主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Mari Morgan, arweinydd y côr Côr sy'n uno cyfandir
Dod â chantorion at ei gilydd ar y we

Mehefin 2002

Cysylltiadau gwe ar ddiwedd yr erthygl

Bydd Côr Cymry Gogledd America ar daith yng Nghymru yn ystod Gorffennaf gan berfformio am y tro cyntaf erioed yng Nghymru yn Nhyddewi, nos Wener, Gorffennaf 5.

Yn dilyn hyn bydd perfformiadau yn:
- Eglwys Gadeiriol Llanelwy nos Sul, Gorffennaf 7
- Eglwys yr Atgyfodiad Trelái, Caerdydd nos Fercher y 10fed. .
- Gyda Chôr y Traeth ym Miwmares Gorffennaf 8
- Blaenau Ffestiniog yn y prynhawn, Gorffennaf 6.

Côr Cymuned yw Côr Cymry Gogledd America, sy'n ymestyn ar draws cyfandir cyfan. Bydd 76 o gantorion ar daith yng Nghymru gan gynrychioli 16 o daleithiau UDA a thair talaith yng Nghanada.

Arweinydd o Lanelli

Ganwyd Mari Morgan, arweinydd y Côr, yn Llanelli a derbyniodd ei haddysg gerddorol yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd, lle y graddiodd gydag anrhydedd, ac yng Ngholeg Cerdd y Drindod yn Llundain.

Cynnwys rhestr perfformiad y Côr nifer o weithiau sy'n hollol newydd i Gymru, sef 'Lifting the Sky' gan Victor Davies (geiriau gan Carolyn
Maddux), Preiddiau'r Cymry' gan David Evan Thomas a Menna Elfyn, Cylch y Cyfaredd' gan Richard Lind a Menna Elfyn; a threfniadau'r emyn dôn 'Rhys' (Rho i'm yr hedd') gan Richard Lind, a Carol y Blwch' gan Keith Davies Jones.

Hefyd, bydd y Côr yn perfformio nifer o ganeuon sy'n adnabyddus iawn i'r Cymry oll - fel darnau o waith Caradog Roberts, T Hopkin Evans, Dilys Elwyn-Edwards, Robat Arwyn, Emyr James, Delyth Rees ac eraill.

Yn 1998, casglwyd 120 o gantorion dros chwe thalaith ar hugain yr Amerig a thair talaith yng Nghanada, drwy weledigaeth Mari Morgan, a fu'n gyfrifol am sefydlu'r Côr.

Diolch i'r rhyngrwyd

Gwnaeth hyn ar ôl sylweddoli fod llawer o Gymry ar hyd a lled Gogledd America yn awyddus i gyfranogi o gerddoriaeth gorawl Gymraeg ar lefel uchel.

Llwyddwyd i uno trwy gyfrwng y rhyngrwyd bobl sy'n byw filoedd o filltiroedd oddi wrth ei gilydd gyda'r aelodau'n cyfnewid cannoedd o lythyrau e-bost. Cyhoeddir amserlenni ymarferiadau a chylchlythyr y Côr ar ei wefan.

Yn ogystal, bu'r we hefyd yn gyfleus i gynorthwyo ein cantorion i ddysgu geiriau a cherddoriaeth drwy ddefnyddio'r dechnoleg i rannu tapiau-sain.

Yn ystod y deunaw mis cyntaf, bu Mari yn brysur iawn groes ynghroes y Cyfandir yn arwain mwy na thri deg o ymarferiadau lleol, mewn dinasoedd ledled yr America.

Cyfarfod mewn Cymanfa

Ym mis Medi 1998, casglwyd dros 70 o gantorion i ymarfer drwy'r dydd yn ystod y Gymanfa Ganu Genedlaethol yng Ngholumbus, Ohio, lle cyflwynwyd y gwaith comisiwn gorffenedig cyntaf y Côr, gosodiad cyffrous o Salm 104 (Up, O my Soul) gan Hilary Tann.

Ar ôl wythnos o ymarferiadau dyfal, perfformiodd y Côr am y tro cyntaf mewn digwyddiad arbennig ym Minneapolis ar Fedi 4 1999.

Bu'r Côr ar y llwyfan yn eu blaen berfformiad yn yr Eglwys Lwtheraidd Ganolog fel prif atyniad y 68fed Gymanfa Ganu Genedlaethol ac ers hynny aeth o nerth i nerth gan ymroi i gyrraedd y safon gerddorol uchaf ac i berfformio yn y Gymraeg gan fwyaf.

Cyfansoddwyr blaenllaw

Yn ogystal â darnau traddodiadol a chyfoes mae'n comisiynu gweithiau gan gyfansoddwyr blaenllaw o blith y Cymry-Americanaidd gan ganolbwyntio ar raglenni bywiog, cyffrous, wedi eu gwreiddio'n ddwfn yn ein hetifeddiaeth Gymreig, ond sydd ar yr un pryd yn cynrychioli profiad unigryw Ogledd-Americanaidd.



Mari MorganMae'n hen bryd i'r ddathliad o Gymreictod yng Ngogledd America beidio a bod yn un unig a hiraethlon. Mae'r amserau wedi newid yng Nghymru ac mae'n bryd inni ddathlu ein dawn greadigol - y ddawn y gwelsom eisoes dystiolaeth ohoni.

Aeth heibio'r blynyddoedd o alltudiaeth ac yn wir mwynhewn y profiad o ddod adre.
gan Keith Davies Jones
Winnipeg
Canada


-
- Mari Morgan oedd Arweinydd y Cymry Tramor yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli.




ewrop

Unol Daleithiau America
Barddoniaeth mewn maen a phren

Gŵyl Dewi 2007
Taffia Chicago


Profiad Cymro ym
Marathon Boston


Ceisio cerflun i Madog

Dysgu Cymraeg ym
mro John Wayne!


Dathlu yng Nghwm Jones!.

Aloah Hawaii

Hawaii: Rhywbeth i bawb yn Kauai

Cwyn Cymry Arizona am y Wall Street Journal

Cofio Goronwy ymhell o gartref

Etholiad America

Lobsgows etholiadau'r Unol Daleithau

Dysgu Cymraeg yng nghefn gwlad Efrog Newydd

Cymraes yn Chicago

Dosbarth Cymraeg Pittsburgh

Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Ci'r Cymry fu'n nofio gydag Arlywydd America

Cymdeithas Gymraeg yn yr Unol Daleithiau

Côr sy'n uno cyfandir

Neges Gŵyl Dewi Bush!

'Pawb a'i Farn' yn Efrog Newydd

Cynghrair Gymraeg Arizona

Ymlacio a dysgu termau newydd

Ar yr hewl yn America

Ymgartrefu mewn ardal gyfeillgar

Etholiad Arlywyddol 2004

Dilyn yr etholiad

Cyhoeddi buddugoliaeth

Galwadau ffôn wrth y miloedd

Dilyn yr etholiad - 3

Dilyn yr etholiad arlywyddol

Aled Edwards yn yr America




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy