主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dilyn yr etholiad arlywyddol
Ail gyfraniad Aled Edwards o'r Unol Daleithiau

Hydref 29 2008
Y Cwestiwn Sydd Eto i'w Ateb - Y Cwestiwn Lliw
Y mae hi'n dipyn o daith ar droed.
Fe gymerodd cerdded o ardal dociau San Francisco at bont y Golden Gate dipyn o amser i mi a pheth braf oedd cael pryd mewn tŷ bwyta a siop dwristaidd ei hanian wrth droed y bont.

Gyferbyn â mi daeth dwy wraig a oedd yn amlwg yn gyfeillion agos i drafod gwleidyddiaeth.
Un yn pryderu'n fawr bod ei thad, sy'n Fwslim, am bleidleisio dros McCain.

Rhyfeddai'r llall gan ei bod yn byw yn Arizona, talaith McCain.
Dyn cas yw McCain meddai hi gan fynd ymlaen i fynegi barn bod y Democratiaid wedi bod yn hynod o ddoeth i gadw rôl Michelle Obama yn gymharol isel ei sylw yn yr ymgyrch.

Dywedodd yn dawel, ond nid yn ddigon tawel i mi beidio clywed: "Mae hi'n rhy gryf fel personoliaeth, yn rhy alluog ac yn amlwg ddu."

Obama'Wedi ein eneinio'!
Yn y cyfamser, tu allan i hen farchnad San Francisco y mae Lonzel, a'i gyfeillion du eu croen, yn gwerthu bathodynnau Barack Obama a chrysau T wrth eu cannoedd. Fe fyddai maes o law, yn rhoi cerdyn bach i mi y byddaf yn ei drysori: cerdyn sydd yn fy nynodi yn "Official Barack Obama supporter".

Mae'n rhannu miloedd ohonyn nhw ac wrth drosglwyddo ei gerdyn adnabod du a gwyn i mi, sydd yn ei ddynodi yntau yn gynrychiolydd maes ar ran yr ymgyrch, dywedodd yn eofn:

"Mae hwn wedi ei eneinio gan Dduw ar gyfer yr awr yma."

Os caiff Obama ei ethol fe fydd y baich yna yn un trwm i'w gario. Y mae'r gymuned ddu wedi eu hennill - trafodir Obama ar yr un gwynt â phethau sy'n perthyn i obaith crefyddol.

Mae'r holl bolau piniwn a'r hyn sy'n digwydd ar lawr daear yma yn awgrymu taw Barack Obama fydd Arlywydd nesaf yr Unol Daleithiau.

Y golygfeydd sy'n fy rhyfeddu i yw'r miloedd o ddinasyddion ar draws America yn ciwio am oriau bythefnos cyn yr etholiad i bleidleisio'n gynnar.

Unwaith eto, dywed y polau piniwn sy'n cael eu dadansoddi ar sail yr hyn a ddywed pobl wrth adael y blychau pleidleisio fod Barack Obama ar y blaen.

Yn 1982
Digwydd sylwi wrth deithio o un lle i'r llall ar erthygl drawiadol ar dudalen flaen y San Francisco Chronicle gan Leslie Fulbright yn dwyn i gof un atgof poenus sy'n parhau yng nghefn meddwl ambell un yma:

Yn 1982, fe ymdrechodd Maer Los Angeles, Tom Bradley, i gael ei ethol yn governor du ei groen cyntaf California. Ychydig ddyddiau cyn yr etholiad roedd Bradley 7% ar y blaen ond ar y diwrnod, ei wrthwynebydd gwyn, George Deukmejian, oedd yn fuddugol.

Dywedodd mwy nag un yma eu bod yn ofni y gallai'r un peth ddigwydd eto. Nid felly meddai Fulbright, y mae'r peth yn annhebygol y tro hwn. Ceir nifer o resymau am hynny.

Yn ddiamau, fe fydd rhai yn America yn gwrthod pleidleisio dros Obama oherwydd ei fod yn ddu ei groen a'r hyn a ddywed y polsters, sy'n eithaf cywrain eu crefft erbyn hyn, yw bod pobl o'r fath yn cydnabod eu bod yn pleidleisio dros McCain.

Fel y dywedodd John Zogby, polster uchel ei barch, "Ymae ganddon ni bigots anrhydeddus."



McCain Y maen nhw'n dweud yn union beth yw eu barn. Fe gollodd Bradley am nifer o resymau eraill heblaw lliw ei groen. Yn un peth, cafwyd methiant ar ei ran i gael ei gefnogwyr i bleidleisio. Dengys y ciwio mawr sydd i'w weld heddiw yn America, na fydd hynny yn digwydd eleni. Y mae ymgyrch Obama yn pwyso pob pleidlais mewn aur.

Ar y ffôn
Bûm i lawr yn swyddfa ymgyrch Obama yn Berkeley ac mae'r lle yn llawn o gefnogwyr brwd yn ffonio pleidleiswyr sydd angen eu perswadio a phob tro y mae rhywun yr ochr arall i'r ffôn yn dweud eu bod am bleidleisio dros Obama y mae'r sawl sy'n ffonio yn canu cloch ac mae'r swyddfa i gyd yn dathlu.

Y mae hwn i mi yn fath newydd o ymgyrchu gwleidyddol ac fe ddywed swyddogion profiadol swyddfa Obama yr un peth.

Y dadansoddiad mwyaf trawiadol ynghylch cwestiwn hil yw'r un o eiddo Dan Hopkins o brifysgol Havard. Fe sylwodd ef, yn y cyfnod rhwng 1989 a 1996, y gallai ymgeiswyr du eu croen golli ar y diwrnod rhwng 2-3% o'r bleidlais a addawyd mewn polau.

Daeth tro ar fyd o bwys yn 1996 o'r gymuned ddu ei hun. Yn ôl Hopkins, fe beidiodd Americanwyr o dras Affricanaidd, drafod materion cymdeithasol a throseddu o lwyfan cyfyng anghyfiawnder hiliol ond trafod yr anawsterau hyn fel rhai sy'n poeni pawb.

Dechreuwyd trafod problemau cymdeithasol yng nghyswllt ehangach gwleidyddiaeth America.

Yr Iddewon
Cefais y fraint y noson o'r blaen o fynychu addoliad yn Sherith Israel sy'n fan addoliad godidog o eiddo Iddewon San Francisco.

Wedi'r addoliad bu dadl rhwng cynrychiolwyr ymgyrchoedd McCain ac Obama ar agwedd y ddau tuag at Israel.

Democratiaid rhonc yw Iddewon San Francisco. Y maen nhw hefyd yn rhyddfrydol eu hagwedd tuag at gwestiynau fel priodasau cyplau o'r un rhyw.

Fe gefais y fraint o deithio yn ôl ar y trên BART gyda'r rabi. Roedd ei chwmni'n braf a'i sgwrsio'n ddadlennol a throdd y sgwrs rhwng dau ar y trên yn seiat holi gyda grŵp amryliw o gefnogwyr brwd Obama a oedd yn digwydd teithio yr un pryd.

Yn San Francisco o leiaf, ceir ymdeimlad bod y byd ar drothwy cyfnod newydd.

Crefft wleidyddol fwyaf Barack Obama yw iddo ddeall bod angen iddo ymestyn allan o'i ddiwylliant ei hun mewn modd sy'n well na neb o'i debyg a ddaeth o'i flaen.

Mynd i'r afael â'r ddealltwriaeth hon a mynnu bod anawsterau cymdeithasol ac economaidd yn gyffredin i bawb fydd yr un peth yn fwy na dim arall, ymhen llai na phythefnos, fydd yn golygu taw'r gwleidydd Affro Americanaidd hwn fydd y cyntaf i daro drws y Tŷ Gwyn gydag unrhyw obaith o gipio'r Arlywyddiaeth.

Gweld yr America
Ceir sibrwd tawel ar gyfer yr isymwybod ym mhob man gan Palin a McCain nad yw Obama yn gweld America fel y maen nhw yn gweld America.

Nid oes modd bellach iddyn nhw ddweud yn agored ei fod yn gweld America fel dyn du cyfyng ei orwelion ac yn hyn o beth, y mae'r ddau ohonyn nhw yn hollol gywir.

O bosib mai eu methiant pennaf hyd yma yw'r anallu i werthfawrogi dawn ryfeddol Barack Obama i argyhoeddi digon yn America ei fod yn gweld y diwylliant Gweriniaethol yn union fel y maen nhw yn gweld y Gweriniaethwyr - yn arbennig George W Bush.

Ymddengys bod ymgyrch McCain yn dweud yr un pethau wrth bobl o'r un fath; y mae Obama yn dweud pethau newydd wrth bobl newydd.

Oherwydd hyn, y mae'n argoeli ar hyn o bryd na fydd yn dioddef yr un tranc â Tom Bradley yn 1982.
Ond, y mae ychydig dros wythnos yn weddill. . .





cysylltiadau
  • Erthyglau eraill Aled Edwards o'r Unol Daleithiau

  • ewrop

    Unol Daleithiau America
    Barddoniaeth mewn maen a phren

    Dathlu yng Nghwm Jones!.

    Aloah Hawaii

    Hawaii: Rhywbeth i bawb yn Kauai

    Cwyn Cymry Arizona am y Wall Street Journal

    Cofio Goronwy ymhell o gartref

    Etholiad America

    Lobsgows etholiadau'r Unol Daleithau

    Dysgu Cymraeg yng nghefn gwlad Efrog Newydd

    Cymraes yn Chicago

    Dosbarth Cymraeg Pittsburgh

    Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America

    Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

    Ci'r Cymry fu'n nofio gydag Arlywydd America

    Cymdeithas Gymraeg yn yr Unol Daleithiau

    Côr sy'n uno cyfandir

    Neges Gŵyl Dewi Bush!

    'Pawb a'i Farn' yn Efrog Newydd

    Cynghrair Gymraeg Arizona

    Ymlacio a dysgu termau newydd

    Ar yr hewl yn America

    Ymgartrefu mewn ardal gyfeillgar

    Etholiad Arlywyddol 2004




    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy