Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2005

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2005

O'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cysylltiadau Eraill

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Mansel Phhillips Tlws i ddawnsiwr clocsen
Ennill Tlws John a Ceridwen Hughes
Arbenigwr ar ddawns y glocsen yw enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni.

Mae'r tlws yn cael ei roi i rai sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ieuenctid Cymru.

Roedd Mansel Phillips o Fryn Iwan ger Cynwyl Elfed yn Sir Gaerfyrddin, yn un o griw bach a roddodd gychwyn i Aelwyd Hafodwenog yn Ionawr 1980.

Bu'n dysgu clocsio a dawnsio gwerin i bobl ifanc ers blynyddoedd lawer - gyda chriwiau Dawnswyr Tawerin, Dawnswyr Talog ac, wrth gwrs, Dawnswyr Hafodwenog.

Bellach mae'r bobl ifanc y bu'n eu dysgu yn hyfforddi dawnswyr eu hunain.

Mae Mansel yn feirniad yn y ddwy eisteddfod genedlaethol.

Yn wreiddiol o Gapel Iwan ger Castell Newydd Emlyn, mae ef a'i wraig yn byw ym Mryn Iwan a'u tri o blant yn gystadleuwyr brwd.

A chan fod Mansel erbyn hyn wedi trosglwyddo awenau'r Aelwyd i griw newydd, dywed mai 'gyrrwr tacsi' ydi o erbyn hyn!

Mae'n arbennig o addas ei fod yn derbyn y Tlws eleni a hithau'n chwarter canrif yr Aelwyd.

Noddir y tlws yma yn flynyddol gan Gerallt a Dewi Hughes yn enw eu diweddar rieni gan mai ieuenctid a'u datblygiad oedd eu diddordeb mawr. Anrhydeddir gwaith ieuenctid gwirfoddol trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg - gwaith wyneb yn wyneb â phobl ifanc dros 11 oed tu allan i gyfundrefn addysg ffurfiol.




About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý