主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Draig Goch Cymdeithas Gymraeg yn yr Unol Daleithiau
Tachwedd 22, 2000

Robert J. Jones, y llywydd, yn son am Gymdeithas Gymreig Dew Sant Ardal y Brifddinas yn Albany, Talaith Efrog Newydd.

Cymdeithas Gymreig Dewi-Sant Ardal y Brifddinas am y tro cyntaf ym 1929, yn Schenectday, Efrog Newydd, o dan yr enw St. David's Society of Schenectady.

Yn y pedwardegau, sefydlwyd cymdeithas arall yn Albany, prifddinas y dalaith, rhyw saith milltir i'r dwyrain.

Gweithdy Thomas Edison yma

Yn ôl yn y 20au, y 30au a'r 40au yr enw ar Schenectady oedd, "The City that Lights the Halls of the World" a "The Electric City" gan mai yma yr oedd pencadlys General Electric a Thomas Edison yn cadw gweithdy yno!

O westy yn y ddinas y teledwyd rhaglen deledu gyntaf yr Unol Daleithiau ac wedyn lleolwyd sianel deledu gyntaf y wlad yno.

Ond gyda'r blynyddoedd daeth gwelodd Schenectday "amserau drwg" a doedd dim digon o bobl i gynnal dwy gymdeithas ac fe'u hunwyd gydag enw un Albany yn cael ei gadw.

Cant o aelodau

Wrth gwrs, mae'r ffaith bod cymdeithas Gymreig yma o gwbl yn destun rhyfeddod achos er bod gan ardaloedd fel Utica a Granville yn Nhalaith Efrog Newydd gysylltiadau Cymreig cryf nid oedd "gwladfa" Gymreig yn y brifddinas a carpet baggers oedd aelodau'r gymdeithas gyntaf - fel heddiw - pobl a ddaeth yma i weithio gyda GE neu gyda llywodraeth y dalaith.

Ond hyd yn oed yn ystod yr amserau drwg parhaodd y Gymdeithas i gynnig rhaglenni Cymreig ac ar hyn o bryd y mae bron i gant o aelodau, a thua chant arall o "gyfeillion".

Mae cyfarfod bron bob mis ac yr ydym yn dathlu Gwyl Dewi-Sant ddiwedd Chwefror neu gychwyn Mawrth. Mae Cymanfa Ganu ym mis Hydref.

Ymdrechwn i gynnig rhaglenni gwahanol gydol yr amser megis Te Mawr, cyngerdd canu gwerin, Gwyl Ffraid/Santes-Dwynwen, a phicnic i gydfynd a'r Gymanfa a Gwyl Dewi-Sant.

Yn dysgu Cymraeg

Nid yn unig y mae saith myfyrwraig yn mynychu dosbarthiadau Cynmraeg ers tair blynedd ond y mae pedwar wedi ymuno a dosbarth newydd ar gyfer rhai sydd heb astudio'r iaith o'r blaen.

Mae'r myfyrwyr ar ein cyrsiau yn amrywio mewn oed o 12 i 80 oed

Delwedd newydd

Yr ydym yn hynod obeithiol wrth edrych ymlaen at y dyfydol gyda tho ifanc braf iawn yn gweithio'n galed i newid delwedd draddodiadol cymdeithasau Cymreig yr Unol Daleithiau o fod yn glybiau y "Blue Hairs" yn llawn hen bobl sydd heb weld y Gymru gyfoes ac sydd ddim eisiau ei gweld.

Wrth gwrs, dydyn ni ddim eisiau colli'r hen genhedlaeth ychwaith ac ymdrechir yn llwyddiannus i godi pontydd rhwng yr hen a'r newydd.

.



Mary Jane Davis HighfiledCyfarfyddodd Lluniau: Cymanfa Ganu'r gymdeithas gyda Mary Jane Davis Highfield, athro ac ieithegydd ym Mhrifysgol Albany, yn darllen o'r Ysgrythur a Darhon Rees-Rohrbacher yn arwain y gynulleidfa (uchod).




Beth am anfon hanes eich cymdeithas Gymraeg chi atom ni hefyd. Ebostiwch 主播大秀 Cymru'r Byd




ewrop

Unol Daleithiau America
Barddoniaeth mewn maen a phren

Gŵyl Dewi 2007
Taffia Chicago


Profiad Cymro ym
Marathon Boston


Ceisio cerflun i Madog

Dysgu Cymraeg ym
mro John Wayne!


Dathlu yng Nghwm Jones!.

Aloah Hawaii

Hawaii: Rhywbeth i bawb yn Kauai

Cwyn Cymry Arizona am y Wall Street Journal

Cofio Goronwy ymhell o gartref

Etholiad America

Lobsgows etholiadau'r Unol Daleithau

Dysgu Cymraeg yng nghefn gwlad Efrog Newydd

Cymraes yn Chicago

Dosbarth Cymraeg Pittsburgh

Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Ci'r Cymry fu'n nofio gydag Arlywydd America

Cymdeithas Gymraeg yn yr Unol Daleithiau

Côr sy'n uno cyfandir

Neges Gŵyl Dewi Bush!

'Pawb a'i Farn' yn Efrog Newydd

Cynghrair Gymraeg Arizona

Ymlacio a dysgu termau newydd

Ar yr hewl yn America

Ymgartrefu mewn ardal gyfeillgar

Etholiad Arlywyddol 2004

Dilyn yr etholiad

Cyhoeddi buddugoliaeth

Galwadau ffôn wrth y miloedd

Dilyn yr etholiad - 3

Dilyn yr etholiad arlywyddol

Aled Edwards yn yr America




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy