn un wledig iawn, iawn, wrth draed mynyddoedd yr Adirondacks. Mae hefyd yn ardal dlawd iawn efo llawer o ddiweithdra gyda llawer o'r hen ffatrioedd wedi cau rai blynyddoedd yn ôl.

Mae'r brifysgol yn fodd i'r bobl sy'n byw yma ganfod swyddi newydd trwy "ail-addysg", ac yn gyfle i'r to ieuanc ddianc a chanfod swyddi yn y dinasoedd cyfagos fel prifddinas y dalaith, Albany.

Nid lle fel yr Efrog Newydd y byddai'r Cymry yn ei dychmygu yw'r ardal hon. Mae'r trefi bychain yn marw'n araf a'r ffermydd yn cael eu gwerthu'n rhad.

Mewn gwirionedd, rhan o Appalachia yw'r ardal hon o ran tlodi a diweithdra.

Gyda wyneb yr ardal yn newid cymaint y mae i'r Brifysgol ran bwysig iawn yn ei dyfodol ac mewn addysgu'r bobol sy'n bwriadu aros yma i weithio yn yr ychydig o swyddi newydd sydd yn dod yno, yn enwedig swyddi technoleg.

Prynu tir a ffermydd yn rhad
Hefyd, mae llawer o Gynfedyddwyr (Anabaptists)) Amish a Menonites yn dod i'r ardal o Bennsylfania oherwydd y tir rhad a phroblemau yn ôl yn eu hen ardal. Hyn hefyd yn newid llawer ar wyneb y siroedd.

Mae ym Mhrifysgol Fulton-Montgomery Community College rhyw 1,800 o fyfyrwyr sy'n dilyn gan fwyaf gyrsiau gradd dwy flynedd.

Mae'r dosbarth Cymraeg yn mynd ymlaen yn dda iawn ac ar hyn o bryd fwy na hanner ffordd drwy'r semestr. Yn ogystal a'r iaith yr ydym yn edrych ar hanes a llenyddiaeth Cymru hefyd.

Wn i ddim beth fydd dyfodol y cwrs ond yn awr fy mod yn gwybod fod diddordeb bwriadaf gynnig cwrs unwaith eto yn yr hydref.

Robert J. Jones, Foreign Language Instructor, Fulton-Montgomery Community College, 2805 State Highway 67, Johnstown, New York 12095-3790, (518) 762-4651 ext. 3910.

Llythyrau oddi wrth aelodau'r dosbarth:

Annwyl 主播大秀 Cymru'r Byd
Jim Strickland 'dw i. 'Dw i'n fyfyriwr mewn dosbarth Cymraeg yng nghefn gwlad Elfrog Newydd. 'Dw i'n dod o Wilkes-Barre, Pennsylvania, ond 'dw i'n byw yn Broadalbin, Elfrog Newydd nawr. Adeiladwr 'dw i.

'Dw i'n hoffi gweithio. Hoffwn deithio i Gymru rhywbryd. 'Dw i eisiau gwella fy Nghymraeg.
Yn ddiffuant,
Jim Strickland


Annwyl 主播大秀 Cymrur Byd
S'mae! Kateri Splittgerber 'dw i. Yn Gymreag, Cati Phillips 'dw i. 'Dw i'n byw yn Broadalbin, New York. 'Dw i'n fyfyrwraig yn FMCC(Fulton-Montgomery Community College).

Yna, 'dw i'n dysgu Cymreag ar hyn o bryd. 'Dw i'n canu, darllen, coginio, garddio, a dysgu Cymreag. Mae cath 'da fi. Mae nghariad yn bwy yn yr Alban.

Mae busnes bach 'da, History in the Making. 'Dw i'n mynd i briodi a byw yn y Gefnwlad. Welwch!!
Diolch,
Kateri Splittgerber


Annwyl 主播大秀 Cymrur Byd,
Elizabeth Gundersen 'dw i. Myfyrwraig a mam 'dw i. Mae pedwar o blant 'da fi. 'Dw i'n byw yn Gloversville, yn Efrog Newydd.

'Dw i'n mwynahu darllen a'r cyfrifiadur. 'Dw i'n hoff o goffi a fy hoff liw yw coch. 'Dw i ddim yn Gymraes; mae'n teulu yn dod o ogledd yr Alban yn wreiddiol.
Yn ddiffuant,
Elizabeth Gundersen


Annwyl 主播大秀 Cymrur Byd,
Lisa ydy f'enw i. 'Dwi'n dod o Efrog Newydd, a 'dwi'n dysgu Cymraeg. Mae gen i ddiddordeb yn y Gymraeg a mwynhau astudio'r iaith. Dawnsiwr 'dwi. Mae gweddill fy nheulu (fy mam a fy nhad) yn fy helpu fi gyda hyn. 'Dwi wedi bod yn ddanwsiwr ers pymtheg oed. 'Dwi'n caru dawnsio.
Yn ddiffuant,
Lisa Catanzaro


Annwyl 主播大秀 Cymrur Byd,
Adrian ydy f'enw i. 'Dw i'n byw yn Amsterdam, yn Efrog Newydd. Americanes 'dw i.

Mae un brawd 'da fi ac mae mam a thad 'da fi. Mae cariad 'da fi. Stephen ydy e ac mae'n byw yng Nghymru. 'Dwi'n fyfyrwraig. 'Dwi'n mynd i FMCC. Dwi'n gweithio yn Price Chopper (archfarchnad). 'Dwi'n hoffi canu'r piano.

Hoffwn i fyw yng Nghymru rhywbryd. Dwi'n nabod Kate. Mae Kate yn y dosbarth Cymraeg 'da fi. Mae hi'n fyfyrwraig. Mae hi'n byw yn Broadalbin. Mae hi'n hoffi canu. Mae hi'n gweithio yn Walmart. 'Dwi'n meddwl yr hoffai hi fyw yn yr Alban.
Yn gywir,
Adrian Catucci.


Annwyl 主播大秀 Cymru'r Byd,
Croeso o Ddosbarth Cymraeg yng nghefn gwlad Efrog Newydd. 'Dan ni'n saith dysgwr yn Gymraeg flwyddyn gynta. 'Dan ni'n dysgu'r Gymraeg a hanes Cymru.

Mae fy mam yn dod yn wreiddiol o Gymru. Dydy hi ddim yn siarad Cymraeg. Dyna pam 'dwi'n dysgu Cymraeg. Hoffwn i fynd i Gymru 'da fy mam a siarad Cymraeg.

Mae fy mam-gu yn dod o Dregaron (?sgwennodd Drecgnon yn wreiddiol oherwydd nid yw yn siwr-RJJ) ac mae fy nhad-cu yn dod o Lanbedr. Roedden nhw'n byw yn Aberdâr 'da fy mam cyn dod i America.
Yn gywir,
William Daley


Yn y llun gyda'r erthygl y mae: Jim Strickland, Betsey Spencer, Kateri Splittgerber, Elizabeth Gundersen, William Daley, Adrian Catucci, Lisa Catanzaro, a Robert Jones yr athro.




ewrop

Unol Daleithiau America
Barddoniaeth mewn maen a phren

Gŵyl Dewi 2007
Taffia Chicago


Profiad Cymro ym
Marathon Boston


Ceisio cerflun i Madog

Dysgu Cymraeg ym
mro John Wayne!


Dathlu yng Nghwm Jones!.

Aloah Hawaii

Hawaii: Rhywbeth i bawb yn Kauai

Cwyn Cymry Arizona am y Wall Street Journal

Cofio Goronwy ymhell o gartref

Etholiad America

Lobsgows etholiadau'r Unol Daleithau

Dysgu Cymraeg yng nghefn gwlad Efrog Newydd

Cymraes yn Chicago

Dosbarth Cymraeg Pittsburgh

Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Ci'r Cymry fu'n nofio gydag Arlywydd America

Cymdeithas Gymraeg yn yr Unol Daleithiau

Côr sy'n uno cyfandir

Neges Gŵyl Dewi Bush!

'Pawb a'i Farn' yn Efrog Newydd

Cynghrair Gymraeg Arizona

Ymlacio a dysgu termau newydd

Ar yr hewl yn America

Ymgartrefu mewn ardal gyfeillgar

Etholiad Arlywyddol 2004

Dilyn yr etholiad

Cyhoeddi buddugoliaeth

Galwadau ffôn wrth y miloedd

Dilyn yr etholiad - 3

Dilyn yr etholiad arlywyddol

Aled Edwards yn yr America




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy