主播大秀

Coron gyntaf Mari i'r Urdd

Mari Thomas. Llun: Daniel Staveley Photographer

01 Tachwedd 2010

Y gemydd Mari Thomas sydd wedi ei chomisiynu i greu coron Eisteddfod yr Urdd, Abertawe a'r Fro 2011.

Caiff y goron ei chyflwyno i lenor ifanc yn yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf, sydd i'w chynnal ar safle'r hen waith dur yn y Felindre, Abertawe rhwng Mai 30 a Mehefin 4.

daeth ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg Abertawe at eui gilydd i dalu am y Goron a'i chomisiynu.

Bydd Mari yn ymweld 芒'r naw ysgol ym mis Tachwedd i feirniadu cystadleuaeth agored i ddylunio coron a bydd y rhai sy'n ennill y gwobrau cyntaf, ail a thrydydd yn derbyn gwahoddiad i ymuno 芒 hi yn ei stiwdio i'w gwylio yn cychwyn ar y gwaith o greu'r goron.

Caiff ei chaw o dan glo wedyn ar gyfer seremoni arbennig ym mis Ebrill i'w throsglwyddo i'r Urdd.

Mae Mari, sy'n gweithio gyda metel gwerthfawr, wedi dylunio'r goron ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith yn y gorffennol.

Yn 2011 bydd i gystadleuaeth coron yr Urdd arwyddoc芒d mwy arbennig nag arfer gan y bydd yr enillydd cadw'r goron am byth.

Yn y gorffennol copi bychan fyddai'r enillydd yn ei gadw gyda'r goron ei hun yn cael ei defnyddio ar gyfer y seremoni o flwyddyn i flwyddyn.

Mari. Llun: Daniel Staveley Photographer

"Dwi'n gyffrous iawn o dderbyn y comisiwn ond yn fwy na hynny, o gael y cyfle i gydweithio gyda chymaint o ddisgyblion ysgol o'r ardal, beirniadu eu gwaith a chael fy ysbrydoli gan eu syniadau," meddai Mari sy'n berchen ar y cyd gyda'r gemydd Nicola Palterman, o The Jewellery Gallery and Workshop yn yr Eglwys Norwyeg yn natblygiad SA1 Abertawe.

"'Rwyf wedi creu'r goron ddwywaith ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn y gorffennol ond erioed ar gyfer yr Urdd. >/p>

Mae gweithio ar ddarn fel hwn bob amser yn brofiad nerfus gan fy mod eisiau sicrhau fod popeth yn berffaith ar gyfer yr enillydd ond pan ddaw popeth ynghyd ar lwyfan y pafiliwn, mae'n deimlad gwych ac emosiynol iawn," ychwanegodd.


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.