主播大秀

Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2010

Elgan Llyr Thomas

02 Tachwedd 2010

Un o brif gystadlaethau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd bob blwyddyn yw'r un am Ysgoloriaeth Bryn Terfel.

Mae'r ysgoloriaeth werthfawr hon yn cael ei dyfarnu i'r gorau o blith enillwyr nifer o gystadlaethau llwyfan unigol yn yr Eisteddfod yn amrywio o ddawnsio i ganu.

Mae enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi - yn dilyn cyfres o ddosbarthiadau meistr - rai misoedd wedi'r Eisteddfod ei hun.

Enillydd 2010

Yr enillydd yn dilyn Eisteddfod 2010 yn Llanerchaeron, Ceredigion, oedd Elgan Llyr Thomas a dderbyniodd ei wobr mewn cyngerdd ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid fis Hydref.

Derbyniodd 拢4,000 a fydd yn eu defnyddio ar gyfer costau addysg yn y coleg a dilyn cwrs 么l radd.

Elgan, o Graig y Don, Llandudno, oedd yn fuddugol ar y gystadleuaeth unawd o sioe gerdd yn Llanerchaeron a chipiodd yr ysgoloriaeth gyda pherfformiad swynol o Y Bugail gan Wilfred Jones, Anfonaf Angel gan Robat Arwyn a Miwsig mwyn y nos gan Andrew Lloyd Webber.

Cafodd ddosbarth meistr gan Rhydian Roberts.

Yn enedigol o Landudno, mae Elgan yn fyfyriwr yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion lle mae wedi ennill gwobr 'Elsie Thurston' i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf.

Bu hefyd yn cynrychioli'r coleg yng nghystadleuaeth 'Kathleen Ferrier Bursary Award' fis Hydref 2009.

Hwn oedd y tro cyntaf iddo gystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel ac wedi iddo raddio, mae a'i fryd ar ddilyn cwrs 么l-radd yn y Guild Hall yn Llundain er mwyn llwyddo fel Tenor proffesiynol.

"Ennill yr Ysgoloriaeth hon yw uchafbwynt fy ngyrfa hyd yma. Roedd cymryd rhan yn brofiad bythgofiadwy a dwi'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gydweithio 芒 Rhydian Roberts oedd wedi bod yn fy mentora."

Wyth cystadleuydd 2010

Cystadleuwyr eraill

Cystadleuwyr eraill yr Ysgoloriaeth oedd:

  • Eirlys Myfanwy Davies o Lanelli. Enillydd yr Unawd 19 - 25 oed
  • Glesni Fflur o'r Bala. Enillydd yr Unawd Cerdd Dant 19 - 25 oed
  • Jocelyn Freeman o D欧 Ddewi. Enillydd yr Unawd Offerynnol 19 - 25 oed
  • Teleri Mair Williams o Lynfaes, Ynys M么n. Enillydd y Cyflwyniad Theatrig Unigol 19 - 25 oed
  • Elen Gwenllian Clwyd o Gaernarfon. Enillydd y Llefaru Unigol 19 - 25 oed
  • Ceirios Haf Evans o Lanarth. Enillydd yr Unawd Alaw Werin 19 - 25 oed
  • Cerian Phillips o Gynwyl Elfed. Enillydd y Ddawns Werin 15 - 25 oed

Y beirniaid

Beirniaid yr Ysgoloriaeth oedd;Gwawr Owen, Cerdd, Eirian Owen, Cerdd, Cefin Roberts, Theatr, Cliff Jones, Dawns, Elin Williams, Llefaru, Llio Penri, Cerdd Dant ac Alaw Werin, Tudur Dylan, Cadeirydd y Panel Beirniaid.

Enillwyr y gorffennol

Enillwyr yr Ysgoloriaeth yn y gorffennol oedd:

  • 2009 Bae Caerdydd - Catrin Angharad Roberts
  • 2008 Conwy - Rhian Lois Evans
  • 2007 Sir G芒r - Manon Wyn Williams
  • 2006 Sir Ddinbych - Rhys Taylor
  • 2005 Canolfan Mileniwm Cymru - Lowri Walton
  • 2004 Ynys M么n - Rakhi Singh
  • 2003 Tawe Nedd ac Afan - Aled Pedrig
  • 2002 Caerdydd - Rhian Mair Lewis 2001 Toriad oherwydd Clwy'r Traed a'r Genau
  • 2000 Bro Conwy - Fflur Wyn
  • 1999 Llanbedr Pont Steffan - Mirain Haf

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.