Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2005

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2005

O'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cysylltiadau Eraill

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Canolfan y Mileniwm i Mr Urdd Steddfod heb faes
Ymhell cyn i'r drysau agor bu Eisteddfod yr Urdd 2005 yn cael ei galw yn arloesol.
Beth bynnag am hynny, mae hi'n sicr o fod yn wahanol - yn amddifad o faes yn yr ystyr arferol a chyda'r prif weithgareddau o fewn neuadd fwyaf newyddCymru.

Bydd yn brofiad anhygoel i'r 15,000 o gystadleuwyr a enillodd eu lle yn dilyn gornestau mewn eisteddfodau cylch a sir yn awr i gystadlu ar lwyfan anhygoel Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.

Pentref celfyddyd
Bydd yr Urdd yn gwneud defnydd hefyd o holl ardal hyfryd y bae o gwmpas y ganolfan er mwyn creu yr hyn sy'n cael ei alw yn "rhyw fath o bentref celfyddydol sy'n arddangos y gorau o ddiwylliant ieuenctid Cymru".

Y Bae - lle i ymlacio Bydd rhai o ffyrdd yr ardal wedi eu cau i drafnidiaeth yn ystod yr wythnos er mwyn creu maes diogel a'r strydoedd hynny - ar hyd yr ardal sy'n ymgorffori Plass Roald Dahl, y rhodfa ger y dŵr, y Tiwb a'r Eglwys Norwyeg- yn llawn stondinau, arddangosfeydd, perfformwyr a dawnswyr.

Bydd sinema'r UCI hefyd yn rhan bwysig o'r 'maes' eleni gan mai yno y bydd y rhagbrofion, gyda chyfle hefyd i fanteisio ar yr holl adnoddau parod sydd yno.

Lle i barcio
Bydd maes parcio dros dro ar safle Awdurdod Datblygu Cymru ar ochr ddwyreiniol y Bae, a chodir pont i gludo cerddwyr o'r maes parcio dros yr harbwr i ganol gweithgareddau'r Eisteddfod.

Yn amlwg bydd parcio yn her ac yn barod mae trefnwyr yr Eisteddfod wedi galw ar bobl leol ac eraill i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd yr Eisteddfod.

"Wedi'r cyfan, mae digonedd o ddewis - yn drenau, yn fysiau, a hyd yn oed bysiau dŵr ac yr ydym yn apelio am i bawb eu defnyddio er mwyn lliniaru llif y drafnidiaeth" meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau.

"Bydd maes Eisteddfod 2005 dipyn yn wahanol i unrhyw faes arall a byddwn yn defnyddio holl gyfleusterau'r safle gwych yma yn y Bae i gynnig profiad unigryw i bawb," meddai.




About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý