主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Mair gyda phoster wedi'i arwyddo I Norwy i weld a-ha
Tachwedd 2004
Mae Mair Thomas o Landudno yn un o gefnogwyr mwyaf y grŵp a-ha. Yn ddiweddar teithiodd yr holl ffordd i Norwy i fod yn rhan o ddathliadau arbennig

Fel cefnogwraig frwd y grŵp o'r wythdegau, a-ha mae'r daith yn parhau hyd heddiw.

A bu nifer o achlysuron yn ystod y misoedd diwethaf i ennyn diddordeb cyd gefnogwyr.

Pan ddarllenais ar wefan a-ha fod un or grŵp, Paul Wakkater, ar daith gyda'i grŵp ei hun, Savoy, o amgylch Norwy rhaid oedd mynd i un o'r nosweithiau.

O edrych yng nghylchgrawn cymdeithas cefnogwyr a-ha gwelais y byddai cyngerdd yn Oslo Hydref 2.

PERFFAITH!! gan fod gen i deulu yno a lle i aros.

Y cyfan oedd angen i wneud oedd gofyn i fy ewyrth brynu dau docyn ac wedyn mynd ati i drefnu fy nhaith awyren i Oslo.

Yn dilyn taith hir a olygai newid yn Bergen cyrhaeddais Oslo lle'r oedd fy nghyfnither, Mari a thacsi yn disgwyl amdanaf i'n cludo i dŷ ei brawd oedd allan ar y môr yn gweithio yn y maes olew.

Arddangosfa
Ar y Sadwm trefnwyd i fynd i arddangosfa Henie Onstad, aelod arall o a-ha ond sydd yr un mor enwog erbyn hyn am ei waith celf.

Mair yn OsloBachais y cyfle i weld y gwaith gan fod yr arddangosfa yn gorffen ar Dachwedd 14 gydag arddangosfa arall ganddo ar hyn o bryd yn Llundain ac un arall yn dechrau yng Nghaeredin tan Tachwedd 20, 2004.

Cyfle gwych i gefnogwraig weld yr arddangosfa yn Oslo.

Ar ôl teithio ar y bws drwy natur hydrefol liwgar Oslo cyrhaeddwyd yr arddangosfa ar ynys tua hanner awr o ganol y ddinas .

Wedi talu am fynediad gwelais yn syth gerflun o fy arwyr.

Ystafell wen anferthol gyda fframiau tua throedfedd sgwâr gyda syniadau athroniaeth Magne Furulhomen .

Yr unig air i ddisgrifio'r gwaith yw abstract - o collage o bapurau tywyll, glaslwyd, ar ben ei gilydd gyda'i ysgrifen frysiog ei hun drostynt a phatrymau paent.

Ar un wal roedd tua 40 ffrâm yn creu petryal o waith. Yr un fath ar wal gyferbyn gyda mwy ar ddwy wal yn cuddio y tu ôl i gornel.

Ymhlith y dywediadau roedd:
"Trust Me Trust Me Trust Me - Never trust anyone who says trust me."

Ac ar ffrâm arall:
"Every word is a promise broken, every sound is a song unsung, every moment is a picture taken, then it's gone."

"You don't have to change."

"Me, all I wanted was 2 C U shine."

"You'll never find a friend - create your own."

Gyda chymaint o fframiau, anodd oedd darllen rhai ohonynt ond roedd nifer yn ailadrodd yr un dywediadau ond mewn gwedd wahanol a gosodiad papur i greu ysbryd gwahanol bob tro.

Tra'r oedd pobl yn yr ystafell roedd cerddoriaeth yn cael ei chwarae o'r CD Past, Present, Future Tense - a oedd ar gael yn Norwy ers canol Medi - gan greu awyrgylch heddychlon.

Anodd oedd gadael yr arddangosfa ond wedi tair awr rhaid oedd tynnu fy hun oddi yno ond nid heb brynu llyfr o'r gwaith am bris eithaf uchel ond yn cynnwys holl luniau'r arddangosfa ac yn un o 500 wedi ei lofnodi gan y dyn ei hun.

Buddsoddiad - gobeithio - ar gyfer y dyfodol.

Yr ail ran
Ar ôl prynhawn difyr rhaid oedd darparu ar gyfer ail ran y penwythmos a chymryd trên tan ddaear gyda Mari o ganol y ddinas ar noson oer a gwlyb i glwb nos Rockefeller erbyn naw i weld Paul Wakkater Savoy, gitarydd a-ha sydd wedi sefydlu grŵp arall gyda'i wraig, Lauren a Frode Umieland, sydd yn chwarae drymiau.

A ninnau wedi disgwyl am awr a hanner daeth y tri ar y llwyfan gan ganu caneuon oddi ar y CD newydd, Savoy.

Empty of Feeling; Girl One; Bovine; Shooting Spree; Isotope.

Ac hefyd, ganeuon oddi ar CDau'r gorffennol:
Lackluster Me; Velvet.

Bu hon yn gerddoriaeth ar ffilm Michael Douglas a Liv Tyier One Night At Mr McCools a ddaeth allan bedair blynedd yn ôl wedi ei chyfarwyddo gan gyfarwyddwr o Norwy, Harald Zwarts.

Caneuon eraill:
If you don't Come to my Party; I'm Not Stupid Baby; Grind you Down;Bottomless Pit.

Gan orffen gyda Sycamore Leaves, un o glasuron CDs a-ha ei hun.

Ychwanegwyd at naws y noson gyda fideos y caneuon ar gefn y llwyfan.

'Dewch i ogledd Cymru'
Fel cefnogwraig oedd wedi teithio cyn belled i fod yno gwefr oedd bod o fewn dwy fetr i Paul Wakkater ei hun a thynnais faner Cymru gyda neges arni yn galw ar a-ha i ddod i ogledd Cymru.

Ymhen ychydig eiliadau daeth bloedd o'r dde imi yn gofyn ai Gymru oeddwn i'n dod.

Yna daeth hogyn gyda Chymraeg gogleddol ataf gan ofyn: "0 lle wyt ti'n dod?"
"Llandudno! 0 lle ti'n dod?
"Bala!"

Ond yn byw yn Oslo ac wedi priodi merch o'r ddinas ond gan ei bod hi'n gweithio y noson hon, yno gyda'i ffrindiau oedd o.

Felly, nid cefnogwyr o Norwy yn unig oeddyno ond rhai o Gymru hefyd a hynny'n gwneud hon yn fwy o benwythnos Cymry ar wasgar gan i un o'r gweithwyr ym mwyty arddangosfa Henie Onstad ddweud wrthyf fod Cymro yn gweithio yno hefyd ond ei fod ar ddiwrnod i ffwrdd.

Wedi cyngerdd a barodd am awr a hanner daeth Lauren Savoy i siarad gyda ffrindiau a chefnogwyr oedd wedi ymgynnull o flaen y llwyfan a manteisiais ar y cyfle i siarad efo hi a gofyn a fyddai hi'n bosib cael cyfarfod ei gŵr hefyd ond er imi geisio dwyn perswâd gwrthododd Paul er imi ddweud fy mod yn gwneud llawer yng Nghymru i dynnu sylw at y grŵp.

Ond cytunodd hi i lofnodi y poster oeddwn i wedi'i achub oddi ar y wal yn hysbysebu'r cyngerdd.

Yna, daeth Frode Unneland allan hefyd a chefais sgwrs gydag yntau ac wrth iddo arwyddo'r poster hefyd gofynnais iddo yntau a fyddai'n gofyn i Paul ddod atom.

Un peth sy'n edifar gen i yw na wnes i ofyn am luniau efo Lauren a Frode.

Beth bynnag, ar ôl noson gofiadwy ar sawl cyfrif, troi am adref drwy fwrlwm y ddinas oer a gwlyb fu raid gyda phobl yn dal allan yn cael hwyl hyd yn oed am un o'r gloch y bore.

Panad a gwely am 2.00 fu'n hanes ni.

Poster gan y grŵp
Pan gododd fy nghyfneithr gwelodd ar ei ffôn symudol i'w ffrind oedd yngweithio yn y clwb adael neges i'w ffonio a'r newyddion bendigedig i mi oedd iddi anfon neges drwy ei chariad, oedd yn gweithio tu ôl i'r llwyfan, yn dweud wrtho am fy mhrofiad y noson cynt yn ceisio cael cyfarfod Paul.

Ar ôl cael gwybod am hyn arwyddodd y grŵp boster yn bersonol i mi!

Diweddglo perffaith i benwythnos llawn atgofion.



Poster SavoyGan ei bod yn ugain mlynedd ers llwyddiant cyntaf a-ha cyhoeddir llyfr yn Norwy yn olrhain hanes y grŵp, Swing of Things a'r newyddion diweddaraf yw bod CD newydd ar gael y mis hwn.

Mae Morten Magne a Paul yn dal i fynd. Ond mae'n anodd i gefnogwyr grŵp sydd mor bell i ffwrdd.

Hefyd, cafodd eu cyfraniad i gerddoriaeth Norwy ei gydnabod yn y Nordic Music Awards sy'n profi nad grŵp oedd yn enwog yn yr wythdegau ydi a-ha ond un sy'n parhau'n boblogaidd drwy dri degawd!





ewrop

> Albania
> Awstria
> Azerbaijan
> Croatia
> Ffrainc
> Gwlad Belg
> Gwlad Groeg
> Hwngari
> Iwerddon
> Romania
> Rwsia
> Yr Almaen
> Yr Eidal
> Sbaen

Bywiogrwydd Cymraeg yng Ngwlad Pwyl

I Norwy i weld a-ha

Y Pasg yn Hwngari

Gwersi canu - a chastanetio!

Chwilio am y bobol

Gwylio'r Byd

Gwion Lewis - arbenigwr ar faterion rhyngwladol

Oerfel yn yr Wcráin

Yr Wcráin - cwestiwn ac ateb

Slofenia

Ffrwydradau Llundain

Anghytgord

G8 - 2005

Cymdeithas Carnhuanawc

Ar Dy Feic - 2006

Cofleidio Sweden

Ar dy feic 2003

Clic i'r cof

Ar Dy Feic

Chwilio am bobol



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy