Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Gruffudd Ifan Sêr Sir Benfro
Medi 2003
Mae e mor gartrefol yn cerdded trwy Gwmderi ag y mae yn ardal Y Cardi Bach, ac erbyn hyn mae Gruffudd Ifan yn adnabyddus trwy Gymru fel Robert Dilwyn ym Mhobol y Cwm.

I bobol ardal Y Cardi Bach, mae Gruffudd hefyd yn gyfarwydd am ei waith fel Swyddog Prosiect Hendy-gwyn i Fenter Taf Myrddin. Prin iawn yw amser sbâr Gruffudd Ifan, ond fe ges i gyfle i gael sgwrs gydag e yn ystod seibiant o'i ffilmio.

"Dwi 'di chwarae rhan Robert Dilwyn ers dwy flynedd" meddai Gruffudd wrtha'i. "Ges i wrandawiad yng ngwanwyn 2001, ac er na ges i'r rhan wnes i gynnig amdani, cefais gynnig rhan Robert Dilwyn. Fel mae pethau wedi troi mas, mae'n well rhan na'r un wnes i fynd amdani yn y lle cynta"

Erbyn hyn, mae Gruffudd yn gweithio gyda rhai o actorion enwocaf Cymru. "Roedd hynny'n deimlad annifyr ar y dechrau," meddai Gruffudd wrth edrych noô, "Ond ron nhw'n neis iawn ac roedd Gillian Elisa (sy'n chwarae rhan Sabrina, mam Robert Dilwyn) ym grêt. Wnaeth hi fy helpu i ddysgu'n linellau, egluro'r termau technegol wrth ffilmio a fy helpu i setlo mewn yn gyffredinol.

Nid dymar tro cynta i Gruffudd actio ar y teledu. Fe ymddangosodd hefyd yn y ddrama Y Palmant Aur, ond mae ei ddiddordeb mewn actio yn mynd yn bellach yn ôl i'r cyfnod pan roedd yn yr ysgol, yn actio'r prif rannau yn nifer o gynyrchiadaur ysgol a gyda chwmnïau theatr lleol. Erbyn hyn mae e'n derbyn nifer o sgriptiau gafaelgar yng Nghwmderi.

"Dwi'n mwynhau'r sgriptiau lle mae Robert Dilwyn yn gyfeiliornus a tamaid bach yn slei," meddai Gruffudd gan wenu. "Mae e'n fwy o sbort i actio cymeriad fel 'na nag yw e i actio cymeriad sy'n rhy neis!"

Ac yntau yn wyneb mor gyfarwydd, mae'n anodd weithiau i bobol wahaniaethu rhwng y bachgen o Efailwen a'r crwt o Gwmderi. "Dwi wedi cael fy stopio ar y stryd cyn hyn," meddai Gruffudd gan chwerthin. "Unwaith, daeth menyw mewn oed lan ata i a dweud wrtha i'n grac ei bod hi'n gwybod beth o'dd mlaen 'da fi! Meddwl taw Robert Dilwyn o'n i wnaeth hi. Ro'dd hwnna'n eitha doniol!"

Nid dawn actio yn unig sydd gan Gruffudd. Mae e hefyd yn chwarae'r drymiau i'r grwp Texas Radio Band, ac wedi treulio'r rhan fwyaf o'r haf yn recordio albwm newydd fydd yn cael ei rhyddhau cyn hir. Mae 'na gynlluniau hefyd i ddychwelyd i'r stiwdio i recordio mwy o ganeuon cyn hir. "Mae sawl gig wedi eu trefnu 'da ni" meddai Gruffudd. "A phan bydd yr albwm yn cael ei rhyddhau, fe fyddwn ni'n teithio o amgylch Cymru i'w hyrwyddo, felly cadwch lygad mas amdanom ni!"

Er ei fod bellach wedi symud i Gaerdydd, bu Gruffudd yn gweithio i Fenter Tâf Myrddin fel Swyddog Prosiect Hendy-gwyn am gyfnod. "Wnes i fwynhau gweithio ar y Prosiect," meddai. "Mae'r ymateb i weithgareddau fel dathliadau Gwyl Dewi a'r jambori gyda Martyn Geraint yn dangos pa mor llwyddiannus mae'r Prosiect wedi bod."

Ond erbyn hyn wedi ymgartrefu yn y brifddinas, mae'n benderfynol o wneud y gorau o bob cyfle ym myd actio."Dwi'n teimlo'n drist i ardal y Prosiect yn Hendy-gwyn," meddai, "Ond nawr yw'r amser i weld os yw hi'n bosib i fi wneud gyrfa fel actor, ac ma' rhaid i fi fod yng Nghaerdydd i wneud hynny'n llwyddiannus. Ond er 'mod i'n symud i Gaerdydd, rwy'n gobeithio y galla'i helpu Prosiect Hendy-gwyn yn y dyfodol," meddai Gruffudd.

Dymunwn yn dda i Gruffudd wrth iddo geisio gwneud ei farc mewn byd cystadleuol dros ben, a gobeithio y gwelwn llawer mwy ohono ar ein sgrin deledu yn y dyfodol. A phwy â wyr, efallai y byddwn ni'n gweld Gruffudd Ifan yn rhoi'r gorau i stryd fawr Cwmderi am boulevards Hollywood rhywbryd yn y dyfodol. Gwell i Ioan Gruffudd a Rhys Ifans ddechrau edrych dros eu 'sgwyddau.... !


Kevin Davies
Kevin Davies
Disg a Dawn
Sgwrs gyda Kevin Davies

"Do'dd hi byth yn uchelgais fowr i fi fod yn gyflwynydd radio- na'th e jyst ddigwydd!" meddai Kevin Davies wrth imi ofyn iddo sut ddechreuodd e' yn y diwydiant darlledu.

Er hyn, mae e nawr yn wyneb a llais cyfarwydd trwy Gymru gyfan ac ar hyn o bryd yn mwynhau cyflwyno ar C2, y rhaglen newydd i bobol ifanc ar Radio Cymru.

"Dwi'n lwcus iawn i gael gwneud gwaith dwi'n mwynhau ei wneud," meddai wedyn. "Dyw hi ddim yn struggle o gwbwl i godi yn y bore er mwyn mynd i'r gwaith!"

Er mai fel cyflwynydd radio y mae Kevin Davies fwyaf adnabyddus, nid yw'n ddieithryn ar sgrin fach y teledu chwaith. Mae'n gallu dweud ei fod wedi bod ar rai o raglenni mwyaf adnabyddus a phoblogaidd S4C gan gynnwys Dinas, Jacpot a'r hen ffefryn Ffalabalam.

"Wo'n i'n joio cyflwyno ar y teledu" meddai Kevin wrtha'i. "Roedd e'n waith caled, and ro'n ni'n cael sbort mowr!!"

Ond yn ogystal â'r gwaith cyflwyno, oeddech chi'n gwybod bod Kevin wedi bod yn tipyn o foi roc a rôl yn ei ddydd hefyd. Tra yn yr ysgol, roedd yn rhan o grwp roc gyda chriw o'i ffrindiau, ac yn perfformio o den yr enw 'Y Diawliaid'. Tra'n ymddangos ar y rhaglen Clipsen ar S4C yn ddiweddar cafodd Kevin ei fodd gan atgofion o'r gorffennaol wrth iddynt ddangos fideo o'r 'Diawliaid' yn perfformio, a hynny cyn i Kevin ddod yn wyneb adnabyddus!

"Roedd hi'n sioc ofnadwy, cred ti fi" meddai Kevin, "ond roedd hi hefyd yn grêt i weld y fideo o'r grwp eto achos r'on i'n meddwl bod hwnna wedi mynd ar goll!

Wedi cael blas ar y bywyd roc a rôl unwaith eto, tybed a ddaw 'na gyfle i weld 'Y Diawliaid' yn ailffurfio ac yn perfformio eto, cyn hir?
"Sai'n meddwl ny!" yw ateb pendant Kevin wrth iddo gael pwl o chwerthin. "Do'dd y llais ddim gyda fi yn y Ile cynta', ac yn bendant dyw e ddim da fi nawr!"

Y tu ôl i feicroffon mewn stiwdio glyd tra'n darlledu ar y radio mae Kevin Davies fwyaf hapus heddiw. Mae e wedi cael y cyfle i gyfweld â phob math o bobol ar ei raglenni ond mae un neu ddau berson arall y byddai wrth ei fodd yn cael sgwrs gyda nhw.

"Yn bendant, Nelson Mandela," meddai Kevin, "mae e wedi cael gymaint o brofiadau. A Billy Connolly hefyd. Hoffen i weld beth sy'n neud iddo fe ticko!

"Felly, yn un o DJ's adnabyddus Radio Cymru ac yn hapus ei fyd, beth yw gobeithion Kevin Davies ar gyfer y dyfodol?
"Dwi ishe parhau gyda'r hyn dwi'n neud i fod yn onest" yw ei ateb syml. "Cario 'mlaen i weithio fel ydw i nes 'mod i'n ddigon cyfoethog i ymddeol yn gynnar!"

Braf iawn, wir!

Aled Wyn Vaughan


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý