主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dosbarth Cymraeg Pittsburgh
Hanes dosbarth Cymraeg Cymdeithas Dewi Sant Pittsburgh gan Pauline Lewis

Ym mis Mawrth 2005 sefydlwyd Dosbarth Dysgu Cymraeg gan Gymdeithas Dewi Sant Pittsburgh.

Yn ystod y sesiwn gyntaf bu'r dosbarth yn dilyn rhaglen Catchphrase y 主播大秀 dros gyfnod o ddeg wythnos.

Erbyn hyn rydyn ni ar ein trydedd sesiwn ac yn defnyddio'r llyfr Welcome to Welsh gan Heini Gruffudd.

Mae'r nifer yn y dosbarth yn dal i gynyddu. Ar hyn o bryd mae gyda ni tua 13 aelod.

Mae'r aelodau'n dysgu Cymraeg am amrywiol resymau.

Mae rhai wedi darganfod fod eu cyndeidiau'n Gymry, mae un aelod wedi priodi Cymro sy newydd symud i'r Unol Daleithiau, tra mae eraill wedi'u hudo gan ddiwylliant Cymru, y bobl ac, wrth gwrs, yr iaith.

Aelodau o'r dosbarth Rhob Evans, siaradwr Cymraeg a ddysgodd Saesneg fel ail iaith, yw ein tiwtor.

Ganwyd Rhob yn Aberystwyth ac fe'i magwyd ym mhentrefi cyfagos Penuwch a Llanilar, lle'r oedd mwyafrif y boblogaeth yn siarad Cymraeg.

Ar ôl cyfnod yn astudio biocemeg, daeth draw i Ogledd America ym 1974.

Bu'n byw yn Indiana, California, Ottawa ac Ohio cyn symud i Pittsburgh ym 1985.

Mae'n aelod o staff Prifysgol Pittsburgh.

Cymraes yw ei wraig, Liz, ac mae ganddynt bedwar o blant: Idris, Rhiannon, Eleri a Teyrnon, a thri chorgi Sir Benfro: Gwen, Dewi a Myfi.

  • Beth am anfon gwybodaeth am eich gweithgareddau Cymraeg chwi mewn gwledydd tramor. Clicio i anfon e-bost - gan roi'r pennawd "Tramor" iddo.






  • ewrop

    Unol Daleithiau America
    Barddoniaeth mewn maen a phren

    Dathlu yng Nghwm Jones!.

    Aloah Hawaii

    Hawaii: Rhywbeth i bawb yn Kauai

    Cwyn Cymry Arizona am y Wall Street Journal

    Cofio Goronwy ymhell o gartref

    Etholiad America

    Lobsgows etholiadau'r Unol Daleithau

    Dysgu Cymraeg yng nghefn gwlad Efrog Newydd

    Cymraes yn Chicago

    Dosbarth Cymraeg Pittsburgh

    Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America

    Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

    Ci'r Cymry fu'n nofio gydag Arlywydd America

    Cymdeithas Gymraeg yn yr Unol Daleithiau

    Côr sy'n uno cyfandir

    Neges Gŵyl Dewi Bush!

    'Pawb a'i Farn' yn Efrog Newydd

    Cynghrair Gymraeg Arizona

    Ymlacio a dysgu termau newydd

    Ar yr hewl yn America

    Ymgartrefu mewn ardal gyfeillgar

    Etholiad Arlywyddol 2004




    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy