主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Oerfel yn yr Wcráin
Gwion Lewis yn trafod y cefndir i helyntion etholiad yr Wcráin

Wedi misoedd o gael ein pledu'n feunyddiol â'r diweddaraf am etholiad mawr America, go brin fod y rhan fwyaf ohonom ni'n gwybod, tan yn ddiweddar, fod pobl yr Wcráin hwythau'n bwrw pleidlais yr hydref hwn.

Ond wrth i'r protestio ddwysáu ar strydoedd rhewllyd y brifddinas, Kiev, gyda honiadau fod canlyniad yr etholiad yn un ffug, bu'r wlad enfawr hon yn nwyrain Ewrop yn mynnu sylw rhywun - yn enwedig yn awr y bydd yr etholiad yn gorfod cael ei gynnal eto ddiwedd Rhagfyr.

I ni'r Cymry, yn arbennig, mae'r sefyllfa'n fwy cyfarwydd nag y byddai rhywun yn disgwyl: un wlad, un genedl, ond o dan yr wyneb, dwy weledigaeth gwbl wahanol ar gyfer y dyfodol o safbwynt iaith a diwylliant.

Asgwrn y gynnen
Yn fras iawn, yr oedd y dyn a gyhoeddwyd yn enillydd yr etholiad, Viktor Yanukovych, yn boblogaidd yn nwyrain yr Wcráin.
Rwseg yw'r brif iaith yn y rhan hon o'r wlad, yn arbennig felly yn y dinasoedd, ac mae yna ddyhead amlwg i atgyfnerthu'r berthynas â Mosgo.

Mudodd llawer o Rwsiaid i'r ardal i weithio yn y diwydiannau trymion a sefydlwyd gan Stalin, ac mae miloedd o gyfoethogion Rwsia yn prynu tai haf ar arfordir y Crimea yn y de-ddwyrain.

Darlun tra gwahanol a geir yng ngorllewin yr Wcráin, lle ceir cefnogaeth frwd i'r gŵr a 'gollodd' yr etholiad y'i dilynwyd gan gymaint o brotestio, Viktor Yushchenko.
Dyma fagwrfa'r cenedlaetholdeb sydd ar fin troi'n dreisgar: Wcreineg yw'r brif iaith a thuag at Ewrop, nid Rwsia, y mae'r mwyafrif yn troi eu golygon.

Yanukovych a YushchenkoDaeth y gorllewin yn rhan o'r ymerodraeth Sofietaidd yn erbyn ei hewyllys ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac mae yna alwadau cyson wedi bod am hunanlywodraeth ac annibyniaeth ers hynny.

Dywed cefnogwyr Yushchenko fod gwell cyfle i'r Wcreineg ffynnu yn y cyd-destun Ewropeaidd oherwydd ymrwymiad Brwsel i ddiogelu ieithoedd lleiafrifol.

Nid felly mae Putin yn gweld pethau ym Mosgo.
Gyda'r Undeb Sofietaidd ar ben, byddai colli rhan o'r Wcráin yn ergyd bellach i ddylanwad Rwsia dramor, yn arbennig o ystyried mai ar dir yr Wcráin y sefydlwyd y wladwriaeth Rwsiaidd gyntaf yn y nawfed ganrif.

Ymyrraeth America
Ond peidied neb â meddwl fod yr Wcreiniaid sy'n edrych tuag at y Gorllewin yn gwneud hynny heb anogaeth.

Efallai mai pobl ifanc yr Wcráin sy'n arwain un o'r prif fudiadau protest, Pora ("Hen Bryd"), ond y tu ôl i'r llenni, Washington sy'n ariannu'r cyfan, a hynny fel rhan o'r polisi hir dymor i swyno pob gwlad oedd gynt yn yr Undeb Sofietaidd oddi wrth Rwsia tuag at America.

Dros y misoedd diwethaf, mae America wedi gyrru degau o gynghorwyr, diplomyddion ac arbenigwyr etholiadol i'r Wcráin, yn y gobaith y byddent yn gallu sicrhau buddugoliaeth i'r ymgeisydd gwrth-Rwsiaidd.

Er nad ydynt yn barod i gydnabod hynny, Americanwyr sydd y tu ôl i fwyafrif y gwefannau, sloganau, a sioeau comedi cyhoeddus sy'n cefnogi Yushchenko.

Mae hi'n strategaeth sydd eisoes wedi llwyddo i ddisodli arweinwyr 'annymunol'.



Yn ôl yn y flwyddyn 2000, sicrhawyd buddugoliaeth etholiadol yn erbyn Slobodan Milosevic yn Serbia ar ôl i'r Americanwyr wario miloedd o ddoleri yn cefnogi'r mudiad Otpor ("Mae hi ar ben arno").

Y llynedd, tro Georgia oedd hi pan yrrwyd tîm o Americanwyr blaenllaw i Tblisi i gynghori Mikhail Saakashvili ar sut i gael gwared ag Eduard Shevardnadze.

Nid oes amheuaeth nad yw strategaeth Washington wedi arwain at ddeffroad democrataidd yn y gwledydd dan sylw.

Serch hynny, ni fu'r cytundeb ddaeth â'r Rhyfel Oer i ben erioed mor fregus ag y mae ar hyn o bryd wrth i Wcreiniaid herio'r ffin answyddogol rhwng y Gorllewin a'r Dwyrain.

Eira neu beidio, mi fydd hi'n aeaf caletach nag arfer yn Kiev eleni a bydd disgwyl mawr am ganlyniad yr ail etholiad y bwriedir ei gynnal ar Ragfyr 26.



Gwefannau eraill








Nid y 主播大秀 sy'n gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.




cysylltiadau






ewrop

> Albania
> Awstria
> Azerbaijan
> Croatia
> Ffrainc
> Gwlad Belg
> Gwlad Groeg
> Hwngari
> Iwerddon
> Romania
> Rwsia
> Yr Almaen
> Yr Eidal
> Sbaen

Bywiogrwydd Cymraeg yng Ngwlad Pwyl

I Norwy i weld a-ha

Y Pasg yn Hwngari

Gwersi canu - a chastanetio!

Chwilio am y bobol

Gwylio'r Byd

Gwion Lewis - arbenigwr ar faterion rhyngwladol

Oerfel yn yr Wcráin

Yr Wcráin - cwestiwn ac ateb

Slofenia

Ffrwydradau Llundain

Anghytgord

G8 - 2005

Cymdeithas Carnhuanawc

Ar Dy Feic - 2006

Cofleidio Sweden

Ar dy feic 2003

Clic i'r cof

Ar Dy Feic

Chwilio am bobol



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy