Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2005

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2005

O'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cysylltiadau Eraill

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Theatr Donald Gordodn, Canolfan Mileniwm Cymru Sain Cerdd a Sioe arbennig
Adolygiad o 'Sain Cerdd a Sioe', Cyngerdd Agoriadol Eisteddfod yr Urdd
Braf iawn oedd gweld Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn llawn o Gymry Cymraeg o bob rhan o'r wlad yn mwynhau arlwy Gymraeg proffesiynol a safonol tu hwnt ar noson agoriadol Eisteddfod yr Urdd 2005.

Dyma'r noson gwbl Gymraeg gyntaf erioed ar brif lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru - ac un o'r cwynion sydd wedi bod hyd yn hyn yw'r diffyg o sioeau Cymraeg. Felly dyma ddechrau arbennig o dda i berfformiadau Cymraeg y ganolfan ac i Eisteddfod yr Urdd, gyda'r gobaith y bydd llawer mwy o nosweithiau o'r fath i ddod.

Y sioe
Cafwyd sioe liwgar a phroffesiynol iawn. Noson y sioeau cerdd ydoedd, a pherfformiwyd detholiad o ganeuon o sioeau Cymraeg a Saesneg, gan gynnwys Pum Diwrnod o Ryddid, Er Mwyn Yfory, Chicago, Jesus Christ Superstar, Magdalen a Les Miserables i enwi ond ychydig.

I ffan mawr o sioeau cerdd y West End ac i un sydd wedi perfformio nifer o'r caneuon nôl yn fy nyddiau ysgol a choleg, mae noson fel hon bob amser yn berffaith! Ond i fod yn eistedd yn Theatr arbennig Canolfan Mileniwm Cymru am y tro cyntaf a gweld cymaint o wynebau cyfarwydd ac i glywed yr holl ganeuon yn y Gymraeg - roedd hyn yn fythgofiadwy.

Dechreuwyd y noson gyda Daniel Evans ar y llwyfan yn croesau'r gynulleidfa i'r sioe. Ef oedd ein tywysydd rhwng rhai o'r caneuon, mewn dull ysgafn, carismatig gyda thipyn o hiwmor.

Rhys Meirion - proffesiynol
Rhys MeirionRhys Meirion oedd y tenor gwadd, a lenwodd sgidiau Aled Jones wedi iddo yntau orfod tynnu allan ar y funud olaf oherwydd salwch. Perfformiodd Rhys Meirion y gân 'Yn fy mreuddwyd brau' o'r sioe Joseff a'i gôt amryliw, a chafwyd perfformiad proffesiynol iawn. Roedd yr ymateb gadarnhaol iddo yn dangos gwerthfawrogiad y gynulleidfa iddo berfformio ar fyr rybudd a hynny mor wych.

Ond prif berfformwyr y noson, heb os oedd y criw o bobl ifanc, aelodau o fudiad yr Urdd, sydd oll yn, a wedi bod yn wynebau cyfarwydd iawn ar lwyfannau Eisteddfod yn flynyddol yn y gorffennol a sydd erbyn hyn, un wrth un, yn gwneud eu marc ar lwyfannau Cymru a'r West End a'r teledu hefyd.

Mae'n amlwg bod yna ddyfodol disglair iawn i'r prif berfformwyr fel cantorion ac eraill fel dawnswyr proffesiynol hefyd ddwedwn i. Yn wir, petaech wedi cau eich llygaid yn yr awditoriwm ar nos Sul cyntaf yr Urdd, prin iawn y byddech wedi sylweddoli mai pobl ifanc oedd yn perfformio. Gallech yn hawdd fod wedi cael eich twyllo eich bod yn Drury Lane y West End yn gwylio sioeau cerdd proffesiynol.

Catherine AyersRoedd rhai o'r perfformiadau unigol (er enghraifft Catherine Ayers yn canu 'Er Mwyn Yfory') yn fy atgoffa o rai o uchafbwyntiau cystadleuaethau Unawd o Sioe Gerdd yn Eisteddfodau'r Urdd yn y gorffennol.

Yn ogystal â'r bobl ifanc, a oedd yn cynnwys Mirain Haf, Deiniol Rees, Tara Bethan, Huw Euron, Aled Pedrick, Elin Llwyd a Rhian Mair Lewis, roedd côr Glanaethwy, Côr Aelwyd CF1, Ysgol Melin Gruffydd, Theatr Ieuenctid yr Urdd, a chôr Ysgol Gymraeg Aberyswtyth yn perfformio rhai o'r caneuon hefyd.Cafwyd hefyd flas ar sioe ieuenctid yr Urdd eleni, Les Miserables gan ddisbyblion o ysgolion ar draws Cymru. Wedi cael blas o ddwy o'r caneuon, edrychaf ymlaen i weld perfformiad llawn o'r sioe hon eto yn Theatr Donald Gordon yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Cefin Roberts oedd Cyfarwyddwr Theatrig Sain Cerdd a Sioe, Geraint Cynan oedd y Cyfarwyddwr cerdd a Lauren Phillps a Julia Dark oedd yng ngofal y coreograffi.

Felly gadael Canolfan Mileniwm Cymru wedi agoriad Eisteddfod yr Urdd 2005 yn teimlo'n ffyddiog y bydd wythnos bythgofiadwy a hanesyddol i'w chael eleni.

Gan: Elin Davies




About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý