Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth

Archifau Mai 2009

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 18:49, Dydd Sul, 31 Mai 2009

Sylwadau (0)


Sydney Morning Herald

Ekklesia

Scotsman

Ö÷²¥´óÐã

DaemonsTV

Rialtwch

Vaughan Roderick | 12:54, Dydd Sul, 31 Mai 2009

Sylwadau (1)

Efallai eich bod yn cofio rhaglen "Ewropa" ar S4C. Mae'r fersiwn Gymraeg wedi dirwyn i ben ers rhai blynyddoedd. Roedd hynny'n gamgymeriad yn fy marn fach i. Mae'r fersiwn Aeleg o hyd yn cael ei darlledu. Dyma hi.

Nesaf dyma ddwy fersiwn o anthem Ewrop.

Gyda rhai yn darogan y gallai llai na chwarter etholwyr Cymru dyma ddwy ffilm yn ein cymell i bleidleisio y gyntaf gan Senedd Ewrop a'r ail gan y Comisiwn Etholiadol.

Pythia

Vaughan Roderick | 11:05, Dydd Sul, 31 Mai 2009

Sylwadau (6)

Pe bai gan fy nghyfaill Karl y bwci ddigon o wallt fe fyddai wedi eu rhwygo o'i ben ymhell cyn hyn wrth geisio llunio prisiau etholiad Ewrop. Mewn chwarter canrif o ddarogan hwn yw'r canlyniad anoddaf erioed i mi hefyd geisio ei broffwydo.

Mae na ddau arolwg barn Prydeinig wedi eu cyhoeddi yn ystod y dyddiau diwethaf. Y broblem yw eu bod yn gwrthddweud ei gilydd. Yn ôl Populus yn y mae 30% yn cefnogi'r Ceidwadwyr gyda UKIP (19%) yn yr ail safle a Llafur (16%) yn drydydd. Roedd 12% yn cefnogi'r Democratiaid Rhyddfrydol, 10% yn bwriadu pleidleisio i'r Blaid Werdd a 5% i'r BNP.

Mae darlun ICM yn y yn wahanol. Unwaith yn rhagor y Ceidwadwyr (29%) sydd ar y blaen ond y tro hwn y Democratiaid Rhyddfrydol (20%) sy'n ail. Mae Llafur (16%) eto yn drydydd gyda'r Blaid Werdd (11%) yn bedwerydd ac UKIP (10 %) yn bumed. Fel yn arolwg Populus 5% sy'n cefnogi'r BNP.

Yr hyn sy'n ddiddorol yn fan hyn yw bod y ddau arolwg yn gyson iawn ynghylch y gefnogaeth i'r rhan fwyaf o'r pleidiau. Yr eithriadau yw UKIP a'r Democratiaid Rhyddfrydol. I ddefnyddio'r gair ffasiynol mae'r gefnogaeth i'r ddwy blaid wedi "fflipio" rhwng y ddau arolwg.

Mae 'na esboniad. Wrth holi etholwyr mae Populus yn dangos cerdyn sy'n rhestri'r pleidiau sy'n sefyll yn yr etholiad. Hyd y gwn i, dyw ICM ddim yn defnyddio cerdyn o'r fath. Mae'n bosib felly bod y rhan hynny o'r boblogaeth sy'n dymuno gweld "pla ar bawb" wedi crybwyll enw'r Democratiaid Rhyddfrydol wrth ICM ond o gael eu hatgoffa o fodolaeth UKIP gan Populus wedi dewis y blaid honno.

Mae'r arolygon hyn o fawr o gymorth i ni yng Nghymru ac eithrio'r ffaith eu bod yn cofnodi pleidlais drychinebus i Lafur a chefnogaeth ddigon llugoer i'r Ceidwadwyr. Ymhlith yr ychydig gwleidyddion a newyddiadurwyr oedd o gwmpas y Cynulliad dros y Sulgwyn y consensws oedd y bydd y Blaid Lafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru o fewn dau neu dri y cant i'w gilydd yn yr etholiad ac mai Plaid Cymru sy'n debygaf o fod a'i thrwyn ar y blaen. Oni cheir cynnydd sylweddol yn y gefnogaeth i'r Democratiaid Rhyddfrydol neu UKIP fe fyddai hynny'n golygu dwy sedd i Blaid Cymru ac un yr un i Lafur a'r Ceidwadwyr.

Rwy'n gosod pob rhybudd iechyd sy i gen ar y broffwydoliaeth honno. Mae'n seiliedig ar y ffaith bod gan Blaid Cymru isafswm o rhyw 120,000 o gefnogwyr hynod ffyddlon sy'n troi mas ymhob etholiad. Plaid Cymru hefyd yw cartref traddodiadol y bleidlais brotest yn cymoedd ac mae arolygon diweddar Beaufort (i Blaid Cymru) wedi awgrymu cynnydd sylweddol yn ei chefnogaeth yn rhanbarth canol De Cymru ar lefel etholiad cynulliad. Pe bai'r nifer sy'n pleidleisio yn isel (ac mae'r nifer o bleidleisiau post sydd wedi eu dychwelyd yn awgrymu hynny) fe allai'r bleidlais graidd ynghyd a'r bleidlais brotest fod yn ddigon. Ond, fel dywedais i, does neb yn gwybod.

Fe wnes i un ymdrech olaf i ddarogan yn gywir. Fe wnes i ffonio oracl Delffi i weld os oedd hi'n gallu helpu. Dyma'r ateb "Yn anffodus nid yw Pythia ar gael ar hyn o bryd. Gadewch neges ar ôl y sain." Byswn wedi lladd mochyn daear i ddarllen ei berfeddion ond yn anffodus doedd Elin Jones ddim o gwmpas!

Dillad isa Lembit

Vaughan Roderick | 15:56, Dydd Gwener, 29 Mai 2009

Sylwadau (3)

Mae hi wedi bod yn wythnos brysur o ran newyddion. Mae San Steffan yn boddi mewn mor o sgandalau. Frwydrodd Gogledd Corea ddyfais niwclear ac mae Aung San Suu Kyi yn sefyll ei phrawf yn Burma. Ond pwnc arall sydd ar feddwl Lembit yn y Sbort yr wythnos hon sef trôns...

"Well, there was scandal at Next this week when it turned out that a range of boxershorts on sale featured an image resembling Hitler! ...They promptly withdrew all 5,200 pairs and issued an apology. Just as well! Only a nutter would want to put a dictator next to his knackers. The same goes for ladies underwear -- after all what self respecting Daily Sport girl, would want Saddam all over her bum?"

Blaenoriaethau, bois, blaenoriaethau.

Da yw swllt

Vaughan Roderick | 11:13, Dydd Gwener, 29 Mai 2009

Sylwadau (1)

Dydw i ddim yn un o'r rheiny sy'n breuddwydio am fyw mewn pentref neu yng nghefn gwlad. Person dinesig bues i erioed. Mae 'na fwy o bethau i wneud yn y dref a mwy o ddewisiadau rhywsut.

Roeddwn yn meddwl am hyn wrth i fy nghyfaill Rhun ap Iorwerth sôn am frwydr yr archfarchnadoedd yn Llangefni. Cyn i chi ofyn (os oes rhaid gofyn) nid Waitrose ac M&S Food sy'n ymrafael a'i gilydd ond y ddau gwmni Almaenaidd Aldi a Lidl.

Yr hyn oedd wedi taro Rhun oedd bod y ddwy siop yn cystadlu a'i gilydd nid yn unig ar sail pris ond hefyd ar sail Cymreictod. Mae'n debyg bod yr Aldi newydd wedi ymateb i arwyddion dwyieithog yr hen Lidl trwy godi arwyddion uniaith Gymraeg.

Mae'n bosib deall hynny yn Llangefni. Jyst abowt. Mae polisi cwmni Asda yng Nghaerdydd yn fwy rhyfedd. Tua'r un amser ac agoriad Aldi yn Llangefni agorodd Asda archfarchnad enfawr gyferbyn a stadiwm newydd Clwb Pêl-droed Caerdydd. Fel y byddai dyn yn disgwyl y dyddiau hyn mae arwyddion y Ninian newydd yn ddwyieithog ond mae'r archfarchnad wedi mynd cam ymhellach trwy ddefnyddio ffont llawer yn fwy i'r Gymraeg na'r Saesneg. A dweud y gwir mae'n rhaid craffu'n eithaf agos ar yr arwyddion i sylwi bod y Saesneg yna o gwbwl.

Wythnos nesaf, mwy na thebyg, fe fydd Pwyllgor Deddfwriaeth (5) y cynulliad yn cyhoeddi canlyniadau ei ystyriaeth o'r LCO iaith. Gallai'r LCO rhoi'r hawl i'r cynulliad orfodi'r defnydd o'r Gymraeg yn y sector breifat. Y cwestiwn sy gen i yw hwn. A fyddai gorfodi triniaeth gyfartal o'r ddwy iaith fod yn gam yn ôl mewn ambell i le- Aldi, Llangefni ac Asda, Parc Ninian, er enghraifft?

io-io

Vaughan Roderick | 22:34, Dydd Iau, 28 Mai 2009

Sylwadau (5)

Fel 'na mae cynhyrchwyr teledu a radio. Mae pob un eisiau i bopeth bod yn berffaith. Roedd "Wales Today" eisiau fy nholi i heddiw ynghylch sylwadau Jonathan Morgan yn y stiwdio yn Llandaf. Roedd newyddion S4C ar y llaw arall yn dymuno holi am yr un pwnc ond y tro hwn yn y senedd. Yn ôl ac ymlaen a fi felly fel io-io rhwng ystafelloedd newyddion y Ö÷²¥´óÐã yn Llandaf a'r Bae a hynny i gyd trwy draffic yr Urdd.

Yn y ddwy ganolfan mae'r un cwestiwn yn cael ei ofyn. "Oni ddylwn ni wneud y straeon yma?"

Mae'r cwestiwn ynghylch dau bwnc. Yn gyntaf cyflwr Golwg360 a'r ynghylch y ffordd y cafodd y wefan ei chreu. Yn ail (a chofiwch mai pobol y Ö÷²¥´óÐã sy'n gofyn y cwestiwn) mae'n ymwneud a'r difrod honedig y gallai cynlluniau S4C i ymhel a darpariaeth newyddion Saesneg ITV achosi i wasanaethau Radio Cymru ac Arlein pe bai gwasanaeth newyddion teledu Cymraeg y Ö÷²¥´óÐã yn dod i ben. Dydw i ddim yn credu ei fod yn annheg i ddweud bod nifer o'r "partneriaid" sydd yn cael eu sibrwd yn eu cylch ar gyfer gwasanaeth newyddion Saesneg S4C hefyd yn ymwneud a "Golwg360". Rwy'n gwrthsefyll y temtasiwn i ddweud "Duw a'n gwaredo"!

Mae'r broblem yn un syml. I'r Ö÷²¥´óÐã fel prif-ddarparwyr newyddion Cymraeg mae rhain yn straeon o bwys i'n defnyddwyr. Does neb arall yn debyg o roi sylw teilwng iddyn nhw. Ar y llaw arall ydy hi'n bosib i ni fod yn niwtral yn eu cylch? Hyd yn oed os oeddwn ni a fyddai pobol yn ein credu neu a fyddent yn ein gweld fe "bwlis mawr y Ö÷²¥´óÐã" yn ceisio llorio'r gystadleuaeth?

Does gen i ddim ateb.


Cyrddau mawr

Vaughan Roderick | 21:04, Dydd Iau, 28 Mai 2009

Sylwadau (2)

Mae'n benwythnos y cyrddau mawr neu felly mae'n ymddangos. Roeddwn i'n meddwl mae'r tripiau ysgol Sul oedd yn digwydd yn ystod wythnos y Sulgwyn nid y cyfarfodydd pregethu! Dyna i chi'r bregeth Jonathan Morgan heno ac yfory mae'n debyg y bydd gan arweinydd Plaid Cymru bethau mawr i ddweud am ddyfodol y cynulliad a strategaeth wleidyddol ei blaid.

Fyw i mi dorri embargo ond mae'r dirprwy brif weinidog yn bwriadu codi pwynt nad oedd wedi fy nharo i sef effaith y sgandalau yn San Steffan ar y posibilrwydd o refferendwm ynghylch cynyddu pwerau'r cynulliad. Fe fydd Ieuan yn cyflwyno ei achos ar Radio Cymru a Radio Wales yn y bore a dwi'n meddwl bod 'na gryn sylwedd i'w ddadl yn nhermau strategol.

Un o'r dywediadau gwleidyddol mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd yw'r un a fathwyd gan Rahm Emanuel, pennaeth staff yr Arlywydd Obama sef "never waste a good crisis". Ystyr arwyddair Emanuel yw mai yn ystod cyfnodau anodd y daw'r cyfle i sicrhau newidiadau sylfaenol. Mae hynny'n gwbwl groes i'i hyn ddywedodd yng nghynhadledd y Blaid Lafur Gymreig yn ddiweddar.

"Some might have thought it a tactical blunder for Plaid Cymru, at their recent Spring Conference, to have gone all gung-ho over independence for Wales, just as the vulnerabilities of small nations all over Europe have been so cruelly exposed by the shock waves of the credit crunch"

Mae'n debyg bod Ieuan yn talu mwy o sylw i'r dyn yn y TÅ· Gwyn na'r boi yn y swyddfa drws nesaf!

Rhyfel Cartref

Vaughan Roderick | 17:38, Dydd Iau, 28 Mai 2009

Sylwadau (0)

Efallai eich bod yn cofio'r holl helynt ynglŷn â Nick Bourne a'i i-Pod a'i beiriant smwddio trowsus. At bwy felly y mae Jonathan Morgan yn cyfeirio felly mewn araith i'w etholwyr heno?

"Politicians who have claimed inappropriately or illegitimately, whether it be phantom mortgages, i-Pods, plasma televisions, trouser-presses or duck islands for their ponds, have proven their judgement has been flawed and they have lost the moral, ethical and political capacity to show leadership."

Dyw aelodau seneddol ddim yn cael hawlio am i-Pods. Yr unig wleidyddion sydd wedi gwenud yw Nick Bourne ac Alun Cairns.

Fe wnes i broffwydo y byddai Nick yn colli'r arweinyddiaeth yn gynharach eleni oherwydd yr helynt ynghylch ei dreuliau. Rwy'n cyfaddef fy mod yn anghywir. Roedd Jonathan yn fodlon hogi'r gyllell ond yn rhy swil/llwfr/bonheddig i'w defnyddio ar y pryd.

Rhai wythnosau'n ddiweddarach cafodd Jonathan y sac.

Mae amseru'n hollbwysig mewn gwleidyddiaeth. Roedd 'na amser effeithiol i ddweud rhywbeth fel hyn ond mae'r amser hwnnw wedi mynd. Y peryg i Jonathan yw y gallai ei
eiriau ymddangos yn rhai sur ac anheyrngar yn enwedig ar drothwy etholiad pwysig.

Mae'r araith gyfan yn .

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 21:34, Dydd Mawrth, 26 Mai 2009

Sylwadau (2)

Straeon diddorol o bob math o lefydd.

Awdur Doctor Who yn rhy ddiog i ddysgu Cymraeg (pdf) Ö÷²¥´óÐã

Telegraph

Le Telegramme

NZ Herald

Arbrawf bach yw'r post yma. Oes 'na werth i'r peth?

Tocyn Maes

Vaughan Roderick | 18:31, Dydd Mawrth, 26 Mai 2009

Sylwadau (0)

Os oeddech chi'n credu bod pob un gwleidydd yn godro'r geiniog olaf o bob cyfle mae gen i brawf o onestrwydd rhai o'n gwleidyddion.

Gan fod yn gwbwl sinigaidd (fel arfer) fe wnes i ofyn i borthor yn y cynulliad heddiw a oedd unrhyw aelod wedi defnyddio'r pontydd sy'n cysylltu TÅ· Hywel a'r Senedd fel ffordd i gael mewn i Eisteddfod yr Urdd am ddim. Dyma'r ateb;

"Naddo wir, ond mae sawl newyddiadurwr wedi gwneud!"

Cyn i chi ofyn doeddwn i ddim yn un ohonyn nhw!

Wrth grwydro'r maes ar ôl talu fy neg punt fe wnes i sylwi bod Ieuan Wyn Jones a Dafydd Wigley ill dau yn gwisgo siwtiau gwyn yn ffasiwn Martin Bell. Syniad call y dyddiau hyn ond ai wrth y siwt y mae mesur y dyn?

Mae Dafydd wrth gwrs yn aelod o banel Roger Jones sy'n llunio system dreuliau newydd i'r cynulliad. Fe ddylai adroddiad y panel hwnnw ymddangos cyn gwyliau haf y cynulliad ac fe allai ddylanwadu ar benderfyniadau yn San Steffan hefyd. Mae'n rhyfedd o beth ond gallai un o gyflawniadau mwyaf Dafydd Wigley ddigwydd ar ôl iddo ymddeol o wleidyddiaeth pob dydd.

Gair olaf (gobeithio)

Vaughan Roderick | 00:21, Dydd Mawrth, 26 Mai 2009

Sylwadau (5)

Mae'n ymddangos bod safle Golwg360 yn gweithio o'r diwedd (i fi o leiaf).

Mae'r dudalen flaen yn cynnwys y frawddeg yma.

Safle Beta yw hwn, sy'n golygu mai safle prawf ydy e', a'n bod ni am gael eich barn chi i'w newid a'i wella. Felly, fe fydden ni'n croesawu eich ymateb i helpu ni i adeiladu gwasanaeth heb ei ail.

Pam na ddywedwyd hynny o'r cychwyn?

Yn ddiffuant, rwy'n dymuno pob lwc i'r safle ac yn gobeithio am y gorau.

Dau beth bach. Mae angen RSS ar fyrder ac fe ddylai'r wefan weithio fel porth i gynnyrch gwefannau Cymraeg eraill nid ar ffurf y "maes" diflanedig ond trwy gysylltu yn uniongyrchol a thudalennau penodol gwefannau eraill.

Os oeddech chi (fel fi) yn teimlo'n rwystredig rhowch ail-gyfle i nhw. Mae'n gwerth gwneud.

Gwaed ar ei ddwylo

Vaughan Roderick | 22:29, Dydd Llun, 25 Mai 2009

Sylwadau (1)

Mae 'na sawl rheswm dros agwedd llugoer rhai o aelodau seneddol Cymru tuag at gynyddu pwerau'r cynulliad. Un ohonyn nhw yw'r tebygrwydd y byddai cynulliad mwy grymus yn arwain at gwtogi cynrychiolaeth Cymru yn San Steffan. Diddorol felly yw darllen yo eiddo David Cameron.

"So at the election we'll include proposals in our manifesto to ask the Boundary Commission to reduce the Commons - initially by 10% - and, while they're at it, to get rid of the unfair distortions in the system today, so every vote has an equal value."

Hynny yw pe bai'r Ceidwadwyr yn ffurfio llywodraeth fe fyddai'r nifer o aelodau seneddol o Gymru yn cael ei chwtogi i rhyw 30-32 ta beth. Mae'n lwcus bod cymaint eisoes wedi dewis rhoi'r ffidl yn y to!

Shake and Vac

Vaughan Roderick | 10:37, Dydd Llun, 25 Mai 2009

Sylwadau (0)

Mae Julie Morgan yn cyhoeddi manylion ei threuliau ar ei gwefan. Mae'n nhw'n ymddangos yn ddigon rhesymol ond mae un frawddeg yn adroddiad fy nharo i sef hon;

"I have got a flat which was a tip when I got it. I had the kitchen done up and the bathroom done up and it cost about £19,000, but I didn't claim that - I claimed £2,049. Although it would have been within the rules, I just didn't feel comfortable doing it."

Gallwn gymryd felly nad oedd Julie yn gallu goddef byw mewn tip. Mae hynny'n rhyfedd.

Dyma ddisgrifiad o "Morgan Towers" yn Llanfihangel y-pwll o dudalennau'r .

"THE PROBLEM with Rhodri Morgan is that he has failed the Hyacinth Bucket test in Ö÷²¥´óÐã's Keeping Up Appearances... the final nail in his political coffin, as far as Hyacinth is concerned is that his house near Cardiff is an absolute tip. It looks as if its contents have been arranged by a small explosive device."

Oedd Julie yn ofni ymweliad gan Tony Blair efallai?

Yn ei lyfr "" (y llyfr mwyaf difyr am wleidyddiaeth Cymreig erioed) mae Paul Flynn yn adrodd hanes ymweliad Tony Blaid a Chymru pan oedd yn arwain yr wrthblaid. Arhosodd dros nos yng nghartref Rhodri a Julie a chymryd yn erbyn Rhodri oherwydd y llanast. Yn ôl Paul yr hoelen olaf yn yr arch oedd sylwad gan fam Julie "I know you, you're that Lionel Blair". Gwell hwyr nac hwyrach!

Gwers fach ac ychydig o rialtwch

Vaughan Roderick | 23:34, Dydd Sul, 24 Mai 2009

Sylwadau (0)

Mae 'na lawer o siarad y dyddiau 'ma bod Cymru wedi ei gorlywodraethu gyda chlochdar am uno cynghorau. Mae'r fwyell eisoes yn disgyn ar fyrddau iechyd Cymru. Beth am chwilio am esiampl o dramor?

Dyna i chi dalaith Indiana yn yr UDA. Gyda phoblogaeth o ychydig dros chwe miliwn mae gan y dalaith 92 o gynghorau sir, 117 cyngor dinesig, 451 cyngor tref a 1,008 o gynghorau i dreflannau llai, heb sôn am 293 o fyrddau ysgol, 239 bwrdd llyfrgell a 886 o fyrddau etholedig eraill.

Os ydych chi'n dod i'r Bae, mwynhewch...

A dyma i chi Rhydian yn dod yn drydydd!


Gorau arf

Vaughan Roderick | 08:15, Dydd Sadwrn, 23 Mai 2009

Sylwadau (0)

Heddiw fe fydd Ceidwadwyr Cymru yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer sefydlu "ysgolion rhydd" yng Nghymru, hynny yw ysgolion sy'n annibynnol o reolaeth yr awdurdodau addysg lleol.

Dyw'r syniad ddim yn newydd wrth gwrs. Fe gyflwynodd y llywodraeth Geiwdadol ddiwethaf gyfundrefn o gynnig cyllid yn uniongyrchol i ysgolion. Digon llugoer oedd yr ymateb yng Nghymru gyda llai na thri y cant o ysgolion yn dewis gadael corlan y cyngor lleol. Fe fuodd y polisi'n fwy llwyddiannus yn Lloegr ac mae wedi parhau (o dan wahanol enwau) hyd heddiw. Gan amlaf mae ysgolion o'r fath yn cael ei sefydlu yn sgil pleidlais gan rieni a darpar rieni'r dalgylch.

Mae 'na sawl ddadl o blaid ac yn erbyn y cynllun. Methiant cymharol y gyfundrefn bresennol yw prif ddadl cefnogwyr y syniad tra bod gwrthwynebwyr yn awgrymu bod y fath gyfundrefn ond yn gallu gweithio yng nghyd-destun dinesig lle gall rhieni ddewis o ystod eang o wahanol ysgolion.

Wrth fwrw golwg ar restr o'r ysgolion wnaeth ddewis cael eu hariannu'n uniongyrchol yn y nawdegau mae'n ddiddorol nodi bod nifer ohonynt yn ysgolion yr oedd y cynghorau lleol wedi dymuno eu cau. Dyna yn sicr oedd y rheswm y gwnaeth rhieni Ysgol Cwmcarn, yr ysgol gyntaf i eithrio o ofal yr awdurdod lleol, gais am statws annibynnol.

Dydw i ddim wedi gweld manylion cynlluniau'r Torïaid ond mae un broblem amlwg yn codi ei phen. Mae hwn yn gyfnod lle mae'n cynghorau'n cau neu'n uno ysgolion cyfrwng Saesneg ac yn ehangu'r ddarpariaeth Gymraeg. Gallai'r gwaith hwnnw gael ei lesteirio pe bai ysgolion yn gallu sicrhau dihangfa trwy gynnal pleidlais ymhlith y rhieni. Fe allai sefyllfa gael ei chreu lle'r oedd hi bron yn amhosib gau neu newid cyfrwng ysgol oherwydd pŵer "feto" y rhieni.

Ydy'r Ceidwadwyr yn gallu cymhathu'r cynllun yma a'u haddewid i ddatblygu addysg Gymraeg? Mae'n anodd gweld sut mae gwneud hynny.

Mmmmm...

Vaughan Roderick | 18:05, Dydd Gwener, 22 Mai 2009

Sylwadau (1)

Mae elusen natur wedi achub cimwch dwy droedfedd o hyd gafodd ei ddal oddi ar arfordir Sir Benfro. Cafodd y creadur ei enwi'n "Lembit" gan y pysgotwr wnaeth ei ddal. Oherwydd ei gragen galed, mae'n rhaid!

Hwre! Mae'n bryd i ni bori yn y Daily Sport unwaith yn rhagor! Mae aelod Maldwyn wedi ei dristhau gan yr hyn ddigwyddodd i Michael Martin.

"If this is how we're all going to behave in Parliament, we may as well replace normal debate with a set of stocks and throw rotten fruit at each other. And then elections could be decided with a mud wrestling contest."

Lembit yn erbyn Glyn a Heledd Fychan yn y mwd? Byswn i'n prynu tocyn! Mae Lembit hefyd yn poeni am dorriadau i'r llynges. Beth fyddai'n digwydd pe bai Sbaen yn danfon armada arall?

"...they'd probably get as far as Kensington before anyone noticed. I agree that our protection might need beefing up a little and that we need a few more boats out there. However, if we were invaded by beauties like my beach loving buddy Veronika Zemanova and her pals we'd welcome them with open arms."


Sain Cerdd a Chân

Vaughan Roderick | 14:11, Dydd Gwener, 22 Mai 2009

Sylwadau (0)

Mae'r Sulgwyn wedi dod. Fe fydd blogio'n ysgafn yn ystod y dyddiau nesaf felly wrth i newyddiadurwyr gwleidyddol ei throi hi am adref i helpu gyda'r silwair! Os credwch chi hynny fe wnewch chi gredu unrhyw beth.

I'r rheiny ohonoch sy'n dod i'r Bae ar gyfer prifwyl yr Urdd, mwynhewch!

Etholiadau Ewrop yw testun bonws y podlediad yr wythnos hon. Gwasgwch y botwm ar y dde.

Gwinllan a roddwyd

Vaughan Roderick | 22:13, Dydd Iau, 21 Mai 2009

Sylwadau (3)

Roeddwn yn ofni hyn! Mae ambell i un wedi fy nghyhuddo o rawnwin surion trwy grybwyll y problemau technegol ar safle Golwg360. Fe wnes i gau'n nhrap am ddyddiau gan bryderu y gallai hynny ddigwydd.

I fod yn gwbwl eglur rwyf yn awchu i weld Golwg360 yn llwyddo am sawl rheswm. Yn bennaf fe fyddai hynny yn arf wrth i ni ddadlau dros ragor o adnoddau i wasanaethau arlein Cymraeg y Ö÷²¥´óÐã.

"Damned if you do, damned if you don't" fel mae'n nhw'n dweud.

Llafur Cariad

Vaughan Roderick | 16:59, Dydd Iau, 21 Mai 2009

Sylwadau (1)

Wrth yrru i'r gwaith bob dydd rwy'n teithio heibio Parc Ninian ac wrth wneud rwy'n teimlo ambell bwl o hiraeth. Fe fydd gatiau hen gartref Clwb pêl droed Caerdydd yn cau am y tro olaf ymhen rhyw bythefnos, wrth gwrs, gyda'r clwb yn symud i'r stadiwm fodern gerllaw.

Beth sydd a wnelo hynny a gwleidyddiaeth? Wel fe allwn i grybwyll y ffaith mai aelod seneddol bwrdeistref Caerdydd oedd Ninian Chrichton Stuart, y pwysigyn yr enwyd y cae ar ei ôl ond atgof mwy diweddar sy gen i.

Yn ôl yn 1970, fe lansiodd Harold Wilson ei ymgyrch etholiad mewn rali awyr agored ym Mharc Ninian gyda'r "Canton Stand" yn llawn i wrando ar yr arweinydd Llafur. Roeddwn i'n ddeuddeg ar y pryd a does gen i fawr o gof o'r digwyddiad ac eithrio'r hyn ddywedodd Wilson wrth gyflwyno Ted Rowlands oedd yn aelod Gogledd Caerdydd ar y pryd.

Nododd Wilson mai Ted oedd y gweinidog ieuangaf i'w benodi ym Mhrydain ers i Wilson ei hun gael ei ddyrchafu i'r meinciau blaen yn 1945. Doedd dim amheuaeth meddai y byddai'r Rowlands ifanc yn cyrraedd pinacl gwleidyddiaeth Prydain.

Nid felly y bu pethau. Collodd Ted ei sedd yn 1970. Dychwelodd i San Steffan fel aelod Merthyr yn 1972 ond methodd gyflawni ei lwyr botensial er iddo gael gyrfa digon anrhydeddus. Problem Ted oedd ei fod yn wleidydd oedd yn siwtio bod mewn llywodraeth. Doedd e ddim yn meddu'r sgiliau na'r amynedd i ffynnu ar feinciau'r gwrthbleidiau. Fel 'na mae ambell i wleidydd. Anlwc Ted, fel ei gyfaill, Denzil Davies, oedd gwasanaethu yn y senedd mewn cyfnod pan oedd llywodraethau Llafur yn bethau prin.

Ar ddiwedd y dydd mae pob gwleidydd yn chwennych grym wrth gwrs. Efallai mai dyna'r rheswm y mae cymaint o gyw gwleidyddion Llafur yn ceisio am enwebiadau cynulliad ac yn anwybyddu gornestau seneddol. Fe geisiodd dros ddeg ar hugain o ymgeiswyr posib ar gyfer enwebiad cynulliad Pontypridd ac mae dros ddwsin eisoes yn llygadu Blaenau Gwent er y gallai'r sedd honno brofi'n anodd ei hennill.

Yn y cyfamser prin yw'r rhai sy'n cynnig eu henwau ar gyfer yr etholiad cyffredinol. Nid bod yn sarhaus ydw i drwy awgrymu na fyddai Llafur wedi dewis Ronnie Hughes pe bai unrhyw un yn credu am eiliad bod gobaith i'r blaid gadw Aberconwy. Mae yn llygad ei le.

Yn y cyfamser mae 'na ymgeiswyr newydd i'w dewis mewn dwy sedd seneddol y mae Llafur yn eu dal ar hyn o bryd sef De Clwyd ac un na fedrai enwi eto. Fe fydd hi'n ddiddorol gweld faint sy'n mentro amdanynt.

Jargon

Vaughan Roderick | 12:52, Dydd Iau, 21 Mai 2009

Sylwadau (0)

Mae cwmni Virgin Media yn cau canolfan gwsmeriaid yng Nghasnewydd gan effeithio ar ryw gant o swyddi. Dyw honno ddim yn stori fawr ynddi ei hun ond mae esboniad y cwmni yn werth ei nodi.

"The proposal is designed to create a more integrated and streamlined customer facing organisation across Virgin Media's National offnet and cable business"

Pwy sy'n sgwennu'r stwff 'ma? Y boi sy'n sgwennu areithiau Andrew Davies o bosib!

O pa fodd y cwymp y cedyrn

Vaughan Roderick | 10:50, Dydd Iau, 21 Mai 2009

Sylwadau (1)

Dydw i ddim yn beio'r Ceidwadwyr am bwyso am etholiad cyffredinol. Mae 'na ddadl gyfansoddiadol gref o blaid y syniad- yn ogystal â mantais wleidyddol i'r Torïaid, wrth reswm.

Fe fyddai etholiad cynnar yn esgor ar "chaos" yn ôl Gordon Brown ac yn sicr mae hynny'n wir cyn belled a mae'r Blaid Lafur mewn ystyriaeth.

Roeddwn wedi bwriadau sgwennu am gyflwr Llafur wythnos yn ôl ar y diwrnod y lansiodd hi a Phlaid Cymru eu maniffestos ar gyfer etholiadau Ewrop. Roedd hi fel bod mewn rhyw fydysawd cyfochrog. Dyna i chi Blaid Cymru yn lansio ei maniffesto sgleiniog gyda chyflwyniad proffesiynol mewn gwesty moethus. Roedd y maniffesto Llafur ar y llaw arall fel rhywbeth wedi ei gynhyrchu ar Sinclair ZX81. Fe'i lansiwyd mewn stafell debyg i gwpwrdd cefn yn Transport House gydag ambell i boster hen fasiwn wedi ei flu-tacio ar y wal.

Mae'n anodd gor-ddweud ynghylch maint y twll y mae Llafur ynddi. Fe wnaeth Richard Wyn grynhoi'r peth yn dda yn ei golofn yn "Barn" yn ddiweddar.

"Heb beirianwaith; heb aelodau; heb ideoleg sy'n cymell ac ysbrydoli; heb arweinyddiaeth Gymreig neu Brydeinig sy'n argyhoeddi...heb ddyfodol? Does bosib bod prif rym gwleidyddol Cymru'r ugeinfed ganrif ar fin cwymp mor fawr â hynny?"

Gellir darllen y ddadl yn gyfan ary cylchgrawn! Sgwennodd Richard ei erthygl cyn y llanast presennol ynghylch treuliau. Mae ei eiriau hyd yn oed yn fwy perthnasol nawr.

Pe bai 'na etholiad cyn gwyliau'r haf byswn yn disgwyl i Lafur golli Gogledd Caerdydd, Bro Morgannwg, Gorllewin Abertawe, Gwyr, Llanelli, Gorllewin Caerfyrddin, Ynys Môn, Aberconwy, Dyffryn Clwyd a Delyn. Deg sedd- ac mae hynny'n lleiafswm. Fe fyddai seddi fel Gorllewin Casnewydd a Phen-y-bont hefyd yn y fantol ac mae'n ddigon posib y gallai Plaid Cymru neu ambell i Dai Davies wneud marc yn rhai o seddi'r cymoedd.

Fe fyddai etholiad cynnar yn hunanladdiad gwleidyddol i Lafur. Cofiwch i rai mae hunan laddiad yn opsiwn deniadol o gymharu â misoedd arteithiol yn disgwyl am ddiwedd anorfod.
...

Aur ac Arian

Vaughan Roderick | 19:30, Dydd Mercher, 20 Mai 2009

Sylwadau (3)

Diawch, roeddwn i'n meddwl bod San Steffan yn wael ond beth am y stori yma o'r ?

" An investigation by the Herald has discovered no official agency monitors how much of the $32,000 allowance is kept as income by MPs, how much is spent on voters or what it is spent on. The Remuneration Tribunal said politicians could spend it "at their discretion" and many MPs say they use it to buy raffle tickets, give prizes and provide assistance to their electorate. But they can also keep some or all of it as taxable income."

Gyda'r Gemau Olympaidd yn dod i Lundain hwyrach y dylid trefnu cystadleuaeth i ganfod y gwleidydd mwyaf ariangar!

Beth am wahodd o Louisiana? Er i'r FBI ddod o hyd i $90,000 yn ei rewgell a'i gyhuddo o un ar bymtheg o achosion o dderbyn llwgrwobrwyon cafodd Jefferson ei ail-ethol i Gyngres yr UDA yn 2006. Doedd e ddim mor ffodus llynedd!

$90,000? Arian poced mae'n debyg i . Fe dderbyniodd hwnnw "anrhegion" o £8.5 miliwn gan ddynion busnes Iwerddon dros gyfnod o 17 mlynedd.

£8.5 miliwn? Wfft i hynny medd o Zaire. Roedd hwnnw yn llogi awyren Concorde at ei ddefnydd personol gan godi maes awyr preifat ar gyfer yr awyren ym mhentref ei enedigaeth. Amcangyfrifir iddo ddwyn $5 biliwn (ie, biliwn) o goffrau un o wledydd mwyaf tlawd y byd, neu mi oedd hi'n dlawd erbyn iddo fe gwpla!

A dyma ni'n poeni am setiau teledu ac ambell i "trouser press". Mae'n gwleidyddion ni'n amaturiaid!

Fel mae'n digwydd mae'r elusen "" yn ceisio mesur llygredd mewn gwahanol wledydd gan gyhoeddi rhestr flynyddol o'r gwledydd lleiaf a mwyaf llwgr. Y llynedd allan o 170 o wledydd roedd Prydain ymhlith yr ugain lleiaf llwgr. Mae'n werth cofio hynny weithiau.

Yr hyn sy'n rhyfedd yw bod ariangarwch ceiniog a dimau rhai o'n gwleidyddion yn teimlo'n waith rhyw sut na lladrad agored gwleidyddion tramor. Mae'r peth mor ddiangen ac mor druenus o bitw.

"Canys pa lesâd i ddyn, os ennill efe y Trouser Press, a cholli ei enaid ei hun?"


Dyfyniad y Dydd

Vaughan Roderick | 15:46, Dydd Mercher, 20 Mai 2009

Sylwadau (0)

"There are no sheep in London. Our office in Carmarthen is surrounded by sheep. That's why sheep mean something to us."

Rhodri Morgan (pwy arall?)

Glyg...

Vaughan Roderick | 15:03, Dydd Mercher, 20 Mai 2009

Sylwadau (10)

Ac eithrio sgwennu rhagolwg bach dwi wedi osgoi trafod helyntion . Fel un sy'n gweithio i wasanaeth ar-lein y Ö÷²¥´óÐã gallai unrhyw eiriau o'n eiddo i ymddangos yn nawddoglyd neu yn drahaus. Mae fy nghydweithwyr yn teimlo'r un peth. Mae hynny'n golygu bod stori o bwys i'r Cymry Cymraeg efallai ddim yn cael y sylw haeddiannol gan wasanaethau newyddion Cymraeg y Ö÷²¥´óÐã. Dydw i ddim yn credu y gall y sefyllfa hynny bara am fwy nag ychydig ddyddiau arall. Wedi'r cyfan mae gweinidogion y bae yn osgoi gorfod trafod sefyllfa sy'n embaras llwyr i'r llwyodraeth ar hyn o bryd. Fe fyswn yn codi'r mater yn lansiad Golwg360 yn y senedd heno pe na bai hwnnw wedi ei ohirio!

Mae S4C wedi bod yn fwy ffodus na Golwg wrth osgoi embaras dros siambols ar y we. Yn ôl yn Steddfod y llynedd lansiodd y sianel brosiect ar y cyd gyda ITV oedd yn cynnig dewis cyfoethog o ddeunydd Cymraeg. Ar fympwy ITV yn Llundain caewyd y safle yn ddisymwth deufis yn ôl. Ar y pryd cyhoeddodd S4C ddatganiad moel yn mynnu ei bod yn cydweithio ac ITV i sicrhai dyfodol y gwasnaeth hwnnw. Ers hynny beth sydd wedi digwydd? Dim byd hyd y gwelai i. Cerwch draw i'r i gael gweld.

Mae'n haws gwneud addewidion mawr na delifro yn y busnes newyddion 'ma!
.

Lessons History

Vaughan Roderick | 15:52, Dydd Mawrth, 19 Mai 2009

Sylwadau (2)

Erbyn hyn mae o gwmpas un o bob pump o blant Caerdydd yn mynychu ysgolion Cymraeg ac mae gwleidyddion y ddinas newydd wneud canfyddiad rhyfeddol. Mae rhieni a neiniau a theidiau'r plantos yn pleidleisio!

Gadewch i ni osod y peth ar ffurf cwestiwn cyfnod allweddol 2.

Os ydy un o bob pump o blant mewn ysgolion Cymraeg faint o bleidleisiau sydd i'w colli trwy wrthwynebu ehangu'r ddarpariaeth?

a.1%
b.5%
c.10%
ch.20%

Ch. yw'r ateb cywir wrth gwrs. Am y tro cyntaf erioed mae gan rieni'r sector Gymraeg glowt gwleidyddol - ac nid yng Nghaerdydd yn unig.

Cymerwch un esiampl. Yn yr Eglwys Newydd yng ngogledd Caerdydd mae 'na ddwy ysgol gynradd Saesneg ac un ysgol Gymraeg. Mae'r cyngor yn ystyried uno'r ysgolion Saesneg ac ehangu'r ysgol Gymraeg. Nawr yn yr hen ddyddiau fe fyddai unrhyw wleidydd lleol gwerth ei halen yn gwybod sut i ennill fôts hawdd- gwrthwynebu'r cynllun yn ei grynswth gan fwmian rhywbeth am y "crachach", Ö÷²¥´óÐã Cymru a "local schools for local kids".

Nid felly mae pethau'r dyddiau 'ma. Tra bod gwleidyddion yr Eglwys Newydd fel ei gilydd am amddiffyn yr ysgolion Saesneg (ac mae 'na ddadleuon da dros wneud) rhaid gwneud hynny heb bechu rhieni'r ysgol Gymraeg.

Yn y cynulliad y prynhawn yma roedd Jonathan Morgan, yr aelod cynulliad lleol, ar ei draed yn cwyno am fethiant Cyngor Caerdydd "dros gyfnod o ddegawdau i gwrdd â'r galw am addysg Gymraeg". Galwodd am ddadl i drafod y ffordd ymlaen yn enwedig sut y dylid ariannu addysg Gymraeg. Hwn yw'r tric diweddaraf gan wleidyddion- esgus y gall rhyw bot o arian gael ei ganfod yn rhywle er mwyn codi ysgolion newydd sbon er mwyn diogelu dyfodol ysgolion hanner gwag. Mae gwleidyddion o bob plaid yn euog o hyn.

Cafodd Jonathan fawr o gydymdeimlad gan arweinydd y tŷ. Nid arian oedd y broblem yn ôl Carwyn Jones. "Mae cynghorau yn osgoi cymryd penderfyniadau anodd oherwydd eu bod nhw'n anodd" meddai. Ac aelodau cynulliad hefyd.

Ar Werth

Vaughan Roderick | 13:01, Dydd Mawrth, 19 Mai 2009

Sylwadau (1)

"Y gred gyffredinol yw y bydd Lembit yn colli Maldwyn ac y gallai Democrat Rhyddfrydol arall ennill."

Roedd hi'n drawiadol heddiw na wnaeth Kirtsy Williams anghytuno a'r gosodiad hwnnw yn ei chynhadledd newyddion wythnosol.

Cyhoeddodd Kirtsy hefyd y bydd pob un o ymgeiswyr seneddol yn blaid yn gorfod arwyddo cod ymddygiad yn addo ad-dalu unrhyw elw a wneir trwy werthu ail gartrefi yn San Steffan. Fe fydd disgwyl i Aelodau Seneddol presennol y blaid gydymffurfio. Ni fydd unrhyw aelod presennol yn cael sefyll os ydy ef neu hi yn gwrthod arwyddo. Mae hynny'n cynnwys unrhyw aelod gafodd ei ethol yn 1997 cyn y cynnydd enfawr ym mhrisiau tai.

Ydy Kirsty, yn dawel fach, yn gobeithio y bydd rhywun yn gwrthod arwyddo?

Beth sydd gan Lembit i ddweud? Mae'n bryd i ni ymweld â'i golofn yn y Daily Sport.

"All the same, the general mood is to portray us all as naughty people on the make. It's a shame. You'd probably like most MPs if you met them. It's also a shame that the actions of the Telegraph have not been properly scrutinised. I suggest you stick to the Sport. You know what you're getting, and, unlike the Telegraph's info none of the boobs are remotely dodgy."

Hen Hanes

Vaughan Roderick | 12:43, Dydd Mawrth, 19 Mai 2009

Sylwadau (1)

Mae'n bosib bod rhai o'n gwleidyddion wedi rhoi i fyny neu efallai eu bod yn ofni mentro i'r ffyrdd a'r caeau i wynebu dicter yr etholwyr. Beth bynnag yw'r rheswm ychydig iawn o ymgyrchu sydd i'w weld ar lawr gwlad ar gyfer yr etholiadau Ewropeaidd.

Ac eithrio ambell i daflen yr unig beth i mi weld yw poster enfawr ar safle masnachol gan UKIP ac arno'r slogan "Say No to Unlimited Immigration". Fel mae'n digwydd mae'r poster yn ward Glanyrafon, ward a chanran uchel o bobol o leiafrifoedd ethnig ond rwy'n cymryd mae cyd-ddigwyddiad yw hynny yn hytrach nac unrhyw sen fwriadol.

Yr hyn sy'n fwy trawiadol yw'r llun enfawr o Churchill ar y poster. Mae'n amlwg nad yw'r blaid yn gyfarwydd iawn â hanes y wlad y mae'n ymladd mor galed drosti.

Pwy oedd y prif weinidog wnaeth ddweud hyn? "We must build a kind of united States of Europe" a phwy wnaeth gynnig ar ran lywodraeth Prydain uno'r Deyrnas Unedig a Ffrainc yn un wladwriaeth?

Atebion ar gerdyn post os gwelwch yn dda.

Rialtwch

Vaughan Roderick | 11:51, Dydd Sul, 17 Mai 2009

Sylwadau (0)

Ar y cyfan dyw'r Ö÷²¥´óÐã ddim yn derbyn hysbysebion. Mae Rialtwch yn eithriad! Hysbyseb wleidyddol drawiadol i ddechrau.

Mae gan bawb ei hoff stori o'r helynt treuliau. Fy ffefryn i yw'r aelod Ceidwadol wnaeth hawlio am diwnio ei biano.

St Kilda -yr Opera


Ydych chi'n cofio darllediadau trawiadol Plaid Cymru yn etholiad cynulliad 2007 gyda actorion yn chwarae strategwyr y Blaid Lafur? Aeth cefnogwyr Plaid Lafur Awstralia gam ymhellach. (Rhybudd; iaith anweddus)


Galwad cynnar

Vaughan Roderick | 09:54, Dydd Sul, 17 Mai 2009

Sylwadau (0)

Ddiwrnod olaf Mis Mawrth wnaeth Rhodri a Ieuan gynnal cynhadledd newyddion ar y cyd ac fe gollodd Rhodri ei dymer da fi. Doedd e ddim yn hoff o fy nghwestiynau ynghylch fideo "Delilah" na sefyllfa Cymdeithas Adeiladu'r Principality.

Mewn post ar Ebrill17eg fe wnes i gofnodi'r achlysur.

"Yn sgil methiant Cymdeithas Adeiladu Dunfermline gofynnais iddo oedd y llywodraeth wedi cysylltu â'r "Principality", sefydliad ariannol mwyaf Cymru, i sicrhau nad oedd y gymdeithas honno'n wynebu trafferthion. Gan fod tair cymdeithas o tua'r un faint a'r "Principality" wedi methu neu wedi cael eu traflyncu yn ystod y misoedd diwethaf roeddwn yn teimlo bod y cwestiwn yn un digon teg. Doedd y Prif Weinidog ddim yn cytuno. Roedd y cwestiwn yn "absẃrd" meddai."

Gorau po gyntaf y gwnawn ni anghofio am Delilah ond beth am y Principality?

Heddiw mae'r wedi cyhoeddi canlyniadau arolwg gan RBS i gyflwr ein cymdeithasau adeiladu. Mae'n dweud hyn.

"The RBS report into the sector also raised concerns about the Cardiff-based Principality building society, which has more than 20% of its total loan book exposed to commercial lending and 15% in second-charge mortgages."

Abswrd, Rhodri? Abswrd?

Ydy hi'n "abswrd" i gredu y dylai Llywodraeth y Cynulliad ymddiddori yng nghyflwr sefydliad ariannol mwyaf Cymru? Os ydy Rhodri yn credu hynny beth am i Ieuan rhoi galwad i gynghorydd economaidd Plaid Cymru, Eurfyl ap Gwilym, sy'n digwydd bod yn ddirprwy gadeirydd... y Principality.?


Mam Fach

Vaughan Roderick | 15:21, Dydd Gwener, 15 Mai 2009

Sylwadau (1)

Dydw i ddim yn deall gwleidyddiaeth Ynys Môn. Ta beth dyma ganlyniad is etholiad yn ward Llanbadrig.

William Thomas Hughes 255

Tecwyn Vaughan Hughes 201

Doedd y naill ymgeisydd na'r llall yn cynrychioli plaid. Mae cynghorwyr Môn yn dewis eu teyrngarwch ar ôl gael ei hethol! Mae'n siŵr y bydd 'na groeso i'r Hughes buddugol.

Mae etholwyr Môn wedi hen arfer a dewis rhwng ymgeiswyr a'r un cyfenw. Yn ôl yn 1964 fe enillodd Hughes arall, Cledwyn, yn erbyn tri o'r Jonesiaid. Ta beth mae'n rhaid bod Hughes v. Hughes yn frwydr ddifyr gyda bron i hanner yr etholwyr yn bwrw eu pleidlais.

Brwydr Blaenau

Vaughan Roderick | 12:40, Dydd Gwener, 15 Mai 2009

Sylwadau (0)

Ydych chi'n cofio Kramer v Kramer? Wel Alun v. Alun yw hi ym Mlaenau Gwent!

Mae'r cyn-weinidog diwylliant Alun Pugh wedi penderfynnu ceisio am yr enwebiad Llafur ar gyfer etholiad 2011. Mae Alun Davies AC eisoes yn y ras wrth gwrs. Mae hon yn un i'w gwylio!

Os ydy Alun (P) yn llwyddo a fydd Alun (D) yn mynd yn ôl i'r gorllewin a'i gwt rhwng ei goesau? A fydd Joyce Watson yn disgwyl amdano gyda breichiau agored, tybed?

Mae Alun (P) wedi addo peidio ymosod yn bersonol ar yr aelod presennol, Trish Law sydd , mewn ffordd, yn ymosodiad personol ar Alun (D). Fe fydd 'na waed ar y muriau cyn i hon fennu!

Cris Dafis yw'r gwestai ar y podlediad yr wythnos hon. Gwasgwch y botwm ar y dde.

Llais yn yr anialwch

Vaughan Roderick | 12:27, Dydd Gwener, 15 Mai 2009

Sylwadau (1)

Mae'n amlwg bod hon yn wythnos dda i lansio gwefannau newydd. Yn ogystal â Golwg360 mae'r cynulliad wedi lansio "" fforwm drafod i'r cyhoedd.

Yno i'ch croesawi mae Peter Black gyda'r neges ganlynol.

"Mae'r Cynulliad eisiau clywed eich barn ar y materion sy'n bwysig i chi. Bydd fforwm newydd 'mynnwch lais' yn rhoi'r cyfle i chi ddweud wrthym beth yw eich barn a rhoi gwybod i ni pa bynciau yr hoffech chi eu trafod - mynnwch lais a gosodwch yr agenda ar gyfer trafodaeth ddigidol. Cymerwch ran - mynnwch lais!"

Da iawn. Beth yw'r pwnc cyntaf felly?

"Degawd o ddatganoli - beth mae'n ei feddwl i chi?"
Wedi creu; 1 wythnos yn ôl.
Atebion; 0

Nefar in Iwrop

Vaughan Roderick | 11:34, Dydd Gwener, 15 Mai 2009

Sylwadau (0)

"Does gen i ddim cliw beth sy'n debyg o ddigwydd yn yr etholiadau 'ma." Nid fy ngeiriau i ond geiriau Karl y bwci ar y ffon y bore 'ma. Gallwch weld prisiau diweddaraf Karl draw ar flog Betsan ond y gwir amdani yw nad yw e na fi na neb arall a'r syniad lleiaf beth sy'n mynd i ddigwydd ar Fehefin y pedwerydd.

Yr un peth sy'n amlwg yw y bydd Llafur yn cael crasfa. Yr hyn sy'n amhosib proffwydo yw pwy fydd ar ei hennill.

A fydd na ferwsiwn Brydeinig o chwyldro'r dwylo glan wnaeth sgubo holl bleidiau'r Eidal i ebargofiant. Os felly pwy fydd ar ei hennill? Plaid Cymru? UKIP? Y BNP?

A fydd ymateb David Cameron i'r sgandalau yn ddigon i sicrhâi nad yw'r Ceidwadwyr yn dioddef o'r sgandalau yn eu rhengoedd nhw?

Mae arolwg diweddaraf i'r Sun yn cynnig rhyw fath o ateb gan awgrymu bod y gefnogaeth i UKIP yn dechrau cynyddu i lefel debyg i'r hyn dderbyniodd y Blaid yn yr etholiad Ewropeaidd diwethaf. Mae hynny'n rhyfedd o beth o gofio bod un o'r rhai etholwyd y pryd hwnnw wedi ei garcharu am gam-hawlio budd-dal ac un arall yn wynebu cyhuddiadau o dwyll!

Beth yw goblygiadau hynny yng Nghymru os ydy Llafur yn cael crasfa ac UKIP yn bwyta i mewn i bleidlais y Torïaid? Doeddwn i ddim yn deall pam fod Eurig Wyn wedi penderfynu cynnig ei enw y tro hwn. Efallai mai fe oedd yn iawn wedi'r cyfan.

360

Vaughan Roderick | 11:07, Dydd Gwener, 15 Mai 2009

Sylwadau (2)

Mae bellach yn fyw. Mae'n werth ychwanegu at eich ffefrynnau er bod yr ymateb yn hyd yma!

Cipolwg

Vaughan Roderick | 16:46, Dydd Iau, 14 Mai 2009

Sylwadau (1)

Dw i wedi bod yn cael cipolwg ar wefan newydd Golwg. Peidiwch â gofyn sut. Dydw i ddim am gynnig adolygiad llawn am ddau reswm amlwg. Yn gyntaf rwy'n gweithio i'r "gystadleuaeth"! Yn ail safle datblygu yn hytrach na'r wefan orffenedig sydd i'w weld ar hyn o bryd. Ar ôl dweud hynny mae gen i ambell i sylw- adeiladol gobeithio!

Mae'n ddiddorol nodi bod y wefan (fel y Ö÷²¥´óÐã yn nyddiau "Cymru'r Byd") yn cynnwys newyddion tramor. Mewn egwyddor mae'r penderfyniad yn ddigon call. Wedi'r cyfan fe ddylai 'na fod gwasanaeth mor gynhwysfawr â phosib yn Gymraeg.

Ein profiad ni yn fan hyn oedd mai ychydig iawn oedd yn darllen straeon tramor oedd heb ryw fath o ongl neu elfen Gymreig. Ar ddiwrnodau newyddion prysur yng Nghymru dwi'n rhyw amau y bydd yr eitemau tramor yn cael eu gwthio i'r naill ochor. Dyna ddigwyddodd yn y Ö÷²¥´óÐã. Fe gawn weld os ydy'r un peth yn digwydd i Golwg.

Mae'r safle hefyd wedi gwneud penderfyniad golygyddol i gyfyngu ar hyd y straeon newyddion. Rhyw ddau gant o eiriau sy 'na mewn stori ar gyfartaled. Fe ddywedodd Dylan ar Raglen Gwilym Owen mai gwahaniaethu rhwng y wefan a chylchgrawn Golwg yw'r bwriad. Rwy'n amau y bydd angen ail-feddwl. Fe fydd angen peth deunydd swmpus os am ennill cefnogaeth y rheiny oedd yn cefnogi "Y Byd".

Fel dwedais i safle datblygu yw hwn ond mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi siomi ychydig gan y diwyg (hen ffasiwn braidd ac yn llawn gwagleoedd) a'r diffyg deunydd aml-gyfrwng. Mae adran "Lle Pawb" (casgliad o is wefannau gan unigolion a chymdeithasau) ar y llaw arall yn syniad addawol ac ardderchog. Fe fyddai'n braf be bai'n bosib gweld a oedd un o'r is safleoedd wedi ei ddiweddaru heb ei agor ond cwyn fach yw honno!

Rhag ofn fy mod yn ymddangos yn negyddol mae'r safle yn hawdd iawn i ddefnyddio ac yn eglur iawn o safbwynt canfod cynnwys. Ar ddiwedd y dydd cynnwys safonol a diweddaru aml fydd yn cyfri.

DaiTV

Vaughan Roderick | 19:41, Dydd Mercher, 13 Mai 2009

Sylwadau (1)

Mae'r Telegraph wedi agor bwth fideo i aelodau seneddol cael esbonio eu treuliau. Drychwch pwy oedd yr aelod cyntaf i ddweud ei ddweud.


Mae David yn dod drosodd yn dda. Mae'n dweud nad oedd ganddo unrhyw gyfoeth wrth gyrraedd San Steffan, dim "pot o arian". Wedi'r cyfan, meddai, pymtheg mlynedd yn ôl roedd e'n gweithio fel gyrrwr lori. Digon gwir ond ydy David wedi anghofio'r swydd fach arall yna ym Mae Caerdydd? Ydy'r ffaith ei fod yn aelod o'r cynulliad am wyth mlynedd (gan gynnwys dwy flynedd fel AC ac AS) yn amherthnasol?

Gellir gweld treuliau David fe AC yn.

Zelig

Vaughan Roderick | 16:42, Dydd Mercher, 13 Mai 2009

Sylwadau (0)


Mae hi wedi bod yn wythnos dda i bobwyr y Bae gyda'r holl deisennau pen-blwydd o gwmpas y lle.

Dyna i chi Rhodri yn torri ei gacen Ddydd Llun. A phwy oedd yna i'w helpu? Wel roedd ei ddirprwy, Ieuan Wyn Jones yno, wrth reswm. A phwy arall? Ei ragflaenydd, Alun Michael? Dim sôn. Arweinwyr y pleidiau eraill efallai? Dim ffiars o beryg ond roedd y gweinidog addysg, Jane Hutt wrth law yn gwenu'n rhadlon ar gyfer y camerâu. Mwy na hynny roedd hi bron yn amhosib gweld Ieuan wrth i Jane wthio'i ffordd i'r blaen.

Tro Dafydd Elis Thomas oedd hi i dorri cacen Ddydd Mawrth- y tro hwn yn fyw ar "Wales Today". Dwy funud i fynd a dyma Zelig y cynulliad yn ymddangos unwaith yn rhagor. Safodd Jane Hutt wrth ymyl y Llywydd gan afael yn y gyllell er mwyn rhannu'r gwaith arlwyo. Hynny er gwaethaf gygau swyddogion y wasg a phrotestiadau ei chyd-aelodau.

Mae'n ffodus nad oedd ymgeisiwyr posib eraill ar gyfer yr arweinyddiaeth Llafur o gwmpas!

Sbort

Vaughan Roderick | 15:22, Dydd Mercher, 13 Mai 2009

Sylwadau (1)

"Does gen i ddim parch o gwbwl i'r Daily Telegraph" medd wrth amddiffyn ei hun yn erbyn cyhuddiadau ynghylch ei dreuliau.

Er mwyn profi'r pwynt mae Aelod Maldwyn wedi cyhoeddi'r ohebiaeth rhyngddo fe a'r papur lle mae'n ymateb i'r cyhuddiadau. Gallwch ddarllen yr ohebiaeth gyfan trwy wasgu botwm ar waelod y post. Yn y cyfamser dyma bigion o bapur y mae'n ymddangos bod Lembit yn ei barchu, y papur lle mae'n gyfrannwr cyson. Beth sydd yn Daily Sport, dywedwch?

Wel dim gair am dreuliau aelodau seneddol, diolch byth. Mae 'na bethau pwysicach yn y byd fel "Kelly- My Stiff Nip Hell" a "Zara; I love a big tackle"!

Darllen gweddill y cofnod

Pan ddaw yfory...

Vaughan Roderick | 21:15, Dydd Mawrth, 12 Mai 2009

Sylwadau (5)

Yfory fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi ei strategaeth ar gyfer addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Fe fydd y manylion yn ymddangos ar y tudalennau newyddion yn y man. Yn fy marn fach i mae'r cynllun hwn yn bwysicach na'r LCO iaith o safbwynt y Gymraeg ac fe ddylai wneud llawer i dawelu pryderon ymgyrchwyr iaith ynghylch y glymblaid presennol.

Fel y byddai dyn yn disgwyl y Gweinidog Addysg, Jane Hutt, fydd yn lansio'r cynllun. Fe fyddai Plaid Cymru yn gallu ceisio cymryd y clod er mwyn ceisio plesio ei chefnogwyr ond mae'n ymddangos na fydd hi'n ceisio gwneud hynny.

Pam felly? Wel mae 'na ddau reswm. Yn gyntaf fe fydd ambell i gyngor yn poeri gwaed ynghylch y strategaeth. Fe fydd hi'n fwy anodd iddyn nhw gwyno am "selotiaid iaith" a "gwthio'r Gymraeg lawr ein gyddfau" os ydy Plaid Cymru yn cadw draw. Yn ail mae 'na gyfres o apeliadau ynghylch addysg Gymraeg (yn Sir Gaerfyrddin a Chaerdydd ymhlith eraill) yn debyg o gyrraedd desg y Gweinidog yn ystod y misoedd nesaf. A fydd Jane yn fodlon tanseilio'r strategaeth y mae hi ei hun wedi ei lansio? Go brin.

Kerching!

Vaughan Roderick | 15:05, Dydd Mawrth, 12 Mai 2009

Sylwadau (1)

Dydw i ddim wedi dweud llawer ynghylch helyntion aelodau seneddol a'u treuliau. Mae'r cyfan sy 'na i ddweud wedi ei ddweud gan rywun yn rywle! Ar y llaw arall does fawr ddim byd arall yn cael ei drafod o gwmpas y lle 'ma! Does gen i fawr o ddewis felly ond croniclo ambell i ddatblygiad.

Dim ond rhai misoedd sy 'na wrth gwrs ers i ddyfodol Nick Bourne fod yn fantol oherwydd ei dreuliau ei hun. Does dim rhyfedd felly ei fod yn cydymdeimlo a Cheryl Gillan sydd wedi ei chyhuddo o hawlio am fwyd ci. Mae Cheryl wedi ei thristau gan y cyhuddiad yn ôl Nick, wedi'r cyfan "mae hi'n agos iawn at ei chi"!

Yn y cyfamser mae gwleidyddion y Bae yn mynd allan o'i ffordd i ymddangos yn burach na'r Forwyn Fair. Does 'na ddim byd anonest, er enghraifft, mewn derbyn codiad cyflog blynyddol. Serch hynny mae tri aelod Plaid Cymru am wrthod codiad am yr ail flwyddyn yn olynol a thri aelod Llafur a dau aelod Ceidwadol yn bwriadu cyfrannu eu codiadau i achosion da.

Ystyriwch wedyn achos rhyfedd ail gartref Alun Cairns. Mae gan aelodau cynulliad yr hawl i dreuliau am ail gartref os nad yw eu cartrefi etholaeth yng Nghaerdydd neu yn un o'r etholaethau sy'n ffinio ar Gaerdydd. Fe brynodd Alun fflat yn y Bae gan hawlio amdano oherwydd bod ei brif gartref yn etholaeth Pen-y-bont. O ganlyniad i ad-drefnu ffiniau seneddol mae'r tÅ· hwnnw bellach yn etholaeth Bro Morgannwg ond cafodd Alun ei eithrio o'r rheolau er mwyn iddo allu parhau i hawlio treuliau. I fod yn deg roedd 'na ddadl dros wneud hynny. Wedi'r cyfan doedd lleoliadau cartrefi Alun ddim wedi newid. Nawr mae Alun, o'i wirfodd, wedi penderfynu peidio hawlio'r arian er i'r rheolau gael eu llacio yn benodol ar ei gyfer. Beth sydd wedi newid? Dim byd, ac eithrio'r hinsawdd wleidyddol.

Mae'r holl bethau yma'n digwydd, wrth gwrs, ar drothwy etholiadau Ewrop ac yn gwneud canlyniadau rheiny hyd yn oed yn anoddach nac arfer i'w darogan. Rwyf wedi nodi o'r blaen y posibilrwydd y gallai Llafur ddod yn ail yn yr etholiadau hynny o safbwynt y bleidlais boblogaidd- y tro cyntaf i hynny ddigwydd mewn unrhyw etholiad yng Nghymru ers y 1930au. Roeddwn yn trafod y posibilrwydd hwnnw gydag un aelod Llafur heddiw. "Yn bersonol byswn i'n hapus iawn i ddod yn ail" meddai. Roedd e'n cellweirio, wrth gwrs. Efallai.

Rialtwch

Vaughan Roderick | 19:44, Dydd Sul, 10 Mai 2009

Sylwadau (0)

Roeddwn yn ceisio darganfod thema i'r ffilmiau'r wythnos hon. Fe wnes i daro ar restr llywodraeth yr UDA o'r yn y wlad honno. Nawr, mae dynion yn dwli ar restri a bues i'n pori am ychydig gan nodi nad yw "Barack" eto wedi ennill ei le yn y mil uchaf o enwau bechgyn! Ond oes 'na ambell i enw Cymreig neu Gymraeg yno?

Does na ddim byd ar restr y merched,hyd y gwela i, os nad yw "Rhianna" yn cyfri! Ar ochor y bechgyn roeddwn yn faclch i weld bod "Vaugh(a)n a "Roderick" yn bresenol ond mae 'na ddau enw yn sefyll allan sef "Dylan" (31) a "Rhys" (679). Dyna'r thema felly.

Gruff wrth yr olwyn

Losin i ambell i lygad! Mathew Rhys a'i fet Ioan G. mewn gwisg nofio ar Planed Plant.

Pwy sy'n gyfrifol am boblogrwydd yr enw Dylan? D. Thomas?

... Bob D.?

Yr ofn sydd gen i yw bod boblogrwydd "Dylan" yn seiliedig nid ar y bardd na'r canwr protest ond ar hwn!

Podlediad

Vaughan Roderick | 16:16, Dydd Gwener, 8 Mai 2009

Sylwadau (1)

Menna Machreth o Gymdeithas yr Iaith yw'r gwestai ar y podlediad yr wythnos hon. Gwasgwch y botwm ar y dde i wrando neu i danysgrifio.

Arafa Don

Vaughan Roderick | 14:09, Dydd Iau, 7 Mai 2009

Sylwadau (1)

Gyda'r holl broblemau economaidd a thymhestloedd y marchnadoedd arian dyw e ddim yn syndod efallai bod Ieuan Wyn Jones yn ddyn prysur a bod yr adran economaidd yn boddi mewn gwaith.

Serch hynny mae'n anodd anwybyddu'r cwynion cyson sydd i'w clywed o gwmpas y lle am arafwch yr adran wrth ddelio a'i gwaith.

John Smith AS yw'r diweddaraf i gwyno. Poeni mae aelod seneddol Bro Morgannwg am yr oedi ynghylch cyhoeddi cynlluniau'r ar gyfer ffordd i gysylltu Maes Awyr Caerdydd a'r M4. Yn ôl Mr Smith mae'r cyhoeddiad eisoes wedi ei ohirio nifer o weithiau a'r addewid diweddaraf yw y bydd yn cael ei wneud "yn ddiweddarach eleni" Mae Mr Smith yn hallt ei feirniadaeth.

"By delaying his vital decision, it would appear that Ieuan Wyn Jones is not prepared to take swift and bold decisions that can help steer the Welsh Economy out of this recession. I don't like the sound of 'later this year' because it sounds like rustling long grass"

Wythnos yn ôl cyhoeddodd yr adran fanylion y ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol....hynny mis ar ôl i'r flwyddyn honno gychwyn. Roedd y cynghorau lleol yn wynebu dewis anodd o'r herwydd. A ddylid parhau i redeg bysys yn y gobaith y byddai'r arian yn dod neu atal gwasanaethau sy'n hanfodol bwysig i rai o'n cymunedau?

Nid oedi oedd y broblem yn achos y gwasanaeth cyngor i fusnesau yn y canolbarth ond smonach gytundebol Mae'r yn adrodd yr hanes yn dda.

Beth yw'r broblem yn yr adran economaidd...gormod o waith, tybed, neu weinidog sy'n ei chael hi'n anodd dirprwyo ?

Yr ail o lawer?

Vaughan Roderick | 11:47, Dydd Iau, 7 Mai 2009

Sylwadau (0)

Mae Martyn Jones aelod Llafur De Clwyd wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll yn yr etholiad nesaf. Fel Betty Wiliams mae Martyn wedi penderfynu ymddeol er bod ei enwebiad eisoes wedi ei gadarnhau gan gynhadledd ddewis y blaid leol.

Ydy Martyn wedi newid ei feddwl, felly? Mae fe'n gwadu hynny.

"It was always my intention to retire in 2011. When it looked as though the General Election would be held in 2007 I was eager to stand one final time but it now seems only fair to the constituency to give a new candidate a chance fight a strong general election campaign on their own terms."

Digon teg, efallai, ond fe fyddai Martyn wedi gallu cyhoeddi ei benderfyniad flwyddyn yn ôl gan roi hyd yn oed mwy o gyfle i ymgeisydd newydd sefydlu ei hun. Roedd mwyafrif Martyn yn ddigon cysurus ond yn yr amgylchiadau presennol dyw Llafur ddim yn gallu cymryd De Clwyd yn ganiataol.

Gyda Martyn a Betty wedi newid eu meddyliau a fydd rhagor yn dilyn eu hesiampl? Beth am bobol fel John Smith, Julie Morgan a Nick Ainger sy'n wynebu brwydrau lleol sydd, ar hyn o bryd, yn ymddangos yn anodd iawn eu hennill?

Fe fyddai colli'r ymgeiswyr hynny'n ergyd drom i Lafur, yn gyfystyr ac ildio'r tir yn ddiwrthwynebiad bron. Fe fyddai pethau hyd yn oed yn fwy hunllefus pe bai aelodau yn yr ail reng o seddi Llafur yn dewis ymddeol- pobol fel Paul Flynn, Alun Michael ac Albert Owen. Yn yr achosion hynny gallai newid ymgeisydd golygu'r gwahaniaeth rheng colli a chadw sedd.

Gyda llaw does dim cysylltiad o gwbwl rhwng Martyn Jones AS sy'n enwog am ei y comedïwr ac artist "drag" sydd hefyd yn enwog am ei dei bô.

.

Hawl i holi

Vaughan Roderick | 10:10, Dydd Iau, 7 Mai 2009

Sylwadau (0)

Doeddwn i ddim yn sesiwn gwestiynau Rhodri Morgan neithiwr. Roeddwn i'n brysur yn paratoi ar gyfer CF99.

Beth oedd eich esgus chi? Golchi'ch gwallt? Pen tost? Y ci wedi bwyta'ch gwaith cartref? Neu efallai eich bod yn un o'r 17 aelod o'r "cyhoedd" wnaeth droi i fyny.

Dyma fy nghwestiwn i. O ble daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer nyrsys Cymru? Ai o ?

Rhyfel Cartref

Vaughan Roderick | 15:52, Dydd Mawrth, 5 Mai 2009

Sylwadau (3)

Mae gwleidyddion yn casáu cwestiynau rhethregol neu o leiaf yn esgus eu casáu nhw os ydyn nhw'n dymuno osgoi ateb! Ond beth os ydy cwestiwn rhethregol yn ymwneud a sefyllfa sy'n debyg o ddigwydd a beth os ydy'r sefyllfa yn un allweddol bwysig i ddyfodol Cymru?

Dyma'r senario i chi. Erbyn Hydref 2010 mae'n ddigon posib y bydd gan y Deyrnas Unedig lywodraeth Geidwadol. O dan y fath amgylchiadau mae'n debyg y byddai dwy ran o dair o'r aelodau yn y Bae yn pleidleisio o blaid cynnal refferendwm ar bwerau deddfwriaethol llawn i'r cynulliad. Does 'na ddim digon o aelodau Ceidwadol i flocio cynnig o'r fath a ta beth mae mwy nac un un AC Ceidwadol wedi dweud wrtha'i y byddant yn anwybyddu unrhyw chwip i bleidleisio yn erbyn refferendwm.

Yn y fath amgylchiadau a fyddai'r Ysgrifennydd Gwladol, Cheryl Gillan (neu efallai, Jonathan Evans) yn gwrthod y cais? Roedd Peter Hain o'r farn na fyddai unrhyw Ysgrifennydd Gwladol yn beiddio gwneud. Mae'n debyg hefyd mai dyna oedd barn arolwg Wyn Roberts o bolisi datganoli'r blaid nes i rai o fawrion y Ceidwadwyr gael gafael ar yr adroddiad a dileu ambell i gymal allweddol.

Ar hyn o bryd mae'r Ceidwadwyr yn paratoi eu maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol. Mae 'na bwysau cynyddol ar Nick Bourne i sicrhau bod y ddogfen yn cynnwys addewid penodol a phendant na fyddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn gwrthod cais am refferendwm. Yn ôl un Ceidwadwr amlwg fe fyddai methu gwneud hynny yn drychineb. Fe fyddai'n gadael i'r pleidiau eraill bortreadu'r Torïaid fel plaid wrth Gymreig, meddai "os ydy Nick yn colli'r fwrydr neu'n gwrthod ei hymladd mae ei holl waith dros y ddegawd ddiwethaf wedi ei ddadwneud."

Brecwast Lembit

Vaughan Roderick | 15:28, Dydd Mawrth, 5 Mai 2009

Sylwadau (0)

Pam ar y ddaear y mae pobol yn ddrwg licio Lembit druan? Al Murray y "Pub Landord" yw'r diweddaraf i gollfarnu aelod Maldwyn yn ôl y .

"If I don't ever have to interview Öpik again it would be too soon," Murray told Geoff Lloyd on Absolute Radio. "He was a bit of a twit. He came on thinking, 'I'll knock some lumps off this chap' and you sort of think 'that's not going to happen because we've spent all week sharpening this knife'."

Mae'n anhebyg y bydd Lembit yn ymateb. Mae fe'n brysur yn cynnig cyngor meddygol i ddarllenwyr y Daily Sport.

"Remember, you can't catch pig flu from eating pig meat. However bad things get, we'll still have bacon sandwiches."

Penblwydd Hapus

Vaughan Roderick | 14:30, Dydd Mawrth, 5 Mai 2009

Sylwadau (0)

Mae'r wythnosau diwethaf wedi gwneud i mi deimlo'n fwy o hanesydd nac o newyddiadurwr. Deng mlynedd ar hugain ers ethol Margaret Thatcher, chwarter canrif ers streic y glowyr, deng mlynedd ers etholiad cyntaf y cynulliad, mae'r galw am erthyglau ac eitemau bron yn ddiddiwedd.

Wrth bori trwy hen flwyddlyfrau HTV fe wnes i sylwi gymaint o newid sydd wedi bod ar feinciau'r cynulliad ers 1999. O'r trigain aelod gafodd eu hethol yn yr etholiad cyntaf mae 24 wedi gadael boed hynny o wirfodd neu drwy etholiad neu salwch. Ar ôl etholiad 2011 fe fyswn i'n tybio y bydd llai na hanner yr aelodau gwreiddiol o hyd yn eistedd yn siambr y senedd.

Mae aelodau gwych a gwael wedi gadael ac wedi aros wrth reswm. Serch hynny ar y cyfan byswn i i'n tybio bod y newid personél ynddi ei hun yn fanteisiol gan ddwyn gwaed a syniadau newydd i mewn i'r cynulliad.

Roedd y cynulliad cyntaf yn cynnwys nifer o wleidyddion oedd a phrofiad yn San Steffan. Roedd presenoldeb pobol fel Dafydd Wigley, Ron Davies a Rod Richards yn sicrhau bod trafodaethau yn y siambr yn fwy difyr a bywiog nac yn y cynulliad presennol. Doedd hynny ddim yn golygu ei bod yn fwy adeiladol wrth gwrs! A fydd 'na fwy o fynd a dod rhwng San Steffan a'r Bae yn y dyfodol? Gobeithio felly!


Mwynhewch

Vaughan Roderick | 14:08, Dydd Gwener, 1 Mai 2009

Sylwadau (3)


Mae'n benwythnos gŵyl y banc. Beth am ymlacio trwy wrando ar y podlediad (gwasgwch y botwm ar y dde) neu trwy fynd ar wibdaith i Lydaw?

Torri fy arddyrnau

Vaughan Roderick | 11:12, Dydd Gwener, 1 Mai 2009

Sylwadau (0)

Beth fedrai flogio ynghylch heddiw, dywedwch?

Oes 'na ryw ddatganiad diddorol gan swyddfa wasg y llywodraeth tybed? Beth am hwn gan Brian Gibbons yn cyhoeddi grant o £100,000 i'r gronfa ddatblygu archwilio?

"The Scrutiny Development Fund can be used by local authorities, working in collaboration with other public sector partners, to develop innovative, robust and sustainable scrutiny processes that can be shared with other local authorities."

Fe wnai wrthsefyll y temtasiwn.

Beth am hwn? Datganiad i'r wasg gan William Graham JP AM "Shadow Leader of the House and Commisioner for Assembly Resources".

Ydy William wedi anghofio rhywbeth?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.