主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cofleidio Sweden
Hywel Gwynfryn yn cyfarfod Cymro sy'n mapio Sweden

Cymro sydd wedi cofleidio ffordd o fyw Sweden ydi Dylan Selway o Lansannan.
Mewn gŵyl flynyddol hwyliog yn nhref Malmö y gwnaeth o a Hywel gwynfryn gyfarfod - Gŵyl y Cimwch Coch.

Gyda digon i'w yfed a digon o gimychiaid coch i'w bwyta yr oedd hwn yn ddechrau bywiog i ymweliad Hywel.

Cafodd gip hefyd ar fywyd Dylan a'i wraig Maria, sy'n dod o Sweden.

Magu plant
Mae Dylan yn byw ger Angelholm, rhyw awr o Malmö, y drws nesa i'w rieni yng nghyfraith ac y mae ef a Maria yn magu eu dau o blant, Daniel ac Anna, sydd wedi eu mabwysiadu o Affrica.

Yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru rhaid i dadau Sweden gymryd cyfnod o ddau fis oddi wrth y gwaith fel cyfnod tadolaeth.

Yn wahanol i Gymru hefyd, mae cyflogau yn is, trethi yn uwch ond safon byw yn fwy cyson gyda'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd yn llai nag mewn llawer o wledydd.

Gwahaniaeth mawr arall, fel y darganfu Hywel, yw na chewch chi beint o gwrw am lai na phumpunt!

Yn y brifysgol
Cyfarfu Dylan a Maria yn y brifysgol yn Abertawe ac ar ôl priodi dewis byw yn Sweden lle mae Maria yn weithwraig gymdeithasol a Dylan yn hyfforddi i fod yn fapiwr gyda'r cyngor sir lleol.

Yn ystod ei ymweliad gwelodd Dylan wrth ei waith yn golygu a diweddaru mapiau - swydd braf iawn pan fo'r tywydd yn sych a chefn gwlad Sweden mor fendigedig.

Taith feics
Cafodd gyfle hefyd i neidio ar ei feic a chymryd rhan yn un o arferion rheolaidd y dref gyfagos, sef taith feics 80 milltir ar ddydd Sul.

Mae'r ffyrdd yn ddelfrydol - yn dawel a di-draffig, fel y byddech yn disgwyl mewn gwlad sydd a phoblogaeth o naw miliwn ond sydd y drydedd wlad fwyaf yn Ewrop.

  • Ar Dy Feic - Llun, Mai 29, 2006. 主播大秀 Cymru ar S4C, 9.30pm




  • ewrop

    > Albania
    > Awstria
    > Azerbaijan
    > Croatia
    > Ffrainc
    > Gwlad Belg
    > Gwlad Groeg
    > Hwngari
    > Iwerddon
    > Romania
    > Rwsia
    > Yr Almaen
    > Yr Eidal
    > Sbaen

    Bywiogrwydd Cymraeg yng Ngwlad Pwyl

    I Norwy i weld a-ha

    Y Pasg yn Hwngari

    Gwersi canu - a chastanetio!

    Chwilio am y bobol

    Gwylio'r Byd

    Gwion Lewis - arbenigwr ar faterion rhyngwladol

    Oerfel yn yr Wcráin

    Yr Wcráin - cwestiwn ac ateb

    Slofenia

    Ffrwydradau Llundain

    Anghytgord

    G8 - 2005

    Cymdeithas Carnhuanawc

    Ar Dy Feic - 2006

    Cofleidio Sweden

    Ar dy feic 2003

    Clic i'r cof

    Ar Dy Feic

    Chwilio am bobol



    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy