Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2005

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2005

O'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cysylltiadau Eraill

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Efa Gruffudd Jones Achub aelodau
Ymdrech i gadw aelodau rhwng cynradd ac uwchradd
Mae'r Urdd angen pedwar y cant yn fwy o arian gan gyrff cyhoeddusi gadw ieuenctid rhwng 12 a 15 oed yn aelodau o'r mudiad.

Ond gwadodd cyfarwyddwr yr Urdd mai'r reswm fod aelodau yn gadael wrth symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd yw oherwydd fod plant ysgolion cynradd yn cael eu gorfodi i gymryd rhan yng ngweithgareddau'r Urdd.

Yr oedd Efa Gruffudd Jones, cyfarwyddwr yr Urdd, yn ateb cwestiynau am gynllun corfforaethol newydd yr Urdd mewn cynhadledd i'r wasg yn yr Eisteddfod.

Dywedodd bod 16% o £5m trosiant y mudiad yn dod o gyrff cyhoeddus.

"Yn ddelfrydol byddem angen i hwnnw gynyddu i 20% i gyflawni y cyfan sydd yn y cynllun," meddai.

Un peth a'i gwnâi yn obeithiol y gellir cyflawni hynny yw i adroddiad gan Fwrdd yr Iaith ddweud bod yr Urdd "yn fudiad y dylid buddsoddi ynddo."

Colli aelodau
Dywedodd mai'r bwriad dros y tair blynedd nesaf yw canolbwyntio ar weithgarwch ymhlith rhai rhwng 12 a 15 oed gan egluro mai un rheswm dros ddewis yr oed hwnnw oedd fod nifer o'r aelodau hyn yn gadael yr Urdd wrth symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd.

Ond dywedodd nad arwydd yw hynny fod plant iau yn cael eu gorfodi i gymryd rhan yng ngweithgareddau'r mudiad.

"Ddim o gwbl," meddai gan ychwanegu mai arwydd yw o brinder arian ac adnoddau i gynnal gweithgareddau ar eu cyfer.

Blaenoriaethau
Yn ei gynllun corfforaethol, gosododd yr Urdd y nod iddo'i hun o "gynnig cymaint o gyfleoedd â phosibl i bobl ifainc ddefnyddio'r iaith mewn sefyllfaoedd hamdden a chymdeithasol bob dydd, yn Gymry Cymraeg a Dysgwyr fel ei gilydd."

I sicrhau hynny gosodwyd y blaenoriaethau canlynol:
  • Cynyddu'r defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg trwy roi blaenoriaeth i ddatblygu gwaith a chynyddu aelodaeth yn yr oedran 11-25 gan ganolbwyntio ar yr oed 12-15 am y tair blynedd nesaf.

  • Cynyddu'r pwyslais ar weithredu yn gymunedol a gweithgareddau y tu allan i oriau ysgol gan gynnwys gweithgareddau amser gwyliau yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig.

  • Cynyddu cyfranogi gan bobl ifanc.

Er bod hyn oll yn ddibynnol ar gael rhagor o arian dywedodd Efa Gruffudd Jones na fyddai methiant i ddenu'r arian hwnnw yn rhwystro'r gwaith dim ond ei arafu.

"Y sialens yn awr fydd sicrhau ei fod yn cael ei weithredu. Er mwyn cyflawni'r potensial yn llawn bydd angen sicrhau cyllid digonol i'w wireddu," meddai gan ychwanegu, "Bydd angen inni ymegnio i sicrhau llwyddiant.




About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý