主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Ymgyrch Obama Dilyn yr etholiad - 3
Trydydd cyfraniad Aled Edwards am ymgyrch arlywyddol 2008 yn yr Unol Daleithiau

'Ffordd Newydd o Wleidydda'
Roedd nos Fercher wythnos olaf lawn yr ymgyrch arlywyddol yn achlysur arbennig yn swyddfa Obama for America ar gyrion San Francisco.

Aled Edwards Yn gynharach yn y dydd, cyhoeddwyd rhai polau piniwn yn dangos bod y gefnogaeth i Barack Obama yn aros yn gadarn a'r gefnogaeth i McCain ar rywfaint o gynnydd.

Daeth llu o bolau piniwn i law yn dangos mwyafrifoedd bychan i Obama yn y taleithiau hynny all fynd yr un ffordd neu'r llall - ond bychan yw'r mwyafrifoedd.

Cafwyd ymdeimlad o nerfusrwydd newydd ymhlith y llu o wirfoddolwyr sydd bellach yn cynnal yr ymgyrch hon yn y modd mwyaf rhyfeddol.

Bellach, nid ymgyrch wleidyddol sydd wrth gefn Barack Obama ond ffordd o fyw. Y mae hen filwyr llawr daear ymgyrchwyr y Democratiaid sy'n cofio ymgyrchoedd Gore a Kerry yn cofio'r colli. I ran helaeth, mae'r colli hwn ym mêr esgyrn yr ymgyrchwyr hyn. Hynny i ryw raddau sy'n peri iddyn nhw weithio hyd yr eithaf.

Darllediad hanner awr
Hon hefyd oedd noson dangos hysbyseb 30 munud Obama ar sawl sianel a'r amser wedi ei brynu'n rhannol gydag arian cefnogwyr California.

Fel y dywedodd un gwirfoddolwr bodlon: "Ni ydi ATM yr ymgyrch."

Gellir dweud yr un peth am Efrog Newydd mae'n debyg. Nid oes gan ymgyrch McCain yr adnoddau i wneud yr un modd.

Yn dilyn yr hysbyseb, cafwyd cymeradwyaeth uchel ac fe ddaeth un o swyddogion rhanbarthol yr ymgyrch i chwipio'r gwirfoddolwyr â sêl brwdfrydig ar gyfer un ymdrech fawr olaf.

Ymgyrchu gwahanol iawn
Y mae ymgyrchu gwleidyddol yr Unol Daleithiau yn wahanol iawn i'r hyn a geir yng Nghymru. Yn un peth, mae'r cyfryngau torfol yn amlwg bleidiol weithiau; gan gynnwys teledu a radio.

Ceir egni rhyfeddol sy'n ddieithr i'r llygad Ewropeaidd ymysg y cefnogwyr hefyd. Ond, fe ddywed pawb yma bod ymgyrch Barack Obama eleni wedi agor pennod newydd yn y ffordd y mae'r ymgyrch wedi gweithio fel peiriant perswadio pleidleiswyr.

Y rhyngrwyd
Cafwyd llawer o sôn hyd yma am y defnydd a gafwyd o'r rhyngrwyd yn arbennig wrth godi arian, ennill gwirfoddolwyr a chael negeseuon allan i'r ffyddlon.

Mae hyn i gyd yn wir, ond pethau eraill sy'n gwneud yr ymgyrch yma'n hynod lwyddiannus: fel cynnig polisïau gofalus a chael peirianwaith yr ymgyrch i weithio fel cloc sydd byth yn methu wrth werthu'r polisïau hynny.

Iechyd
Cefais flas ar faes polisi'r noson o'r blaen wrth wrando ar Helen Halpin, Athro Gofal Iechyd yn Berkeley, sy'n bleidiol i Obama. Yn y maes yma, y mae dealltwriaeth rhywun sy'n dod o gefndir gwlad a greodd y gwasnaeth iechyd cenedlaethol yn wahanol iawn i ddiwylliant cyhoeddus America. Helen Halpin
Nid yw'r peth yn rhan o'u diwylliant gwleidyddol.

Yn rhyfeddol, mewn gwlad mor gyfoethog, y mae gan yr Unol Daleithiau lefelau o farwolaethau ymysg babanod sy'n waeth na'r hyn a geir yng Nghymru.

Y mae'r ffordd Americanaidd o ddarparu iechyd hefyd yn eithriadol o ddrud i unigolion ac i gyflogwyr.

Dadleuodd y bythol ogleisiol Michael Moore, sut y mae'r Ffrancwyr yn cael gwasanaeth iechyd cyfan am 3% yn ychwanegol ar dreth incwm o'i gymharu ag America.

Tybia unrhyw Americanwr sy'n meddwl am y peth, bod pobloedd Ewrop yn talu llawer mwy o drethi ac mae hyn yn wir ond bod yr Americanwyr hefyd yn talu ond mewn ffyrdd gwahanol - a thalu llawer mwy.

Y mae'r teulu Americanaidd yn talu ar gyfartaledd, yn ôl Michael Moore, $12,000 y flwyddyn mewn taliadau yswiriant ar ran yr unigolyn a'r cyflogwr. Profiad cwbl ddieithr i'r Cymry erbyn hyn yw gorfod talu swm cyfatebol i $300 am bresgripsiwn.

Y bore wedi darlledu hysbyseb 30 munud Obama cafwyd hanes Crystal D Kilpatrick sy'n wraig iach 33 oed o Austin yn Texas ar dudalen flaen y New York Times yn dewis gohirio cael plentyn gan nad yw ei hyswiriant yn cynnwys cyfnod mamolaeth.

O fod yn feichiog a rhoi genedigaeth byddai'n rhaid iddi dalu $8,000 ychwanegol o'i phoced.

Cynllun yswiriant
Nid yw Barack Obama yn cynnig gwasanaeth iechyd cenedlaethol ond y mae'n cynnig Cyfnewidfa Yswiriant Iechyd Cenedlaethol fydd yn galluogi unigolion i brynu cynllun cyhoeddus neu gynllun preifat amodol.

Yn gwbl ryfeddol i unrhyw glust Brydeinig, y mae'n mynd i fynnu bod gan bob plentyn yswiriant iechyd. Y mae McCain yn cynnig credud wedi ei dalu yn ôl ar dreth incwm ar gyfer prynu yswiriant nad yw'n fwy na $2,500 i unigolion a $5,000 i deuluoedd.

Wedi derbyn manylion McCain mewn dadl y noson o'r blaen awgrymais yn dawel wrth un o arweinyddion y Democratiaid, taw oferedd oedd cynllun y Gweriniaethwyr gan mai'r unig beth fyddai yn ei wneud yng nghyswllt marchnad rydd y byd iechyd Americanaidd fyddai bwydo chwyddiant costau meddygol.

Cytunodd - ond nid felly y mae Americanwyr yn trafod darpariaeth iechyd. Camgymeriad fyddai gwerthuso'r cyfan drwy lygaid Cymreig.

Tanlinellodd Halpin taw amcan Obama oedd cynnig darpariaeth i bawb drwy gyfuniad o'r cyhoeddus a'r preifat ac mai amcan McCain oedd lleihau costau cyhoeddus a rhyddhau'r unigolyn yn ariannol.

Yn y fan hon - a'r gwahaniaeth sylfaenol rhwng dwy ffordd o feddwl yn wleidyddol - y bydd brwydr fawr Tachwedd 4 yn cael ei hymladd.

McCain Y mae rhesymeg McCain yn meddu ar gefnogaeth ddofn yma. A beth bynnag, fel y dywed Michael Moore a'i dafod yn ei foch, nid yw Americanwyr yn hoff o drethi gan nad oes ganddyn nhw, yn nhermau bywyd beunyddiol, ymwybyddiaeth o dderbyn rhyw lawer am eu harian.

Y mae athroniaeth greiddiol McCain a Palin felly yn hynod o boblogaidd ac yn anodd ei symud.

Rhyfeddod mawr Obama yw iddo lwyddo, hyd yma, i herio'r hyn sy'n gyfarwydd yn dilyn derbyn dealltwriaeth economaidd Reagan a'i debyg.

Fe gafwyd llwyddiant hyd yma nid yn unig oherwydd cryfder carisma Obama ond oherwydd ymgyrchu gwleidyddol mwyaf rhyfeddol.

Ffonau symudol
Gydol yr wythnos hon, fe beidiodd rhannau o fyddin gwirfoddolwyr Obama â ffonio pleidleiswyr taleithiau New Mexico, Ohio a Nevada a dechrau ffonio Democratiaid lleol i ofyn am wirfoddolwyr dros y penwythnos olaf.

Gan ddeall y gall un ym mhob 25 pleidleisiwr fethu a phleidleisio ar y diwrnod, rhoddwyd cynlluniau ar waith sy'n gofalu bod o leiaf miliwn o alwadau ffôn yn cael eu gwneud yn ddyddiol o hyn tan ddiwedd yr ymgyrch.

Y mae Obama nid yn unig yn gwneud defnydd llawn o'r rhyngrwyd y mae'n gwneud defnydd aruthrol o ffonau symudol gwirfoddolwyr hefyd.

Cawn weld beth ddaw dydd Mawrth nesaf.
Ond, fel dieithryn yng nghanol y cyfan, cafwyd un argyhoeddiad ar fy rhan: Os gall Obama arwain gwlad fel y mae'n arwain ymgyrch wleidyddol y mae ganddo lawer i'w gynnig nid yn unig i'r America ond i wleidyddiaeth y byd hefyd.

Y mae ganddo ffordd gwbl newydd o hyrwyddo ymgyrchu gwleidyddol.

  • Sylwadau eraill Aled Edwards o'r Unol Daleithiau




  • cysylltiadau
  • Erthyglau eraill Aled Edwards

  • ewrop

    Unol Daleithiau America
    Barddoniaeth mewn maen a phren

    Dathlu yng Nghwm Jones!.

    Aloah Hawaii

    Hawaii: Rhywbeth i bawb yn Kauai

    Cwyn Cymry Arizona am y Wall Street Journal

    Cofio Goronwy ymhell o gartref

    Etholiad America

    Lobsgows etholiadau'r Unol Daleithau

    Dysgu Cymraeg yng nghefn gwlad Efrog Newydd

    Cymraes yn Chicago

    Dosbarth Cymraeg Pittsburgh

    Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America

    Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

    Ci'r Cymry fu'n nofio gydag Arlywydd America

    Cymdeithas Gymraeg yn yr Unol Daleithiau

    Côr sy'n uno cyfandir

    Neges Gŵyl Dewi Bush!

    'Pawb a'i Farn' yn Efrog Newydd

    Cynghrair Gymraeg Arizona

    Ymlacio a dysgu termau newydd

    Ar yr hewl yn America

    Ymgartrefu mewn ardal gyfeillgar

    Etholiad Arlywyddol 2004




    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy