主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Galwadau ffôn wrth y miloedd
Pedwerydd adroddiad Aled Edwards o ganol ymgyrch Obama yng Nghaliffornia

Y Sul Olaf
Heddiw, fe brofais rywbeth na welodd y byd gwleidyddol modern eidebyg o'r blaen.

Y mae hi bellach yn nos Sul yma yn San Francisco; nos Sul olaf ymgyrch wirioneddol hir ar gyfer y Tŷ Gwyn.

Y mae'r lleng a aeth ati heddiw yn Berkeley i ffonio taleithiau fel Florida, Montana, Ohio a Colerado ar ran Barack Obama i gyd wedi blino'n lân ond maen nhw'n barod ar gyfer llafur un diwrnod arall. Un diwrnod arall cwbl ryfeddol yn hanes gwleidyddiaeth America.

Yn gynnar y bore yma, daeth cais dros y ffôn ar i mi fynd draw i swyddfeydd ymgyrch Obama i gynorthwyo gyda'r niferoedd a fyddai'n dod i wneud galwadau ffôn.

Y mae pawb sy'n dangos unrhyw grebwyll gwleidyddol yn ymgyrch Obama yn cael dyrchafiad cyflym yn ystod yr oriau olaf hyn. Roeddwn wedi meddwl mynd i addoli, ond roedd rhyw ymdeimlad o frys yn yr alwad. Fe weddiais yn dawel a darllen rhywfaint ar fy Meibl a dirnad taw mynd am swyddfeydd yr ymgyrch oedd orrau.
Heddiw, byddai Duw yn deall.

Erbyn yr amser i mi gyrraedd yr oedd y swyddfa yn dechrau llenwi gyda gwirfoddolwyr brwd. Gan fod yr un swyddfa yma yn cyflym orlenwi gofynnwyd i mi ymuno â thîm o dri mewn ail swyddfa a fyddai'n rhoi cwrs dau funud i'r rhai a fyddai'n ffonio am oriau maith.

Yn y stryd
Yn gyflym, fe aeth yr ail swyddfa i orlenwi ac fe aeth eraill i agor trydedd swyddfa.

Gydag amser cinio yn agosau fe es allan o'r swyddfa am ysbaid a gweld golygfa cwbl ryfeddol. Degau o bobl wedi meddiannu stryd gyfan ac y gwneud galwadau ffôn yn eu miloedd.

Bydd yr olygfa honno yn aros yn hir yn y cof. Erbyn diwedd dydd, cafwyd gobaith ar ran ymgyrch Obama i'r tair swyddfa gynhyrchu dros 50,000 o alwadau ffôn y Sul olaf hwn.

Nid yr hacs gwleidyddol arferol oedd y rhain ond pobl ifainc, gwragedd beichiog anghyfforddus, gwragedd canol oed parchus, dynion hŷn a hyd yn oed cleifion oedrannus.

Y mae deunydd creu hanes fel craig. Y mae niferoedd mawr yma am hawlio talp o'r graig sydd ar fin codi i'r wyneb. Y mae gen i ddamcaniaeth arall. Cymaint yw'r ofn yma y gallai Obama golli, y mae nerfusrwydd yn peri i bobl fod eisiau gwneud rhywbeth. Y mae gwneud dim yn artaith.

Y mae'r ymgyrch Obama yn rhoi yard sign i bawb sy'n gwneud 75 galwad ac yn ymrwymo i wneud shift arall. Gofynnodd rhywun pam fod pobl am gael arwydd mor hwyr â hyn yn y dydd. Fe atebais innau mai rhywbeth i'w gadw am byth fyddai'r yard sign.

Rhoddion
Ar gais gwirfoddolwyr sychedus, gofynnais am ychydig o ddŵr mewn siop cyfagos. Dygwyd blychau a boteli cyfain am ddim. Ddiwedd dydd, gofynnais am pizza bychan a photel o Coka Cola. Fe'm hanfonwyd yn ôl i'r swyddfa gyda bocs enfawr o pizzas. Fe fynnodd y perchennog mai ond extra large oedd yn weddus i swyddfa Obama.

Yr hyn sy'n rhyfeddol, yw bod y cyfan yn cael ei wneud a'i roi gyda'r fath frwdfrydedd er mwyn ethol gwleidydd.

Cafwyd ymdrech ganol dydd i gael y gwirfoddolwyr i ddefnyddio system ffonio awtomatig a oedd yn ennyn ymatebion cyfrifiadurol. O weld nad oedd y system yn gweithio'n effeithiol, symudwyd yn fuan i'r hen drefn o gael y fyddin o wirfodolwyr i ffonio gyda bysedd.

Y mae pawb fu wrthi heddiw yn deall nad Berkeley yw gweddill America. Fe gofiodd pob un a aeth ati i alw pob ymateb a oedd yn bleidiol i McCain. Bu raid i mi atgoffa hyd yn oed gwirfoddolwraig sy'n seiciatrydd bod galwad negyddol yn aros yn y cof yn llawer hwy na neges gadarnhaol.
Dwi'n cofio hynny o ymgyrch ddatganoli 1997.

Pethau'n agos
Yn hwyr yn y dydd, gyda'r strydoedd yn gwagio a'r tair swyddfa wedi crynhoi i'r un wreiddiol, cafwyd croesawu brwd. Croesawyd y rhai a aeth i Nevada i ymgyrchu fel cenhadon yn dychwelyd i seiat. Dywedwyd yn dawel bod pethau'n agos yno. Bydd y ffonio yn parhau yfory.

Dywedwyd yn dawel y gallai California gyhyrchu dros hanner galwadau ffôn y'r ymgyrch ar draws America gyfan. Gwaith y ffyddloniaid yn y taleithiau eu hunain yw mynd o ddrŵs i ddrŵs. Maen nhw'n gwneud hynny.

Felly, y mae'r ymgyrch yma wedi ei phwyso'n ofalus. Gwelir pa mor ofalus ymhen ychydig oriau.

Beth bynnag, y mae un peth yn sicr. Ni fydd ymgyrchu gwleidyddol byth yr un fath eto.

Y mae ymgyrch Barack Obama wedi ail ysgrifennu'r llyfr. Y mae'n gyfuniad mwyaf rhyfeddol o egni a brwdfrydedd y chwith ac effeithiolrwydd y dde yng ngwleidydiaeth America.






cysylltiadau
  • Rhagor am etholiad arlywyddol 2008

  • ewrop

    Unol Daleithiau America
    Barddoniaeth mewn maen a phren

    Dathlu yng Nghwm Jones!.

    Aloah Hawaii

    Hawaii: Rhywbeth i bawb yn Kauai

    Cwyn Cymry Arizona am y Wall Street Journal

    Cofio Goronwy ymhell o gartref

    Etholiad America

    Lobsgows etholiadau'r Unol Daleithau

    Dysgu Cymraeg yng nghefn gwlad Efrog Newydd

    Cymraes yn Chicago

    Dosbarth Cymraeg Pittsburgh

    Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America

    Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

    Ci'r Cymry fu'n nofio gydag Arlywydd America

    Cymdeithas Gymraeg yn yr Unol Daleithiau

    Côr sy'n uno cyfandir

    Neges Gŵyl Dewi Bush!

    'Pawb a'i Farn' yn Efrog Newydd

    Cynghrair Gymraeg Arizona

    Ymlacio a dysgu termau newydd

    Ar yr hewl yn America

    Ymgartrefu mewn ardal gyfeillgar

    Etholiad Arlywyddol 2004




    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy