主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Hywel ar ei  feic Clic i'r cof
Hywel Gwynfryn yn edrych yn ôl dros ei gyfres deledu Ar Dy Feic - ac yn edrych ymlaen at y gyfres nesaf,

Ebrill 2002


Y bobol nid y lle . . .

O greigiau Antrim i dywod Dubai - dipyn o daith!

Es i ddim â chamera efo mi i dynnu lluniau, ar gyfer yr albwm teuluol - ac eto, dim ond imi gau fy llygaid a sibrwd Antrim, Yr Eidal, Sbaen, Groeg, Swistir, Dubai, fe ddaw'r lluniau i sgrîn y cof, i'w hail fwynhau. . .

Belfast: Murluniau ar gefnau'r tai yn y Shankill, a char Ford yn mynd rownd a rownd y sgwâr yn ara yn y pellter, yn ein gwylio ni'n ffilmio . . . CLIC . . . arfordir gwyllt Antrim, a'r golygfeydd godidog ar y ffordd i Cushendun lle codwyd nifer o fythynnod wedi eu cynllunio gan Clough Williams Ellis . . . CLIC . . . cysgu yng ngwely Winstone Churchill.

Yr Eidal: Reid wallgo gyffrous ar gefn Vespa drwy draffig Rhufain . . . CLIC . . . prynu pâr o sgidia blaenau sgwâr gan ddynes bananas yn Ravenna . . . CLIC . . . Gwyl Ganoloesol ryfeddol yng nghanol mynyddoedd yng Ngogledd yr Eidal a Garin tynnu lluniau merch ifanc yn dianc rhag dicter y ddraig leol.



Sbaen: Gwisgo fel dawnsiwr fflamenco. Roeddwn i'n edrych fel Clint Eastwood- o bell!! . . . CLIC . . . dynas mewn côt ffwr yn rhoi gwersi clecian castanets imi . . . CLIC . . . Reidio ar draws y sgwâr ym Madrid a dynes yn gweiddi arnai, "Da nin nabod Dei Tomos."

Groeg: Eistedd wrth bwll nofio efo Linda Ganatsiou yn Thesaloniki yn sipian diod felys o'r enw stomacci . . . CLIC . . . Eistedd dan goeden yng Nghreta efo Shirley o Sir Fôn, yn sipian racci ac yn byta siocled, yng nghwmni'r Papas ... ar haul yn machlud . . . CLIC . . . Shirley yn syllu i fyw llygaid y camera ac yn gofyn,
"Dad-plis newch chi ddwad draw i'r briodas.




Y SwistirY Swistir: Gwen Carys Jampen yn goleuo llwydni'r lle . . . CLIC . . . gweld Machno Carwyn, poni gwerth £350,000 yn dangos inni pam mai o ydi'r poni gora yn Ewrop . . . CLIC . . . Bwyta fy fondue cynta - ar olaf. Caws wedi ei feddalu, efo bara. Mae'n edrych fel past papur wal ond ddim yn blasu cystal.

Dubai:
Y bensaernïaeth fodern liwgar . . .. CLIC . . . Parcio'r beic drws nesa i Mercedes yn Rasus Ceffyla Dubai . . . CLIC . . . Teimlo fel Archdderwydd Abu Dhabi, mewn gwisg wen . . . CLIC . . . Tawelwch ac ehangder yr anialwch . . . CLIC .... Claddu'r beic yn y tywod ar ddiwedd y gyfres.

Y bobol nid y lle

Pan oeddwn i'n hogyn ifanc - hyd yn oed yn fengach nag ydw'i rwan - dwin cofio gweld ffilm Dirk Bogarde yn yr Arcadia, Llangefni, The Singer, not the Song.

A dyna da ni wedi ceisio'i wneud yn y gyfres yma, canolbwyntio ar y canwr, nid y gân - y bobol nid y wlad.

Nid Wish you were here ond Why are you here?

A dyna fyddwn ni'n ei ofyn yn y gyfres nesa hefyd a hynny i Gymry sy'n byw yn Kenya, yr Aifft, ac (os fedrai berswadio'r cynhyrchydd) i ddyn busnas o Gymru syn byw yn Japan.
Ond am y tro - Sayonara!
Clic. . .





ewrop

> Albania
> Awstria
> Azerbaijan
> Croatia
> Ffrainc
> Gwlad Belg
> Gwlad Groeg
> Hwngari
> Iwerddon
> Romania
> Rwsia
> Yr Almaen
> Yr Eidal
> Sbaen

Bywiogrwydd Cymraeg yng Ngwlad Pwyl

I Norwy i weld a-ha

Y Pasg yn Hwngari

Gwersi canu - a chastanetio!

Chwilio am y bobol

Gwylio'r Byd

Gwion Lewis - arbenigwr ar faterion rhyngwladol

Oerfel yn yr Wcráin

Yr Wcráin - cwestiwn ac ateb

Slofenia

Ffrwydradau Llundain

Anghytgord

G8 - 2005

Cymdeithas Carnhuanawc

Ar Dy Feic - 2006

Cofleidio Sweden

Ar dy feic 2003

Clic i'r cof

Ar Dy Feic

Chwilio am bobol



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy