主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Slofenia
Gwers yn y glaw gyda Gwion Lewis, arbenigwr ar faterion rhyngwladol yn ystod ei ymweliad â Slofenia

Porc a chaprys
Dyna i chi beth sydd ar y fwydlen heddiw yma yn The Lunch Café ym mhrifddinas Slofenia, Ljubljana.
Na thrafferthwch i chwilio am fap: yr holl sydd angen i chi ei wybod ydy:
  • Fy mod i i'r dwyrain o'r Eidal, i'r de o Awstria, ac i'r gorllewin o Groatia;
  • Nad yw Slofenia yr un wlad â Slofacia;
  • Ei bod hi'n 'stido bwrw.
Hawdd, ar hyn o bryd, fyddai cysuro fy hun â charáff arall o win lleol nes i'r haul godi, ond mae gen i hanner awr i ddisgwyl am y porc bondigrybwyll, a llawer gormod i'w ddweud wrthych chi'n barod am y wlad fechan ond hynod amrywiol hon.

Gyda basged o fara a soser o olew yn gwmni, felly, croeso i'r rhifyn cyntaf o Gwylio'r Byd i gael ei ysgrifennu dramor - rhywbeth fydd yn digwydd yn llawer amlach yn y dyfodol.

Pennod newydd
Mae hi wedi bod yn fwriad gen i ddod yma i Slofenia ers iddi hi, ynghyd â deg o wledydd eraill yn Nwyrain Ewrop, ddod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd y llynedd.

Er mai Gwlad Pwyl oedd yn mynnu'r rhan fwyaf o'r sylw bryd hynny, cofiaf i un gohebydd ddweud fod Slofenia "tua'r un maint â Chymru, ond gyda llai na hanner ei phoblogaeth".

Cwta dwy filiwn sy'n byw yn y wlad gyfan ac wrth deithio o gwmpas y gogledd-orllewin mynyddig, mae'r distawrwydd yn taro rhywun.

Janez Drnovsek - arlywydd SlofeniaMae'r cyfan yn awgrymu fod y Slofeniaid yn ymlwybro'n gysglyd a chytu^n i'w dyfodol newydd fel rhan o'r clwb mawr Ewropeaidd.

Ond wrth ddarllen y papurau newydd a siarad gyda'r trigolion lleol yma, daw darlun llawer iawn mwy cymhleth i'r amlwg.

Slofenia oedd yr unig un o'r hen weriniaethau Iwgoslafaidd i ymuno â'r Undeb Ewropeaidd ym Mai 2004.

Bu hi wastad yn fwy ffyniannus yn economaidd na'i chymdogion yn y rhanbarth, Croatia a Bosnia-Herzegovina, ac yn wahanol i'r gwledydd hyn, llwyddodd i ddod yn annibynnol ar yr hen Iwgoslafia ddechrau'r Naw Degau heb fawr o drais.

Yn ôl Darko Bortnik, gŵr tacsi yn Ljubljana aeth â ni yn ôl i'n gwesty neithiwr:
"Slovenia has always looked more towards the West. We are not afraid of the market and the business world. I'm sure people in your country think that we are like the Croatians, but I think we're more like the Italians and the Austrians. We look forward, not backward, you know?"

Aeth yn ei flaen i fynegi mwy o'i ragfarnau am y Croatiaid, a'r Serbiaid hefyd - sylwadau na fyddai'n addas i mi eu cyhoeddi ar wefan safonol fel hon.

Digon yw dweud ei fod wedi ei amlygu ei hun yn genedlaetholwr Slofenaidd pybyr erbyn diwedd y daith.

Mae'n ymddangos nad yw Mr Bortnik ar ei ben ei hun yn hyn o beth.

Dileu enwau
Pan ddaeth Slofenia yn annibynnol ar Iwgoslafia, penderfynodd y llywodraeth newydd ddileu enwau tua 18,000 o drigolion o'r cofnodion cyhoeddus, a'u hamddifadu o'r hawl i fyw yn wlad.

Yr oedd y mwyafrif ohonynt yn hanu o weriniaethau eraill yn yr hen Iwgoslafia.

Wedi cryn brotestio gan fudiadau hawliau dynol yn Slofenia, pasiwyd deddf yn y Senedd y llynedd yn ailgofrestru'r bobl hyn. Ond er mawr annifyrrwch i'r llywodraeth, trechwyd y ddeddf honno â mwyafrif llethol mewn refferendwm a gynhaliwyd rai wythnosau cyn i Slofenia ddod yn rhan o'r Undeb Ewropeaiadd.

Mae'r ffrae yn parhau heddiw, gyda mudiad o'r enw Cymdeithas y Dileëdig yn honni fod o leiaf saith o dras Serbaidd wedi cyflawni hunanladdiad oherwydd polisi llawdrwm y llywodraeth.

Pryder swyddogion cyllid Slofenia yw y gallai'r deunaw mil hawlio iawndal yn y llysoedd oherwydd iddyn nhw gael eu hamddifadu o'u hawliau llafur a'u hawliau pensiwn cyhyd.

Oherwydd hynny, ceir cryn dipyn o rethreg cenedlaetholaidd gan y llywodraeth, sydd yn honni'n rheolaidd fod Cymdeithas y Dileëdig yn dymuno mynd â Slofenia yn ôl i 'dywyllwch' yr hen Iwgoslafia.

Mae'r dacteg yn gweithio.
Er mawr syndod i sylwebwyr gwleidyddol ledled Ewrop, y Democratiaid Slofenaidd - plaid i'r dde o'r canol - a enillodd yr etholiad cyffredinol diwethaf yn 2004. Llwyddodd y blaid i ddyblu ei phleidlais yn dilyn ymgyrch a ymylai weithiau ar estrongasedd.

Ymhellach o'r tir canol, plaid ar y dde eithaf, y Blaid Genedlaethol Slofenaidd, a ymgyrchodd i gynnal y refferendwm yn ddiweddar, gan lwyddo i argymell tair plaid geidwadol arall i'w chefnogi.

Cenedlaetholdeb
Nid oes amheuaeth fod cenedlaetholdeb ar gynnydd yn y wlad hon, a bod yna wyneb digon hyll iddo ar brydiau.

Eironi'r sefyllfa yw fod ymuno â'r Undeb Ewropeaidd a symud tuag at y Gorllewin 'goleuedig' wedi hyrwyddo hyn i ryw raddau.

Cyn hynny, roedd yna deimlad fod Brwsel yn cadw golwg ar Slofenia i sicrhau fod ei gwleidyddiaeth hi'n gydnaws â phwyslais yr Undeb ar hawliau dynol ond erbyn hyn, â hwythau'n eistedd ochr yn ochr â phwerau mawr Ewrop, mae rhywun yn cael yr argraff fod y Slofeniaid yn teimlo'n fwy rhydd i fynd i'r afael â'r tensiynau gwleidyddol dan yr wyneb.

Weithiau, mae'r hyder newydd hwn yn fendithiol. Gwelwyd, er enghraifft, fod y llywodraeth yn fwy awyddus nag erioed o'r blaen i ddod i gytundeb â Chroatia ynglŷn â'r ffin rhwng y ddwy wlad.

Ond mae polisi presennol Slofenia tuag at leiafrifoedd ethnig yn dangos pa mor hanfodol yw hi i sicrhau fod cydraddoldeb a chyfiawnder yn egwyddorion sy'n ffrwyno pob ymgyrch genedlaetholaidd.

Y wers i ni
I ni'r Cymry, mae'r wers yn un amlwg.

Roedd Saunders Lewis yn grediniol mai yn Ewrop yr oedd dyfodol y Gymru Gymraeg. O ystyried fod Cyfansoddiad newydd yr Undeb Ewropeaidd yn gwahardd anffafriaeth ar sail ieithyddol - rhywbeth nad yw cyfreithiau Prydain yn ei wneud yn glir eto - gellid dadlau fod ei weledigaeth yn cael ei gwireddu, a hynny'n digwydd ar yr un pryd â'r galw cynyddol yng Nghymru am Ddeddf Iaith newydd.

Os felly, bydd angen cryn arweiniad gwleidyddol arnom dros y blynyddoedd nesaf i sicrhau nad yw hynny o genedlaetholdeb a ysgogir gan y datblygiadau hyn yn cael ei gamgyfeirio. Fy mhryder, wrth i'r glaw gilio yma'n Ljubljana, yw nad oes neb yn cynnig hynny i ni ar hyn o bryd.

Dolennau






cysylltiadau
Erthyglau eraill Gwion Lewis

ewrop

> Albania
> Awstria
> Azerbaijan
> Croatia
> Ffrainc
> Gwlad Belg
> Gwlad Groeg
> Hwngari
> Iwerddon
> Romania
> Rwsia
> Yr Almaen
> Yr Eidal
> Sbaen

Bywiogrwydd Cymraeg yng Ngwlad Pwyl

I Norwy i weld a-ha

Y Pasg yn Hwngari

Gwersi canu - a chastanetio!

Chwilio am y bobol

Gwylio'r Byd

Gwion Lewis - arbenigwr ar faterion rhyngwladol

Oerfel yn yr Wcráin

Yr Wcráin - cwestiwn ac ateb

Slofenia

Ffrwydradau Llundain

Anghytgord

G8 - 2005

Cymdeithas Carnhuanawc

Ar Dy Feic - 2006

Cofleidio Sweden

Ar dy feic 2003

Clic i'r cof

Ar Dy Feic

Chwilio am bobol



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy