主播大秀

- Cyrraedd maes y Steddfod

Bydd y rhai ymwelodd ag Eisteddfod Genedlaethol 2006 yn Abertawe yn gwybod yn iawn sut i ddod o hyd i faes Eisteddfod yr Urdd eleni.

Bydd ar hen safle'r gwaith tin ger Llangyfelach.

Safle'r Steddfod

Sat
Nav

Ar gyfer y rhai fydd yn teithio yno mewn ceir y cyfeirnod Sat Nav ar y gyfer y troad yno oddi ar y cylchfan ar gyffordd 47 yr M4 ydi :

N 51掳40.31' W 3掳59.44'.

Does yna ddim c么d post i'r maes.













Bydd yn hawdd cyrraedd oddi ar y M4
O'r Gorllewin (Caerfyrddin): ymunwch 芒'r M4 ym Mhont Abraham. Gadewch yr M4 ar gyffordd 47 a dilyn yr arwyddion i faes yr Eisteddfod i lawr yr A48 a throi i'r chwith. Y cyfeirnod Sat Nav ar y gyfer y troiad oddi ar y gylchfan ar gyffordd 47 ydi - N 51掳40.31' W 3掳59.44'.

O'r Dwyrain (Caerdydd) (Llun - Mercher): Gadael yr M4 ar gyffordd 44 a dilyn yr arwyddion i'r maes parcio lle bydd bysiau gwennol yn eich cludo i'r Maes.

O'r Dwyrain (Caerdydd) (Iau - Sadwrn): Gadael yr M4 ar gyffordd 47 a dilyn yr arwyddion i faes yr Eisteddfod ac i lawr yr A48 a throi i'r chwith.

Mewn bws

os am ddefnyddio bws i ddod i'r Eisteddfod:
Bysiau Mawr - 6 thunnell yn llawn a/neu efo mwy nag 16 o seddi:
Os yn teithio o'r Gorllewin (Caerfyrddin) : ymunwch 芒'r M4 ym Mhont Abraham. Gadewch yr M4 ar gyffordd 46 a dilyn yr arwyddion am faes yr Eisteddfod .
Os yn teithio o'r Dwyrain (Caerdydd) : Gadewch yr M4 ar gyffordd 46 a dilynwch yr arwyddion am faes yr Eisteddfod .
Bysiau Bach (Mini):
Os yn pwyso dros 6 thunnell pan yn llawn, dilyn cyfarwyddiadau y busiau mawr.
Os yn teithio o unrhyw gyfeiriad : Gadael yr M4 ar gyffordd 47 a dilyn yr arwyddion am faes yr Eisteddfod i lawr yr A48 a throi i'r chwith.
Bydd y bysiau mawr yn dadlwytho ger y Ganolfan Groeso a pharcio yn y man priodol.

Gyda thelyn

Mae'r Urdd wedi paratoi cyfarwyddiadau ar gyfer rhai sy'n cludo telyn hefyd. Fel a ganlyn
Os yn teithio o'r Gorllewin (Caerfyrddin) : ymuno 芒'r M4 ym Mhont Abraham. Gadael yr M4 ar gyffordd 47 a dilyn yr arwyddion am faes yr Eisteddfod i lawr yr A48 a throi i'r chwith tuag at y maes. Byddwch wedyn yn troi i'r dde er mwyn cyrraedd cefn y llwyfan drwy Fynediad 2. Y cyfeirnod Sat Nav ar y gyfer y troiad oddiar y cylchfan ar gyffordd 47 ydi: N 51掳40.31' W 3掳59.44'.

Os yn teithio o'r Dwyrain (Caerdydd) : Gadewch yr M4 ar gyffordd 47 a dilyn yr arwyddion am faes yr Eisteddfod i lawr yr A48 a throi i'r chwith tuag at y maes. Byddwch wedyn yn troi i'r dde i gyrraedd cefn y llwyfan drwy Fynediad 2.

Y cyfarwyddiadau a mapiau ar wefan yr Urdd - clicio


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.