Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Geraint Y diweddaraf o Awstralia: rhan 3
Medi 2007
Newyddion diweddaraf Geraint a'r wraig o Perth, i ddarllenwyr papur bro Y Cardi Bach.

Wel, shwt mae? Aeth cwpwl o fisoedd heibio ers y newyddion diwethaf a gobeithio eich bod chi i gyd yn iawn. Gyntaf oll, sut mae'r tywydd? Pan ddaethon ni'n ôl am dro sydyn ym mis Gorffennaf cawson ni law bob dydd bron a thra roedden ni ym Mryste cafodd sawl ardal gerllaw eu heffeithio gan lifogydd felly, gobeithio bod pethau'n well erbyn hyn.

Mae'n edrych yn debyg ein bod ni wedi dod nôl â'r glaw gyda ni i Perth gan mai dyma fu un o'r gaeafau gwlypaf ers deng mlynedd. Ond, credwch fi neu beidio mae'r argaeau'n llai na hanner llawn a thros yr wythnosau diwethaf mae'r gwanwyn wedi cyrraedd gydag awyr las a thymheredd yn cyrraedd 26 gradd - felly dyw hi ddim yn ddrwg i ddweud y gwir ac erbyn y byddwch chi'n darllen hwn siawns y bydda i wedi mynd yn ôl i'r cefnfor i wella fy nhechneg yn brigo'r tonnau neu syrffio.

Roedd hi'n braf iawn eich gweld chi ychydig wythnosau'n ôl, er ein bod ni wedi methu dal i fyny â phawb am fod amser yn brin. Roedd yn arbennig o braf gweld ein teuluoedd a'n ffrindiau ac mae'n rhyfeddol cymaint mae Jac a Josh wedi newid mewn dim ond 5 mis. Dwi'n siŵr gwelwn ni fwy o wahaniaeth fyth pan fyddwn ni'n ôl fis Awst nesaf i briodas ffrind. Yr hyn sy'n fy mhryderu i yw, po hiraf y bydda i ffwrdd mae llai o siawns y bydd y ddau grwt yn chwarae gyda'r bêl hirgron. Mae'n edrych yn go debyg eu bod nhw'n dilyn eu tad, felly bydd na Lewis arall yn chwarae lawr y parc i Glwb Pêl-droed Llanboidy. Ond dyna fe, ar ôl Cwpan y Byd falle y gwelan nhw mai rygbi yw'r gêm wedi'r cwbl a dilyn camre Wncwl Geraint. Gobeithio y bydd tîm Cymru yn ysgogi'r bois i chwarae rygbi. Dwi'n gobeithio eich bod chi'n cytuno â mi achos erbyn i chi ddarllen hwn efallai y byddwn ni wedi colli yn erbyn Canada neu Siapan!!

Pan oeddwn i nôl dwedodd sawl un pa mor dda oedd yr erthyglau yn Cardi Bach a'u bod nhw'n credu bod fy Nghymraeg i'n sobor o dda. Dwi'n falch deall eich bod chi'n cael yr hanes yn ddiddorol ond mae'n rhaid i mi fod yn onest am un peth - yn y Saesneg dwi'n ysgrifennu, mae cyfnither i fi o'r ardal yn eu cyfieithu nhw!! Sori os dwi wedi'ch siomi chi ond byddai'n cymryd oes pys i fi sgrifennu yn y Gymraeg nad dwi'n gwneud hynny'n aml bellach ac yn tueddu ysgrifennu fel dwi'n siarad nad yw bob amser yn darllen yn rhy dda yn y Gymraeg.

Ond i'r rhai ohonoch chi sydd wedi'ch siomi gyda'r cyfaddefiad efallai, ces i roi prawf ar fy Nghymraeg pan oeddwn i nôl yn y DU. Gofynnwyd i fi fynd ar raglen Hywel a Nia ar Radio Cymru i sôn am fy anturiaethau yn Awstralia. Rhaid i fi ddweud roeddwn i'n nerfus tu hwnt cyn y rhaglen a phan ddywedodd Nia 'Bore da Geraint', roedd nghoese i fel jeli - doeddwn i heb fod mor nerfus ers i mi orfod can 'Iesu Tirion' ar fy mhen fy hun pan oeddwn i'n saith mlwydd oed yn Gymanfa Ganu yng Nghapel Bethlehem, Sanclêr a hwnnw'n orlawn. Ta beth, fe aeth y cyfweliad yn dda iawn a buan iawn roeddwn i wedi ymlacio wrth ymateb i gwestiynau'r ddau ac erbyn y diwedd doeddwn i ddim am i'r cyfweliad ddod i ben. Rhaid i fi ddweud mod i wedi mwynhau'r profiad.

Wel, erbyn hyn rydyn ni wedi bod nôl ym Mherth am 6 wythnos mae wedi bod yn hynod brysur. Pan gyrhaeddon ni'n ôl ym maes awyr Perth bu'n rhaid mynd trwy'r broses ddiogelwch manwl am rai oriau gan fod holl feysydd awyr Awstralia wedi tynhau'r mesurau diogelwch. Roedd hyn am fod rhai a oedd yn cael eu cysylltu â bomwyr Maes Awyr Glasgow yn ddiweddar wedi'u harestio ym Mrisbane. Roedd y mesurau newydd yn golygu, er nad oedd gennym ni ddim i'w ddatgan, bod yn rhaid sganio a chwilio trwy bopeth oedd gennym fel oedd yn digwydd i bawb arall a oedd yn cyrraedd y maes awyr. Fe gymerodd hyn gryn dipyn o amser fel y gallwch chi ddychmygu. Felly, nid dyma oedd y croeso gorau'n ôl i Awstralia, ond wedi dweud hynny gwell gweld mesurau llym na dim mesurau o gwbwl.

Y diwrnod wedyn aethon ni allan a phrynu car - Ford Focus - gan fod Jen wedi llwyddo i gael swydd yn addysgu pedwar diwrnod yr wythnos mewn ysgol breifat neis iawn o'r enw St Stephens, felly mae angen dau gar arnon ni nawr gan fy mod i'n teithioi gyfeiriad gwbl wahanol i Jen. Mae hi'n addysgu Ymarfer Corff a bydd hi'n gweithio tan ddechrau mis Tachwedd mwy na thebyg pan fydd hi'n gadael erbyn geni' Lewis Bach'. Dwi wedi bod yn lwcus o gael tipyn o waith mewn rhai o'r ysgolion preifat i fechgyn sy'n rhoi cryn bwyslais ar chwaraeon a dim ond am un diwrnod dwi wedi bod heb waith y tymor hwn. Gobeithio y bydd y galw am athrawon cyflenwi Ymarfer Corff yn parhau. Efallai hefyd y bydd gen i ddiddordeb mewn rhai swyddi sydd ar ddod mewn ysgolion ar gyfer mis Ionawr.

Dwi wedi llwyddo i gael gwaith hyfforddi yn un o'r ysgolion preifat cymysg, sef Coleg John XXIII, ac wedi cael cyfrifoldeb dros y tîm rygbi dan 14 oed. Dwi'n cael fy nhalu am y gwaith, ond mae yna un anfantais - cynhelir y sesiynau hyfforddi ar fore Llun a bore Gwener bob wythnos a hynny am 6.30 yn y bore, cyn i'r ysgol ddechrau! Rhaid dweud bod yr wythnos neu ddwy gyntaf wedi bod yn dipyn o her ond gyda dweud hynny mae'n cyd-fynd yn dda gyda'r gwaith mewn ysgolion eraill gan fod yr hyfforddiant yn gorffen am 8am a dwi wedyn yn gallu mynd ymlaen i wneud fy ngwaith cyflenwi. Mae'r tîm wedi bod yn gwneud yn reit dda ac ar hyn o bryd rydyn ni'n 3ydd yn y gynghrair a gobeithio y bydd y cyfle hwn yn gam ymlaen i gael mwy o waith hyfforddi rygbi yn ardal Perth.

Fe ddylwn ni sôn am Jen a Lewis Bach hefyd a'r ddau yn dod ymlaen yn dda iawn. Cawson ni sgan 21 wythnos ychydig yn ôl ac roedd pob dim yn edrych yn dda. Roedd yr ysbyty yn fodlon iawn â'r ffordd y mae popeth yn dod ymlaen pan oedd Jen yno am apwyntiad beth amser yn ôl. Byddwn ni'n mynd i ddosbarthiadau Cyn Geni cyn hir - sef dosbarthiadau 'Huff Puff fel y maen nhw'n cael eu galw yma - felly yn hytrach na phwffian mewn hyfforddiant rygbi ar nos Fawrth bydda i'n dysgu am dechnegau anadlu er mwyn gallu cynorthwyo Jen yn ystod yr enedigaeth. Dwn i ddim pa un sydd anoddaf!

Rydyn ni wedi bod yn lwcus o fod wedi mynd i rai digwyddiadau yn ardal Perth yn ddiweddar. Aethon ni i wylio Disgyniad Northam - Avon lle mae canŵ^od a chaiacau yn ogystal â chychod modur yn teithio i lawr yr Afon Swan sydd 144 cilometr o hyd. Cynhelir y digwyddiad dros ddau ddiwrnod ac mae'n rhaid i'r cychod deithio trwy ddyfroedd gwyllt ac osgoi'r creigiau a'r clogfeini niferus sy'n eu rhwystro. Mae rhywbeth yn debyg i ddyfroedd Cenarth ond gan waith yn hirach! Mae angen dau yn y cychod modur er mwyn eu hatal rhag dymchwel a hefyd pan fyddan nhw'n troi corneli tynn gall eich partner fod o help os byddwch chi'n cael eich dal rhwng y creigiau. Roedd cannoedd yn gwylio'r digwyddiad ac yn bendant byddwn ni'n mynd eto'r flwyddyn nesaf.

Rydyn ni hefyd wedi bod i weld Cirque de Soileil, un o sawl anrheg pen-blwydd i Jen gan ei bod wedi dathlu'i phen-blwydd ym mis Awst. Roedd y Cirque de Soileil yn wych, ac os ydych chi wedi gweld y criw erioed byddwch chi'n gwybod am beth dwi'n sôn. Dwi'n credu eu bod nhw'n dod i Lundain bob dwy flynedd ac mae'n achlysur gwerth ei weld. Yn y bôn syrcas yw hi sy'n dweud stori, heb fod yn llawn nonsens syrcas arferol ond gyda rhai campau gwych gan yr acrobatiaid yn ogystal â champau peryglus dros ben. Roedd y cyfan yn anhygoel ac fe wnaethon ni fwynhau'n fawr iawn.

Anrheg arall gafodd Jen gen i oedd penwythnos lawr ym Margaret River yn Ne Orllewin Awstralia. Mae'n daith tua 4 awr mewn car o Perth ac yn ardal sy'n enwog am ei thraethau syfrdanol o hardd, ogofau ac arfordir ysblennydd a gwindai gwych. Yn anffodus roedd y tywydd yn sobor o wael gydag ystormydd a glaw trwm ond fe lwyddon ni i gael penwythnos braf yn ymlacio. Ces i gyfle i flasu ychydig o'r gwin - profiad braf - dim i Jen efallai ond dwi'n credu mod i wedi llwyddo blasu digon dros y ddau ohonon ni.

Mae'r tymor rygbi drosodd bellach a thros yr wythnosau diwethaf enillon ni bedair gêm yn olynol sy'n ein rhoi ar ganol y tabl. Bues i'n lwcus i gael 'Chwaraewr y Gêm' mewn dwy gêm felly roeddwn i'n cael gwobr gan y noddwyr sef pryd o fwyd i bedwar gwerth 120.00 punt yn un o westai gorau Perth. Fel y gallwch chi ddychmygu, roeddwn i'n boblogaidd iawn y noson honno ond o leiaf roedd yn dangos i Jen bod rhai pethau da yn deillio o'r ffaith mod i'n chwarae rygbi.

Wel, dwi'n credu mod i wedi dweud popeth sydd wedi digwydd yma ym Mherth. Gobeithio bod Carwyn, y brawd bach, wedi cael pen-blwydd da yn gynharach yn y mis a'i fod yn gwisgo'i anrheg gyda balchder wrth wylio Cwpan Rygbi'r Byd. Diwrnod sydd i fynd cyn dechrau'r gystadleuaeth wrth i mi ysgrifennu'r erthygl hon ac mae'r Awstraliaid yn llawn cyffro. Yn anffodus mae'r rhan fwyaf o'r gemau yn cael eu chwarae yn ystod y nos a'r prif gemau'n cychwyn am 3 y bore felly bydd y chwe wythnos nesaf yn galw am nosweithiau cynnar, digon o goffi a disgyblion bach tawel sy'n ymddwyn ar eu gorau.

Dyw'r Awstraliaid ddim yn credu bod unrhyw obaith gan Gymru ac yn gwbl hyderus mai nhw sy'n mynd i ennill y cwpan. Dwi ddim yn credu y byddwn ni yn y rownd derfynol ond gobeithio y gwnawn ni ein gorau glas wrth chwarae. Felly pan fyddwch chi'n darllen hwn gobeithio y bydd y Ddraig wedi dychryn y Walabi a'n bod ni'n dal yn y twrnament ac yn edrych ymlaen at gêm gogynderfynol yn erbyn Lloegr neu De Affrica. Pob Hwyl
Geraint

Gair gan Geraint o Awstralia: rhan 1

Gair gan Geraint o Awstralia: rhan 2

Gair gan Geraint o Awstralia: rhan 4


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý