主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Aled Edwards Cyhoeddi buddugoliaeth
Cyfrabniad olaf Aled Edwards a fu'n dyst i'r ymgyrch fawr i ethol Barack Obama

'Trysori Buddugoliaeth'
Fel yr oeddwn yn meddwl y byddai ymgyrch Obama for America yn llacio rhywfaint yn ystod oriau olaf diwrnod yr etholiad daeth un o'r rheolwyr i mewn i'r swyddfa yn Berkeley i ddatgan bod Barack Obama ei hun wedi ffonio i ofyn i'r fyddin ffyddlon o wirfoddolwyr yn California ddechrau ffonio Missouri.

Roedd hyn yn newyddion da ar un wedd i unrhyw un sy'n deall map gwleidyddol America oherwydd awgrymai'r newid fod Pennsylvania yn ddiogel ym meddiant Obama ynghyd ag Ohio.

Gan edrych ar y cloc, daeth neges dawel bellach i isymwybod y cefnogwyr fod taleithiau fel Colerado, New Mexico, Nevada, Oregon a Washington hefyd yn ddiogel.

Tybiais innau yn dawel taw math o orchest wleidyddol oedd chwipio'r ffyddloniaid am ddwy awr arall er mwyn ennill Missouri.

Ond, ymgyrch Obama for America oedd hon. Roedd y gwaith o ffonio i barhau am ychydig oriau eto. Ni fyddai'r peiriant anhygoel hwn y cefais fod yn rhan ohono yn pallu. Erbyn hyn, ni allai'r llewpard hwn newid gwedd ei groen.

Gyda'r gwirfoddolwr olaf yn dweud taw ond chwarter awr arall oedd ar ôl yn Missouri fe ddywedwyd wrth bawb oedd yn weddill fod y swyddfa'n cau.

Byddai'n rhaid i unrhyw bleidleisiwr truan y pen arall i'r ffôn redeg nerth yr enaid i gyrraedd gorsaf bleidleisio! Roedd brwydr Missouri drosodd.

Canlyniad Missouri
Wrth i mi ysgrifennu hyn o lith, nid yw canlyniad Missouri wedi ei gyhoeddi. Erys y cyfan yn rhy agos. Felly hefyd North Carolina.

Fel y meddyliwyd y gallai pawb symud i lawr i'r parti yn Oakland daeth anogaeth bellach ar i bawb ddechrau ffonio Nevada o'r swyddfa ac fel y byddai gwirfoddolwr yn gorffen un rhestr ffonio byddai'n derbyn un arall a'r hyn oedd yn fy rhyfeddu oedd parodrwydd anhygoel y gwirfoddolwyr hyn i ddal ati.

Caniatawyd ysbaid i wrando rhywfaint ar CNN. Daeth newyddion da o'r dwyrain fod Pennsylvania ac Ohio wedi eu hennill. Roedd ymdrech McCain drosodd. Byddai'n rhaid iddo ennill taleithiau'r gorllewin.

Y noson honno, ni fyddai hynny'n digwydd. Daeth yr ymdrech i ben y funud honno a gafodd ei phennu wythnosau cyn hynny rywle yng nghanol peirianwaith Obama for America.

Golygfeydd rhyfeddol
Cafwyd heidio cyflym i lawr i Oakland mewn pryd i glywed un o'r rhwydweithiau yn cyhoeddi bod Obama wedi ennill ac o'm cwmpas roedd golygfeydd rhyfeddol: neidio, canu, dawnsio, wylo a'r dathlu mwyaf rhyfeddol fel pe byddai cenedl rhywsut wedi canfod ei hun.

Yn sydyn, daeth wyneb John McCain ar y sgrin fawr i ddatgan iddo longyfarch Barack Obama ar ei lwyddiant ac yn y modd mwyaf didwyll, mi dybiaf, tanlinellodd ei fod yn gwerthfawrogi pwysigrwydd yr achlysur i bobloedd Affro Americanaidd yr Unol Daleithiau.

"He's still not getting it," meddai gwraig ddu wrth fy ochr; "Obama is for all Americans."

Sylweddolais innau rywbeth am hanfod yr etholiad a ddaeth i ben. Fe siaradodd McCain a Palin yn huawdl wrth y cyfarwydd gan godi ofnau ond fe gyffyrddodd Obama a Biden ar yr hyn oedd y tu draw i orwelion pobl gan daro ar gyfanrwydd gobaith.

Mawredd mawr
Ar yr union funud priodol, aeth y sgrin fawr i gyfeiriad yr 125,000 a oedd yn disgwyl yn eiddgar yn Grant Park, Chicargo a chefais fy nharo gan fawredd yr hyn a oedd newydd ddigwydd.

Roedd America newydd ethol dyn du o'r enw Barack Hussein Obama yn Arlywydd. Cant a hanner o flynyddoedd yn ôl, fe fyddai'r teulu sydd bellach ar fin troi'n deulu cyntaf America yn eiddo i rywun arall. Ar gael i'w prynu a'u gwerthu yn ôl chwiw meistri.

Efallai bod Obama ar gyfer cyfanrwydd America ond ar y funud fuddugoliaethus hon roedd yn fwyaf arbennig ar gyfer pobl ei gefndir arbennig ei hun. Yr oedd hwn, yn ôl y New York Times yn gatharsis cenedlaethol.

Wedi clywed yr anerchiad a roddwyd cafwyd gorfoleddu anhygoel yn Oakland. Cefais fy annog gan un o dîm ymgyrchu Berkeley i fynd allan i weld yr hyn a oedd yn digwydd ac roedd dinas gyfan yn gorfoleddu mewn llawenydd.

Nid oeddwn yn disgwyl golygfeydd o'r fath. Y strydoedd ar stop. Pawb yn gweiddi, "Yes, we can" ac yn cyfarch ei gilydd â "high fives".

Yr hanes
Drannoeth y fuddugoliaeth, wrth deithio i lawr i weld Bill, un o'r Democratiaid lleol a fu mor garedig â threfnu rhywfaint ar fy ymweliad, sylwais ar ddyfyniad bachog o eiddo un o'r papurau newydd: "We are no longer ruled by monsters."

Yr oedd yn orddweud creulon ond yn fynegiant cywir o ryddhad.

Gofynnais i Bill, a fu yn New Mexico rhag ofn y byddai trafferthion cyfreithiol yno, a fyddai manylion llawn y modd y cynlluniwyd y fuddugoliaeth hon yn dod i'r amlwg.

"Na," meddai, "nid o'r ymgyrch ei hun. Y mae angen ennill buddugoliaeth arall ymhen pedair blynedd."

Roedd y sylw hwn hefyd yn nodweddiadol o beirianwaith gwleidyddol Obama.

Yr oedd Bill eisoes yn symud ymlaen. Rwyf innau hefyd ar fin hel fy mhac am adref.
Ac yn dal i ddisgwyl am ganlyniad Missouri...






ewrop

Unol Daleithiau America
Barddoniaeth mewn maen a phren

Dathlu yng Nghwm Jones!.

Aloah Hawaii

Hawaii: Rhywbeth i bawb yn Kauai

Cwyn Cymry Arizona am y Wall Street Journal

Cofio Goronwy ymhell o gartref

Etholiad America

Lobsgows etholiadau'r Unol Daleithau

Dysgu Cymraeg yng nghefn gwlad Efrog Newydd

Cymraes yn Chicago

Dosbarth Cymraeg Pittsburgh

Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Ci'r Cymry fu'n nofio gydag Arlywydd America

Cymdeithas Gymraeg yn yr Unol Daleithiau

Côr sy'n uno cyfandir

Neges Gŵyl Dewi Bush!

'Pawb a'i Farn' yn Efrog Newydd

Cynghrair Gymraeg Arizona

Ymlacio a dysgu termau newydd

Ar yr hewl yn America

Ymgartrefu mewn ardal gyfeillgar

Etholiad Arlywyddol 2004




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy