主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...
Cymry tramor yn sôn am eu Mawrth y cyntaf hwy

Cymry o wahanol rannau o'r byd yn son sut y byddan nhw yn treulio Dydd Gwyl Dewi eleni.

-Os yr ydych chi yn byw y tu allan i Gymru ebostiwch i ddweud sut y byddwch chwi yn dathlu Dydd Gwyl Dewi trwy glicio Yma

- A beth am anfon e-gerdyn Dewi Sant Cymru'r Byd at gyfeillion trwy glicio

Darllenwch am:
- Vancouver
- Tasmania
- Seland Newydd
- Canada
- Patagonia

*Idris a Linda Hughes, Ynys Vancouver Canada:

Eleni, bydd swper Dydd Gwyl Dewi yng Nghlwb Golff Uplands yn Victoria, Vancouver, ar nos Sadwrn Mawrth 3. Disgwylir tua chant o bobl yno i ymuno yn y dathlu ac i fwynhau'r swper mawreddog.

Y gwr gwadd fydd Mr. Alun Hoover, un o swyddogion Amgueddfa Talaith British Columbia. Mae'n hanu o dde Cymru. Bydd Gwyneth Evans yn ein diddori ar y delyn ac fe gawn ganeuon Saesneg a Chymraeg gan Gôr Acappella o un o'r ysgolion lleol.

Ac o ddec ein ty yn Nyffryn Comox, mi fydd y Ddraig Goch yn chwifio'n urddasol yn y gwynt.

Felly,dymuniadau gorau i ddarllenwyr 主播大秀 Cymru'r Byd gan rai o Gymry'r byd.
Hwyl fawr,
Idris a Linda Hughes,

Ynys Vancouver Canada.

* O Hobart , Tasmania:
Mae Bob Hilyer a'i wraig Mona yn anfon dymuniadau da ar Ddydd Gwyl Dewi.

Brodor o Gaergybi ydi Bob ac wedi ymgartrefu yn Tasmania ers y chwedegau.

Mi 'roedd Bob yn gyfranwr cyson i'r NWIMP , ac yn awr i'r North Wales Index.

Adnabyddir ef fel Bob Sir Fon .

Yn aml , mae Bob yn cyfeirio at Tasmania fel gwlad y chwys.
Felly , Hwyl i chi i gyd o wlad y chwys.


* Elizabeth Bissland, Seland Newydd

Dyma yn fyr beth yw ein bwriad ni yng Nghymdeithas Gymraeg Cambrian Caergaint.

Bob yn ail flwyddyn cynhaliwn Cymanfa Ganu yn eglwys y Bedyddwyr yn y Ddinas pryd y bydd y capel yn orlawn. Roedd hynny flwyddyn yn ôl - Blwyddyn y Milliniwm.

Y flwyddyn yma rydym yn brysur yn trefnu tuag at "concert" yn yr un capel ar Fawrth 4. Rydym yn lwcus dros ben fod hanner dwsin or rhai sydd yn cymryd rhan yn aelodau or Gymdeithas or safon uchaf.

Ar ôl y cwrdd cawn de gyda bara brith, "welsh cakes" ac yn y blaen.

Bydd y Ddraig Goch yn chwifio o binacl uchaf y Ddinas yma yn Christchurch a bydd rhaglenni ar y di-wifr ac ar y radio yn cyflwyno Dydd Gwyl Dewi Sant.

Byddwn gyda'n gilydd yn ein cwrdd misol hefyd gyda hen ganeuon gwerin Cymru yn cael rhan flaenllaw yn y cwrdd.

Mae yn ganol haf yma - dyddiau poeth difrifol - ddoe gydag echdoe bron yn gant, heddiw dipyn bach o awel. O am gawod o law!!!

Nis gallaf wneud fy meddwl i fyny i fynd yn ôl eto i Gymru y flwyddyn yma. Mae'r daith mor bell ar ben fy hun. Wyth ar hugain o oriau yn yr awyr.
Cofion goreu,
Hwyl
Elizabeth Bissland
Christchurch, Seland Newydd


* Oddi wrth John Pritchard
'Rydym yn gobeithio cael tua saith dwsin o Gymry llwglyd i'n gwledd Gwyl Dewi ar Fawrth 3 yn Neuadd y Cambria lle byddwn yn gwledda ar gig eidion a thatws rhost.

David Roberts fydd ein gwr gwadd, is-gennad Prydain yn Vancouver.

Ein llywydd newydd, Tecwyn Roberts o Lanrwst, fydd yn arwain y gweithgareddau.Yn cynnig llwnc-destyn i Ddewi Sant bydd y meddyg Tecwyn Jones sy'n wreiddiol o Ddyffryn Clwyd.

Disgwyl cael cyfarchion gan amryw o Gymdeithasau Cymreig o bob rhan o'r byd. Cawn gân neu ddwy gan Veronica Gilder - un o'r lleisiau gorau yn y Gymdeithas ac 'rwy'n sicr y bydd pawb mewn hwyliau i ganu yr hen ffefrynnau hefo'n gilydd.

Mae na ragolygon am noson ddifyr!! Pob hwyl am y tro. Ar dipyn o frys i gyrraedd y maes mewn pryd!!
Llinos a John

* Gwyn a Monica Jones, Gaiman, Patagonia
Siomedig yw dathliadau'r wyl yma ym Mhatagonia o gymharu â Chymru i ddweud y gwir. Ond rhaid esbonio ychydig am yr amgylchiadau gwahanol sydd yma.

Erbyn hyn wrth gwrs, nid Cymry oddi cartref yw'r Archentwyr-Cymraeg sydd yma ond Archentwyr sydd yn dilyn calendr eu gwlad eu hunain. Felly, anodd iawn yw dathlu gwyl nawddsant o wlad sydd yn ddiarth i'r rhan fwyaf.

Nid ydi Dewi Sant wedi ei lwyr anghofio ychwaith. Yn Nhrelew mae'r Gymdeithas Dewi Sant, neu'r Asociacin San Davd mewn bodolaeth ac mae'r gymdeithas yma yn cadw ei neuadd, ac yn ganolfan i ddisgynyddion y Gwladfawyr a hefyd yn hybu'r Eisteddfodau.

Mae'r Gymdeithas yma yn cynnal swper ac adloniant i ddathlu Gwyl Dewi Sant ond nid ar y diwrnod priodol.

Mae'r misoedd Ionawr, Chwefror a dechrau Mawrth yn cyd-daro â gwyliau'r haf. Yn y misoedd yma mae pawb yn tueddu i gymryd eu gwyliau ac/neu fyw yn eu hail dy ar lan y môr yn ymyl Rawson, er mwyn cael seibiant o'r gwres llethol.

Mae'r swyddfeydd a busnesau yn arafu bron i ddim. Felly, be mae'r gymdeithas yn tueddu i'w wneud yw trefnu'r swper yng nghanol mis Mawrth. Hyn am ddau reswm, un am fod neb o gwmpas i ddathlu, a'r llall am fod neb o gwmpas i drefnu'r dathliad.

Mae rhaid cofio fod yma ddathliad arall sy'n llawer mwy priodol i'r Gwladfawyr - Gwyl y Glaniad, ar Orffennaf 28 i ddathlu glaniad y Cymry cyntaf ar y traeth ym Mhorth Madryn.

Mae'r diwrnod yma yn wyl swyddogol yn y dalaith a'r arferiad yw mynd i un o'r capeli Cymraeg am de ac adloniant.

Mae hyn yn arferiad gyda'r Archentwyr di-Gymraeg sydd yn byw yn Nyffryn y Camwy ac yng Nghwm Hyfryd yn yr Andes hefyd.

Mae pethau yn gwella lle mae Gwyl Dewi Sant mewn golwg. Y llynedd bu Noson Lawen anffurfiol iawn ar Fawrth 1 yn yr hen gapel yn Y Gaiman. Dwi'n credu y bydd eto eleni. Cawn wybod ar ôl i rywun ddod yn ôl o'r traeth.
Pob hwyl am y tro. Gwyn a Mnica





ewrop

Unol Daleithiau America
Barddoniaeth mewn maen a phren

Gŵyl Dewi 2007
Taffia Chicago


Profiad Cymro ym
Marathon Boston


Ceisio cerflun i Madog

Dysgu Cymraeg ym
mro John Wayne!


Dathlu yng Nghwm Jones!.

Aloah Hawaii

Hawaii: Rhywbeth i bawb yn Kauai

Cwyn Cymry Arizona am y Wall Street Journal

Cofio Goronwy ymhell o gartref

Etholiad America

Lobsgows etholiadau'r Unol Daleithau

Dysgu Cymraeg yng nghefn gwlad Efrog Newydd

Cymraes yn Chicago

Dosbarth Cymraeg Pittsburgh

Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Ci'r Cymry fu'n nofio gydag Arlywydd America

Cymdeithas Gymraeg yn yr Unol Daleithiau

Côr sy'n uno cyfandir

Neges Gŵyl Dewi Bush!

'Pawb a'i Farn' yn Efrog Newydd

Cynghrair Gymraeg Arizona

Ymlacio a dysgu termau newydd

Ar yr hewl yn America

Ymgartrefu mewn ardal gyfeillgar

Etholiad Arlywyddol 2004

Dilyn yr etholiad

Cyhoeddi buddugoliaeth

Galwadau ffôn wrth y miloedd

Dilyn yr etholiad - 3

Dilyn yr etholiad arlywyddol

Aled Edwards yn yr America




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy