Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Chwarae rygbi ar lan y cefnfor Gair gan Geraint o Awstralia: rhan 2
Gorffennaf 2007
O chwarae rygbi ar lan y cefnfor a chwarae golff gyda changarŵ, mae Geraint Lewis o Langynnin yn parhau i fwynhau yn Brisbane, yn ôl ei ddyddiadur i'r Cardi Bach.

Wel mae'n debyg bod yr adroddiad cyntaf ar fywyd yn Perth, Awstralia wedi ysgogi digon o ddiddordeb i'm perswadio i roi'r newyddion diweddaraf i chi am yr hyn sydd wedi digwydd yma yn ystod y mis neu ddau diwethaf.

Y tywydd sydd wedi newid fwyaf yn ystod y mis. Mae'r diwrnodau twym a heulog wedi diflannu ac yn eu lle rydyn ni'n cael diwrnodau oerach, cymylog a nosweithiau oer iawn. "Oer, 'dyw hi ddim yn mynd mor oer a hynny yn Awstralia?" medde chi. Ond pan fo'r tymheredd yn gostwng i 3 gradd canradd gyda'r nos, yna mae'n oer yma gan nad oes gwydro dwbl na gwres canolog i'r tai - sdim pwrpas cael gwres canolog ond i'w ddefnyddio am 2/3 mis y flwyddyn. Felly, mae'r tÅ·^ di bod yn rhewi ar adegau ac rydyn ni wedi gorfod buddsoddi mewn gwresogydd symudol.

Rydyn ni hefyd wedi cael glaw - a mawr oedd ei eisiau. Mae angen mwy eto ar yr ardal a'r wlad gyfan ar ôl gaeaf sych iawn y llynedd. Mae llawer o'r cronfeydd dŵr a'r llynnoedd yn sych ac mae'r cynghorau wedi gwahardd ysgeintellau a dyfrhau gerddi ar ddiwrnodau arbennig. Mae'r Awstraliaid yn falch o liw gwyrdd eu glaswellt yn yr ardd a bydd gan lawer 4 / 5 ysgeintell ar lawnt sydd hanner maint cwrt tennis!

Felly, er mwyn arbed dŵr dim ond ar rai adegau y cewch chi ddefnyddio ysgeintell ac yn ein ardal ni mae hynny ar ddydd Mercher o 6-7pm a dydd Sul o 5-6pm. Cewch chi ddirwy o $1000 os byddwch chi'n eu defnyddio ar adegau eraill. Serch hynny, mae'r glaw wedi bod yn llifeiriol. Mae'n union fel monsŵn ac mae'n glawio mor drwm nes bod pobl sy'n gyrru yn tynnu mewn ac aros iddi beidio gan na allan nhw weld dim. Mae'r glaw yn para am ryw 2 awr fel arfer; yn anffodus mae angen iddi fwrw am ddiwrnodau er mwyn datrys y prinder dŵr yn yr ardal.

Gwnaethon ni symud i'n tÅ· ni'n hunain y mis diwethaf. Mae mewn ardal o'r enw Mount Hawthorn sydd tua 10 munud o'r traeth a phum munud o ganol y ddinas. Rydyn ni wedi ymgartrefu'n dda ac yn dod i nabod yr ardal gan bwyll. Dwi eisoes wedi dod i wybod ble mae'r siopau tsips, bwyd parod Tsieniaidd, a kebabs gorau yn yr ardal ac un o'r tafarnau gorau yn y ddinas yw 'The Paddington' neu 'Paddo' os ydych chi'n lleol. Dim ond taith gerdded 5 munud sydd eisiau i gyrraedd hwnnw felly popeth yn iawn hyd yma!

Mae Jen a minnau wedi bod yn ffodus i gael cryn dipyn o waith cyflenwi mewn amryw o ysgolion. Dwi wedi bod yn ffodus i gael 'githio mewn ychydig o ysgolion preifat i fechgyn yn Perth lle rhoddir pwyslais mawr ar chwaraeon, felly mae wedi bod yn ddiddorol a phleserus cael addysgu yn yr ysgolion hynny. Bum yn cymryd gwers hwylio am fore cyfan yn un o'r ysgolion. Mae'r ysgol yn y bae felly mae'r disgyblion y cerdded lawr at y dŵr ac yn hwylio allan i'r bae. Yn amlwg, doeddwn i ddim yn eu haddysgu am fod ganddyn nhw hyfforddwr hwylio cymwys, felly'r cyfan oedd yn rhaid i mi ei wneud oedd eistedd ar y lan yn edrych ar yr olygfa gydol y sesiwn deir awr. Cofiwch, nid yw mor hawdd a hynny bob amser!

Yr wythnos diwethaf roeddwn i'n dysgu mewn ysgol gymysg i'r gogledd o'r ddinas ac yn cymryd gwers gerddoriaeth. Roedd yr athro wedi gadael gwaith lle'r oedd yn rhaid i ddosbarth o 35 o ddisgyblion Blwyddyn 9 gyfansoddi darn o gerddoriaeth gan ddefnyddio gwahanol offerynnau. Mae hynny swnio'n dda ond pan roedd gen i 35 o fyfyrwyr yn ysu am daro drymiau, canu'r piano, chwythu utgyrn a cheisio canu gitâr mae'r stori'n wahanol iawn. Dyna awr hiraf fy mywyd. Doedd gen i ddim llais erbyn diwedd y wers am fod yn rhaid i mi weiddi dros ben disgyblion yn canu rhyw ddeg o wahanol offerynnau ar yr un pryd.

Doedd hi fawr o help nad oedd llawer o ddiddordeb gan y rhan fwyaf ohonyn nhw mewn cyfansoddi alaw, tra bod honno'n swnllyd roedden nhw'n ddigon bodlon! Roedd cymaint o sŵn yn yr ystafell fel y bu rhaid i mi gael pawb i eistedd er mwyn cael ychydig o dawelwch a'u dysgu i ganu Chopsticks ar y piano.

Rydyn ni wedi llwyddo i weld ychydig mwy o Awstralia a rhai wythnosau yn ôl aethon ni draw i Brisbane, Queensland i ymweld ag un o ffrindiau Jen yn y brifysgol a'i theulu. Wrth lwc roedd hynny'n digwydd bod ar yr un penwythnos â'r gêm rhwng Cymru ac Awstralia yn Stadiwm Suncorp, Brisbane. Cawson ni amser gwych yn ymweld a theithio o amgylch y golygfeydd yn Brisbane, teithio ar afon trwy'r ddinas, teithio i Surfers Paradise am brynhawn ac ymweld a'r Gold Coast a'i holl atyniadau. Darn hir o draeth yw Surfers Paradise gyda rhai o'r gwestai a'r fflatiau talaf a welwch erioed. Dim ond traeth gyda llawer o goncrid sydd yno ac roeddwn i wedi clywed cymaint am Surfers, ond i ddweud y gwir roedd yn siom fawr ar wahân i'r ffaith ei fod yn lle glân iawn.

Mae'r Gold Coast tua awr i'r de o Brisbane gyda llawer o draethau a pharciau thema - tri ohonyn nhw y mwyaf yn Awstralia - pob un drws nesaf i'r llall a thua maint Alton Towers. Hefyd ar y Gold Coast mae tŷ^ Big Brother Awtralia. Wel os oedd chi'n credu bod Big Brother y DU yn ddadleuol, dyw e'n ddim o gymharu â'r un yn Awstralia. Mae'n wahanol iawn gyda rheolau llym, llawer o fynd a dod, noson gemau byw lle mae cystadluwyr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd er mwyn ennill noson yn yr ystafell wobrau ac maen nhw hefyd yn cael gwahodd cystadleuydd arall i ymuno â hwy er mwyn trafod enwebiadau. Os ydych chi'n gwybod rhywbeth am Big Brother byddwch chi'n gwybod am be dwi'n siarad ond yma mae yn y newyddion am y rhesymau anghywir.

Ta beth, nôl i'r gêm a Brisbane. Fel y bydd y rhan fwyaf ohonoch chi'n gwybod rydw i'n angerddol am Gymru felly dyma fi'n mynd i'r gêm yn gwisgo cot fach Undeb Rygbi Cymru (bu cymaint o Awstraliaid yn holi i mi a oedd cwrw ar gael o'r enw Brains Beer gan mai dyna enw'r noddwr ar gefn y got) a dyma fi'n barod i floeddio Hen Wlad Fy Nhadau fel bod pawb yn Llangynin yn gallu 'nghlywed ar y bocs. Wel, dyma fi'n bloeddio, ond heb fod yn gyfarwydd a chanu'r Anthem mewn gêm rygbi a chlywed fy llais fy hun! Roedd yn deimlad rhyfedd gan mod i wedi arfer bod ymysg tyrfa o 70,000 o bobl eraill yn cydganu â mi, neu Martin fy nghyfaill yn ceisio gwneud yn siŵr mai ei lais ef oedd gryfaf yn y stadiwm, ond bloeddio canu wnes i ta beth a chael fy llongyfarch gan yr Awstraliaid y tu cefn i mi am yr unawd.

Ond roedd y gêm yn siomedig iawn, am fod Cymru wedi colli yn y lle cyntaf, ond hefyd am fod tîm Cymru fel petai wedi rhoi i fyny ac am fynd nôl ar yr awyren cyn gynted â phosibl. Wnaeth niwed Chris Chekaj ddim helpu a gwnaethon nhw ddangos y digwyddiad bedair gwaith ar y sgrin fawr gyda'r dorf o 48,000 yn ochain bob tro, ond nid oedd hynny'n esgus dros y ffordd na wnaeth y tîm chwarae yn yr ail hanner.

Dwi'n dal i lwyddo i chwarae rygbi er bod y corff yn boenus yr wythnos wedi'r gêm. Mae'r nifer fawr o Dde Affrica a Seland Newydd sydd yma am brofi pa mor fawr a chryf y maen nhw ac yn dangos hyn wrth i mi gael fy nhaclo a'm hyrddio i'r llawr. Allai ddim cofio cael fy nysgu i ddefnyddio'r dull hwn o daclo yn Nyffryn Taf na Chlwb Rygbi Arberth, (byddai sawl un yn dweud na ches i fy nysgu o gwbwl!) ond mae'n debyg mai dyma sy'n gyffredin i'r bechgyn hyn ac weithiau mae'n well peidio a chael y bêl oherwydd os cewch chi hi gall unrhyw beth ddigwydd. Yr unig beth da am y rygbi yw'r meysydd rydyn ni'n chwarae arnyn nhw. Fel y gwelwch yn y llun, (fi yw'r un sydd ar fin pasio'r bêl!) mae'n maes wrth ymyl y cefnfor, a allwch chi ddim cael golygfa harddach i chwarae gêm, felly mae hyn yn gwneud iawn am y dolur corfforol!

Dwi hefyd wedi bod yn chwarae ychydig o golff, ond heb fod yn sgorio'n rhy dda. Pan oeddwn i'n chwarae rhai wythnosau yn ôl, roeddwn i ar fin taro'r bêl pan glywais i sŵn y tu ôl i mi. Dyma fi'n troi a gweld cangarŵ yn sefyll tua 10 medr i ffwrdd yn ein gwylio ni. Nawr, mae pawb sy'n f'adnabod i yn gwybod nad ydw i'n dda iawn gydag anifeiliaid. Alla i ddim dweud mai cŵn, cathod ac ati yw fy ffrindiau gorau felly pan oedd `na gangarŵ tua'r un maint â fi yn sefyll yno yn gwylio gyda'i glustiau i fyny, doeddwn ni ddim yn teimlo'n gyfforddus iawn a tharo pêl golff oedd y peth diwethaf ar fy meddwl. Ond dyna wnes i a dyma'r bêl ar ei ffordd ac am weddill y gêm roeddwn i'n cadw un llygad tu ôl i mi rhag ofn y byddai Skippy am weld mwy!

Pan ddwedais i wrth rai o'r bechgyn yn y clwb rygbi dyma nhw'n chwerthin a dweud os oeddwn i am chwarae golff y byddai'n rhaid i fi ddod i arfer â'r cangaraŵs gan fod rhai ar bob cwrs golff! Gwell cadw at crazy golf efallai.

Yn olaf, erbyn y byddwch chi'n darllen hwn mae'n dra thebyg y byddwch chi wedi gweld Jen a fi yn y cnawd gan ein bod yn dod yn ôl i'r DU am ychydig o wythnosau ym mis Gorffennaf yn ystod ein pythefnos hanner tymor. Doedden ni ddim wedi disgwyl dod yn ôl mor gyflym ac wedi bwriadu ymweld ym mis Hydref ond mae Jen yn feichiog ac ni fyddai'n ddoeth teithio mor bell mewn awyren ym mis Hydref. Oes, mae 'na Lewis bach arall ar y ffordd ac mae'r ddau ohonom yn falch iawn o'r newyddion a'r babi i gyrraedd ddechrau mis Rhagfyr.

Bydd hi'n braf gweld rhai ohonoch chi pan fyddwn ni adre ym mis Gorffennaf a chael hanes yr hyn sydd wedi bod yn digwydd nôl yn yr hen wlad. Mwynhewch dywydd yr haf ac fe welwn ni chi chwap.

Pob Hwyl
Geraint

Gair gan Geraint o Awstralia: rhan 1

Gair gan Geraint o Awstralia: rhan 3

Gair gan Geraint o Awstralia: rhan 4


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý