主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cwyn Cymry Arizona am y Wall Street Journal
Mae sylwadau un o golofnwyr y Wall Street Journal am y cyfieithiad Cymraeg o Harry Potter wedi gwylltio'n gacwn ysgrifenyddes cymdeithas Gymraeg yn Arizona.

Wrth sôn am gyfieithiadau i Ladin ac i Hen Roeg o Harry Potter and the Philosopher's Stone dywedodd Brian M Carney, golygydd dalen olygyddol y Wall Street Journal:
"Yn wir, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf cyfieithwyd yn dawel nifer o lyfrau Harry Potter (yn enwedig y cyntaf) i ugeiniau o ieithoedd; rhai ohonyn nhw yn rhai amlwg, eraill ohonynt, fel y fersiwn Gymraeg, yn wirioneddol od."

Clawr y llyfr Un sydd wedi ymateb i'r sylw hwn ydi Mary Gilchrist, ysgrifenyddes Cymdeithas Gymraeg Arizona y mae ei theulu yn hanu o Lanerchymedd, Sir Fôn.

Mewn llythyr at y WSJ mae hi'n dweud iddi gael ei "syfrdanu" gan sylwadau Mr Carney.

"Beth sy'n bod mewn stori boblogaidd yn cael ei darllen mewn iaith fyw gan bobl ifainc sydd â'r Gymraeg yn iaith ganddyn nhw," meddai Mary Gilchrist sy'n dysgu Cymraeg.

"Efallai y byddai gennych ddiddordeb cael gwybod fod yr iaith yn fyw ac yn iach yn Arizona. .Mae yma ddosbarthiadau yn Phoenix, fy nghartref, a Tuscon. Yr ydw i yn un sydd wrth ei bodd cael y stori yn y Gymraeg.

Holi y mae Mr carney yn ei erthygl pa ddiben oedd yna mewn cyfieithu Potter i Ladin a Hen Roeg a dydi dweud fod hyn yn creu diddordeb newydd yn yr hen ieithoedd clasurol hyn ddim yn ddadl sydd i'w gweld yn ei argyhoeddi o.

Yn wir yr unig reswm sy'n gwneud unrhyw synnwyr iddo fo ydi sylw un o'r cyfieithwyr, "Fe wnes i o am yr arian."

"Mae hwnna'n ateb sy'n gwneud synnwyr yn unrhyw iaith," meddai Mr Carney.

Gan gynnwys y Gymraeg o bosib!






ewrop

Unol Daleithiau America
Barddoniaeth mewn maen a phren

Dathlu yng Nghwm Jones!.

Aloah Hawaii

Hawaii: Rhywbeth i bawb yn Kauai

Cwyn Cymry Arizona am y Wall Street Journal

Cofio Goronwy ymhell o gartref

Etholiad America

Lobsgows etholiadau'r Unol Daleithau

Dysgu Cymraeg yng nghefn gwlad Efrog Newydd

Cymraes yn Chicago

Dosbarth Cymraeg Pittsburgh

Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Ci'r Cymry fu'n nofio gydag Arlywydd America

Cymdeithas Gymraeg yn yr Unol Daleithiau

Côr sy'n uno cyfandir

Neges Gŵyl Dewi Bush!

'Pawb a'i Farn' yn Efrog Newydd

Cynghrair Gymraeg Arizona

Ymlacio a dysgu termau newydd

Ar yr hewl yn America

Ymgartrefu mewn ardal gyfeillgar

Etholiad Arlywyddol 2004




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy