主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Anghytgord
Gwion Lewis yn trafod geni gwlad ddiweddaraf Ewrop.

Mai 2006
A dyna i ni Eurovision Song Contest arall drosodd heb smic o wlad y gân.
Rhyw ddydd, efallai y cawn ninnau'r Cymry ein gwahodd i droedio llwyfan y gystadleuaeth aruchel hon, a thrwy hynny gael ein cydnabod fel cenedl aeddfed.

Yn y cyfamser, na phoenwch: o Fôn i Fynwy, gallwn oll ymhyfrydu yn y wledd flynyddol honno o broblemau technegol o'r enw Cân i Gymru. Oes, y mae tuedd i'r meicroffons chwythu, a dichon y bydd y Cenhedloedd Unedig yn goruchwylio'r bleidlais ffôn cyn hir, ond o leiaf yr ydym fel cenedl yn llwyddo i ddewis cân fuddugol.

Nid felly oedd hi yn Serbia-Montenegro eleni.
Bu'n rhaid i'r undeb bregus hwn yn ne-ddwyrain Ewrop dynnu yn ôl o gystadleuaeth Eurovision am nad oedd y Serbiaid a'r Montenegroaid yn gallu cytuno ar gân i'w cynrychioli.

Arwydd oedd hyn o anghydfod dyfnach. Drannoeth y gystadleuaeth, cyhoeddwyd fod pobl Montenegro wedi pleidleisio o drwch blewyn o blaid annibyniaeth ar Serbia, gan gychwyn ar y broses o eni gwlad ddiweddaraf Ewrop.

Yr hen Iwgoslafia
Ni chafodd yr undeb rhwng Serbia a Montenegro oes hir.

Fe'i sefydlwyd yn ôl yn 2003 fel gwlad i olynu'r hen Iwgoslafia.
Ar un adeg, roedd Iwgoslafia yn gynghrair o chwe gweriniaeth ond wedi i Slofenia, Croatia, Bosnia-Hercegovina a Macedonia ddatgan eu hannibyniaeth ddechrau'r Naw Degau, gorfodwyd pobl Serbia a Montenegro i barhau'r traddodiad undebol ar eu pennau eu hunain.

Un amod o'r cytundeb a sefydlodd Serbia-Montenegro oedd y byddai gan y Montenegroaid yr hawl, ymhen tair blynedd, i gynnal refferendwm ar ddyfodol yr undeb.
Y refferendwm hwnnw a gynhaliwyd fis Mai 2006, ac fe bleidleisiodd 55.4% o blaid annibyniaeth.

O ystyried ymddygiad Serbia ar y llwyfan Ewropeaidd yn ddiweddar, nid oedd y canlyniad yn syndod i sylwebwyr gwleidyddol.

Rai wythnosau yn ôl, penderfynodd yr Undeb Ewropeaidd atal y broses o ddod â Serbia-Montenegro yn aelod ohono oherwydd fod Serbia yn gwrthod trosglwyddo'r arweinydd milwrol, Ratko Mladic, i'r tribiwnlys troseddau rhyfel yn yr Hâg.

Credir mai Mladic oedd pensaer y gyflafan yn nhref Srebrenica yn 1995, pan lladdwyd oddeutu 7,500 o ddynion a bechgyn Moslemaidd.

Ni allai amseru Brwsel fod wedi bod yn well o safbwynt mudiad cenedlaethol Montenegro.

Achubodd eu Prif Weinidog, Milo Djukanovic, ar y cyfle i ddadlau y byddai Montenegro yn dod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd yn llawer cynt pe na bai hi'n cael ei hystyried ar yr un pryd â Serbia.

Pennod newydd
Mae peth sail i'r ddadl honno. Er bod llygredd ymhlith gwleidyddion Montenegro yn rhemp, gwelwyd cryn awydd yn ddiweddar yn y brifddinas, Podgorica, i droi dalen newydd.

Gwelir y wasg genedlaethol yn sôn yn feunyddiol am "bennod newydd" yn hanes gwlad sy'n cael "ail gyfle" i brofi'r annibyniaeth a gollwyd yn 1918.

Ond nid yw cenedlaetholwyr Montenegro wedi cyrraedd pen y daith eto.

Gan mai Serbia fydd yn olynu Serbia-Montenegro yn ôl rheolau rhyngwladol, hi fydd yn etifeddu'r eiddo diplomyddol, y fyddin a'r adeiladau llywodraethol ym Melgrâd.

Ar ben hynny, sylfaenol iawn yw gwasanaethau cyhoeddus Montenegro, gwlad bitw sydd â phoblogaeth o 650,000 - ychydig yn uwch na phoblogaeth Gwent.

Nifer bychan o ysbytai a phrifysgolion sy'n gwasanaethu'r bobl ar eu tiriogaeth eu hunain, ac mae disgwyl i Djukanovic ddadlau'n gryf y dylai'r Montenegroaid gael yr hawl i deithio i Serbia fel y mynnant ar gyfer gwasanaethau arbenigol.

Mae ganddo gryn fantais yn hyn o beth.
Bydd sefydlu Montenegro annibynnol yn golygu y bydd Serbia yn colli ei harfordir. Golyga hyn fod gan Montenegro gryn le i fargeinio: gan fod cymaint o fasnach Serbia yn dibynnu ar fewnforio ac allforio ar Fôr yr Adriatig, bydd disgwyl i Serbia rannu ei heiddo yn deg os yw hi'n awyddus i'r trefniant hwn barhau.

Afraid dweud y bydd y fantais ddaearyddol hon yn hwb sylweddol i'r economi newydd, a bydd un rhanbarth yn ne Serbia yn dilyn pob datblygiad yn ofalus.

Cosofo
Ers mis Chwefror eleni, bu arweinwyr Cosofo hwythau'n cynnal trafodaethau yn Fiena, gyda'r gobaith o sefydlu gweriniaeth annibynnol yn y dyfodol agos.

Lladdwyd miloedd o Albaniaid Cosofo ddiwedd y Naw Degau yn dilyn gorchymyn gan gyn-lywydd Iwgoslafia, Slobodan Milosevic.

Ers hynny, bu'r rhanbarth o dan adain y Cenhedloedd Unedig, ond mae arwyddion fod y berthynas rhwng y mwyafrif Albaniaidd a'r lleiafrif Serbaidd yn gwella.

Yng ngoleuni'r hyn sydd wedi digwydd ym Montenegro eleni, mae brwdfrydedd o'r newydd ar gyfer cynnal refferendwm ar ddyfodol y rhanbarth.

Yn ôl un arolwg barn diweddar, byddai'r canlyniad yng Nghosofo yn llawer mwy pendant, gyda naw ym mhob deg o Albaniaid Cosofo yn pleidleisio o blaid annibyniaeth.

Pe bai hynny'n digwydd, byddai datgymaliad yr hen Iwgoslafia wedyn yn gyflawn, a'r gynghrair wedi esgor ar saith gweriniaeth Ewropeaidd newydd. Maes o law, hawdd yw rhagweld y byddai gan y saith ohonynt eu cynrychiolwyr eu hunain yn yr Undeb Ewropeaidd, ac y byddai amrywiaeth ieithyddol y saith yn cael ei pharchu ym Mrwsel drwy ddarparu'r cyfieithwyr priodol.

Montenegro a Chymru
Bydd y rheini ohonom sy'n perthyn i leiafrif diwylliannol neu ieithyddol yn gallu uniaethu â sawl agwedd ar y stori hon a dichon y byddwn yn ymhyfrydu yn y ffaith fod cenedl o'r diwedd yn cael y gydnabyddiaeth y bu'n ei chwennych ers cyfnod maith.

Serch hynny, gellid dadlau fod dyfodiad mwy o genhedloedd bychain iawn i'r clwb Ewropeaidd yn tanlinellu sefyllfa anomalaidd Cymru a'r Gymraeg oddi mewn iddo.

O gofio fod poblogaeth Cymru bron yn dair miliwn, o'i chymharu â'r cwta hanner miliwn sy'n byw ym Montenegro, mae'n ymddangos yn fwyfwy rhyfedd nad yw'r Undeb yn rhoi statws swyddogol i'r wlad a'i hiaith.

Bydd rhai'n dadlau mai gwledydd annibynnol yn unig a ellir eu croesawu i'r Undeb ond daw'r pwyslais gwladwriaethol hwn o gyfnod pan na feddyliwyd o gwbl y byddai'r Undeb yn ymestyn cymaint i'r dwyrain: yn sicr, ni feddyliwyd y byddai'n cynnwys rhan mor dameidiog o'r cyfandir.

O ystyried y manteision economaidd a ddaw o fod yn aelod annibynnol yn yr Undeb, heb sôn am y proffil a roddir i ddiwylliant a iaith gwlad yn sgil hynny, daeth yn amser ailfeddwl.
Mae ambell lwyfan Ewropeaidd yn werth ei feddiannu.

Dolennau













cysylltiadau
  • Gwion Lewis

  • Erthyglau eraill gan Gwion Lewis

  • ewrop

    > Albania
    > Awstria
    > Azerbaijan
    > Croatia
    > Ffrainc
    > Gwlad Belg
    > Gwlad Groeg
    > Hwngari
    > Iwerddon
    > Romania
    > Rwsia
    > Yr Almaen
    > Yr Eidal
    > Sbaen

    Bywiogrwydd Cymraeg yng Ngwlad Pwyl

    I Norwy i weld a-ha

    Y Pasg yn Hwngari

    Gwersi canu - a chastanetio!

    Chwilio am y bobol

    Gwylio'r Byd

    Gwion Lewis - arbenigwr ar faterion rhyngwladol

    Oerfel yn yr Wcráin

    Yr Wcráin - cwestiwn ac ateb

    Slofenia

    Ffrwydradau Llundain

    Anghytgord

    G8 - 2005

    Cymdeithas Carnhuanawc

    Ar Dy Feic - 2006

    Cofleidio Sweden

    Ar dy feic 2003

    Clic i'r cof

    Ar Dy Feic

    Chwilio am bobol



    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy