主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


G8 - 2005
Gwion Lewis yn edrych ymlaem at gynhadledd lle bydd cyfoeth o drafod am dlodi byd.

Rhoi terfyn ar dlodi?

Ar ba dymheredd ddylai rhywun olchi breichledau gwleidyddol?
Nid dyma un o gwestiynau mawr bywyd, ond dyma sy'n mynd â bryd eich gohebydd y mis hwn wrth yrru gair atoch o gysgod y coed yn Hyde Park, Llundain.

Rydw i wedi bod yn gwisgo'r freichled wen Rhown Derfyn ar Dlodi ers rhyw ddeufis bellach ac mae arna' i ofn ei bod hi'n bygddu erbyn hyn diolch i lygredd y ddinas.

Y freichled ddwyieithog Mater bach fyddai picio i mewn i Oxfam i brynu un arall, ond mae'r fersiwn ddwyieithog brynais i yng Nghaerdydd yn cael cymaint o sylw yn lleol, rydw i'n ofni y byddai cael gwared â hi yn llesteirio ymdrechion Syr Bob.

"Is that an African language?"
"Is that a limited edition?"
"So people still speak that?!"

Dyna'r math o gwestiynau fu'n cael eu gofyn imi wrth y stondin gaws yn Sainsbury's yn ddiweddar, a gorau oll os oes gen i baced o fenyn Rachel's Dairy "Heb Ei Halltu" yn y fasged yr un pryd ("Look! More Welsh!")

Rhyw deimlad o euogrwydd sydd wrth wraidd yr e-pistol hwn, felly - euogrwydd fy mod i wedi treulio mwy o amser yn hyrwyddo'r Gymraeg, diolch i'r freichled wen, nag yn hyrwyddo'r ymgyrch ryngwladol yn erbyn tlodi.

Dewch imi geisio gwneud iawn am hynny.

G8
Prif nod y mudiad Rhown Derfyn ar Dlodi yw dylanwadu ar y gynhadledd G8 yn yr Alban fis Gorffennaf eleni.

Bob blwyddyn, bydd arweinwyr saith o wledydd mwyaf diwydiannol y byd, a Rwsia, yn cyfarfod i drafod materion rhyngwladol o dan adain y "Grŵp o wyth".

Mae gwreiddiau'r corff yn y dirwasgiad difrifol a welwyd ledled y byd ar ddechrau'r Saith Degau.

Bryd hynny, daeth uwch-swyddogion cyllid America, Ewrop a Japan at ei gilydd i drafod yr argyfwng ac fe gytunwyd, erbyn yr ail gynhadledd yn 1975, y dylai arweinwyr y gwledydd ei mynychu hefyd.

G6 oedd yr enw gwreiddiol ond fe'i newidiwyd i G7, ac wedyn i G8, pan ymunodd Canada a Rwsia.

Er mai fforwm economaidd oedd yr G6 yn wreiddiol, bu gwleidyddiaeth yn fwyfwy amlwg yn ddiweddar.

Eisoes, mae'r gwaith o ailgodi Irac wedi cael sylw'r G8, yn ogystal â chynhesu byd-eang a'r broses heddwch yn y Dwyrain Canol.

Ond rhaid cofio nad oes gorfodaeth ar yr arweinwyr i weithredu'r polisïau sy'n cael eu cytuno yn y gynhadledd: dod i drefniant anffurfiol ymysg ei gilydd yw'r nod, ond bydd unrhyw ddatganiad yn cael llawer o sylw yn rhyngwladol oherwydd grym yr aelodau.

Eleni
Gan mai Prydain sy'n cynnal y gynhadledd eleni, Tony Blair sy'n cael dewis y prif bynciau trafod, ac mae wedi cyhoeddi mai Affrica fydd y thema fawr.

Tua'r AlbanMae Blair, Gordon Brown a chefnogwyr y mudiad Rhown Derfyn ar Dlodi am weld y gynhadledd yn gweithredu ar dri phwnc yng nghyd-destun Affrica:
dyled,
cymorth ariannol
rheolau masnach.

Cafwyd llwyddiant eisoes gyda dyledion - mewn cyfarfod o weinidogion cyllid yr G8 ddechrau'r mis.

Mae'r rhan fwyaf o wledydd tlawd Affrica mewn dyled i lywodraethau cyfoethog ac i sefydliadau rhyngwladol, yn bennaf Banc y Byd, y Gronfa Arian Ryngwladol (IMF) a Banc Datblygu Affrica.

O ganlyniad, mae arian a ellid ei wario ar addysg a'r gwasanaeth iechyd yn y gwledydd hyn yn mynd i dalu llogau ar fenthyciadau anferth.

Mehefin 11 yn Llundain, cyhoeddodd Brown fod dyledion 18 o wledydd tlotaf y byd yn mynd i gael eu dileu'n llwyr.
Dyma ddatblygiad cadarnhaol a hanesyddol bwysig, heb os, ond peidiwch â brysio i gael gwared â'r freichled wen eto.

Dagrau pethau yw mai nifer dethol iawn o wledydd tlawd y byd sy'n gymwys i fod yn rhan o'r cynllun.

Ni fydd gwledydd tlawd fel Indonesia, Bangladesh a Nigeria yn elwa ohono am nad ydynt eto wedi pasio nifer o brofion economaidd a osodwyd gan wledydd pwerus y byd.

Rhaid inni beidio ychwaith â gwneud gormod o 'aberth' y gwledydd cyfoethog yn hyn o beth.

Rhyw $175 miliwn yn ychwanegol dros gyfnod o ddeng mlynedd fydd dileu'r dyledion yn ei gostio i'r Unol Daleithiau - ceiniog a dimai o ystyried adnoddau enfawr y wlad honno.

Cymorth
Mae'r ffigwr yma'n ymddangos yn fwy pitw fyth yng nghyd-destun ail nod Blair a Brown, sef i ddyblu'r cymorth ariannol i Affrica i $100 biliwn y flwyddyn.

Brown a Blair Byddai cael cytundeb ar hyn yn hwb llawer iawn mwy i'r gwledydd tlotaf ond nid oes arwydd ar hyn o bryd fod hynny am ddigwydd.

Nid yw syniad mawr Brown o godi'r arian ychwanegol drwy fenthyca'n drwm ar y marchnadoedd bondiau rhyngwladol yn un poblogaidd yn Washington, yn enwedig, ac mae syniad y Ffrancwyr o godi treth ychwanegol ar hedfan dramor hefyd wedi ei wrthod gan Bush.

Mae'n edrych yn debygol, felly, y bydd yr aelodau sydd am gynyddu eu cymorth yn gwneud hynny ar eu liwt eu hunain yn hytrach nag yn rhan o gynllun o dan adain yr G8.

Yn ôl elusennau sy'n gweithio yn Affrica, nid yw parhau'r polisi rhanedig hwn yn ddigonol, ac maent yn hynod bryderus na fydd America'n cytuno i unrhyw gynnydd yn ei chymorth i'r cyfandir.

Masnach
America yw'r maen tramgwydd o safbwynt trydydd nod Prydain hefyd, sef diwygio rheolau masnach ryngwladol er mwyn ei gwneud hi'n haws i Affrica ffynnu'n economaidd.

Mae dirfawr angen agor y marchnadoedd Gorllewinol i fwy o allforion o Affrica, ond byddai hyn yn golygu cwtogi cymorthdaliadau i ffermwyr y Gorllewin yn sylweddol. Paul WolfowitzNid yw hyn yn dderbyniol i Bush, nac ychwaith i rai o arweinwyr amlycaf yr Undeb Ewropeaidd.

Cafwyd peth gobaith yn ddiweddar pan ddywedodd Paul Wolfowitz - cyfaill agos Bush a phennaeth newydd Banc y Byd - fod cymorthdaliadau'r gwledydd cyfoethog yn gwneud niwed i gynhyrchwyr bwyd yn Affrica.

Roedd clywed yr archgeidwadwr hwn yn derbyn nad yw 'masnach rydd' bob tro yn 'fasnach deg' yn annisgwyl.

Serch hynny, mae'r gymuned amaethyddol yn hynod bwerus yn America, ac wedi bod yn lobïo Washington yn rymus yn ddiweddar.

Go brin, felly, y bydd Bush mewn brys i anghofio amdanynt pan fydd yn glanio yn yr Alban mewn pythefnos.

Cymhleth
A wnawn ni lwyddo i 'roi terfyn ar dlodi' yn 2005?
Na wnawn, wrth gwrs.
Mae problemau Affrica yn rhy ddyrys a chymhleth i fedru gwneud hynny.

Mae'n ymddangos, hefyd, ein bod wedi cael datganiad 'mawr' y flwyddyn eisoes, ar Fehefin 11, ac nad yw aelodau'r G8 yn agos at gytuno ar y ddau bwnc arall, cymorth a masnach, mewn pryd ar gyfer y gynhadledd yn Gleneagles.

Os felly, rhaid dathlu llwyddiant ymgyrch y freichled wen hyd yn hyn a derbyn fod y cytundeb ar ddyledion gwledydd tlotaf Affrica yn gam mawr ymlaen. Y freichled ddwyieithog

Ond mae'r ffordd o'n blaenau yn un faith, a bydd angen i'r ymgyrchu barhau ymhell y tu hwnt i berfformiadau'r Scissor Sisters a Coldplay.

Da chi, cadwch y freichled yna'n lân. Bydd gwyn yn y ffasiwn am fwy nag un haf.

Dolennau
Nid yw y 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.















cysylltiadau
Gwion Lewis

Erthyglau eraill gan Gwion

ewrop

> Albania
> Awstria
> Azerbaijan
> Croatia
> Ffrainc
> Gwlad Belg
> Gwlad Groeg
> Hwngari
> Iwerddon
> Romania
> Rwsia
> Yr Almaen
> Yr Eidal
> Sbaen

Bywiogrwydd Cymraeg yng Ngwlad Pwyl

I Norwy i weld a-ha

Y Pasg yn Hwngari

Gwersi canu - a chastanetio!

Chwilio am y bobol

Gwylio'r Byd

Gwion Lewis - arbenigwr ar faterion rhyngwladol

Oerfel yn yr Wcráin

Yr Wcráin - cwestiwn ac ateb

Slofenia

Ffrwydradau Llundain

Anghytgord

G8 - 2005

Cymdeithas Carnhuanawc

Ar Dy Feic - 2006

Cofleidio Sweden

Ar dy feic 2003

Clic i'r cof

Ar Dy Feic

Chwilio am bobol



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy