主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Lobsgows etholiadau'r Unol Daleithau
Bu Arwyn Jones yn byw yn yr Unol Daleithiau. Yma mae'n ymateb i drafferthion ethol arlywydd newydd yno


Mae Erthygl II o gyfansodiad Unol Daleithiau'r America yn gosod canllawiau sut i ethol arlywydd newydd.

Yn fras: y sawl sydd yn ennill y mwyaf o bledleisiau fydd yn arlywydd

Wrth yn edrych mewn syfrdan dros yr Iwerydd ar y newyddion o America, mae'n anodd credu sut y gallai'r fath lanast ddeillio o broses sydd, a'r bapur, yn un mor syml.

Ond dydi'r digwyddiadau diweddar ddim yn synnu y rhai ohonom sydd wedi byw yno.

Mae byw mewn gwlad ag edrych ar wlad trwy gyfrwng newyddion a ffilm yn brofiadau gwahanol iawn.

Lowbsgows o wahanol bobl

Hanfod yr Unol Daleithiau yw ei bod yn lobsgows o genhedloedd gwahanol iawn i'w gilydd.

Prin yw'r tebygrwydd cynhenid rhwng indiad coch o Utah a gweinydd bwyty pizza yn Efrog Newydd a rhaglenydd cyfrifiaduron o Ddyffryn Silicon California - ond, maen nhw i gyd yn Americaniaid.

Ond yn byw mewn tair talaith sydd filoedd o filltiroedd oddi wrth ei gilydd.

Pob talaith gystal a bod yn wlad

Mae unrhyw un sydd wedi ymweld a mwy nag un dalaith yn sylwi'n syth fod y ffiniau yn llawer mwy na llinell ar fap. Mae gan bob talaith ei senedd a'r rheini yn gosod eu cyfreithiau unigrwy ei hunain.

Maent gystal a bod yn wledydd gwahanol. Yr hyn sy'n eu cadw wrth ei gilydd yw'r Cyfansoddiad.
Ond ai darn o bapur yn unig yw hwn bellach?

Bob pedair blynedd, ar yr ail ddydd Mawrth o Dachwedd, mae'r lobscows yma'n cael ei berswadio i wisgo'r Star-Spangled Banner a dewis ar ddarn o bapur, rhyw ffigwr seliwloid yn arweinydd cenedlaethol.

Dyw'r papur yma'n golygu dim i lawer o'r boblogaeth. Dyna pam yr arhosodd yn agos i'w hanner adref ar y seithfed o Dachwedd eleni.

Byddai mwy wedi aros adref. . .

Ond beth am y gweddill - y ddau chwarter arall a aeth allan i bleidleisio dros Gore neu Bush?
Heb sôn am y rhai a wnaeth farc yn y blwch anghywir!

Tra'n cerdded allan o'r orsaf bledleisio a'r exit poll maent yn siwr o fod yn dyheu am lonydd yn dilyn pledu gwleidyddol y ddwy flynedd ddiwethaf. Y tebygrwyd eleni yw y buasent hwythau wedi aros gartref pe bydden nhw'n gwybod beth fyddai ffrwyth eu pledleisio!

Pwysigrwydd Iowa

Dim ond unwaith bob pedair blynedd y mae talaith Iowa yn sicr o gael ei henw yn y newyddion.. Fel rheol, mae'n llawer iawn mwy adnabyddus fel y Corn State oherwydd ei herwau eang o india-corn. Ond unwaith bob pedair blynedd yma, mewn caucuses, y mae'r ras am y Ty Gwyn yn dechrau, ar ddiwedd Ionawr neu ddechrau Chwefror.

Fel etholaethau'r primaries, nod y rhain yw rhoi cychwyn ar y broses hir o ddewis dau ymgeisydd sydd â digon o arian i ddal ati i ganfasio am yr wyth mis nesaf.

Erbyn diwedd yr haf mae'r etholiadau cyntaf drosodd. Dau fydd ar ôl ac wrth i'r rhain a'u byddinoedd o gynghorwyr ymladd ei gilydd ar hyd a lled y wlad mae'r bobl druan yn wynebu eu hail artaith gwleidyddol.

Seibiant am ddwy flynedd

Ar ôl ethol arlywydd mae'r bobl yn cael seibiant am ddwy flynedd nes bo'r newyddiadurwyr yn ymgasglu i gychwyn unwaith eto yn Iowa.

Ond dydi o ddim yn seibiant o gwbl mew gwirionedd.

Cyrhaeddais i Boston yn Nhachwedd 1997; blwyddyn union wedi i Clinton ennill ei ail dymor a dwy flynedd a mwy cyn Iowa 2000.

Chymerodd hi fawr o amser imi sylwi nad oes dihangfa yn y wlad hon rhag y canfasiwr ar y stryd a'r darlledydd gwleidyddol ar radio a theledu.

Mae'r ffaith fod America wedi ei rhannu fel ag y mae yn golygu fod yn rhaid i'w phobl ethol ymgeiswyr i ddwy senedd a hefyd faeri i eistedd ar orseddi y dinasoedd mwyaf.

Gyda rhai o'r etholaethau hyn yn cael eu cynnal bob yn ail flwyddyn prin yw'r amser pan na fydd yr Americanwr yn cael ei hela am ei bleidlais.

O'r herwydd mae'r bobl wedi tyfu i fod yn ddall a byddar pan ddaw'r canfaswyr gyda'u polion a'u placardiau ar y stryd.

Mae'r posteri ar y polion bob amser yn las llachar a ydynt yn clodfori Democrat neu Weriniaethwr neu beidio.

Yn Boston, ofer yw ymdrechion pawb ond y Democratiaid. Y Kennedys sy'n llywodraethu yno o hyd

Wedi blino a syrffedu

Erbyn Tachwedd y seithfed roedd pobl America wedi blino a laru. Doedd hi ddim ots ganddyn nhw pwy fyddai'n cael yr allwedd i'r Ty Gwyn.

Dydyn nhw chwaith ddim yn poeni rhyw lawer am dynged eu gwlad yn ei chyfanrwydd.

Mae ganddyn nhw lai fyth o ddiddordeb yn yr hyn sy'n digwydd dramor.

Trodd yr Americanwr cyffredin yn greadur eithriadol o blwyfol heb fawr o ddiddordeb mewn unrhyw beth sy'n diwgydd y tu draw i ffiniau ei blwyf ei hun.

Bellach mae tuedd i'r Unol Daleithiau fod yn gasgliad o gymunedau annibynnol - tebyg iawn i gymunedau'r brodorion gwreiddiol a ddinistriwyd gan yr ymsefydlwyr cynnar er mwyn cael eu darn o'r gacen fawr Americanaidd.




ewrop

Unol Daleithiau America
Barddoniaeth mewn maen a phren

Gŵyl Dewi 2007
Taffia Chicago


Profiad Cymro ym
Marathon Boston


Ceisio cerflun i Madog

Dysgu Cymraeg ym
mro John Wayne!


Dathlu yng Nghwm Jones!.

Aloah Hawaii

Hawaii: Rhywbeth i bawb yn Kauai

Cwyn Cymry Arizona am y Wall Street Journal

Cofio Goronwy ymhell o gartref

Etholiad America

Lobsgows etholiadau'r Unol Daleithau

Dysgu Cymraeg yng nghefn gwlad Efrog Newydd

Cymraes yn Chicago

Dosbarth Cymraeg Pittsburgh

Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Ci'r Cymry fu'n nofio gydag Arlywydd America

Cymdeithas Gymraeg yn yr Unol Daleithiau

Côr sy'n uno cyfandir

Neges Gŵyl Dewi Bush!

'Pawb a'i Farn' yn Efrog Newydd

Cynghrair Gymraeg Arizona

Ymlacio a dysgu termau newydd

Ar yr hewl yn America

Ymgartrefu mewn ardal gyfeillgar

Etholiad Arlywyddol 2004

Dilyn yr etholiad

Cyhoeddi buddugoliaeth

Galwadau ffôn wrth y miloedd

Dilyn yr etholiad - 3

Dilyn yr etholiad arlywyddol

Aled Edwards yn yr America




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy