Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Llien Gwyn
Tony Hughes Ffarwel i'r Fferyllydd
Hydref 2008
Mae Tony Hughes wedi ymddeol o'i waith fel fferyllydd yn Hendygwyn ar ôl 30 o flynyddoedd.

Dydd Mawrth, Medi 30, daeth cyfnod o bron deugain mlynedd yn hanes Tony Hughes i ben fel wyneb cyfarwydd yn Siop y Fferyllydd, Hendygwyn, pan benderfynodd ymddeol o'i waith.

Gyda thristwch y clywodd ardal eang am ei ymddeoliad, oherwydd roedd Tony yn berson poblogaidd, yn barchus gan bawb am ei wasanaeth clodwiw a'i gyngor doeth i bawb a ddeuai ato am gymorth. Fel dywedodd un wraig, "o'dd e gystal â doctor".

Bu'n ddisgybl yn Ysgolion Cynradd Llangeler a Henllan, ac yn Ysgol Ramadeg Llandysul - roedd Margaret ac yntau yn yr ysgol gyda'i gilydd, lle dechreuodd y garwriaeth!

Ar ôl gorffen yn Llandysul, bu'n gweithio gyda 'British Nylon Spinners' Pontypwl cyn mynd i astudio i Ysgol Fferylliaeth Gymraeg Caerdydd, lle graddiodd ym 1964. Yn yr un flwyddyn, priododd â Margarette Williams, ei gariad o ddyddiau ysgol!

Wedyn, bu'n Rheolwr gyda Boots yn Ystrad, Rhondda a Bargoed.

Ym 1969, roedd A.E. Evans, Caerfyrddin yn chwilio am Reolwr i Fferyllfa Hendygwyn, a dewiswyd Tony i'r swydd yn Nadolig 1969.

Ym 1973, prynodd Tony'r busnes ac mae'r gweddill yn hanes!

Ganwyd iddynt dri o blant - Jonathan, Dafydd a Mai ac erbyn hyn, mae ganddynt chwech o wyrion ac un wyres - Joseff (8 oed) ac Isaac (7) plant Jonathan a Lisa; Tomos (15), Ifan (9) a Mali (6) - plant Dafydd a Fiona; Gruffydd (6) a Gwyn Llewelyn (3) - plant Marc a Mai.

Gwelir eisiau Tony yn fawr yn yr ardal a bydd ymweld â'r siop, heb weld ei wyneb serchog yn pipo drwy'r ffenest yn yr ystafell gefn, yn brofiad rhyfedd.

Dim ond un peth allwn ddweud, sef "pob dymuniad da i ti, Tony, ar ôl blynyddoedd o wasanaeth ffyddlon yn y dref a'r ardal". Mae pawb am ddweud - Diolch yn fawr i wr bonheddig a ffrind annwyl.

Fel y dywedodd un o ffans mwyaf Tony, "o diar, beth i ni'n mynd i wneud heb Mr. Hughes!".


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý