主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dathlu efo Cerys Gŵyl Dewi 2007
Taffia Chicago

Cefnogaeth seneddol - ac ymweliad Cerys Matthews

Mae dathliadau Gŵyl Dewi Cymry Chicago - neu Taffia Chicago fel maent yn galw eu hunain - yn dra adnabyddus.

Dyma'r gymdeithas Gymraeg gyda'r fwyaf blaengar ei brwdfrydedd dros Gymreictod yn yr Unol Daleithiau.

Ond eleni gwnaeth y Taffia yn well nag erioed yn ôl un o'r aelodau - trwy ennill cefnogaeth Cynrychiolydd seneddol y Dalaith i ddiwrnod nawddsant Cymru a hefyd wasanaeth y gantores Cerys Matthews.

Yng nghysgod Padrig Sant
Bu'n destun gofid ymhlith Cymry alltud yn yr Unol Daleithiau ers rhai blynyddoedd fod dydd Padrig Sant yn cael cymaint o sylw ond Ddydd Gŵyl Dewi fawr ddim.

Eleni, roedd Taffia Chicago yn fwy awyddus nag erioed i wneud iawn am hynny meddai Brooke L K Parry mewn llythyr at y 主播大秀.

Ers dros fis bellach bu ymdrechion i berswadio gorsafoedd radio a theledu Chicago i grybwyll y diwrnod gan ofyn gyflwynwyr rhaglenni i ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus i bawb ac i chwarae caneuon gan artistiaid o Gymru.

Cydnabod y diwrnod
Hefyd, ysgrifennodd sefydlydd y Taffia, David Parry a ymfudodd o Aberystwyth i'r Unol Daleithiau wyth mlynedd yn ôl, at Gynrychiolydd y Dalaith, Robert W Pritchard, yn tynnu ei sylw at y "cyfraniad enfawr" a wnaed gan Gymry nid yn unig i Chicago ond i dalaith Illinois yn gyffredinol.

Ers hynny mae Mr Pritchard wedi ymateb yn gadarnhaol i gais a wnaed gan David Parry am i Illinois ddilyn yn ôl troed Wisconsin lle mae deddf gwlad yn cydnabod Dydd Gwyl Dewi.

Cerys mewn limo
Ar ben hynny llwyddodd David i berswadio'r gantores Cerys Matthews i gymryd rhan yn nathliadau Gwyl Dewi y Taffia yn nhafarn -Wyddelig! - Fado yng nghanol y ddinas.

Cyfarfu David Parry hi dro'n ôl ar gyfer y papur Americanaidd Cymreig Ninnau a dyna pryd y gofynnodd iddi a fyddai'n fodlon cymryd rhan.

Cytunodd hithau i deithio o'i chartref yn Nashville gyda dau gerddor arall, Mason Neely a Kevin Teel.

Cyrraedd mewn steilDdyddSadwrn, Chwefror 24, cludwyd Cerys a hwythau o faes awyr Chicago mewn limousine yn dwyn baneri'r Ddraig Goch ac yn cael ei yrru gan aelod arall o'r Taffia, Brian Geen, gynt o Gaerffili.

"A thra'r oedd y Taffia yn mwynhau coctels Draig Goch arbennig swynodd Cerys y cwmni gyda chaneuon o'i halbwm, Cockahoop, caneuon gwerin Cymraeg ac hyd yn oed amrywiadau o ganeuon o'i chyfnod gyda Catatonia," meddai Brooke Parry.





ewrop

Unol Daleithiau America
Barddoniaeth mewn maen a phren

Dathlu yng Nghwm Jones!.

Aloah Hawaii

Hawaii: Rhywbeth i bawb yn Kauai

Cwyn Cymry Arizona am y Wall Street Journal

Cofio Goronwy ymhell o gartref

Etholiad America

Lobsgows etholiadau'r Unol Daleithau

Dysgu Cymraeg yng nghefn gwlad Efrog Newydd

Cymraes yn Chicago

Dosbarth Cymraeg Pittsburgh

Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Ci'r Cymry fu'n nofio gydag Arlywydd America

Cymdeithas Gymraeg yn yr Unol Daleithiau

Côr sy'n uno cyfandir

Neges Gŵyl Dewi Bush!

'Pawb a'i Farn' yn Efrog Newydd

Cynghrair Gymraeg Arizona

Ymlacio a dysgu termau newydd

Ar yr hewl yn America

Ymgartrefu mewn ardal gyfeillgar

Etholiad Arlywyddol 2004




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy