主播大秀

Cyril y Swan yn cefnogi

Cyril a Mr Urdd yn cyfarfod disgyblion Ysgol y Grange

01 Tachwedd 2010

Yn Abertawe y cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2011 - rhwng dydd Llun Mai 30 a dydd Sadwrn, Mehefin 4.

Byudd y maes ar hen waith dur y Felindre y tu allan i'r ddinas - yr un maes ag a ddefnyddiwyd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2006.

Yn barod bu digwyddiad arbennig gydag un o gymeriadau hynotaf yr ardal yn ymuno 芒 Mistar Urdd i groesawu'r Eisteddfod i'r ardal.

Cymerodd Cyril the Swan, mascot Clwb P锚l-droed Dinas Abertawe, 芒 taith fawreddog o amgylch dros 40 o ysgolion Abertawe a'r fro ganol mis Medi.

Rhannwyd gwybodaeth am yr Eisteddfod a sut i fod yn rhan o'r bwrlwm yn ogystal 芒 syniad o beth fydd yn eu haros ar y Maes y flwyddyn nesaf.

"Mae'n 诺yl sy'n atynnu miloedd o ymwelwyr o Gymru ben baladr a thu hwnt, heb s么n am gynulleidfa o bron i filiwn ar y cyfryngau," meddai. "Does dim profiad gwell na bod yn rhan o'r digwydd a'r gobaith."

Noddwyd y daith ysgolion gan Garej Sinclair, Clwb P锚l-droed Dinas Abertawe a Menter Abertawe. Meddai Andrea Morris, Rheolwr Busnes Clwb P锚l-droed Dinas Abertawe, "Mae Cyril bob amser yn edrych am ffrindiau newydd ac mae'n ymddangos ei fod wedi ffeindio ffrind mynwesol yn Mistar Urdd. Mae Eisteddfod yr Urdd yn brofiad gwych i blant a phobl ifanc yr ardal ac rydym yn falch iawn o gael cynnig help llaw i groesawu'r digwyddiad hynod yma i Abertawe a'r fro."

Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod ydi Dyfrig Ellis, Prifathro Ysgol Gynradd Gymraeg L么n Las yn Llansamlet.


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.