主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Yr Wcráin - cwestiwn ac ateb
Holi ac ateb gyda Gwion Lewis, arbenigwr ar faterion rhyngwladol:

Pam fod cymaint wedi bod yn protestio yn yr Wcráin yn dilyn yr etholiad?
Roedd rhai yn honni nad oedd canlyniad yr etholiad cyffredinol gynhaliwyd yn ddiweddar yn un teg.

Yn ôl yr awdurdodau, Prif Weinidog presennol yr Wcráin, Viktor Yanuokovych, enillodd. Yanukovych yw hoff ymgeisydd Rwsia ac Arlywydd presennol yr Wcráin, Leonid Kuchma.

Ond yn ôl polau piniwn, 'roedd yr ymgeisydd mwy rhyddfrydol, Viktor Yushchenko, ar y blaen o gryn dipyn.

Cefnogwyr Yushchenko welwyd yn protestio ar strydoedd Kiev: mae rhai'n honni eu bod nhw wedi cael eu bygwth yn ystod yr ymgyrchu, a bod cefnogwyr Yanukovych wedi cael pleidleisio mwy nag unwaith drosto.

Yn awr mae'r Goruchaf Lys wedi caniatau cynnal yr etholiad eto.

Beth yw'r gwahaniaethau rhwng Viktor Yanukovych a Viktor Yushchenko?
Yn syml, mae Yanukovych yn awyddus i gryfhau'r berthynas rhwng yr Wcráin a Rwsia, tra bod Yushchenko yn credu mai yn yr Undeb Ewropeaidd y mae dyfodol y wlad.

Yng ngorllewin yr Wcráin y mae'r rhan fwyaf o gefnogwyr Yushchenko, a'r mwyafrif yn siarad Wcreineg.

Ar y llaw arall, Yanukovych sydd fwyaf poblogaidd yn nwyrain y wlad lle siaradir Rwseg yn bennaf.

Pan sefydlwyd gweithfeydd glo a dur yn y dwyrain gan Stalin, symudodd llawer o Rwsiaid yno i chwilio am waith.

Pam fod canlyniad yr etholiad mor bwysig?
Pe byddai Goruchaf Lys yr Wcráin wedi cadarnhau mai Yanukovych enillodd yr etholiad, byddai ymdrechion America i swyno'r wlad at y Gorllewin wedi methu.

I bob pwrpas, Washington ariannodd ymgyrch Yushchenko yn y gobaith y byddai ei fuddugoliaeth yn ergyd i ddylanwad Rwsia dramor.

Gan fod y llys wedi penderfynu o blaid Yushchenko, mae strategaeth America yn cael ail gyfle, a gallwn ddisgwyl iddi ariannu mwy o ymgyrchoedd gwleidyddion sy'n sefyll yn erbyn arweinwyr 'annymunol' mewn etholiadau tramor.

Mae'r etholiad arfaethedig ym Moldofa yn darged amlwg.

Beth ddigwyddodd nesaf?
Apeliodd Yushchenko yng Ngoruchaf Lys yr Wcráin, gan honni fod canlyniad yr etholiad yn annheg.

Allai pethau waethygu yn yr Wcráin?
Roedd llawer yn disgwyl protestiadau treisgar pe byddai'r llys yn gwrthod apêl Yushchenko neu'n cymryd gormod o amser i benderfynu.

Galwodd Yushchenko am streic gyffredinol a bu'n rhaid wrth heddlu arfog sawl tro i gadw trefn ar brotestwyr y tu allan i'r adeiladau arlywyddol yn Kiev.





Gwefannau eraill








Nid y 主播大秀 sy'n gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.






cysylltiadau




ewrop

> Albania
> Awstria
> Azerbaijan
> Croatia
> Ffrainc
> Gwlad Belg
> Gwlad Groeg
> Hwngari
> Iwerddon
> Romania
> Rwsia
> Yr Almaen
> Yr Eidal
> Sbaen

Bywiogrwydd Cymraeg yng Ngwlad Pwyl

I Norwy i weld a-ha

Y Pasg yn Hwngari

Gwersi canu - a chastanetio!

Chwilio am y bobol

Gwylio'r Byd

Gwion Lewis - arbenigwr ar faterion rhyngwladol

Oerfel yn yr Wcráin

Yr Wcráin - cwestiwn ac ateb

Slofenia

Ffrwydradau Llundain

Anghytgord

G8 - 2005

Cymdeithas Carnhuanawc

Ar Dy Feic - 2006

Cofleidio Sweden

Ar dy feic 2003

Clic i'r cof

Ar Dy Feic

Chwilio am bobol



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy