Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2005

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2005

O'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cysylltiadau Eraill

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Elain Ennill ysgoloriaeth
Elain Llwyd yw enillydd Ysgoloriaeth Eisteddfod yr Urdd 2005.
Disgybl blwyddyn 13 yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, ydi Elain ac yn astudio Cymraeg, Cerdd a Drama.

Mae hi'n ennill yr ysgoloriaeth am ei chyfraniad i'r Eisteddfod yng Nghaerdydd.

"Hi oedd yn chwarae rhan Eponine yn y perfformiad bythgofiadwy o'r ddrama gerdd Les Miserables," meddai datganiad gan yr Urdd.

"Roedd hi hefyd yn unawdydd yn y cyngerdd agoriadol ysblennydd, Sain Cerdd a Sioe.

"Enillodd y ddeuawd gerdd dant a'r ddeuawd 15-19 oed, daeth yn ail yn yr unawd ac yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Llew, ac roedd yn aelod o gôr cymysg buddugol Ysgol Syr Hugh Owen.

"Bu hefyd yn diddanu'r Eisteddfodwyr drwy berfformio ar lwyfan y Lanfa yng nghyntedd Canolfan Mileniwm Cymru," ychwanegwyd.

Wrth dalu teyrnged iddi dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod: "Rydyn ni'n gwerthfawrogi ei hymroddiad cyson i'r mudiad gydol y blynyddoedd, ac eleni yn arbennig mae ei chyfraniad i lwyddiant yr Eisteddfod wedi bod yn ysgubol. Dwi'n siŵr bod gyrfa ddisglair o'i blaenl."

Mae Elain yn ennill gwaddol Cronfa Sim Davies; Cronfa Butlins; Cronfa Goffa John Emlyn Thomas, Betws; Cronfa Goffa W.D. Lewis; Cronfa Goffa John Morris; Cronfa Goffa John Haydn ac Ethel Maud Thomas; Cronfa Henry, Elizabeth, Elfed ac Olwen Williams a Chronfa Goffa D.J. Harries, sy'n siec o £563.



About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý