主播大秀

Gwahoddiad i Joio da'r Jacs

Dyfrig Ellis a Mistar Urdd

04 Tachwedd 2010

Dyfrig Ellis, cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2011 yn s么n am fro'r Eisteddfod a'i chroeso

Pleser pur yw eich gwahodd i ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd wrth iddi ddychwelyd i Abertawe a'r Fro ym mis Mai 2011.

Mae'r pwyllgorau testun eisoes wedi gwneud eu gwaith a'r pwyllgorau cyllid yn gweithio'n ddiflino i godi'r arian angenrheidiol.

Mae llwyddiant yr Eisteddfod bellach yn nwylo plant a ieuenctid Cymru ac mae ysgolion, adrannau ac aelwydydd wrthi'n paratoi ar gyfer y cystadlu.

Rydym yn ddyledus ac yn ddiolchgar iawn i'r gwirfoddolwyr a'r athrawon sydd yn rhoi eu hamser yn flynyddol i hyfforddi'r miloedd a fydd yn cystadlu ledled Cymru.

Traddodiad eisteddfodol

Mae yna draddodiad eisteddfodol cryf yn Abertawe a'r fro, ac mae'r traddodiad Cymraeg hwn wedi'i wreiddio yn y cymunedau. Dyma ardal y corau, y cantorion a'r prifeirdd a flagurodd er gwaetha caledi'r hen ddiwydiannau a bomio didrugaredd yr Ail Ryfel Byd.

Dyma'r ardal lle mae'r ysgolion Cymraeg yn dal i gynyddu a'r ieuenctid yn cael cyfle i gymdeithasu yn y ganolfan Gymraeg unigryw yn Nh欧 Tawe, lle mae'r Fenter Iaith yn mynd o nerth i nerth a'r dosbarthiadau dysgwyr yn rymus a chyson.

Yn sicr dyma ardal y 'gweithwyr' dros y Gymraeg. Yng ngeiriau'r prifardd Emyr Lewis:

'Beth yw'r Iaith heb weithwyr rhaw?'

Ei phrifysgol ei hun

Mae gan y dref hon ei phrifysgol ei hun ag ynddi adran Gymraeg gref lle bu ysgolheigion Cymraeg arbennig megis Stephen J Williams, T J Morgan a Hywel Teifi Edwards yn arwain.

Prifysgol yw hon sydd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau gradd traddodiadol ac yn ogystal ac sydd wedi datblygu arbenigedd yn ddiweddar mewn meysydd amrywiol megis ymchwil meddygaeth, astudiaethau rhyngwladol a pheirianneg aerofod.

'Beth yw'r Iaith heb weithwyr rhaw?' - Emyr Lewis

Buddsoddiad a thwf

Mae Abertawe wedi elwa'n sylweddol ar fuddsoddiad a thwf economaidd yn y blynyddoedd diwethaf. Mae cyfleusterau fel Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Pwll Cenedlaethol Cymru a Stadiwm Liberty yn fynegiant arwyddocaol o'r hyder newydd hwn, tra bod datblygiadau pwysig fel SA1 Abertawe a'n hamgylchedd naturiol trawiadol yn denu pobl i fyw a gweithio yma ac i ymweld ag Abertawe.

Eisteddfod y fro

Fel 'Gog' sydd bellach wedi ymgartrefu yn y 'Sowth' gallaf dystio bod y croeso yn un diffuant ac mae yma frwdfrydedd dros fudiad yr Urdd, a'r parodrwydd i gynnwys y di-Gymraeg a'n cymunedau aml ddiwylliant mewn gweithgareddau Cymraeg a Chymreig yn heintus.

Rhaid pwysleisio bod Eisteddfod 2011 eto yn eisteddfod a berthyn i Fro Abertawe gyfan, ac fe adlewyrchir hyn ym mwrlwm gweithgareddau y pwyllgorau ap锚l lleol.

Mae croeso twymgalon yn eich aros. Dewch yn eich cannoedd i Joio da'r Jacs a phrofi cynnwrf a chyffro Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Abertawe a'r Fro!


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.